Cynulliad Cenedlaethol Cymru
The National Assembly for Wales

 


Cofnod y Trafodion

The Record of Proceedings

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mercher, 19 Hydref 2011

Wednesday, 19 October 2011


Cynnwys
Contents

 

2......... Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Questions to the Minister for Finance and Leader of the House

 

25....... Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Questions to the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science

 

50....... Datganiad gan y Llywydd
Statement by the Presiding Officer

 

50....... Dadl gan Aelod Unigol o dan Reol Sefydlog Rhif 11.21(iv) Debate by an Individual Member under Standing Order No. 11.21(iv)

 

78....... Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Welsh Conservatives Debate

 

106..... Dadl Plaid Cymru
Plaid Cymru Debate

 

137..... Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

 

144..... Dadl Fer
Short Debate

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn ogystal, cynhwysir cyfieithiad Saesneg o gyfraniadau yn y Gymraeg.

 

In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In addition, an English translation of Welsh speeches is included.

 

 

 

 

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at
1.30 p.m. with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

 

The Presiding Officer: Good afternoon.

 

Y Llywydd: Prynhawn da.

 

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Questions to the Minister for Finance and Leader of the House

 

Portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau

 

Local Government and Communities Portfolio

 

1. Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynlluniau ar gyfer dyrannu adnoddau i’r portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau. OAQ(4)0040(FIN)

 

1. Nick Ramsay: Will the Minister outline her plans for allocating resources to the Local Government and Communities portfolio. OAQ(4)0040(FIN)

 

5. Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i’r portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau. OAQ(4)0044(FIN)

 

5. Mike Hedges: Will the Minister make a statement on the overall budget allocation to the Local Government and Communities portfolio. OAQ(4)0044(FIN)

 

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): I thank the finance spokesperson for the Welsh Conservatives. I published the Government’s spending plans for 2012-13 in the draft budget on 4 October. This included details of allocations to the local government and communities portfolio. The total departmental expenditure line budget for 2012-13 is just over £5.1 billion, consisting of £4.8 billion of revenue and £261.6 million of capital.

 

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Diolchaf i lefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig. Cyhoeddais gynlluniau gwariant y Llywodraeth ar gyfer 2012-13 yn y gyllideb ddrafft ar 4 Hydref. Yr oedd yn cynnwys manylion y dyraniadau i’r portffolio llywodraeth leol a chymunedau. Mae cyfanswm y gyllideb llinell gwariant adrannol ar gyfer 2012-13 ychydig dros £5.1 biliwn, sy’n cynnwys £4.8 biliwn o refeniw a £261.6 miliwn o gyfalaf.

 

Nick Ramsay: Thank you, Minister. Much as I enjoyed shadowing you as the finance spokesman, I should point out that Paul Davies is now our finance spokesperson. I want to ask about the Government’s policy on council tax and the amount of money—£40 million, I think—coming from Westminster to the Welsh Government to deal with that. I am sure that you will join me in welcoming the fact that my local authority in Monmouthshire is going to implement its own council tax freeze next year. However, across Wales, other councils will not have that luxury because you will not be providing them with that resource. What discussions have you had with the Minister for Local Government and Communities to ensure that if that money is not going to local authorities to assist them in reducing council tax, they will be able to do other things that will assist council tax payers, who, at this point in time, with inflation rising, are finding things very difficult?

 

Nick Ramsay: Diolch, Weinidog. Er cymaint imi fwynhau eich cysgodi fel llefarydd cyllid, dylwn nodi mai Paul Davies yw ein llefarydd cyllid yn awr. Yr wyf am ofyn am bolisi’r Llywodraeth ar y dreth gyngor a faint o arian—£40 miliwn, yr wyf yn meddwl—sy’n dod o San Steffan at Lywodraeth Cymru i ymdrin â hynny. Yr wyf yn siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu’r ffaith bod fy awdurdod lleol yn sir Fynwy yn mynd i rewi ei dreth gyngor ei hun y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, ar draws Cymru, ni fydd cynghorau eraill yn gallu fforddio gwneud hynny gan na fyddwch yn darparu’r adnodd hwnnw iddynt. Pa drafodaethau ydych wedi’u cael gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i sicrhau, os nad yw’r arian hwnnw’n mynd at awdurdodau lleol i’w cynorthwyo i leihau’r dreth gyngor, y gallant wneud pethau eraill a fydd yn cynorthwyo talwyr y dreth gyngor, sydd, ar hyn o bryd, gyda chwyddiant yn codi, yn cael pethau’n anodd iawn?

 

Jane Hutt: I thank the shadow spokesperson for business, enterprise, technology and science. I believe that the Member was in the Chamber when the First Minister made his statement last week about the importance of us now moving forward with a fiscal stimulus—an economic stimulus—and the nearly £40 million of additional money that has come as a consequence of the UK Government’s decision to freeze council tax in England. That is good, and as the Minister for Local Government and Communities said yesterday with regard to the local government settlement, it is up to local authorities to choose to freeze their council tax. Here in Wales, we are seeking to put the money where it is most needed in terms of stimulating the economy and opportunities for young people in terms of skills. He had meetings with all party leaders yesterday to discuss their needs and views on this matter.

 

Jane Hutt: Yr wyf yn diolch i lefarydd yr wrthblaid ar gyfer busnes, menter, technoleg a gwyddoniaeth. Credaf fod yr Aelod yn y Siambr pan wnaeth y Prif Weinidog ei ddatganiad yr wythnos diwethaf am ba mor bwysig yw hi ein bod ni yn awr yn symud ymlaen gydag ysgogiad ariannol—ysgogiad economaidd—a’r swm o bron i £40 miliwn o arian ychwanegol sydd wedi dod yn sgîl penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rewi’r dreth gyngor yn Lloegr. Mae hynny’n dda, ac fel y dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ddoe o ran y setliad llywodraeth leol, mater i awdurdodau lleol yw dewis rhewi eu treth gyngor. Yma yng Nghymru, yr ydym yn ceisio rhoi’r arian lle y mae ei angen fwyaf yn nhermau ysgogi’r economi a chyfleoedd i bobl ifanc o ran sgiliau. Cafodd ef gyfarfodydd gyda holl arweinwyr y pleidiau ddoe i drafod eu hanghenion a’u barn ar y mater hwn.

 

Mike Hedges: Thank you for your response to Nick Ramsay, Minister. I was delighted to find that, thanks to the provisional local government settlement from your department, the Minister for Local Government and Communities has since pledged to protect key council services, including schools and social services. Minister, will you confirm that despite the reduction by the UK Government in the Welsh block grant, due to the budget allocated to the local government and communities portfolio, the budget allocation for local authorities in Wales is, in comparison with English local authorities, much more generous, and as such it will definitely help towards protecting the most vulnerable in society during these tough financial times?

 

Mike Hedges: Diolch am eich ymateb i Nick Ramsay, Weinidog. Yr oeddwn wrth fy modd yn darganfod, o ganlyniad i’r setliad llywodraeth leol dros dro gan eich adran, bod y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ers hynny wedi addo diogelu gwasanaethau cyngor allweddol, gan gynnwys ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Weinidog, a wnewch chi gadarnhau, er gwaethaf y gostyngiad gan Lywodraeth y DU i grant bloc Cymru, oherwydd y gyllideb a ddyrennir i’r portffolio llywodraeth leol a chymunedau, bod y dyraniad cyllideb ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, o’i gymharu ag awdurdodau lleol yn Lloegr, yn llawer mwy hael, ac fel y cyfryw y bydd yn bendant yn helpu i ddiogelu’r aelodau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod y cyfnod ariannol anodd hwn?

 

Jane Hutt: I thank the Member for that pertinent question, as I today spoke at a very important conference organised by Disability Wales called Unequal Cuts. I was able to report on a recent Demos study, sponsored by Scope, which looked at authorities across England and Wales and how budget cuts are affecting front-line disability services. The report highlighted the fact that Welsh councils did not experience such big changes in their budget as those in England. That, of course, was also acknowledged in the auditor general’s report on Friday.

 

Jane Hutt: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn perthnasol hwnnw, gan fy mod wedi siarad heddiw mewn cynhadledd bwysig iawn a drefnwyd gan Anabledd Cymru o’r enw Toriadau Anghyfartal. Medrais adrodd ar astudiaeth ddiweddar Demos, a noddwyd gan Scope, ac a edrychodd ar awdurdodau ledled Cymru a Lloegr a sut mae toriadau yn y gyllideb yn effeithio ar wasanaethau anabledd rheng flaen. Amlygodd yr adroddiad y ffaith nad oedd cynghorau Cymru yn gweld newidiadau mor fawr yn eu cyllideb ag oedd cynghorau Lloegr. Cydnabuwyd hynny hefyd, wrth gwrs, yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol ddydd Gwener.

 

Janet Finch-Saunders: Last week, the First Minister said that careful decisions are needed in deciding how to spend the £39.9 million received following a council tax freeze in England. Do you think that this immediate decision not to do the same here, and to help every household in Wales, was a careful decision, especially considering that there has been a 134 per cent increase in council tax over a small number of years? What discussions have you, the First Minister and the Minister for Local Government and Communities had regarding this, and why was the decision taken to take this money away from our own council tax payers?

 

Janet Finch-Saunders: Wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog fod angen penderfyniadau gofalus wrth benderfynu sut i wario’r £39.9 miliwn a dderbyniwyd yn dilyn rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr. A ydych chi’n meddwl bod y penderfyniad di-oed hwn i beidio â gwneud yr un peth yma, ac i helpu pob cartref yng Nghymru, yn benderfyniad gofalus, yn enwedig o ystyried y bu cynnydd o 134 y cant yn y dreth gyngor dros nifer fechan o flynyddoedd? Pa drafodaethau ydych chi, y Prif Weinidog a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi eu cael ar hyn, a pham y cymerwyd y penderfyniad i gymryd yr arian hwn oddi wrth ein talwyr y dreth gyngor?

 

Jane Hutt: It is important for the Member to know that the Welsh settlement that we announced last year is significantly better than the settlement in England. I have just commented on that point in response to a previous question. In Wales, council tax bills have consistently been much lower than in England. The average bill for a band D property is currently 19 per cent lower than the estimate for band D properties in England. So, council tax bills are lower. However, there is a much greater problem in terms of the 9 per cent unemployment rate from the figures that were published last week. Also, forecasters such as the Ernst and Young ITEM club warn that Britain is stalled at a dangerous junction. Peter Spencer, speaking for the club, said that Government should take targeted steps to protect jobs. That is what we are doing with the £40 million that has been allocated to us.

 

Jane Hutt: Mae’n bwysig ei fod yn hysbys i’r Aelod bod y setliad Cymreig a gyhoeddwyd y llynedd yn sylweddol well na’r setliad yn Lloegr. Yr wyf newydd wneud sylwadau ar y pwynt hwnnw mewn ymateb i gwestiwn blaenorol. Yng Nghymru, mae biliau’r dreth gyngor wedi bod yn gyson yn llawer is nag yn Lloegr. Mae’r bil cyfartalog ar gyfer eiddo band D ar hyn o bryd 19 y cant yn is na’r amcangyfrif ar gyfer eiddo band D yn Lloegr. Felly, mae biliau’r dreth gyngor yn is. Fodd bynnag, mae llawer mwy o broblem o ran y gyfradd ddiweithdra o 9 y cant yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Hefyd, mae daroganwyr megis yr Ernst and Young ITEM club yn rhybuddio bod Prydain wedi pallu wrth gyffordd beryglus. Dywedodd Peter Spencer, a oedd yn siarad dros y clwb, y dylai’r Llywodraeth gymryd camau wedi’u targedu i amddiffyn swyddi. Dyna’r hyn yr ydym yn ei wneud gyda’r £40 miliwn sydd wedi’i ddyrannu inni.

 

Rhodri Glyn Thomas: Weinidog, yr wyf yn siŵr y byddech yn derbyn bod y broses o werthuso swyddi a sicrhau tâl cyfartal yn bwysig iawn i lywodraeth leol, ond mae cost ychwanegol yn gysylltiedig â hynny. Pa ddarpariaeth yr ydych wedi’i gwneud o ran yr arian sydd wedi mynd i’r Gweinidog â chyfrifoldeb am y setliad llywodraeth leol i sicrhau bod digon o gyllid ar gael i alluogi’r prosesau hynny i fynd yn eu blaenau?

 

Rhodri Glyn Thomas: Minister, I am sure that you would accept that the process of evaluating jobs and ensuring equal pay is exceptionally important to local government, but there is an additional cost associated to that. What provision have you made in the funding that has gone to the Minister with responsibility for the local government settlement to ensure that enough funding is available for those processes to go ahead?

 

Jane Hutt: Clearly, Rhodri Glyn Thomas, this is an important point. I am sure that you welcomed Minister for local government’s revenue settlement yesterday, which sees an uplift in terms of protecting local government. Also, we now have our public sector equality duties, which local authorities are now abiding by and implementing, to tackle the gender pay gap.

 

Jane Hutt: Mae’n amlwg, Rhodri Glyn Thomas, bod hwn yn bwynt pwysig. Mae’n siŵr gennyf eich bod yn croesawu setliad refeniw’r Gweinidog llywodraeth leol ddoe, gyda chynnydd o ran diogelu llywodraeth leol. Hefyd, mae gennym bellach ein dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus, y mae awdurdodau lleol yn awr yn cydymffurfio â hwy a’u gweithredu, i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

 

Peter Black: In these difficult times, every pound counts, particularly in terms of how much money you can get to the front line. Can you explain why you continue to hypothecate a large number of grants at an estimated administration cost of around £50 million a year?

 

Peter Black: Yn y cyfnod anodd hwn, mae pob punt yn cyfrif, yn enwedig o ran faint o arian y gallwch ei gael i’r rheng flaen. A allwch esbonio pam yr ydych yn dal i neilltuo nifer fawr o grantiau am gost gweinyddu sydd, yn ôl yr amcan ryw £50 miliwn y flwyddyn?

 

Jane Hutt: This is something where close working relationships and partnerships with local government has moved us towards a lessening of the ring fencing of grants. However, where we know that we have to deliver particular programmes that are going to deliver for the people of Wales, we would acknowledge that in terms of specific grants. However, this is something that we are dealing with in partnership with local government.

 

Jane Hutt: Mae hwn yn rhywbeth lle y mae perthnasau a phartneriaethau lle’r ydym yn gweithio’n agos â llywodraeth leol wedi ein symud tuag at leihad mewn clustnodi grantiau. Fodd bynnag, lle gwyddom fod yn rhaid inni ddarparu rhaglenni penodol sydd yn mynd i gyflawni ar gyfer pobl Cymru, byddwn yn cydnabod hynny drwy grantiau penodol. Fodd bynnag, mae hwn yn rhywbeth yr ydym yn ymdrin ag ef mewn partneriaeth â llywodraeth leol.

 

Peter Black: I understand that you have slightly reduced the number of hypothecated grants, but clearly you are not moving fast enough, as the cost to local government is still quite excessive. If you are not prepared to reduce the number of ring-fenced grants even further, will you look at the administration costs of these? Clearly, for every pound that you can reduce through administration, that is a pound that can go on front-line services.

 

Peter Black: Yr wyf yn deall eich bod wedi lleihau, o ychydig, nifer y grantiau wedi’u neilltuo, ond mae’n amlwg nad ydych yn symud yn ddigon cyflym, gan fod y gost i lywodraeth leol o hyd yn eithaf gormodol. Os nad ydych yn barod i leihau nifer y grantiau wedi’u clustnodi hyd yn oed ymhellach, a wnewch chi edrych ar eu costau gweinyddol? Wrth gwrs, mae pob punt y gallwch ei leihau drwy weinyddu yn bunt sy’n gallu mynd at wasanaethau rheng flaen.

 

Jane Hutt: In the local government revenue settlement, we delivered carefully on those particular areas such as social services, education and funding to our schools. That was not through ring-fencing funding, but through funding that we as a Government decided was a priority to protect the vulnerable and to ensure that funding got to our schools. We have not done it through ring-fencing and local government has welcomed the fact that it has the responsibility to deliver on that commitment.

 

Jane Hutt: Yn y setliad refeniw llywodraeth leol, gwnaethom ddarparu yn ofalus mewn meysydd penodol fel gwasanaethau cymdeithasol, addysg a chyllido’n hysgolion. Nid oedd hynny drwy gyllid wedi ei glustnodi, ond drwy gyllid y penderfynasom ni fel Llywodraeth oedd yn flaenoriaeth i amddiffyn pobl agored i niwed ac i sicrhau bod cyllid yn cyrraedd ein hysgolion. Nid ydym wedi gwneud hyn drwy glustnodi ac mae llywodraeth leol wedi croesawu’r ffaith bod ganddi’r cyfrifoldeb i gyflawni’r ymrwymiad hwnnw.

 

Trafodaethau gyda Llywodraeth y DU

 

Discussions with the UK Government

 

2. Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn ystod y broses o bennu’r gyllideb. OAQ(4)0041(FIN)

 

2. Nick Ramsay: Will the Minister provide an update on her discussions with the UK Government during the budget setting process. OAQ(4)0041(FIN).

 

Jane Hutt: I have had regular discussions with the UK Government on a range of financial issues during the budget process. I am meeting the Chief Secretary to the Treasury next week to progress the inter-governmental talks on fairer funding and borrowing powers.

 

Jane Hutt: Yr wyf wedi cael trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ar ystod o faterion ariannol yn ystod proses y gyllideb. Byddaf yn cwrdd â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos nesaf i symud ymlaen â’r trafodaethau rhynglywodraethol ar ariannu tecach a phwerau benthyca.

 

Nick Ramsay: Minister, the issue of sustainability is clearly key to everything that we do in the National Assembly and has been from the start of the devolved settlement. I know that the Government is forming a bid for the green investment bank to be sited in Wales, and we have given our support for that. However, looking through the draft budget, I find it difficult to see other areas where sustainability is being put at the heart of the Government’s policies across all portfolios. Can you tell us how you are aiming to ensure that the budget is sustainable? What discussions have you had with the UK Government in terms of getting its support to make Wales a more sustainable low-carbon economy?

 

Nick Ramsay: Weinidog, mae cynaliadwyedd yn amlwg yn allweddol i bopeth yr ydym yn ei wneud yn y Cynulliad Cenedlaethol ac y mae wedi bod felly ers dechrau’r setliad datganoledig. Gwn fod y Llywodraeth yn ffurfio cais ar gyfer lleoli’r banc buddsoddi gwyrdd yng Nghymru, ac yr ydym ni wedi cefnogi hynny. Fodd bynnag, wrth edrych drwy’r gyllideb ddrafft, yr wyf yn ei chael yn anodd gweld meysydd eraill lle mae cynaliadwyedd yn cael ei roi wrth wraidd polisïau’r Llywodraeth ar draws pob portffolio. A allwch ddweud wrthym sut yr ydych yn anelu at sicrhau bod y gyllideb yn gynaliadwy? Pa drafodaethau ydych chi wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU o ran cael ei chefnogaeth i wneud Cymru yn economi carbon isel mwy cynaliadwy?

 

Jane Hutt: That commitment to sustainable development has underpinned all of my budgetary talks with every Minister in the Cabinet.

 

Jane Hutt: Mae’r ymrwymiad hwnnw i ddatblygu cynaliadwy wedi bod yn sail i’m holl sgyrsiau cyllidebol gyda phob Gweinidog yn y Cabinet.

 

Arweinydd Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): Gan fod y Gweinidog wedi derbyn, mewn ateb i gwestiwn blaenorol, fod y sefyllfa economaidd yn wael ac yn debygol o waethygu yn ystod y flwyddyn a hanner nesaf, yn sicr gyda diweithdra yn codi, a chan mai un o’r pethau llwyddiannus iawn a wnaeth y Llywodraeth flaenorol oedd dwyn gwariant cyfalaf ymlaen er mwyn sicrhau ei bod yn gallu rhoi hwb i’r economi, pa drafodaethau y mae hi wedi eu cael â’r Llywodraeth yn Llundain i sicrhau bod hawl ganddi i ddwyn arian cyfalaf ymlaen er mwyn rhoi hwb o’r fath y tro hwn?

 

The Leader of Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): As the Minister has accepted, in answer to a previous question, that the economic situation is bad and likely to worsen during the coming year and a half, certainly with unemployment on the rise, and given that one of the very successful things done by the previous Government was to bring forward capital expenditure to ensure a boost to the economy, what discussions has she held with the Government in London to ensure that she has the right to bring capital funding forward to boost the economy this time around?

 

Jane Hutt: This is going to be a subject of discussion when I meet with the Chief Secretary to the Treasury next week. The bringing forward of capital was key in our response to the recession in 2008, with the setting up of the economic summit and the bringing forward of capital for schools, health, roads and housing. What I am delivering is a transfer from revenue to capital in recognition of the fact that this is the most pressing area with regard to cuts from the UK Government. We need to consider, in light of the views that are coming forward from across this Chamber to the Government, how we can maximise the use of the £40 million that has come from the UK Government.

 

Jane Hutt: Bydd hyn yn destun trafodaeth pan fyddaf yn cwrdd â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos nesaf. Bu dwyn cyfalaf ymlaen yn allweddol yn ein hymateb i’r dirwasgiad yn 2008, wrth sefydlu’r uwchgynhadledd economaidd a dwyn ​cyfalaf ymlaen ar gyfer ysgolion, iechyd, ffyrdd a thai. Yr hyn yr wyf yn ei gyflwyno yw trosglwyddiad o refeniw i gyfalaf i gydnabod y ffaith mai hwn yw’r maes mwyaf dybryd o safbwynt toriadau gan Lywodraeth y DU. Mae angen inni ystyried, yng ngoleuni’r safbwyntiau sy’n cael eu cyflwyno ar draws y Siambr hon i’r Llywodraeth, sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’r £40 miliwn sydd wedi dod oddi wrth Lywodraeth y DU.

 

Ieuan Wyn Jones: Yr wyf yn falch eich bod yn mynd i bwyso ar y Trysorlys i ryddhau’r arian cyfalaf. Gan eich bod wedi sôn y byddwch yn cwrdd â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos nesaf, a gaf gadarnhad gennych y byddwch, yn ogystal â phwyso am lawr Barnett, fel yr ydych wedi dweud ar sawl achlysur, yn pwyso hefyd am adolygiad llawn o fformiwla Barnett, fel bod Cymru yn cael cyfran deilwng o’r arian sy’n ddyledus iddi? A allwch sicrhau bod hynny yn ei le cyn bod y trafodaethau ynghylch ysgwyddo’r cyfrifoldeb am drethiant yn digwydd yn yr adroddiad ar y comisiwn sy’n cael ei sefydlu?

 

Ieuan Wyn Jones: I am glad that you are going to press the Treasury to release capital funding. Given that you have mentioned that you are to meet the Chief Secretary to the Treasury next week, can I have your assurances that, in addition to pressing for a Barnett floor, as you have said on several occasions, you will also press for a full review of the Barnett formula, so that Wales has its proper share of the money owing to us? Can you also ensure that that is in place before the discussions on shouldering responsibility for taxation commence in the report on the commission that is being set up?

 

Jane Hutt: I thank the leader of Plaid Cymru for that question. I refer back on this matter to the motion that was passed by the full Assembly in July, which says that in noting the consensus across Wales in terms of the devolved funding settlement, we are in support of looking towards a fairer funding regime, incorporating the Holtham floor, and a wider reform of the Barnett formula. That is the basis on which I am having discussions with the Chief Secretary to the Treasury next week.

 

Jane Hutt: Yr wyf yn diolch i arweinydd Plaid Cymru am y cwestiwn hwnnw. Ar y mater hwn, cyfeiriaf yn ôl at y cynnig a basiwyd gan y Cynulliad llawn ym mis Gorffennaf, sydd yn dweud wrth nodi’r consensws ar draws Cymru o ran y setliad cyllid datganoledig, ein bod yn cefnogi edrych tuag at gyfundrefn gyllido decach, gan ymgorffori llawr Holtham, a diwygio fformiwla Barnett yn ehangach. Ar y sail honno yr wyf yn cynnal trafodaethau gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos nesaf.

 

Paul Davies: With regard to the Government’s flagship policy on extending the opening hours of GPs, in a written answer to the leader of the opposition, the Minister for Health and Social Services last week said:

 

Paul Davies: O ran polisi blaenllaw y Llywodraeth ar ymestyn oriau agor meddygon teulu, mewn ateb ysgrifenedig i arweinydd yr wrthblaid, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos diwethaf:

 

‘The Cabinet will be considering shortly initial proposals for improving access to GP surgeries. Detailed costs and timescales for delivery are being developed.’

 

Bydd y Cabinet yn ystyried cynigion cychwynnol yn fuan ar gyfer gwella mynediad at feddygfeydd meddygon teulu. Mae costau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflwyno yn cael eu datblygu.

 

This clearly suggests that there will be costs attached to improving access to GP surgeries. However, the First Minister made it clear yesterday that no additional funding is required. Will the Minister confirm who is right?

 

Awgryma hyn yn glir y bydd yna gostau ynghlwm wrth wella mynediad i feddygfeydd meddygon teulu. Fodd bynnag, fe’i gwnaed yn glir ddoe gan y Prif Weinidog nad oes angen unrhyw arian ychwanegol. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pwy sy’n iawn?

 

Jane Hutt: Quite clearly, the First Minister and the Health and Social Services Minister are right on this matter.

 

Jane Hutt: Mae’n gwbl amlwg bod y Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn iawn ar y mater hwn.

 

Paul Davies: Come on, Minister, the First Minister and the Health Minister cannot both be right on this issue. The First Minister made it clear yesterday that no additional funding is available. If that is the case, and this policy does not need any extra funding, can you tell us what discussions the Government and your colleagues have undertaken with GPs and the professional bodies that represent GPs on this particular issue?

 

Paul Davies: Dewch ymlaen, Weinidog, ni all y Prif Weinidog a’r Gweinidog iechyd ill dau fod yn iawn ar y mater hwn. Gwnaeth y Prif Weinidog hi’n glir ddoe nad oes arian ychwanegol ar gael. Os yw hynny’n wir, ac nid oes angen unrhyw arian ychwanegol ar y polisi hwn, a allwch ddweud wrthym ba drafodaethau y mae’r Llywodraeth a’ch cydweithwyr wedi eu cael â meddygon teulu a’r cyrff proffesiynol sy’n cynrychioli meddygon teulu ar y mater penodol hwn?

 

Jane Hutt: The people of Wales want to hear how we are progressing with this Welsh Government commitment to ensure that there is better access to GPs, a service that many patients enjoy already across Wales. That is the basis of discussions that we are having with the representatives of the medical profession, the general practitioners committee of the British Medical Association, as we take this forward.

 

Jane Hutt: Mae pobl Cymru am glywed sut yr ydym yn symud ymlaen gyda’r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwell mynediad at feddygon teulu, gwasanaeth y mae llawer o gleifion yn ei mwynhau eisoes ledled Cymru. Dyna yw sail ein trafodaethau gyda chynrychiolwyr y proffesiwn meddygol, pwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain, wrth inni ddatblygu hyn.

 

The Presiding Officer: I call on Lindsay Whittle to ask question 3.

 

Y Llywydd: Galwaf ar Lindsay Whittle i ofyn cwestiwn 3.

 

Lindsay Whittle: I appreciate, Minister, that you may have answered my question on making a statement on the Welsh Government’s position on the Barnett formula. With your permission, and the permission of the Presiding Officer, I would accept that. I do have a supplementary question, however.

 

Lindsay Whittle: Yr wyf yn sylweddoli, Weinidog, y gallech fod wedi ateb fy nghwestiwn ynghylch gwneud datganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru ar fformiwla Barnett. Gyda’ch caniatâd, a chaniatâd y Llywydd, byddwn yn derbyn hynny. Mae gennyf gwestiwn atodol, fodd bynnag.

 

Jane Hutt: In terms of asking for a statement on the Welsh Government’s position, perhaps I could give you my response.

 

 

Jane Hutt: O ran gofyn am ddatganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru, efallai y gallwn roi fy ymateb ichi.

 

1.45 p.m.

 

The Welsh Government believes that the Barnett formula does not serve Wales well. That is why we are engaged in talks with the UK Government on financial reform, with the introduction of a funding floor being the immediate priority.

 

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn nad yw fformiwla Barnett yn gwasanaethu Cymru yn dda. Dyna pam ein bod mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ar ddiwygio ariannol, a’r flaenoriaeth gyntaf yw cyflwyno cyllid gwaelodol.

The Presiding Officer: Order. Could you make it a short supplementary question, please?

 

Y Llywydd: Trefn. A fyddech cystal â’i wneud yn gwestiwn atodol byr?

Lindsay Whittle: It will be short, I can assure you, Presiding Officer. Many of us feel that it is a disgrace that your colleagues in London are refusing to press for the reform of the Barnett formula. I appreciate that you will attend a meeting next week, but can you gave an indication of the discussions you are having with your own party in London to lobby for their support with regard to the reform of the formula?

 

Lindsay Whittle: Bydd yn fyr, rwy’n eich sicrhau, Lywydd. Mae llawer ohonom yn teimlo ei bod yn warth bod eich cydweithwyr yn Llundain yn gwrthod pwyso i ddiwygio fformiwla Barnett. Rwy’n gwerthfawrogi eich bod yn mynychu cyfarfod wythnos nesaf, ond a allwch chi roi syniad am ba drafodaethau rydych chi yn eu cael â’ch plaid eich hun yn Llundain i lobïo am eu cefnogaeth ar gyfer diwygio’r fformiwla?

Jane Hutt: I am the Minister for Finance in Wales and I will speak to the UK Government Minister responsible for our funding arrangements. That is the basis for my meeting next week.

 

Jane Hutt: Fi yw’r Gweinidog Cyllid yng Nghymru a byddaf yn siarad â Gweinidog Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am ein trefniadau ariannu. Dyna yw sail fy nghyfarfod yr wythnos nesaf.

Angela Burns: While we all know that this is the first UK Government to commit to reviewing the Barnett formula, Minister, I wonder whether you could tell us what work you have been doing on reviewing the assumptions on which a needs-based formula is usually worked out. That is, for example, rurality and the index of multiple deprivation. Are you reviewing those assumptions? If so, are you adding to them or subtracting from them to ensure that we get the right formula in future?

 

Angela Burns: Er ein bod i gyd yn gwybod mai dyma Lywodraeth y DU gyntaf i ymrwymo i adolygu fformiwla Barnett, Weinidog, tybed a allwch chi ddweud wrthym pa waith fuoch chi yn ei wneud ar adolygu’r rhagdybiaethau sydd fel arfer yn sail i fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion. Hynny yw, er enghraifft, natur wledig a mynegai amddifadedd lluosog. A ydych chi’n adolygu’r rhagdybiaethau hynny? Os felly, a ydych yn ychwanegu atynt neu’n tynnu oddi wrthynt er mwyn sicrhau ein bod yn cael y fformiwla gywir yn y dyfodol?

 

Jane Hutt: It is important for the discussions that I will have next week that we have support across the Chamber in taking the inter-governmental talks forward. This will be done in parallel with the work of the Silk commission, which again has representation from all parties. We have to look no further than the Holtham commission’s second report, in which he utilised a needs-based formula, building on his work in the first report, which recommended a Barnett floor. Therefore, all of this has to be considered with the Treasury and we will then get into the detail. Let us get the principles right at this point.

Jane Hutt: Mae’n bwysig i’r trafodaethau y byddaf yn eu cael wythnos nesaf bod gennym gefnogaeth ar draws y Siambr o ran dwyn ymlaen y trafodaethau rhynglywodraethol. Bydd hyn yn cael ei wneud ochr yn ochr â gwaith comisiwn Silk, sydd eto â chynrychiolaeth o bob plaid. Nid oes rhaid inni edrych yn bellach nag ail adroddiad comisiwn Holtham, lle defnyddiodd fformiwla yn seiliedig ar anghenion, gan adeiladu ar ei waith yn yr adroddiad cyntaf, a wnaeth argymell terfyn isaf Barnett. Felly, mae’n rhaid ystyried hyn oll gyda’r Trysorlys ac wedyn cawn edrych ar y manylion. Rhaid inni gael yr egwyddorion yn iawn yn gyntaf.

 

Caffael Cynaliadwy Callach

Smarter Sustainable Procurement

 

4. Julie James: Beth yw cynlluniau’r Gweinidog ar gyfer caffael cynaliadwy callach ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0046(FIN)

4. Julie James: What are the Minister’s plans for smarter sustainable procurement across public services in Wales. OAQ(4)0046(FIN)

 

Jane Hutt: We aim to simplify and standardise public procurement processes to help to maximise value for money across Wales. Our priorities include widespread adoption of the supplier qualification information database—SQuID—approach to pre-qualification and the community-benefits methodology, while realising efficiencies through e-procurement and stronger collaboration on common spend.

 

Jane Hutt: Ein bwriad yw symleiddio a safoni prosesau caffael cyhoeddus i helpu i gael y gwerth gorau am arian ledled Cymru. Ymysg ein blaenoriaethau mae mabwysiadu’r ymagwedd cronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr tuag at cyn-gymhwyso a’r fethodoleg manteision cymuned, wrth wireddu arbedion effeithiolrwydd dry e-gaffael a chydweithio cryfach ar wariant cyffredin. 

Julie James: We take great pride in Wales in the fact that we were the first Fairtrade Nation in the UK. Will the Minister consider a fair-trade provision in the public procurement process for public services in Wales? Where resources cannot be produced or procured locally, can we seek to maintain our fair-trade ideals by favouring applicants who endeavour to source materials or goods outside Wales that are certified as being Fairtrade?

 

Julie James: Rydym yn falch iawn yng Nghymru mai ni oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf yn y DU. A wnaiff y Gweinidog ystyried darpariaeth masnach deg yn y broses caffael gyhoeddus ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? Pan na ellir cynhyrchu neu gaffael adnoddau yn lleol, a allwn ni geisio cynnal ein delfrydau masnach deg drwy ffafrio ymgeiswyr sy’n ceisio cael deunyddiau neu nwyddau y tu allan i Gymru a ardystiwyd fel rhai Masnach Deg?

 

Jane Hutt: I thank the Member for Swansea West on this, because there is widespread pride regarding our status as the first Fairtrade Nation. We have to look at how we can take this forward. Fairtrade is a brand and the EU procurement regulations prohibit discrimination in favour of branded groups. However, the principles of fair trade are addressed by using the sustainability risk assessment. That enables us to procure widely. Our procurement policy tools are the key to helping Wales retain Fairtrade status.

Jane Hutt: Diolch i’r Aelod dros Orllewin Abertawe am hyn, achos mae cryn falchder am ein statws fel y Genedl Masnach Deg gyntaf. Mae’n rhaid inni weld sut y gallwn ddwyn hyn ymlaen. Mae Masnach Deg yn frand ac mae rheoliadau caffael yr UE yn gwahardd gwahaniaethu o blaid grwpiau wedi’u brandio. Fodd bynnag, ymdrinnir ag egwyddorion masnach deg drwy ddefnyddio asesiad risg cynaliadwyedd. Mae hynny yn ein caniatáu i gaffael yn eang. Ein hofferynnau polisi caffael yw’r allwedd i helpu Cymru i gadw ei statws Masnach Deg.

 

Suzy Davies: Hoffwn ddatblygu’r syniad hwnnw. Weinidog, sut y bu ichi gadarnhau y bydd unrhyw bolisi caffael cynaliadwy yn sicrhau chwarae teg i’r trydydd sector a mentrau cymdeithasol sydd am gystadlu am gytundebau sector cyhoeddus?

Suzy Davies: I would like to develop that idea. Minister, how have you ensured that any sustainable procurement policy will ensure fair play for the third sector as well as social enterprises that want to compete for public-sector contracts?

 

Jane Hutt: This was an issue that emerged at a conference that I spoke at last week on funding for the third sector. We talked about the importance of there being a fair deal for social enterprises and the third sector in terms of sustainability, particularly in relation to procurement.

Jane Hutt: Roedd hyn yn fater a gododd mewn cynhadledd y siaredais ynddi wythnos diwethaf ar ariannu’r trydydd sector. Gwnaethom siarad am ba mor bwysig oedd cael bargen deg i fentrau cymdeithasol a’r trydydd sector o ran cynaliadwyedd, yn enwedig o ran caffael.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Mae gennyf ofn, Weinidog, nad wyf eto wedi fy mherswadio, wrth fwrw golwg ar y safle we ynglŷn â chaffael, bod yr ymrwymiad i gynaliadwyedd o safbwynt y gwasanaethau a nwyddau wedi ei bwysleisio yn ddigonol. Hoffwn i’r Gweinidog Cyllid gynnal sgwrs bellach gyda’i chyfaill, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, ynglŷn â’r mater hwn.

Lord Elis-Thomas: I am afraid, Minister, that I am not yet persuaded, having looked at the procurement website, that the commitment to sustainability from the point of view of services and goods has been adequately flagged up. I would like the Minister for Finance to have a further conversation with her colleague the Minister for Environment and Sustainable Development on this matter.

 

Jane Hutt: I am certainly happy to take that point back. The sustainable risk assessment that I mentioned earlier is widely used across Wales. It helps to develop and deliver procurement strategies and it takes account of sustainability issues. We use it on all contracts with a value of over £25,000. However, with regard to the website accessibility, I will take that point back.

Jane Hutt: Rwy’n sicr yn fodlon mynd â’r pwynt hwnnw yn ôl. Mae’r asesiad risg cynaliadwy y soniais amdano yn gynharach yn cael ei ddefnyddio yn helaeth ledled Cymru. Mae’n helpu i ddatblygu a darparu strategaethau caffael ac mae’n cymryd materion cynaliadwyedd i ystyriaeth. Rydym yn ei ddefnyddio ar bob contract gwerth mwy na £25,000. Fodd bynnag, o ran y pwynt am hygyrchedd y wefan, fe af â’r pwynt hwnnw yn ôl.

 

Llais Defnyddwyr Cymru

Consumer Focus Wales

 

6. Mick Antoniw: A yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw sylwadau ynghylch y posibilrwydd o ddarparu cyllid ychwanegol i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer Llais Defnyddwyr Cymru. OAQ(4)0042(FIN)

6. Mick Antoniw: Has the Minister received any representations regarding the possibility of providing additional funding to the Minister for Local Government and Communities for Consumer Focus Wales. OAQ(4)0042(FIN)

 

Jane Hutt: Consumer policy is non-devolved. However, the UK Government’s proposals have implications for Wales and we are monitoring developments closely.

 

Jane Hutt: Nid yw polisi defnyddwyr wedi ei ddatganoli. Fodd bynnag, mae gan gynigion Llywodraeth y DU oblygiadau i Gymru ac yr ydym yn monitro datblygiadau yn ofalus.

 

Mick Antoniw: Minister, at yesterday’s Welsh Affairs Committee meeting, the UK Minister, Ed Davey, said that he had no recollection of the Welsh Government requesting the transfer of these powers to the Wales. Will the Minister confirm that the Welsh Government has approached the UK Government to request that it amends the Public Bodies Bill to allow the Welsh Government to acquire responsibility for Consumer Focus Wales? What response, if any, has been received? 

 

Mick Antoniw: Weinidog, yng nghyfarfod ddoe o’r Pwyllgor Materion Cymreig, dywedodd Gweinidog y DU, Ed Davey, nad oedd cof ganddo bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am drosglwyddo’r pwerau hyn i Gymru. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi mynd at Lywodraeth y DU yn gofyn iddi ddiwygio’r Bil Cyrff Cyhoeddus er mwyn galluogi Cymru i gael cyfrifoldeb dros Lais Defnyddwyr Cymru? Pa ymateb a gafwyd, os o gwbl?

Jane Hutt: I understand that the Minister for Local Government and Communities has spoken to the appropriate UK Government Minister about this. It is essential that we continue to have a strong independent voice to help to protect people from consumer exploitation. If the UK Government proceeds with its decision to abolish Consumer Focus Wales, we will have to work to retain those services and functions currently undertaken by it.

 

Jane Hutt: Rwy’n cael ar ddeall bod y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi siarad â’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth y DU am hyn. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i feddu ar lais annibynnol cryf i helpu i ddiogelu pobl rhag manteisio arnynt fel defnyddwyr. Os yw Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen gyda’i benderfyniad i ddiddymu Llais Defnyddwyr Cymru, bydd yn rhaid inni weithio i ddal ein gafael ar y gwasanaeth a’r swyddogaethau a gyflawnir ganddo ar hyn o bryd.

 

Leanne Wood: Minister, it seems once again that Wales is being singled out by the Westminster Government for special treatment. How is it that Scotland and the north of Ireland will retain their separate distinct consumer bodies? In evidence to the Welsh Affairs Committee yesterday, Ed Davey claimed that the Welsh Minister for local government, Carl Sargeant, was satisfied with these proposals. Can you clarify this position, Minister? Is it the Welsh Government’s position to allow the Westminster coalition Government to treat consumers in Wales as second-class citizens?

 

Leanne Wood: Weinidog, ymddengys drachefn fod Cymru yn cael ei thargedu am driniaeth arbennig gan Lywodraeth San Steffan. Pam fydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael cadw eu cyrff defnyddwyr penodol ar wahân? Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig ddoe, honnodd Ed Davey fod Gweinidog Cymru ar gyfer llywodraeth leol, Carl Sargeant, yn fodlon â’r cynigion hyn. A allwch chi egluro’r safbwynt hwn, Weinidog? Ai safbwynt Llywodraeth Cymru yw caniatáu Llywodraeth glymblaid San Steffan i drin defnyddwyr yng Nghymru fel dinasyddion eilradd? 

Jane Hutt: Dare I say that you should not believe everything that you hear from a UK Government Minister. You should listen to the assurances of our Minister that he has not only met the UK Minister, but that he put forward a strong case. We must recognise that trading standards and consumer matters are non-devolved functions; they are led by the UK Government’s Department for Business, Innovation and Skills, and we are having consultations with it. As I said in response to Mick Antoniw, we are looking for ways in which we can protect that all-important independent voice for consumers in Wales.

Jane Hutt: A gaf i feiddio dweud na ddylech chi gredu popeth a glywch gan Weinidog Llywodraeth y DU? Dylech wrando ar sicrwydd ein Gweinidog ni ei fod nid yn unig wedi cwrdd â Gweinidog y DU, ond hefyd wedi cyflwyno achos cryf. Rhaid inni gydnabod nad yw safonau masnach a materion defnyddwyr yn swyddogaethau a ddatganolwyd; maent yn cael eu harwain gan Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau Llywodraeth y DU. Fel y dywedais mewn ateb i Mick Antoniw, rydym yn chwilio am ffyrdd i ddiogelu’r llais annibynnol hollbwysig hwnnw i ddefnyddwyr yng Nghymru. 

 

Portffolio Addysg a Sgiliau

Education and Skills Portfolio

 

7. Jenny Rathbone: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i’r portffolio Addysg a Sgiliau. OAQ(4)0049(FIN)

7. Jenny Rathbone: Will the Minister provide an update on the overall funding allocation to the Education and Skills portfolio. OAQ(4)0049(FIN)

 

Jane Hutt: The draft budget that I laid on 4 October set out our spending plans over the next three years. The education and skills fiscal resource DEL increases by 2.8 per cent, from £1.532 billion in 2011-12 to £1.575 billion in 2014-15.

 

Jane Hutt: Roedd y gyllideb ddrafft a osodais ar 4 Hydref yn amlinellu ein cynlluniau gwario dros y tair blynedd nesaf. Mae’r terfyn gwariant adrannol o ran adnoddau cyllidol addysg a sgiliau yn cynyddu gan 2.8 y cant, o £1.532 biliwn yn 2011-12 i £1.575 biliwn yn 2014-15.

   

Jenny Rathbone: I am particularly enthusiastic about the extra £55 million in the budget for the Flying Start programme. Will the Minister indicate what the Government’s priorities will be for allocating the much-depleted capital budget as a result of the cuts from Westminster? How might this affect the Flying Start programme? 

 

Jenny Rathbone: Rwy’n arbennig o frwd am y £55 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg. A wnaiff y Gweinidog ddweud beth fydd blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer dyrannu’r gyllideb gyfalaf, sydd wedi teneuo yn ddirfawr, o ganlyniad i’r toriadau gan San Steffan? Sut y bydd hyn effeithio ar y rhaglen Dechrau’n Deg?

 

Jane Hutt: I thank the Member for Cardiff Central for that important point, because the extra £55 million will mean that 18,000 more children will benefit from Flying Start. However, as you say, we face a 21 per cent capital cut, therefore we have to look carefully with local authorities at the childcare element of Flying Start, where resources need to be put into refurbishing settings to an appropriate standard. It is important that we balance the needs of our youngest pre-school children against the capital demands that are stretching our reduced budget.

 

Jane Hutt: Diolch i’r Aelod dros Ganol Caerdydd am y pwynt pwysig hwnnw, oherwydd bydd y £55 miliwn ychwanegol yn golygu y bydd 18,000 yn fwy o blant yn elwa o Dechrau’n Deg. Fodd bynnag, fel y dywedwch, rydym yn wynebu toriad cyfalaf o 21 y cant, felly rhaid inni edrych yn ofalus, gydag awdurdodau lleol, ar yr agwedd gofal plant ar Dechrau’n Deg, lle mae angen rhoi adnoddau i adnewyddu lleoliadau i safon briodol. Mae’n bwysig ein bod yn cydbwyso anghenion ein plant meithrin ieuengaf yn erbyn y galwadau cyfalaf sy’n ymestyn ein cyllideb, sydd wedi ei leihau. 

Angela Burns: Minister, what reserves have you put in place to meet any shortfall in funds arising from the overspend on the subsidy for higher education fees, especially if the courts, which are currently considering the need for Wales to subsidise all European Union students in Welsh and Scottish universities, find against this country?  

 

Angela Burns: Weinidog, pa arian wrth gefn a ydych wedi ei roi i gwrdd ag unrhyw ddiffyg mewn arian yn deillio o’r gorwario ar gymhorthdal ar gyfer ffioedd addysg uwch, yn enwedig os yw’r llysoedd, sydd ar hyn o bryd yn ystyried yr angen i Gymru roi cymhorthdal i bob myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd mewn prifysgolion yng Nghymru a’r Alban, yn dyfarnu yn erbyn y wlad hon?

 

Jane Hutt: This is an example of scaremongering about a situation where the Welsh Government is providing additional tuition fee support from 2012-13 to students who are ordinarily resident in Wales. We are confident about our position in relation to the funding arrangements for tuition fees. Nothing has changed in relation to how our fees policy works, including the impact on EU students, since the Minister made his announcement last year. 

Jane Hutt: Mae hyn yn enghraifft o godi bwganod am sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer ffioedd dysgu o 2012-13 i fyfyrwyr sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru. Rydym yn hyderus am ein sefyllfa o ran y trefniadau ariannu ar gyfer ffioedd dysgu. Nid oes unrhyw beth wedi newid o ran sut mae ein polisi ffioedd yn gweithio, gan gynnwys yr effaith ar fyfyrwyr UE, ers i’r Gweinidog wneud ei gyhoeddiad y llynedd.

 

Simon Thomas: Serch hynny, Weinidog, nid oes angen mynd at unrhyw fath o achos llys yn yr Undeb Ewropeaidd i ganfod pobl sy’n ddrwgdybus bod digon o adnoddau ar gael i gynnal y polisi presennol ar gyfer ffioedd dysgu drwy gydol y Llywodraeth bresennol. A wnewch chi gadarnhau mai bwriad, amcan ac addewid y Llywodraeth hon yw sicrhau arian digonol i’r Gweinidog roi’r polisi hwn ar ffioedd dysgu ar waith? Buasem yn cefnogi hynny’n llwyr.

Simon Thomas: Despite that, Minister, there is no need to go as far as to look at any court case in the European Union to find people who are suspicious as to whether there are adequate resources to maintain the current policy for tuition fees throughout the period of the current Government. Will you confirm that it is the Government’s intention, aim and pledge to ensure adequate funding for the Minister to implement this policy on tuition fees? We would support that 100 per cent.

 

Jane Hutt: I confirm that today.

 

Jane Hutt: Rwy’n cadarnhau hynny heddiw.

Aled Roberts: Citing our experience on the Children and Young People Committee, do you believe that the use of differing baseline figures by Government departments adds to the principle of transparent Government and effective scrutiny by committees?

 

Aled Roberts: Gan dynnu sylw at ein profiad ar y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, a ydych yn credu bod defnyddio ffigurau sylfaen gwahanol gan adrannau Llywodraeth yn ychwanegu at yr egwyddor o Lywodraeth dryloyw a chraffu effeithiol gan bwyllgorau? 

Jane Hutt: The scrutiny by committees is very robust, and I am sure that all of these matters will emerge in the Finance Committee’s report.

Jane Hutt: Mae’r craffu gan bwyllgorau yn gadarn iawn, ac rwy’n siŵr y bydd y materion hyn i gyd yn dod i’r golwg yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid.

 

Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Public Sector Equality Duties

 

 

8. Jenny Rathbone: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithredu dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0048(FIN)

8. Jenny Rathbone: Will the Minister provide an update on the implementation of public sector equality duties in Wales. OAQ(4)0048(FIN)

 

 

Jane Hutt: The Welsh Government is addressing every element of the Welsh public sector equality duties in order to publish outcome-focused equality objectives that will make a difference to people’s lives. We will publish our strategic equality plan in April 2012.

 

Jane Hutt: Mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phob elfen o ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cyhoeddi amcanion cydraddoldeb sy’n ffocysu ar ganlyniadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun cydraddoldeb strategol ym mis Ebrill 2012.

 

Jenny Rathbone: I welcome the Minister’s recent announcement of a new race forum. This sends out an important signal about us delivering equality and inclusion in Wales. What consideration was given to the new equality duties when drawing up the budget for 2012-13?

 

Jenny Rathbone: Rwy’n croesawu cyhoeddiad diweddar y Gweinidog am fforwm hil newydd. Mae hyn yn anfon neges bwysig allan amdanom ni yn cyflawni cydraddoldeb a chynhwysiant  yng Nghymru. Pa ystyriaeth a roddwyd i’r dyletswyddau cydraddoldeb newydd wrth lunio’r gyllideb ar gyfer 2012-13?

 

Jane Hutt: I thank the Member for Cardiff Central for that question. The positive response to my announcement about a race forum was evident last week at a conference in the Pierhead building organised by the African Community Centre. It will enable us to get that expert advice, support and dialogue on an ongoing basis, especially with regard to understanding key issues about barriers within black and minority ethnic communities. We will then use our equality impact assessment to ensure that we are meeting our public sector equality duties and, indeed, the scrutiny has now taken place. We have an update about this as you have seen in the budget document.

 

Jane Hutt: Diolch i’r Aelod dros Ganol Caerdydd am y cwestiwn hwnnw. Roedd yr ymateb cadarnhaol i fy nghyhoeddiad yn amlwg wythnos diwethaf mewn cynhadledd yn adeilad y Pierhead a drefnwyd gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd. Bydd yn ein galluogi i gael y cyngor, cymorth a’r deialog arbenigol hwnnw yn barhaus, yn enwedig o ran deall materion allweddol am rwystrau o fewn cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig. Byddwn wedyn yn defnyddio ein hasesiad o’r effaith ar gydraddoldeb i sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus ac, yn wir, mae’r craffu wedi digwydd erbyn hyn. Mae gennym ddiweddariad ar hyn fel y gwelsoch yn y ddogfen ar y gyllideb.

  

Mohammad Asghar: Minister, by next April, Welsh public bodies must outline equality objectives and equality plans. I know that the Welsh Ministers’ four-yearly report, with interim progress reports, aims to monitor the effectiveness of these duties. However, how will these objectives and plans be promoted to the wider Welsh public so that grass-roots scrutiny of public bodies takes place, ensuring that these bodies become truly accountable directly to the people who pay for, use and rely upon them?

 

Mohammad Asghar: Weinidog, erbyn mis Ebrill nesaf, rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru amlinellu amcanion cydraddoldeb a chynlluniau cydraddoldeb. Rwy’n gwybod bod adroddiad bob pedair blynedd Gweinidogion Cymru, gydag adroddiadau dros dro ar gynnydd, yn ceisio monitro effeithiolrwydd y dyletswyddau hyn. Fodd bynnag, sut caiff yr amcanion a’r cynlluniau hyn eu hyrwyddo i gyhoedd Cymru yn ehangach fel bod craffu ar gyrff cyhoeddus ar lawr gwlad yn digwydd, gan sicrhau bod y cyrff hyn yn dod yn wirioneddol atebol i’r bobl sy’n talu amdanynt, eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt?

 

Jane Hutt: This gives me the opportunity to say that we are launching this week the consultation that we are undertaking on the public sector equality duties. The information about the consultation is available on the Welsh Government’s website. Out of that consultation, we will get the objectives that Welsh public bodies, including the Welsh Government, need to deliver in terms of those equality outcomes.

 

Jane Hutt: Mae hyn yn rhoi’r cyfle imi ddweud ein bod yn lansio ymgynghoriad wythnos nesaf ar ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae’r wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn deillio o’r ymgynghoriad hwnnw, byddwn yn cael yr amcanion sydd eu hangen ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, er mwyn cyflawni o ran y canlyniadau cydraddoldeb hynny.

 

Bethan Jenkins: My question is specifically about job evaluation. Most councils now know that they need to deliver on this agenda; however, unfortunately, some councils, such as Bridgend County Borough Council, seem to have made a total mess of the situation. Numerous constituents have contacted me, saying that they are in a very difficult financial position as a result of job evaluation. They had not even received a covering letter offering advice from the council. When they asked what they should do on losing a big chunk of their salaries, the answer was, ‘Go and seek help from Citizens Advice’. That simply is not good enough. What guidance can the Welsh Government give to councils, such as Bridgend, that are struggling through this process, when they should not need to be struggling?

Bethan Jenkins: Mae fy nghwestiwn yn benodol am werthuso swyddi. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yn gwybod erbyn hyn bod angen iddynt gyflawni o ran yr agenda hwn; yn anffodus, ymddengys bod rhai cynghorau, fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi gwneud smonach lwyr o’r sefyllfa. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn dweud eu bod mewn sefyllfa ariannol anodd iawn o ganlyniad i werthuso swyddi. Nid oeddynt hyd yn oed wedi derbyn llythyr o eglurhad gan y cyngor yn cynnig cyngor. Pan wnaethant ofyn beth ddylent ei wneud yn sgil colli rhan sylweddol o’u cyflog, yr ateb oedd, ‘Ewch i chwilio am help gan Gyngor ar Bopeth’. Nid yw hynny’n ddigon da. Pa ganllawiau all Llywodraeth Cymru eu rhoi i gynghorau, fel Pen-y-bont, sy’n cael trafferth ymdopi â’r broses hon, pan na ddylent fod yn cael trafferth?

 

 

2.00 p.m.

 

Jane Hutt: It is important that the Equality Act 2010 regulations provide this new duty in terms of equal play. I will write to the Member on this, but, to put it briefly, under regulation 9, an authority will be required to collect information on the number of men and women employed, broken down by job, grade, pay, contract type and working pattern. There is a separate regulation on gender pay difference, and an action plan must set out that information. The Minister for Local Government and Communities and I are working closely to advise local authorities on how to deliver on this new duty.

Jane Hutt: Mae’n bwysig bod rheoliadau’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu’r ddyletswydd newydd hwn o ran tâl gyfartal. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ar hyn, ond, yn fyr, o dan reoliad 9, bydd angen i awdurdod gasglu gwybodaeth am nifer y dynion a merched a gyflogir, yn ôl eu swydd, gradd, tâl, math o gontract a’u patrwm gweithio. Mae rheoliad ar wahân ar y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau, a rhaid i’r cynllun gweithredu nodi’r wybodaeth honno. Mae’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau a minnau’n gweithio’n agos i gynghori awdurdodau lleol ar sut i gyflawni’r ddyletswydd newydd hon.

 

Portffolio Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Business, Enterprise, Technology and Science Portfolio

 

9. Llyr Huws Gruffydd: Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i ddyrannu cyllid ychwanegol i’r portffolio Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. OAQ(4)0036(FIN)

 

9. Llyr Huws Gruffydd: What consideration has the Minister given to allocating additional funding to the Business, Enterprise, Technology and Science portfolio. OAQ(4)0036(FIN)

Jane Hutt: Wedi’i gynnwys yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 mae dyraniad o dros £271 miliwn ar gyfer y portffolio busnes, menter, technoleg a gwyddoniaeth.

 

Jane Hutt: Included in the Welsh Government’s draft budget for 2012-13 is an allocation of over £271 million for the business, enterprise, technology and science portfolio.

 

Llyr Huws Gruffydd: Diolch am yr ateb hwnnw. Yr  wyf yn siŵr y byddwch yn deall, fel nifer ohonom, bod angen mesurau ar frys mewn ymateb i’r argyfwng economaidd—mae’r sefyllfa yn dirywio o wythnos i wythnos. Dau o gostau mwyaf  busnesau bach yw cost cyflogi staff a chost ardrethi busnes. Er mwyn ceisio osgoi sefyllfa lle bo mwy a mwy o bobl yn cael eu gwneud yn ddi-waith, gofynnaf ichi ystyried dyrannu mwy o arian i’r portffolio hwn. Byddai hynny’n cynyddu’r gwariant ar gynllun rhyddhad ardrethi busnes y Llywodraeth, gan ymestyn y gwyliau neu ehangu’r cynllun i gynnwys mwy o fusnesau.

Llyr Huws Gruffydd: Thank you for that reply. I am sure that you will understand, as many of us do, that urgent measures are needed to respond to the economic crisis—the situation is deteriorating from week to week. Two of the biggest costs facing small businesses are staff costs and business rates. In order to try to avoid a situation whereby more and more people are made redundant, I ask you to consider allocating more money to this portfolio. That would increase expenditure on the Government’s business rate relief scheme, to extend the period covered or to expand the scheme to include more businesses.

 

Jane Hutt: You will know that the UK Government’s current business rate relief scheme is due to finish in September next year, as it will in Wales. It is not clear yet whether the UK Government intends to extend the scheme after that point, but the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science is reviewing the scheme, and we hope that we will get some positive news from the Chancellor about this in the near future.

 

Jane Hutt: Byddwch yn gwybod bod cynllun rhyddhad ardrethi busnes presennol Llywodraeth y DU yn dod i ben ym mis Medi’r flwyddyn nesaf, fel y bydd yng Nghymru. Nid yw’n glir eto a yw Llywodraeth y DU yn bwriadu ymestyn y cynllun ar ôl y pwynt hwnnw, ond y mae’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn adolygu’r cynllun, ac rydym yn gobeithio y byddwn yn cael rhywfaint o newyddion cadarnhaol gan y Canghellor am hyn yn y dyfodol agos.

 

Antoinette Sandbach: Given that you have already ruled out distributing the nearly £38 million that you have received in consequential funding from UK Government through council tax relief, may I, like Llyr Huws Gruffydd, urge you to consider directing that money towards business rate relief, particularly for small and medium-sized businesses? Those businesses provide valuable jobs and employment. I would suggest that this would allow you to achieve your aims in this regard.

 

Antoinette Sandbach: O gofio eich bod eisoes wedi diystyru dosbarthu bron £38 miliwn yr ydych wedi’i dderbyn mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU drwy’r rhyddhad treth gyngor, a gaf fi, fel Llyr Huws Gruffydd, eich annog i ystyried cyfeirio’r arian hwnnw tuag at ryddhad ardrethi busnes, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig? Mae’r busnesau hynny’n darparu swyddi gwerthfawr a chyflogaeth. Awgrymaf y byddai hyn yn caniatáu i chi gyrraedd eich nod yn hyn o beth.

Jane Hutt: Half the businesses in Wales do not pay business rates, which is a key source of support for small businesses in particular. It is also important to inform the Chamber and, indeed, the regional Member for North Wales, that we have stimulated a great deal of demand for investment in Welsh SMEs as a result of our Finance Wales vehicle. The company has invested over £68 million to date in 366 Welsh SMEs through the JEREMIE fund. That is an important indication of how this Government is supporting SMEs in Wales.

Jane Hutt: Y mae hanner y busnesau yng Nghymru yn talu ardrethi busnes, sydd yn ffynhonnell allweddol o gymorth i fusnesau bach yn benodol. Mae’n bwysig hefyd i roi gwybod i’r Siambr ac, yn wir, i’r Aelod rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru, ein bod wedi ysgogi llawer o alw ar gyfer buddsoddi mewn busnesau bach a chanolig Cymru o ganlyniad i Cyllid Cymru. Mae’r cwmni wedi buddsoddi dros £68 miliwn hyd yn hyn yn 366 o fusnesau bach a chanolig Cymru drwy’r gronfa JEREMIE. Mae hynny’n arwydd pwysig o sut y mae’r Llywodraeth hon yn cynorthwyo busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

 

Portffolio Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

Business, Enterprise, Technology and Science Portfolio

 

10. Eluned Parrott: Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch dyraniad cyffredinol y gyllideb i’r portffolio Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. OAQ(4)0043(FIN)

10. Eluned Parrott: What representations has the Minister received regarding the overall budget allocation to the Business, Enterprise, Technology and Science portfolio. OAQ(4)0043(FIN)

 

Jane Hutt: I regularly receive feedback from individuals, partner organisations and other stakeholders about the Government’s programme. The National Assembly’s Finance Committee’s work in advance of the draft budget was an important contribution to this year’s draft budget process.

 

Jane Hutt: Rwy’n cael adborth rheolaidd gan unigolion, sefydliadau partner a rhanddeiliaid eraill am raglen y Llywodraeth. Roedd gwaith Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfraniad pwysig at broses y gyllideb ddrafft eleni.

Eluned Parrott: Given the problems within the University of Wales, which manages the POWIS scheme, perhaps the funding cut announcement that we have heard was predictable. Can you please confirm what will happen to the funds that were previously allocated to that scheme?

 

Eluned Parrott: O ystyried y problemau o fewn Prifysgol Cymru, sy’n rheoli’r cynllun POWIS, efallai yr oedd y cyhoeddiad ar dorri’r cyllid a glywsom yn rhagweladwy. A allwch gadarnhau beth fydd yn digwydd i’r arian a ddyrannwyd yn y gorffennol i’r cynllun hwnnw?

Jane Hutt: That is a question for the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science.

 

Jane Hutt: Mae hwnnw’n gwestiwn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

Byron Davies: I made the point that this is not the time to cut corners in the business, enterprise, technology and science portfolio with the First Minister yesterday. We will set aside the Barnett consequential that should have been passed straight to local authorities to freeze council tax. Is it really your Government’s view that the portfolio should be slimmed down, or was that just down to ineffective lobbying by the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science around the cabinet table?

 

Byron Davies: Gwneuthum y pwynt nad dyma’r amser i dorri corneli yn y portffolio busnes, menter, technoleg a gwyddoniaeth gyda’r Prif Weinidog ddoe. Fe wnawn ni osod o’r neilltu y swm canlyniadol Barnett a ddylai fod wedi cael ei basio i awdurdodau lleol i rewi’r dreth gyngor. Ai barn wirioneddol eich Llywodraeth yw y dylai’r portffolio cael ei leihau, neu a oedd hynny o ganlyniad i lobïo aneffeithiol gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth o amgylch bwrdd y cabinet?

 

Jane Hutt: Fortunately for the people and the businesses of Wales, the Welsh Labour Government is in charge here. We have a budget for growth and jobs. The draft budget builds on last year’s budget and demonstrates our commitment to supporting the economic recovery. That is what businesses say is needed. There was a positive response to the First Minister’s statement last week, and Ministers are engaging in finding the most appropriate way of supporting businesses with that £40 million. At the time of the draft budget, it is always a question of what you are going to cut—you may taunt us about how we allocate funding, but you have to tell us what you would cut. The people of Wales can then judge for themselves.

Jane Hutt: Yn ffodus ar gyfer pobl a busnesau yng Nghymru, Llywodraeth Lafur Cymru sy’n rheoli yma. Mae gennym gyllideb ar gyfer twf a swyddi. Mae’r gyllideb ddrafft yn adeiladu ar gyllideb y llynedd ac yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi adferiad economaidd. Dyna’r hyn y mae busnesau yn ei ddweud sydd ei angen. Cafwyd ymateb cadarnhaol i ddatganiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ac y mae Gweinidogion yn ymgysylltu wrth ganfod y ffordd fwyaf priodol o gefnogi busnesau gyda’r £40 miliwn. Ar adeg y gyllideb ddrafft, mae bob amser yn fater o beth rydych yn mynd i dorri—efallai yr ydych yn ein gwawdio ynghylch sut yr ydym yn dyrannu arian, ond rhaid ichi ddweud wrthym beth y byddech chi’n ei dorri. Wedyn gall pobl Cymru farnu drostynt eu hunain.

 

Alun Ffred Jones: O ran y parthau mentergarwch a gyhoeddwyd, mae symiau canlyniadol o ganlyniad i fformiwla Barnett yn dod i’r Llywodraeth. A ydych wedi cael cadarnhad o faint fydd y swm hwnnw, ac a fydd yn cael ei drosglwyddo i’r adran fusnes i wasanaethu’r parthau hynny?

Alun Ffred Jones: With regard to the enterprise zones that have been announced, there will be consequentials coming to the Government in line with the Barnett formula. Have you had confirmation of how much money there will be, and will it be transferred to the business department for those zones?

 

Jane Hutt: It is important that the Minister for business answers the points about how we are taking the enterprise zones forward, because there is a modest consequential from the UK Government of about £10 million. On where we can do more with our enterprise zones, tailoring them to best meet sectoral and local needs, that is for the Minister to take forward. We need to maximise our ability and levers for manoeuvre with the UK Government on these issues.

Jane Hutt: Mae’n bwysig fod y Gweinidog dros fusnes yn ateb y pwyntiau ynghylch sut ydym yn symud ymlaen gyda’r ardaloedd menter, oherwydd ceir swm canlyniadol bach gan Lywodraeth y DU o tua £10 miliwn. Ar ble y gallwn wneud mwy gydag ein hardaloedd menter gan eu teilwra i ddiwallu anghenion lleol a sectoraidd yn y ffordd orau, mae hwnnw i’r Gweinidog i’w ddatblygu. Mae angen inni fanteisio i’r eithaf ar ein gallu ac ar ysgogiadau i symud gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn.

 

Hybu Cydraddoldeb

Promote Equality

 

11. Christine Chapman: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu cydraddoldeb yng Nghymru. OAQ(4)0038(FIN)

11. Christine Chapman: Will the Minister make a statement on what the Welsh Government is doing to promote equality within Wales. OAQ(4)0038(FIN)

 

 

Jane Hutt: Welsh-specific equality duties are designed to embed equality at the heart of policy and delivery across the Welsh Government so that we can make a positive difference to people’s lives.

 

Jane Hutt: Mae dyletswyddau cydraddoldeb sy’n benodol i Gymru wedi’u cynllunio i ymgorffori cydraddoldeb wrth wraidd polisi a chyflawni ar draws Llywodraeth Cymru fel y gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

 

Christine Chapman: Minister, you will know that many disabled people face particular challenges and inequalities in the workplace and that now is a particularly difficult time, given the recession. I welcome the measures that are outlined in the programme for government to tackle these issues. The UK Government is seemingly intent on closing the remaining Remploy factories in Wales, including the one in Cwmbach in my constituency, forcing many disabled people to look for work, regardless of their capacity to do so. What more can we do to ensure that disabled people get the support that they need to overcome any workplace inequalities?

 

Christine Chapman: Weinidog, byddwch yn gwybod bod llawer o bobl anabl yn wynebu heriau penodol ac anghydraddoldebau yn y gweithle a’i fod yn adeg arbennig o anodd yn awr, o ystyried y dirwasgiad. Croesawaf y mesurau a amlinellir yn y rhaglen lywodraethu i fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae Llywodraeth y DU fel petai’n benderfynol o gau ffatrïoedd Remploy sy’n weddill yng Nghymru, gan gynnwys yr un yng Nghwmbach yn fy etholaeth, gan orfodi llawer o bobl anabl i chwilio am waith, waeth beth yw eu gallu i wneud hynny. Beth mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod pobl anabl yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen i oresgyn unrhyw anghydraddoldebau gweithle?

 

Jane Hutt: The Member for Cynon Valley shares with other Members across the Chamber concerns about the future of Remploy factories. We have serious concerns about the suggestion that they should become commercially viable enterprises or be closed. We have reiterated our opposition to closures, and the Minister for Education and Skills has responded to the UK Government’s consultation. We hope that the key issues will be taken on board. At the Disability Wales conference this morning, I spoke to disabled people who are extremely worried about the lack of opportunities for them in the workplace because of growing unemployment and the changes to the disability living allowance, which will have a negative impact on their circumstances and employability.

 

Jane Hutt: Y mae’r Aelod dros Gwm Cynon yn rhannu gydag Aelodau eraill ar draws y Siambr bryderon ynglŷn â dyfodol ffatrïoedd Remploy. Mae gennym bryderon difrifol ynghylch yr awgrym y dylent ddod yn fentrau masnachol hyfyw neu eu cau. Yr ydym wedi ailadrodd ein gwrthwynebiad i gau ffatrïoedd, ac y mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU. Rydym yn gobeithio y bydd y materion allweddol yn cael eu hystyried. Yng nghynhadledd Anabledd Cymru y bore yma, siaradais â phobl anabl sy’n bryderus iawn am y diffyg cyfleoedd iddynt yn y gweithle oherwydd diweithdra cynyddol a’r newidiadau i lwfans byw i’r anabl, a fydd yn cael effaith negyddol ar eu hamgylchiadau a’u cyflogadwyedd.

Mohammad Asghar: Minister, the programme for government says that gender employment rates will be an indicator to judge whether Welsh Government actions are on track. Sadly, no reference is made to reducing the entrepreneurial gender gap. Figures from 2010 show that early-stage entrepreneurial activity is only 45 per cent as likely in women as in men. That is significantly worse than in 2009, when the figure stood at almost 58 per cent. That means that we are going backwards in Wales. Is the Welsh Government committed to reducing the entrepreneurial gender gap? If so, what actions are being taken to tackle the issue, and what targets are you aiming for?

 

Mohammad Asghar: Weinidog, mae’r rhaglen lywodraethu yn dweud y bydd cyfraddau cyflogaeth rhwng y rhywiau yn ddangosydd i farnu a yw camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn. Yn anffodus, ni chyfeirir at leihau’r bwlch rhwng y rhywiau o ran entrepreneuriaeth. Mae ffigurau o 2010 yn dangos bod gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yn dim ond 45 y cant mor debygol mewn menywod o’i gymharu â dynion. Mae hynny’n waeth o lawer nag yn 2009, pan oedd y ffigur yn sefyll ar bron i 58 y cant. Mae hynny’n golygu ein bod yn mynd tuag yn ôl yng Nghymru. A yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r bwlch rhwng y rhywiau o ran entrepreneuriaeth? Os felly, pa gamau a gymerir i fynd i’r afael â’r mater a pha dargedau yr ydych yn anelu atynt?

 

Jane Hutt: I am glad that the Welsh Government has, for many years, supported the Chwarae Teg fair play initiative, which was set up to close the gap and to promote entrepreneurship among women. It has been very successful and has levered in major European funds that have supported women in business. Entrepreneurial gaps are being challenged. We are going backwards because of your Government’s lack of an economic policy and plan for growth and jobs. A plan for growth and jobs will help women. Last week’s employment figures demonstrated that it is women and young people who are suffering the most as a result of your Government’s employment policies.

 

Jane Hutt: Yr wyf yn falch bod Llywodraeth Cymru, ers blynyddoedd lawer, yn cefnogi menter Chwarae Teg, a sefydlwyd i gau’r bwlch ac i hyrwyddo entrepreneuriaeth ymhlith menywod. Bu’n llwyddiannus iawn ac mae wedi denu arian Ewropeaidd mawr sydd wedi cefnogi menywod mewn busnes. Mae bylchau entrepreneuraidd yn cael eu herio. Yr ydym yn mynd tuag yn ôl oherwydd diffyg polisi economaidd a chynllun ar gyfer twf a swyddi eich Llywodraeth chi. Bydd cynllun ar gyfer twf a swyddi yn helpu menywod. Dangosodd ffigurau cyflogaeth yr wythnos diwethaf mai menywod a phobl ifanc sydd yn dioddef fwyaf o ganlyniad i bolisïau cyflogaeth eich Llywodraeth.  

 

Rebecca Evans: It is almost a decade since the Welsh Government adopted the social model of disability, which acknowledged that people are more disabled by inappropriate services and support and people’s attitudes than they are by their impairments. How is the Welsh Government ensuring that the social model of disability is informing policy development and delivery across all portfolios?

 

Rebecca Evans: Mae bron i ddegawd ers i Lywodraeth Cymru fabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod pobl yn cael eu gwneud yn fwy anabl gan wasanaethau a chymorth amhriodol a chan agweddau pobl nag y maent drwy eu namau. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y model cymdeithasol o anabledd yn llywio’r gwaith o ddatblygu polisi a chyflawni ar draws pob portffolio?

Jane Hutt: I thank Rebecca Evans for that question. The whole Chamber will support the direction that we have taken with the social model of disability. It will be clearly recognisable in how we develop our specific equality duties. I made an announcement recently to the Petitions Committee on developing a framework for action on independent living, and the response from disabled people’s organisations is that that is precisely how we can deliver on the social model.

Jane Hutt: Diolch i Rebecca Evans am y cwestiwn hwnnw. Bydd y Siambr gyfan yn cefnogi’r cyfeiriad yr ydym wedi’u cymryd gyda’r model cymdeithasol o anabledd. Bydd yn adnabyddadwy yn y ffordd yr ydym yn datblygu ein dyletswyddau cydraddoldeb penodol. Gwneuthum gyhoeddiad yn ddiweddar i’r Pwyllgor Deisebau ar ddatblygu fframwaith gweithredu ar gyfer byw’n annibynnol, a’r ymateb gan sefydliadau pobl anabl oedd mai dyna’n union sut y gallwn ddarparu ar y model cymdeithasol.

 

Gwasanaethau Plant

Children’s Services

 

12. Lynne Neagle: Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau plant i bortffolios y Gweinidogion perthnasol. OAQ(4)0047(FIN)

12. Lynne Neagle: What representations has the Minister received regarding providing additional funding for children’s services to the relevant Ministerial portfolios. OAQ(4)0047(FIN)

 

Jane Hutt: In preparing the budget, I considered a range of representations. The draft budget sets out our plans to give children the best possible start. We announced an additional £55 million for Flying Start and we are investing a further £192 million in schools over the next three years.

 

Jane Hutt: Wrth baratoi’r gyllideb, ystyriais amrywiaeth o sylwadau. Mae’r gyllideb ddrafft yn nodi ein cynlluniau i roi’r cychwyn gorau posibl i blant. Cyhoeddwyd £55 miliwn ychwanegol ar gyfer Dechrau’n Deg, ac rydym yn buddsoddi £192 miliwn mewn ysgolion dros y tair blynedd nesaf.

Lynne Neagle: I was concerned to read in the Children’s Commissioner for Wales’s recent report that he feels that momentum is being lost on the issue of funding for children’s services in Wales. He echoed that view when giving evidence to the Children and Young People Committee recently. It has been some two years since the committee published a series of recommendations in that area. As you know, the Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure 2011 means that Welsh Government Ministers will have to demonstrate that they have paid due regard to the UN convention on human rights when setting their budgets. What assurances can you offer today that funding for children’s services remains a high priority for the Welsh Government?

 

Lynne Neagle: Yr oeddwn yn bryderus wrth ddarllen yn adroddiad diweddar Comisiynydd Plant Cymru ei fod yn teimlo bod momentwm yn cael ei golli o ran cyllid ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Adleisiodd y farn honno wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn ddiweddar. Mae dwy flynedd ers i’r pwyllgor gyhoeddi cyfres o argymhellion yn y maes hwnnw. Fel y gwyddoch, mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn golygu y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gorfod dangos eu bod wedi talu sylw dyledus i gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol wrth bennu eu cyllidebau. Pa sicrwydd y gallwch ei gynnig heddiw bod cyllid ar gyfer gwasanaethau plant yn parhau’n flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru?

 

Jane Hutt: It remains a high priority for the Welsh Government, and, as the Minister for Finance, I intend to take this forward with vigour.

 

Jane Hutt: Mae’n dal yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru, ac, fel y Gweinidog dros Gyllid, bwriadaf gymryd hyn ymlaen yn egnïol.

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): I am pleased to hear that that remains a high priority. I had the pleasure of visiting St. David’s Hospice in Llandudno last week and saw the excellent work that it does with bereavement services. Many hospices seek to deliver this service, but, through lack of funding, some struggle to deliver a comprehensive bereavement service. Are you in a position to commit to discuss this service with Ministers across Government to see whether the Government could help to fund an extension of that service, so that children who suffer a bereavement can receive support and reach their full potential, whether in the field of education or in any other aspect of their lives?

 

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Yr wyf yn falch o glywed bod hynny’n parhau’n flaenoriaeth uchel. Yr oeddwn wedi cael y pleser o ymweld â Hosbis Dewi Sant yn Llandudno yr wythnos diwethaf a gwelais y gwaith rhagorol y mae’n ei wneud gyda gwasanaethau profedigaeth. Mae llawer o hosbisau yn ceisio darparu’r gwasanaeth hwn, ond, oherwydd diffyg arian, mae rhai yn cael trafferth darparu gwasanaeth profedigaeth cynhwysfawr. A ydych mewn sefyllfa i ymrwymo i drafod y gwasanaeth hwn gyda Gweinidogion ar draws y Llywodraeth i weld a allai’r Llywodraeth helpu i ariannu estyniad o’r gwasanaeth hwnnw, fel y gall plant sy’n dioddef profedigaeth gael cymorth a chyrraedd eu potensial llawn, boed ym maes addysg neu mewn unrhyw agwedd ar eu bywydau?

 

Jane Hutt: The leader of the opposition will be aware of our commitment to hospice services across Wales for children and adults. It has resulted in a direct funding stream. The local government revenue settlement, announced yesterday, means that we are extending the same degree of protection to social services in 2012-13 and 2013-14, and that is important for supporting organisations such as hospices, Cruse Bereavement Care and other bereavement charities.

Jane Hutt: Bydd arweinydd yr wrthblaid yn ymwybodol o’n hymrwymiad i wasanaethau hosbis ledled Cymru ar gyfer plant ac oedolion. Mae wedi arwain at ffrwd ariannu uniongyrchol. Mae’r setliad refeniw llywodraeth leol, a gyhoeddwyd ddoe, yn golygu ein bod yn ymestyn yr un graddau o amddiffyn i’r gwasanaethau cymdeithasol yn 2012-13 a 2013-14, ac mae hynny’n bwysig ar gyfer cefnogi sefydliadau megis hosbisau, Cruse Bereavement Care ac elusennau eraill profedigaeth.

 

Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru

Welsh Government Sponsored Bodies

 

13. William Graham: A wnaiff y Gweinidog amlinellu trafodaethau a gynhaliwyd gyda chyd-Weinidogion ynghylch adolygu Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. OAQ(4)0045(FIN)

13. William Graham: Will the Minister outline discussions held with Ministerial colleagues concerning a review of Welsh Government Sponsored Bodies. OAQ(4)0045(FIN)

 

Jane Hutt: I had a series of discussions with Ministers while preparing the draft budget. They covered a range of issues, including those relating to Welsh Government sponsored bodies.

 

Jane Hutt: Cefais gyfres o drafodaethau gyda Gweinidogion wrth baratoi’r gyllideb ddrafft. Roeddent yn cwmpasu amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

 

William Graham: Thank you for that answer. I am sure that you have paramount responsibility to ensure that those bodies are accountable. Do you think that the national parks should have their members elected?

 

William Graham: Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Yr wyf yn siŵr bod gennych gyfrifoldeb hollbwysig i sicrhau bod y cyrff hynny’n atebol. Ydych chi’n credu y dylai aelodau parciau cenedlaethol gael eu hethol?

 

Jane Hutt: That is something that the Minister for Environment and Sustainable Development will be able to respond to.

Jane Hutt: Mae hynny’n rhywbeth y bydd y Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn gallu ymateb iddo.

 

Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Environment and Sustainable Development

 

14. Yr Arglwydd Elis-Thomas: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ynghylch dyraniadau cyllideb ar gyfer ei bortffolio. OAQ(4)0037(FIN)

14. Lord Elis-Thomas: What discussions has the Minister had with the Minister for the Environment and Sustainable Development on budget allocations for his portfolio. OAQ(4)0037(FIN)

 

Jane Hutt: Byddaf yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.

 

Jane Hutt: I have regular discussions with the Minister for the Environment and Sustainable Development.

 

2.15 p.m.

 

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Yn sicr, mae’r Gweindog yn cynnal trafodaethau, ac mae wedi addo cynnal trafodaeth yn dilyn cwestiwn blaenorol a ofynnais. A yw hi hefyd wedi sicrhau, yn ei thrafodaethau gyda’r Gweinidog, bod ei ymrwymiad yntau i ddatblygiad cynaliadwy, sy’n rhan o’i bortffolio, yn cael ei ymestyn yn ddigonol ar draws holl weithgareddau’r Llywodraeth? Mae’n dod i fy sylw yn gyson nad yw’r ymrwymiad i gynaliadwyedd, sy’n amlwg ym mhortffolio’r Gweinidog, o bosibl mor ganolog ar draws pob portffolio.

 

Lord Elis-Thomas: The Minister certainly does have discussions, and she has promised to have a discussion following a previous question that I asked. Has she also ensured, in her discussions with the Minister, that his commitment to sustainability, which is part of his portfolio, is extended sufficiently across all of the Government’s activities? It comes to my attention regularly that the commitment to sustainability, which is a prominent part of the Minister’s portfolio, is not necessarily as central to every portfolio.

Jane Hutt: Byddaf yn cynnal mwy o drafodaethau gyda’r Gweinidog.

Jane Hutt: I will be holding further discussions with the Minister.

 

Sustainability must form a large part of those discussions.

 

Mae’n rhaid i gynaliadwyedd fod yn rhan fawr o’r trafodaethau hynny.

 

Russell George: The third Assembly’s Sustainability Committee made a recommendation in its inquiry into biodiversity in Wales calling for a dedicated budget line for biodiversity. There has been a historical lack of funding for biodiversity, which is recognised by our party and we therefore pledged to establish a dedicated budget for it within our manifesto. Has the Minister discussed this with the Minister concerned, and what was the rationale behind not creating a specific budget line for biodiversity in this budget?

 

Russell George: Gwnaeth Pwyllgor Cynaliadwyedd y trydydd Cynulliad argymhelliad yn ei ymchwiliad i fioamrywiaeth yng Nghymru yn galw am linell gyllideb benodol ar gyfer bioamrywiaeth. Mae diffyg cyllid hanesyddol wedi bod o ran bioamrywiaeth, sy’n cael ei gydnabod gan ein plaid, ac felly rydym yn addo sefydlu cyllideb benodedig ar ei gyfer yn ein maniffesto. A yw’r Gweinidog wedi trafod hyn gyda’r Gweinidog dan sylw, a beth oedd y rhesymeg y tu ôl i beidio â chreu llinell gyllideb benodol ar gyfer bioamrywiaeth yn y gyllideb hon?

 

Jane Hutt: Our commitment to biodiversity is clear in our plan and it is therefore also reflected in the funding support.

 

Jane Hutt: Mae ein hymrwymiad i fioamrywiaeth yn glir yn ein cynllun, ac felly mae’n cael ei adlewyrchu hefyd yn y cymorth ariannol.

 

Budd-dal y Dreth Gyngor

Council Tax Benefit

 

15. Mark Drakeford: Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r canlyniadau i gyllideb Llywodraeth Cymru yn sgil datganoli’r cyfrifoldeb dros Fudd-dal y Dreth Gyngor i Gymru. OAQ(4)0035(FIN)

 

15. Mark Drakeford: What assessment has the Minister made of the consequences for the overall Welsh Government budget of devolving responsibility for Council Tax Benefit to Wales. OAQ(4)0035(FIN)

Jane Hutt: The Welsh Government is aware of the serious consequences that the changes in the administration of council tax benefit, alongside the 10 per cent cut in funding, could have for the people of Wales. A range of options are being considered.

 

Jane Hutt: Mae Llywodraeth Cymru yn  ymwybodol o’r canlyniadau difrifol i bobl Cymru y gallai ddod gyda’r newidiadau o ran gweinyddu budd-dal y dreth gyngor, ochr yn ochr â’r toriad o 10 y cant i’r cyllid. Mae amryw opsiynau yn cael eu hystyried.

 

Mark Drakeford: Successive Welsh Governments have a strong record of promoting council tax benefit take-up in Wales, which is the least taken up of all the major benefits of the welfare state. Now that this national pillar of the welfare state is about to be kicked away by the coalition Government in Westminster, will you assure us that the efforts that the Welsh Government makes to promote take-up and secure the future of the benefit in Wales will continue just as strongly over the next 12 months?

 

Mark Drakeford:  Mae gan Lywodraethau Cymru olynol record gref o hyrwyddo defnydd o fudd-dal y dreth gyngor yng Nghymru, y budd-dal y defnyddir lleiaf o brif fudd-daliadau’r wladwriaeth les. Gan fod y piler cenedlaethol hwn o’r wladwriaeth les ar fin cael ei gicio i ffwrdd gan y Llywodraeth glymblaid yn San Steffan, a wnewch chi ein sicrhau y bydd yr ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i hyrwyddo defnydd a sicrhau dyfodol y budd-daliad yng Nghymru yn parhau yn union mor gryf dros y 12 mis nesaf?

 

Jane Hutt: I thank the Member for Cardiff West for that question. As I said, we are considering options as a result of what will be the ending of the council tax benefit as we know it, alongside the 10 per cent cut with regard to the transfer of resources. We know that some of the most vulnerable citizens of Wales will be affected by these changes, and therefore, as the Minister for Local Government and Communities said recently with local government leaders, we urge a take-up campaign to take us through to that point when we lose that benefit.

 

Jane Hutt: Diolch i’r Aelod dros Orllewin Caerdydd am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedais, yr ydym yn ystyried opsiynau o ganlyniad i’r hyn a fydd yn rhoi diwedd ar fudd-dal y dreth gyngor fel yr oedd, ochr yn ochr â’r toriad o 10 y cant mewn perthynas â throsglwyddo adnoddau. Yr ydym yn gwybod y bydd rhai o ddinasyddion Cymru sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn, ac felly, fel y dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ddiweddar gydag arweinwyr llywodraeth leol, yr ydym yn annog ymgyrch defnyddio hyd nes ein bod yn colli’r budd-dal.

 

Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Questions to the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science

 

Ardaloedd Menter

Enterprise Zones

 

1. Llyr Huws Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr Ardaloedd Menter. OAQ(4)0055(BET)

 

1. Llyr Huws Gruffydd: Will the Minister make a statement on Enterprise Zones. OAQ(4)0055(BET)

The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science (Edwina Hart): I am introducing enterprise zones in Wales and have identified five preferred locations for detailed development.

 

Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (Edwina Hart): Yr wyf yn cyflwyno ardaloedd menter yng Nghymru ac wedi nodi pum lleoliad a ffafrir ar gyfer datblygu manwl.

 

Llyr Huws Gruffydd: Yr ydym eisoes wedi gweld rhywfaint o’ch cynlluniau ar gyfer y parthau menter, ac edrychwn ymlaen at weld y manylion yn llawn. Fe fyddwch yn ymwybodol bod y sefyllfa economaidd yn gwaethygu a bod gofid difrifol ynglŷn â’r cynnydd diweddar a welwyd mewn diweithdra a’r cynnydd arfaethedig a wynebwn dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Pa gynlluniau ychwanegol y byddwch yn eu cyflwyno mewn ymateb i’r sefyllfa gynyddol argyfyngus y mae economi Cymru yn ei hwynebu?

 

Llyr Huws Gruffydd: We have already seen some of your plans for the enterprise zones, and we look forward to seeing the details in full. You will be aware that the economic situation is deteriorating and that there is real concern about the recent increases seen in unemployment and the anticipated increase that we anticipate over the coming months and years. What additional plans will you introduce in response to the increasingly critical state of the Welsh economy?

Edwina Hart: Thank you for that question. You, like me, recognise that the enterprise zones will not help to the extent that some people imagine that they will in terms of dealing with some of the issues regarding the Welsh economy. The department is therefore reviewing all of our assistance to business and how we can be more pro-active with business, and I am discussing with my colleagues what help and assistance they can give from their portfolios to assist business in these difficult times.

 

Edwina Hart: Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yr ydych, fel fi, yn cydnabod na fydd y parthau menter yn helpu i’r graddau y mae rhai pobl yn dychmygu y byddant o ran ymdrin â rhai o’r materion ynghylch economi Cymru. Felly, mae’r adran yn adolygu pob rhan o’n cymorth i fusnes a sut y gallwn fod yn fwy rhagweithiol gyda busnes, ac yr wyf yn trafod gyda fy nghydweithwyr pa help a chymorth y gallant roi o’u portffolios i gynorthwyo busnesau yn y cyfnod anodd hwn.

 

Kenneth Skates: I once again welcome the announcement about enterprise zones. With regard to social enterprises in particular, everyone knows the enormous positive impact that they make in communities across Wales, but many ambitious social entrepreneurs struggle to raise the funds needed to start or develop the next phase of their business. Will you commit to ensuring that the needs of social enterprises will be given full consideration during the development stage of enterprise zone policy and examine whether the Welsh Government could consider specific incentives for companies that operate along social enterprise lines?

 

Kenneth Skates: Unwaith eto, rwy’n croesawu’r cyhoeddiad am ardaloedd menter.  O ran mentrau cymdeithasol yn arbennig, mae pawb yn gwybod yr effaith gadarnhaol enfawr y maent yn ei gwneud mewn cymunedau ledled Cymru, ond mae llawer o entrepreneuriaid cymdeithasol uchelgeisiol yn cael trafferth i godi’r arian sydd ei angen i gychwyn neu ddatblygu cam nesaf eu busnes. A wnewch ymrwymo i sicrhau y bydd anghenion mentrau cymdeithasol yn cael eu hystyried yn llawn yn ystod y cyfnod datblygu polisi ardaloedd fenter, ac a wnewch archwilio a allai Llywodraeth Cymru ystyried cymhellion penodol ar gyfer cwmnïau sy’n gweithredu ar hyd llinellau menter gymdeithasol?

 

Edwina Hart: Social enterprises are businesses, therefore I will respond positively to your question.

 

Edwina Hart: Busnesau yw mentrau cymdeithasol, felly byddaf yn ymateb yn gadarnhaol i’ch cwestiwn.

William Graham: Yesterday, the First Minister made it clear that the door is not completely closed on new enterprise zones. Would you look again at the case for Newport? You will know that a cross-party petition has been handed to the Petitions Committee on the subject. The council is doing its best, but would like an impetus from you. Could you indicate that you may look at this favourably?

 

William Graham: Ddoe, gwnaeth y Prif Weinidog yn glir nad yw’r drws yn hollol ynghau o ran ardaloedd menter newydd. A fyddech yn edrych eto ar yr achos dros Gasnewydd? Byddwch yn gwybod bod deiseb drawsbleidiol wedi cael ei anfon at y Pwyllgor Deisebau ar y pwnc. Mae’r cyngor yn gwneud ei orau, ond byddai’n hoffi ysgogiad oddi wrthoch. A oes modd ichi ddweud y gwnewch efallai edrych yn ffafriol ar hwn?

 

Edwina Hart: I have already received representations on this from the Member concerned in the Chamber, and, dare I say it, from the Presiding Officer and my ministerial colleague, John Griffiths, about the issues around Newport and enterprise zones. My officials will be looking at the issues surrounding this.

 

Edwina Hart: Yr wyf eisoes wedi derbyn sylwadau ar hyn gan yr Aelod dan sylw yn y Siambr, ac, os caf ddweud, gan y Llywydd a  fy nghyd-Weinidog, John Griffiths, am y materion ynghylch Casnewydd a pharthau menter. Bydd fy swyddogion yn edrych ar y materion perthnasol.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: A oes gan y Gweinidog ychwanegiad diweddar i’w wneud i’w datganiad ynglŷn â’r posibilrwydd o ddatblygu rhagor o barthau menter gyda golwg arbennig ar sefyllfa safle datgomisiynedig Trawsfynydd a’r posibilrwydd o sicrhau canolfan addas ar gyfer ynni ac ynni cynaliadwy ar y safle honno?

 

Lord Elis-Thomas: Does the Minister have an update to her statement about the possibility of developing further enterprise zones with a particular view to the situation of the decommissioned site in Trawsfynydd and the possibility of ensuring an appropriate centre for energy and sustainable energy on that site?

Edwina Hart: It is my intention, hopefully before Christmas, to make further announcements on the possibility of enterprise zones. I am mindful that enterprise is sometimes focused on quite industrial areas, and it is important that we look at rural Wales and locations such as Trawsfynydd in terms of enterprise zones. I am having discussions on this issue with Gwynedd Council.

 

Edwina Hart: Fy mwriad i—cyn y Nadolig, rwy’n gobeithio—yw gwneud cyhoeddiadau pellach ar y posibilrwydd o ardaloedd menter. Yr wyf yn ymwybodol bod menter yn canolbwyntio, weithiau, ar ardaloedd eithaf diwydiannol, ac mae’n bwysig ein bod yn edrych ar y Gymru wledig a lleoliadau megis Trawsfynydd o ran ardaloedd menter.  Yr wyf yn cynnal trafodaethau ar y mater hwn gyda Chyngor Gwynedd.

 

Eluned Parrott: Can you give us an idea as to what measures you have put in place to protect Newport from the adjacent enterprise zone in Bristol?

 

Eluned Parrott: A allwch roi syniad inni ynghylch pa fesurau yr ydych wedi eu rhoi ar waith i ddiogelu Casnewydd rhag yr ardal fenter gerllaw ym Mryste?

 

Edwina Hart: I do not think that it is my job to protect cities from anything. We have to acknowledge that business and commerce exist, and will go where they need to go. We can only enhance opportunities for developments to come into Wales, and we have a comprehensive package to attract businesses in, with excellent training packages that are always commented upon favourably by employers that come here. Obviously, I have given an indication to William Graham that I am considering Newport, and my officials are having ongoing discussions.

 

Edwina Hart: Nid wyf yn credu mai fy swydd i yw amddiffyn dinasoedd rhag unrhyw beth. Mae’n rhaid i ni gydnabod bod busnes a masnach yn bodoli, a bydd yn mynd lle mae angen iddynt fynd. Ni allwn ond yn gwella cyfleoedd ar gyfer datblygiadau i ddod i mewn i Gymru, ac mae gennym becyn cynhwysfawr i ddenu busnesau i mewn, gyda phecynnau hyfforddi rhagorol sydd bob amser yn derbyn sylwadau ffafriol gan gyflogwyr sy’n dod yma. Yn amlwg, yr wyf wedi rhoi arwydd i William Graham fy mod yn ystyried Casnewydd, ac mae fy swyddogion yn cael trafodaethau parhaus.

 

Eluned Parrott: I am delighted to hear that. The leader of Newport City Council is on record as saying that he fears that:

 

Eluned Parrott: Yr wyf yn falch iawn o glywed hynny. Mae arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd wedi dweud ei fod yn ofni:

 

‘The city will now be ‘squeezed’ by Bristol and Hereford on one side and Cardiff and Ebbw Vale on the other…in facing the on-going economic challenges.’

 

y bydd y ddinas yn awr yn cael ei gwasgu rhwng Bryste a Henffordd ar un ochr a Chaerdydd a Glynebwy ar yr arall wrth wynebu’r heriau economaidd parhaus.

 

The city of Newport would like to hear you talk about ways in which you might feel able to protect it with the measures that you wish to introduce. Can you give us an overview of a schedule? Obviously, Newport wants an enterprise zone and you have talked about—

 

Byddai dinas Casnewydd yn hoffi eich clywed yn sôn am sut y byddwch yn gallu ei hamddiffyn gyda’r mesurau yr ydych yn dymuno eu cyflwyno. A allwch roi trosolwg o’r amserlen inni? Yn amlwg, mae Casnewydd eisiau ardal fenter ac yr ydych wedi sôn am—

 

The Deputy Presiding Officer: Could you come to the question, please?

 

Y Dirprwy Lywydd: A allwch ddod at y cwestiwn, os gwelwch yn dda?

 

Eluned Parrott: Can you give us an idea of what schedule you are working to with regard to reviewing the success of implementing the first tranche of enterprise zones?

 

Eluned Parrott: A allwch roi syniad inni o’r amserlen yr ydych yn gweithio iddi ynglŷn ag adolygu llwyddiant gweithredu’r gyfran gyntaf o ardaloedd menter?

 

Edwina Hart: I have already indicated that I will probably be making a statement before the end of the year regarding any possible new enterprise zones. It will be my intention to flesh out the detail before the end of this term in order to make a statement to Members about how the five enterprise zones will work.

 

Edwina Hart: Yr wyf eisoes wedi nodi y byddaf yn ôl pob tebyg yn gwneud datganiad cyn diwedd y flwyddyn ynglŷn ag unrhyw ardaloedd menter newydd posibl. Fy mwriad fydd i roi mwy o fanylion cyn diwedd y tymor hwn er mwyn gwneud datganiad i Aelodau ynghylch sut y bydd y pum ardal fenter yn gweithio.

 

Entrepreneuriaeth

Entrepreneurship

 

2. Rebecca Evans: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu entrepreneuriaeth yng Nghymru. OAQ(4)0053(BET)

2. Rebecca Evans: What is the Welsh Government doing to promote entrepreneurship in Wales. OAQ(4)0053(BET)

 

Edwina Hart: I am developing plans on how we can promote and embed an entrepreneurial culture in Wales.

 

Edwina Hart: Yr wyf yn datblygu cynlluniau ar sut y gallwn hyrwyddo ac ymgorffori diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru.

 

Rebecca Evans: Entrepreneurs are the drivers of the economy, creating jobs and prosperity for the country. What is the Welsh Government doing to ensure that children and young people are inspired from a young age to become entrepreneurs and develop the confidence and the can-do attitude to succeed?

 

Rebecca Evans: Entrepreneuriaid sy’n gyrru’r economi, gan greu swyddi a ffyniant i’r wlad. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hysbrydoli o oedran ifanc i fod yn entrepreneuriaid a datblygu’r hyder ac agwedd ‘gallu gwneud’ er mwyn iddynt lwyddo?

 

Edwina Hart: The Wales entrepreneurial strategy action plan includes specific actions that are designed to provide young people with entrepreneurial learning opportunities. One of the key points in the youth entrepreneurship strategy is to encourage business to engage with young people and academia. This action is supported by a network of 350 dynamo role model entrepreneurs, who regularly provide motivational and inspirational presentations to young people across Wales. Under the youth entrepreneurship strategy events we engage with over 45,000 young people per annum to inspire the next generation.

 

Edwina Hart: Mae cynllun gweithredu strategaeth entrepreneuriaeth Cymru yn cynnwys camau penodol sydd wedi’u cynllunio i ddarparu cyfleoedd dysgu entrepreneuraidd i bobl ifanc. Un o’r pwyntiau allweddol yn y strategaeth entrepreneuriaeth i bobl ifanc yw annog busnesau i ymgysylltu â phobl ifanc a’r byd academaidd. Mae’r camau hyn yn cael eu cefnogi gan rwydwaith o 350 entrepreneuriaid model rôl ‘dynamo’, sy’n darparu cyflwyniadau ysgogol ac ysbrydoledig yn rheolaidd i bobl ifanc ledled Cymru. Yn nigwyddiadau strategaeth entrepreneuriaeth i bobl ifanc, yr ydym yn ymgysylltu â dros 45,000 o bobl ifanc y flwyddyn i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

 

Nick Ramsay: Following the successful meeting that we had with the group of entrepreneurs that I brought to the Assembly last month, I wonder whether you could update us on progress that you have made in addressing some of the concerns raised. I know that you shared the concerns of the entrepreneurs, as did I, regarding Finance Wales. Could you update us on what progress has been made in dealing with them?

 

Nick Ramsay: Yn dilyn y cyfarfod llwyddiannus a gawsom gyda’r grŵp o entrepreneuriaid y daethpwyd gennyf i’r Cynulliad fis diwethaf, tybed a allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd yr ydych wedi’i wneud wrth fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a godwyd. Gwn eich bod yn rhannu pryderon yr entrepreneuriaid, fel yr wyf i, ynglŷn â Chyllid Cymru. A allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd a wnaethpwyd wrth ddelio â nhw?

 

Edwina Hart: Thank you very much for organising that meeting, which I found very useful. I was particularly grateful to hear about the first-hand experiences of the entrepreneurs. In addition, I held a meeting recently with Lynne Neagle, the Member for Torfaen, who also brought concerns regarding Finance Wales to my attention. On the basis of those concerns, and others that have been made, I am now discussing with officials how I intend to take those complaints and issues forward.

 

Edwina Hart: Diolch yn fawr am drefnu’r cyfarfod hwnnw, oedd yn ddefnyddiol iawn imi. Yr oeddwn yn arbennig o ddiolchgar i glywed am brofiadau uniongyrchol yr entrepreneuriaid. Yn ogystal, bu imi gynnal cyfarfod yn ddiweddar gyda Lynne Neagle, yr Aelod dros Dor-faen, a mynegodd ei phryderon ynghylch Cyllid Cymru hefyd. Ar sail y pryderon hynny, ac eraill sydd wedi cael eu mynegi, yr wyf yn awr yn trafod gyda swyddogion sut yr wyf yn bwriadu cymryd y cwynion a materion hynny ymlaen.

 

Nick Ramsay: I am sure that the Minister agrees that the group is a good forum in which to raise all sorts of issues, not least the number of women and young people becoming entrepreneurs. With specific reference to Finance Wales, I am sure that you would agree that some of the feedback we had regarding the professionalism of the organisation, in some situations, was shocking. Some had a good experience, but there were many who did not. Will you undertake to do what you can to make sure that Finance Wales steps up to the mark? It is charged with an important role, particularly at this time of economic difficulty. I was particularly concerned to hear about its lack of engagement with a large and important section of the economic community.

 

Nick Ramsay: Yr wyf yn siŵr bod y Gweinidog yn cytuno bod y grŵp yn fforwm da i godi pob math o faterion, yn enwedig nifer y menywod a phobl ifanc sy’n dod yn entrepreneuriaid. Gan gyfeirio’n benodol at Gyllid Cymru, yr wyf yn siŵr y byddech yn cytuno bod rhan o’r adborth a gawsom ynghylch proffesiynoldeb y sefydliad, mewn rhai sefyllfaoedd, yn syfrdanol. Cafodd rhai profiad da, ond roedd llawer na chafodd.  A wnewch chi ymrwymo i wneud yr hyn y gallwch i wneud yn siŵr bod Cyllid Cymru yn cymryd cyfrifoldeb? Mae dyletswydd arno i chwarae rôl bwysig, yn enwedig ar yr adeg hon o anhawster economaidd. Roeddwn yn arbennig o bryderus i glywed am ei ddiffyg ymgysylltiad â rhan fawr a phwysig o’r gymuned economaidd.

 

Edwina Hart: I, like you, have had examples of good and bad experiences with Finance Wales. I intend to take a measured approach, therefore, but I do intend to have the relevant discussions with the organisation about the specific concerns raised with me. It is important, when Government money is being used, that it is used to the best advantage to support businesses. 

 

Edwina Hart: Yr wyf fi, fel chithau, wedi cael enghreifftiau o brofiadau da a drwg gyda Chyllid Cymru. Yr wyf yn bwriadu cymryd ymagwedd bwyllog, felly, ond yr wyf yn bwriadu cael y trafodaethau perthnasol gyda’r sefydliad am y pryderon penodol a godwyd â fi. Mae’n bwysig, pan fydd arian y Llywodraeth yn cael ei ddefnyddio, ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau i gefnogi busnesau.

 

Simon Thomas: An entrepreneurial culture comes with its elements of risk and failure. Would the Minister like to say more about the decision of the Welsh European Funding Office to withdraw funding from the Prince of Wales Innovation Scholarships? Some people are puzzled about this, because the scholarships have only been going for two years, and yet have seemed to have achieved their initial outcomes, at least. Will the Minister publish a full evaluation of the reasoning by WEFO for the withdrawal of this funding? Also, in particular, what support can the Minister give to such programmes that work with universities, research and development institutions and spin-off companies to ensure that our universities have an entrepreneurial spirit and culture?

 

Simon Thomas: Mae diwylliant entrepreneuraidd yn dod ag elfennau o risg a methiant. A fyddai’r Gweinidog yn hoffi dweud mwy am benderfyniad y Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i dynnu cyllid yn ôl oddi wrth yr Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru? Mae rhai pobl mewn penbleth am hyn, oherwydd dim ond dwy flynedd yn ôl y sefydlwyd yr ysgoloriaethau, ond mae’n ymddangos eu bod wedi cyflawni eu canlyniadau cychwynnol, ar y lleiaf.  A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi gwerthusiad llawn o resymeg SCEC dros dynnu’r arian hwn? Hefyd, yn benodol, pa gefnogaeth y gall y Gweinidog ei roi i raglenni o’r fath sy’n gweithio gyda phrifysgolion, sefydliadau ymchwil a datblygu a chwmnïau deilliedig er mwyn sicrhau bod gan ein prifysgolion naws a diwylliant entrepreneuraidd?

 

Edwina Hart: I advise Members that the Welsh Government review, which was completed in the spring, identified significant management and governance shortcomings in relation to EU fund eligibility. The key issue for us is that there will be no funds lost to Wales as a result of any decisions, because any EU funds committed will go elsewhere in the system. I am aware of the comments being made about how we need to encourage entrepreneurs. I have already started some discussions within my sectors about what we can do in the future as a Government. 

 

Edwina Hart: Yr wyf yn cynghori Aelodau y gwnaeth adolygiad Llywodraeth Cymru, a gwblhawyd yn y gwanwyn, nodi diffygion rheoli a llywodraethiant sylweddol mewn perthynas â chymhwysedd ar gyfer cronfa'r UE. Y mater allweddol i ni yw na fydd unrhyw arian yn cael ei golli gan Gymru o ganlyniad i unrhyw benderfyniadau, oherwydd trosglwyddir unrhyw arian o’r UE sydd wedi ei ymrwymo i rywle arall yn y system. Yr wyf yn ymwybodol o’r sylwadau sy’n cael eu gwneud o ran yr angen inni annog entrepreneuriaid. Yr wyf eisoes wedi dechrau rhai trafodaethau o fewn fy sectorau am yr hyn y gallwn ei wneud yn y dyfodol fel Llywodraeth.

 

Busnesau yn Nwyrain Abertawe

Businesses in Swansea East

 

3. Mike Hedges: Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella’r rhagolygon i fusnesau yn Nwyrain Abertawe. OAQ(4)0047(BET)

 

3. Mike Hedges: What action is the Minister taking to improve prospects for businesses in Swansea East. OAQ(4)0047(BET)

Edwina Hart: I am taking actions across my portfolio to ensure that we create the necessary conditions for business growth across Wales.

 

Edwina Hart: Yr wyf yn cymryd camau gweithredu ar draws fy mhortffolio i sicrhau ein bod yn creu’r amodau angenrheidiol ar gyfer twf busnes ledled Cymru.

 

Mike Hedges: Thank you for your response. What future business sectors do you believe can take advantage of the benefits the SA1 area of Swansea represents? What is the Welsh Government doing to attract more major businesses to set up in this very nice area?

 

Mike Hedges: Diolch am eich ymateb. Pa sectorau busnes yn y dyfodol fydd, yn eich barn chi, yn  gallu manteisio ar y buddion sydd ar gael yn ardal SA1 yn Abertawe? Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu mwy o fusnesau mawr i sefydlu yn yr ardal hyfryd hon?

 

Edwina Hart: The SA1 development has been successful. There are a number of opportunities for developers to continue to invest in the SA1 project. These are opportunities as a result of the Welsh Assembly Government’s ongoing involvement and investment in the regeneration programme in SA1.

 

Edwina Hart: Mae’r datblygiad SA1 wedi bod yn llwyddiannus. Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygwyr barhau i fuddsoddi yn y prosiect SA1. Mae’r rhain yn gyfleoedd o ganlyniad i’r ffaith fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn weithgar ac yn buddsoddi’n barhaus yn y rhaglen adfywio yn SA1.

 

Suzy Davies: Will the Minister join me in congratulating the Swansea business improvement district on the excellent work that it is doing in the city? Swansea hosts the only business improvement district in Wales. Will the Minister work with businesses and social enterprises across Wales to highlight the value of business improvement districts, especially the independent advice that they can bring to the table?

 

Suzy Davies:   A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch ardal gwella busnes Abertawe ar y gwaith rhagorol y mae’n ei wneud yn y ddinas? Mae Abertawe yn cynnal yr unig ardal gwella busnes yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog weithio gyda busnesau a mentrau cymdeithasol ledled Cymru i dynnu sylw at werth ardaloedd gwella busnes, yn enwedig y cyngor annibynnol y gallant ei gynnig?

 

Edwina Hart: I had the opportunity of having an excellent meeting recently with Swansea BID to discuss its experiences and how it could spread its experience across Wales. I was particularly interested in what it can do in towns and cities that are concerned about their regeneration opportunities. I have undertaken to take work forward with it and my officials.

 

Edwina Hart: Cefais gyfle i gael cyfarfod ardderchog yn ddiweddar gydag AGB Abertawe i drafod ei brofiadau a sut y gall ledaenu ei brofiad ar draws Cymru. Yr oedd gennyf ddiddordeb arbennig yn yr hyn y gall ei wneud mewn trefi a dinasoedd sydd yn pryderu am eu cyfleoedd adfywio. Yr wyf wedi ymgymryd i weithio ar y cyd gyda’r ardal gwella busnes a fy swyddogion.

Bethan Jenkins: Un peth sydd yn anffodus am Abertawe yw, pan yr ydych yn dod i mewn i’r ddinas ar hyd Ffordd Fabian, mae llawer o safleoedd lle mae ffatrïoedd wedi’u cau. Yr ydym yn gwybod bod Ford, aka Linamar, wedi cau yn ddiweddar. A oes gennych unrhyw gynlluniau, Weinidog, i sicrhau bod cwmnïau yn edrych ar yr ardaloedd hyn er mwyn rhoi swyddi o ansawdd uchel i bobl leol?

 

Bethan Jenkins: One unfortunate thing about Swansea is that, when you come into the city along Fabian Way, there are many sites where factories have closed. We know that Ford, aka Linamar, has closed recently. Do you have any plans, Minister, to ensure that companies look to these areas in order to provide high-quality jobs to local people?

Edwina Hart: We always market buildings owned by ourselves, others, or by the local authority, to ensure that we attract what we can in terms of investment and jobs.

 

Edwina Hart: Yr ydym bob amser yn marchnata adeiladau sy’n eiddo i ni, pobl eraill, neu’r awdurdod lleol, er mwyn sicrhau ein bod yn denu’r hyn y gallwn o ran buddsoddiad a swyddi.

 

Peter Black: The Prince of Wales Innovation Scholarships scheme has benefited a number of Swansea students, linked to the research carried out at Swansea University.

Peter Black: Mae nifer o fyfyrwyr Abertawe wedi elwa o gynllun Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru, yn gysylltiedig ag ymchwil a wnaethpwyd ym Mhrifysgol Abertawe. 

 

2.30 p.m.

 

Peter Black: The decision to withdraw WEFO funding has put their future in doubt, and certainly the future of linking innovation with entrepreneurship and the development of high-quality jobs in the Swansea area. I understand the answer you gave to Simon Thomas, but can you tell me why have you withdrawn this WEFO funding when you do not have a plan B, and how quickly will you be able to put in place an alternative scheme, so that we can continue to encourage the link between research and entrepreneurship, which is absolutely vital if we are to grow our economy in the Swansea area?

 

Peter Black: Mae’r penderfyniad i dynnu’n ôl penderfyniad i dynnu’n ôl arian WEFO yn golygu bod eu dyfodol yn ansicr, ac yn sicr dyfodol cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth a datblygu swyddi o ansawdd uchel yn ardal Abertawe. Deallaf yr ateb a roesoch i Simon Thomas, ond a allwch ddweud wrthyf pam yr ydych yn tynnu’n ôl yr arian WEFO hwn pan nad oes gennych gynllun B, a pha mor gyflym y byddwch yn gallu rhoi ar waith gynllun amgen, fel y gallwn barhau i annog y cysylltiad rhwng ymchwil ac entrepreneuriaeth, sy’n gwbl hanfodol os ydym am dyfu ein heconomi yn ardal Abertawe?

 

Edwina Hart: I totally concur with your last points about encouraging entrepreneurs and development, but the review, which was completed in the spring, identified significant management and governance shortcomings in relation to EU funds, and I have a duty to ensure that public funds are maximised for the benefit of Wales. Part of what WEFO does is to regularly monitor EU projects to help ensure that they are meeting their terms and conditions for EU funding, and to ensure that any shortcomings are thoroughly reviewed and action taken, as in the case of POWIS.

 

Edwina Hart: Cytunaf yn llwyr â’ch pwyntiau diwethaf am annog entrepreneuriaid a datblygiad, ond fe nododd yr adolygiad, a gwblhawyd yn y gwanwyn, ddiffygion arwyddocaol o ran rheoli a llywodraethu mewn perthynas ag arian yr UE, ac mae gennyf ddyletswydd i sicrhau y gwneir y gorau gydag arian cyhoeddus er budd Cymru. Rhan o’r hyn y mae WEFO yn ei wneud yw monitro prosiectau’r UE yn rheolaidd i helpu i sicrhau eu bod yn bodloni eu telerau ac amodau ar gyfer cyllid yr UE, ac i sicrhau bod unrhyw ddiffygion yn cael eu hadolygu’n drylwyr a chamau’n cael eu cymryd, fel yn achos POWIS.

 

Ffigurau Allforio

 

Export Figures

 

4. Lindsay Whittle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwr ffigurau allforio Cymru. OAQ(4)0043(BET)

 

4. Lindsay Whittle: Will the Minister make a statement on the state of Wales’ export figures. OAQ(4)0043(BET)

 

Edwina Hart: Recent statistics show a welcome increase of 31.4 per cent in Welsh exports of goods over the past 12 months, but as the slight drop over the last quarter has shown, the export market is still very fragile.

 

Edwina Hart: Mae ystadegau diweddar yn dangos cynnydd i’w groesawu o 31.4 y cant mewn allforio nwyddau o Gymru dros y 12 mis diwethaf, ond fel y mae’r gostyngiad bychan dros y chwarter diwethaf wedi ei ddangos, mae’r farchnad allforio yn dal yn fregus iawn.

 

Lindsay Whittle: I thank the Minister for her answer. I am sure that you will agree that we have a wealth of green energy potential in Wales. If energy was fully devolved, we would be able to capitalise on this potential and create wealth from within our borders once again. What plans does the Government have to ensure full advantage is taken of our natural resources to transform Wales into a nation of exports once again?

 

Lindsay Whittle: Diolchaf i’r Gweinidog am ei hateb. Mae’n siŵr gennyf y byddwch yn cytuno bod gennym gyfoeth o ynni gwyrdd posibl yng Nghymru. Petai ynni yn cael ei ddatganoli’n llwyr, byddem yn gallu manteisio ar y potensial hwn a chreu cyfoeth o fewn ein ffiniau unwaith eto. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau y manteisir yn llawn ar ein hadnoddau naturiol er mwyn gweddnewid Cymru yn genedl o allforion unwaith eto?

 

Edwina Hart: The increase of 31.4 per cent in Welsh exports of goods over the past 12 months is largely down to exports of engineering goods and energy. It is important that we build on that, because we want to see an economy that continues to improve, and exports are a crucial part of this recovery. We are certainly concentrating our efforts on ensuring that we maximise the potential of exports.

 

Edwina Hart: Mae’r cynnydd o 31.4 y cant mewn allforio nwyddau o Gymru dros y 12 mis diwethaf o ganlyniad yn bennaf i allforion nwyddau peirianneg ac ynni. Mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar hynny, oherwydd yr ydym am weld economi sy’n parhau i wella, ac mae allforion yn rhan allweddol o’r adferiad hwn. Rydym yn sicr yn canolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar botensial allforion.

 

Mohammad Asghar: In recent years, experts have highlighted how only 2.1 per cent of Welsh companies engage in exporting their goods abroad—the lowest of any UK region and below the UK average. How are you approaching this issue to ensure that Wales’s SMEs and larger businesses have the international business support they need to look seriously at trading outside their own borders?

 

Mohammad Asghar: Yn y blynyddoedd diwethaf, mae arbenigwyr wedi amlygu sut mai 2.1 y cant yn unig o gwmnïau Cymreig sydd yn allforio eu nwyddau tramor—yr isaf o unrhyw ranbarth yn y DU ac yn is na chyfartaledd y DU. Sut ydych chi’n ymdrin â’r mater hwn i sicrhau bod busnesau bach a chanolig a busnesau mwy Cymru yn cael y cymorth busnes rhyngwladol y mae arnynt ei angen er mwyn gallu edrych o ddifrif ar fasnachu y tu allan i’w ffiniau eu hunain?

 

Edwina Hart: I think we can be assured that the large multinationals know what they are doing in terms of trading abroad, but there is an issue sometimes with small and medium-sized enterprises. I have had some very useful discussions with the British Chambers of Commerce about the networks it has across the world and how it should be utilised more to encourage exports. Also, the involvement of companies in trade delegations is very important, and we must try to ensure that we get an integrated approach to what we have available in Wales and where we can export it to.

 

Edwina Hart: Credaf y gallwn fod yn sicr bod y cwmnïau amlwladol mawr yn gwybod beth y maent yn ei wneud o ran masnachu dramor, ond mae mater yn codi weithiau gyda mentrau bach a chanolig. Rwyf wedi cael trafodaethau defnyddiol iawn â Siambrau Masnach Prydain am y rhwydweithiau sydd ganddo ar draws y byd a sut y dylid ei ddefnyddio mwy i annog allforion. Hefyd, mae cynnwys cwmnïau mewn dirprwyaethau masnach yn bwysig iawn, a rhaid inni geisio sicrhau y cawn ymagwedd integredig at yr hyn sydd gennym ar gael yng Nghymru a lle y gellir ei allforio.

 

Derbyniad Signalau Ffonau Symudol

 

Mobile Phone Signals Reception

 

5. Elin Jones: Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella derbyniad signalau ffonau symudol yng Nghymru wledig. OAQ(4)0048(BET)

 

5. Elin Jones: How does the Welsh Government intend to improve mobile phone signals reception in rural Wales. OAQ(4)0048(BET)

 

Edwina Hart: We are working with Ofcom and the mobile industry to identify mobile coverage gaps and the barriers that need to be overcome to address these gaps.

 

Edwina Hart: Yr ydym yn gweithio gydag Ofcom a’r diwydiant ffonau symudol i nodi lle y mae bylchau a rhwystrau y mae angen eu goresgyn i fynd i’r afael â’r bylchau hyn.

 

Elin Jones: Ym maniffesto Plaid Cymru eleni, yr oedd ymrwymiad i godi mastiau ffôn symudol i wella’r signal ffôn drwy Gymru. Ychydig wythnosau yn ôl, mabwysiadwyd y polisi hwn gan George Osborne a gyhoeddodd £150 miliwn i godi mastiau ffon er mwyn sicrhau cyrhaeddiad i 99 y cant o wledydd Prydain. Mae’r arian hwn ar gael i Gymru, yn ôl y cyhoeddiad, â’r angen, siŵr o fod, yn fwy yng Nghymru nag yn unman arall. A yw’r Trysorlys neu’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi bod mewn cysylltiad â’ch adran chi ynglŷn â chaffael y mastiau ffôn symudol hyn i Gymru?

 

Elin Jones: There was a commitment in Plaid Cymru’s manifesto this year to erect mobile phone masts to improve coverage across Wales. A few weeks ago, George Osborne adopted this policy and announced £150 million to erect phone masts in order to ensure coverage for 99 per cent of the UK. This money is available to Wales, according to the announcement, as the need is greater in Wales, I suppose, than anywhere else. Has the Treasury or the Department for Culture, Media and Sport been in touch with your department about procuring these mobile phone masts for Wales?

 

Edwina Hart: You make a very valid point about mobile phone masts and we have started to undertake some work in this particular area. The data for 2009-10 show that there are circa 2,300 active mobile base stations in Wales, but that it is not possible to quantify how many additional masts may be needed for blanket coverage. Therefore, we are working with Ofcom and the mobile phone industry on this particular issue, so that we can have a more detailed understanding of these issues. Mobile voice coverage and mobile data coverage are two related, but very separate, issues here, and I have asked my officials to keep in touch with what financial arrangements might assist us with these developments.

 

Edwina Hart: Rydych yn gwneud pwynt dilys iawn ynghylch mastiau ffonau symudol, ac yr ydym wedi dechrau gwneud rhywfaint o waith yn y maes penodol hwn. Mae’r data ar gyfer 2009-10 yn dangos bod oddeutu 2,300 o orsafoedd ffonau symudol yn weithredol yng Nghymru, ond nad yw’n bosibl mesur sawl mast ychwanegol y gallai fod eu hangen ar gyfer Cymru gyfan. Felly, yr ydym yn gweithio gydag Ofcom a’r diwydiant ffonau symudol ar y mater penodol hwn, fel y gallwn gael dealltwriaeth fwy manwl o’r materion hyn. Mae signal llais symudol a signal data symudol yn ddau fater sydd yn gysylltiedig ond ar wahân, ac yr wyf wedi gofyn i’m swyddogion i gadw mewn cysylltiad ar y trefniadau ariannol a allai ein helpu gyda’r datblygiadau hyn.

 

Antoinette Sandbach: I am delighted that Elin Jones has raised with you the announcement of £150 million made by George Osborne to help with this issue. The poor and patchy mobile reception is not just in rural north Wales but rural mid Wales. Just this week, I was at a conference with Lord Elis-Thomas and a number of businessmen at the Centre for Alternative Technology, and there was no mobile reception across three networks there. I invite you to consider not only where additional masts are required, but to raise with Ofcom and your officials how best practice, such as mast sharing between networks, can be increased, so that the maximum benefit is gained from the infrastructure already in place.

 

Antoinette Sandbach: Rwyf wrth fy modd bod Elin Jones wedi codi’r mater gyda chi o’r cyhoeddiad o £150 miliwn a wnaed gan George Osborne i helpu gyda’r mater hwn. Nid yw’r derbyniad symudol gwael a thameidiog yng ngogledd Cymru yn unig ond yn ardaloedd gwledig canolbarth Cymru. Dim ond yr wythnos hon yr oeddwn mewn cynhadledd gyda’r Arglwydd Elis-Thomas a nifer o ddynion busnes yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, ac nid oedd derbyniad ffonau symudol ar draws tri rhwydwaith yno. Fe’ch gwahoddaf i ystyried nid yn unig lle y mae angen mastiau ychwanegol, ond i godi gydag Ofcom a’ch swyddogion sut y gall arfer gorau, fel rhannu mastiau rhwng rhwydweithiau, gael ei gynyddu fel y ceir y budd mwyaf posibl o’r seilwaith sydd eisoes ar waith.

 

Edwina Hart: Thank you for those comments. I am well aware of the difficulty in rural Wales. However, there are also problems with there being no network access in some parts of urban Wales. We are obviously looking to secure a fair share of the £150 million that has been announced, and I will ensure that the next generation broadband for Wales project seeks to leverage improved mobile coverage as well.

 

Edwina Hart: Diolch ichi am y sylwadau hynny. Yr wyf yn ymwybodol iawn o’r anhawster yng Nghymru wledig. Fodd bynnag, ceir problemau hefyd gan nad oes mynediad i’r rhwydwaith mewn rhai rhannau o Gymru drefol. Mae’n amlwg ein bod yn edrych i sicrhau cyfran deg o’r £150 miliwn sydd wedi’i gyhoeddi, a byddaf yn sicrhau bod prosiect band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru yn ceisio sbarduno gwell signal ffonau symudol yn ogystal.

 

Kirsty Williams: Minister, having secured Wales’s fair share of the money recently announced by George Osborne, you will then have the job of deciding where to erect those telecommunications masts to achieve best coverage. Those could prove very difficult decisions. For example, do you prioritise long stretches of roads to protect the safety of motorists, despite the fact that there is no-one living there? Do you prioritise individual communities, where people live but where, perhaps, there is not the business infrastructure or population demand that would indicate that that scale of investment is required? Could you give us an idea of your early thinking on how you will prioritise the placing of masts across mid Wales in particular, where we have such poor levels of mobile network coverage?

 

Kirsty Williams: Weinidog, wedi sicrhau cyfran deg i Gymru o’r arian a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan George Osborne, byddwch wedyn â’r dasg o benderfynu ble i godi mastiau telathrebu i gyflawni’r signal gorau. Gallai’r rhain fod yn benderfyniadau anodd iawn. Er enghraifft, a ydych yn blaenoriaethu darnau hir o ffyrdd i amddiffyn diogelwch modurwyr, er gwaethaf y ffaith nad oes neb yn byw yno? A ydych yn blaenoriaethu cymunedau unigol, lle mae pobl yn byw, ond lle, efallai, nad oes galw seilwaith busnes neu boblogaeth a fyddai’n awgrymu bod graddfa’r buddsoddiad yn ofynnol? A allech roi syniad i ni o’ch meddwl cynnar ar sut y byddwch yn blaenoriaethu lleoli mastiau ar draws y Canolbarth yn benodol, lle mae gennym lefelau mor wael o ran signal y rhwydwaith symudol?

 

Edwina Hart: The leader of the Welsh Liberal Democrats has very eloquently expressed the difficulties in this particular discussion. Solving the problem of mobile network coverage is going to be complex, and any suggestion that it will be fixed overnight is absolutely misleading, whether or not cash is available. The reality is that a mixture of interventions will be needed. Making improvements to the fixed line structure is an issue. Funding the gaps in voice and data coverage is an issue for the Welsh Government, Ofcom, industry and consumers. There is the regulatory policy and actions we require from Ofcom. Then there is the building of masts to plug the gaps, which is a question of UK Government money—perhaps ERDF money in the next round. Then there is the issue of getting the mobile industry to use the new masts to connect people. There will be a plethora of issues to do with what people may or may not like in their areas and the prioritisation. It is a very complex area that we are starting to get a grip on. However, I would not say that there is an easy answer to the Liberal Democrat leader’s question.

 

Edwina Hart: Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi mynegi’r anawsterau yn huawdl iawn yn y drafodaeth benodol hon. Mae datrys y broblem gyda signal y rhwydwaith symudol yn mynd i fod yn gymhleth, ac mae unrhyw awgrym y caiff ei datrys dros nos yn gwbl gamarweiniol—arian parod ar gael ai peidio. Y realiti yw y bydd angen cymysgedd o ymyriadau. Mae gwneud gwelliannau i’r strwythur llinell sefydlog yn bwnc llosg. Mater i Lywodraeth Cymru, Ofcom, y diwydiant a defnyddwyr yw ariannu’r bylchau mewn signal o ran llais a data. Ceir y polisi rheoleiddio a’r camau gweithredu y mae arnom eu hangen gan Ofcom. Yna, ceir adeiladu mastiau i lenwi’r bylchau, sy’n gwestiwn o arian Llywodraeth y DU—arian ERDF, efallai, yn y rownd nesaf. Yna, ceir y mater o gael y diwydiant ffonau symudol i ddefnyddio’r mastiau newydd i gysylltu pobl. Bydd llu o faterion yn ymwneud â’r hyn y mae pobl yn ei hoffi neu ddim yn ei hoffi yn eu hardaloedd a’r blaenoriaethu. Mae’n faes cymhleth iawn yr ydym yn dechrau mynd i’r afael ag ef. Fodd bynnag, ni ddywedwn fod ateb hawdd i gwestiwn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

 

Economïau Trefi Delyn

 

Economies of Towns in Delyn

 

6. Sandy Mewies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu mesurau Llywodraeth Cymru i gefnogi economïau trefi Delyn. OAQ(4)0042(BET)

 

6. Sandy Mewies: Will the Minister outline the Welsh Government’s measures to support the economies of towns in Delyn. OAQ(4)0042(BET)

 

Edwina Hart: I am trying to support the economies of all towns in Wales through our key sectors approach, through the introduction of enterprise zones and by looking with my colleagues at how we can help on the regeneration of town centres.

 

Edwina Hart: Yr wyf yn ceisio cefnogi economïau pob tref yng Nghymru drwy ein dull sectorau allweddol, drwy gyflwyno ardaloedd menter, a thrwy edrych gyda’m cyd-Aelodau ar sut y gallwn helpu gydag adfywio canol trefi.

 

Sandy Mewies: Thank you for that, Minister. Towns, businesses, organisations and individuals in my constituency have been making great efforts to boost footfall. In Holywell, there have been initiatives such as an arts and crafts festival and a music festival. In Mold, there was a food and drink festival and, in Flint, an arts festival. All of these events have brought more people into the town centres. In addition to the great initiatives you have already promised us, could you consider giving support to events such as these, as I know happens in part already, to further boost their economies?

 

Sandy Mewies: Diolch ichi am hynny, Weinidog. Mae trefi, busnesau, sefydliadau ac unigolion yn fy etholaeth wedi bod yn gwneud ymdrechion mawr i roi hwb i nifer yr ymwelwyr. Yn Nhreffynnon, bu mentrau megis gŵyl gelf a chrefft a gŵyl gerddoriaeth. Yn yr Wyddgrug, roedd gŵyl bwyd a diod ac yn y Fflint, gŵyl gelfyddydau. Mae pob un o’r digwyddiadau hyn wedi dwyn mwy o bobl i ganol trefi. Yn ogystal â mentrau mawr yr ydych eisoes wedi eu haddo inni, a allech ystyried rhoi cymorth i ddigwyddiadau fel y rhain, fel y gwn sy’n digwydd yn rhannol eisoes, i hybu eu heconomïau ymhellach?

 

Edwina Hart: Obviously, some Welsh Assembly Government money is available to support such events. However, you are right that we have to attract people back into our towns. We have to make them viable. If people come in for an event, they may come again to shop. So, together with my other Cabinet colleagues who have an interest in this area, I am very committed to developing a policy agenda that is fit for purpose to ensure that our town centres do not continually get run down.

 

Edwina Hart: Wrth gwrs, mae rhywfaint o arian Llywodraeth y Cynulliad ar gael i gefnogi digwyddiadau o’r fath. Fodd bynnag, yr ydych yn gywir fod yn rhaid inni ddenu pobl yn ôl i’n trefi. Mae’n rhaid inni eu gwneud yn hyfyw. Os bydd pobl yn dod ar gyfer digwyddiad, gallant ddod eto i siopa. Felly, ynghyd â’m cydweithwyr eraill yn y Cabinet sydd â diddordeb yn y maes hwn, yr wyf wedi ymrwymo’n fawr at ddatblygu agenda polisi sy’n addas i’r diben er mwyn sicrhau nad yw’n trefi’n cael eu gadael i ddirywio o hyd.

 

Mark Isherwood: Holywell and Mold have town centre managers, as do Buckley, Connah’s Quay and Broughton shopping park on the other side of Flintshire. As I am sure you are very aware, these town centre managers play a pivotal role in running the centres and on the town centre partnerships, supporting existing business and attracting new business. What engagement do you have, or intend or hope to have, with town centre managers across Wales to maximise that role in safeguarding and regenerating the town centres of Delyn and beyond?

 

Mark Isherwood: Mae gan Dreffynnon a’r Wyddgrug reolwyr canol tref, fel sydd ym Mwcle, Cei Connah a pharc siopa Brychdyn ar ochr arall Sir y Fflint. Fel yr yn ymwybodol iawn, mae’n siŵr, mae’r rheolwyr canol trefi hyn yn chwarae rôl ganolog o ran rhedeg y canolfannau ac ar y partneriaethau canol tref, yn cefnogi busnesau presennol a denu busnes newydd. Pa ymgysylltiad ydych chi’n ei gael, neu’n bwriadu neu’n gobeithio ei gael, gyda rheolwyr canol trefi ledled Cymru i fanteisio i’r eithaf ar y rôl honno i ddiogelu ac adfywio canol trefi Delyn a thu hwnt?

 

Edwina Hart: I cannot say that I have had any specific engagement at any level with town centre managers, other than that some of them may have been part of delegations that have come to see me. There is wider engagement across Government, however, as this covers more than just my portfolio.

 

Edwina Hart: Ni allaf ddweud fy mod wedi cael unrhyw ymgysylltu penodol ar unrhyw lefel gyda rheolwyr canol tref, heblaw bod rhai ohonynt efallai wedi bod yn rhan o ddirprwyaethau sydd wedi dod i’m gweld. Mae ymgysylltiad ehangach ar draws y Llywodraeth, fodd bynnag, gan fod hyn yn cwmpasu mwy na dim ond fy mhortffolio i.

 

Llyr Huws Gruffydd: Mae gofid wedi ei fynegi ynglŷn â hyfywedd busnesau bychain cynhenid yng nghanol nifer o drefi Delyn, a hynny yn bennaf yn wyneb agor archfarchnadoedd mawr ar gyrion y trefi hynny. Beth mae Llywodraeth Cymru am ei wneud i amddiffyn eu buddiannau yn sgîl y bygythiadau cynyddol hyn, oherwydd mae eu cyfraniad economaidd hwy’n allweddol? Yn aml, y busnesau hyn sy’n rhoi hunaniaeth ac awyrgylch unigryw i nifer o’r trefi hyn sy’n rhan helaeth o’u hapêl, sydd hefyd yn dod yn sgîl y gwyliau y soniodd Sandy Mewies amdanynt.

 

Llyr Huws Gruffydd: Concern has been expressed about the viability of indigenous small businesses in the heart of many of Delyn’s towns, mostly as a result of the opening of large supermarkets on the outskirts of those towns. What does the Welsh Government intend to do to protect their interests in the light of these increasing threats, because their economic contribution is crucial? Often, it is such businesses that give these towns their identity and unique atmosphere, which is a large part of their appeal, which also derives from the festivals that Sandy Mewies mentioned.

 

Edwina Hart: I would not want to stray into issues that are to do with my colleagues, as there are planning considerations. These issues are sometimes to do with how planning permission is obtained from local authorities or others. We have to accept that there has been public demand in recent years for some of these out-of-town shopping outlets. However, it is important to have a balance in policy, and I hope that, in discussing new planning policies, this is an area on which people might want to make representations.

 

Edwina Hart: Ni hoffwn sôn am faterion sy’n ymwneud â’m cyd-Aelodau, gan fod ystyriaethau cynllunio. Mae’r materion hyn weithiau yn ymwneud â sut y mae cael caniatâd cynllunio gan awdurdodau lleol neu eraill. Rhaid inni dderbyn y bu galw cyhoeddus yn y blynyddoedd diwethaf ar gyfer rhai o’r canolfannau siopa hyn sydd ar gyrion trefi. Fodd bynnag, mae’n bwysig cael cydbwysedd o ran polisi, a gobeithiaf, wrth drafod polisïau cynllunio newydd, fod hwn yn faes yr hoffai pobl wneud sylwadau yn ei gylch.

 

Busnesau yn Nhor-faen

 

Businesses in Torfaen

 

7. Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau yn Nhor-faen. OAQ(4)0052(BET)

 

7. Lynne Neagle: Will the Minister outline what the Welsh Government is doing to support businesses in Torfaen. OAQ(4)0052(BET)

 

Edwina Hart: We are taking forward a range of measures to support businesses in all parts of Wales, including investing in infrastructure, skills, innovation and improving the business environment.

 

Edwina Hart: Yr ydym yn datblygu ystod o fesurau i gefnogi busnesau ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys buddsoddi mewn seilwaith, sgiliau, arloesi a gwella’r amgylchedd busnes.

 

Lynne Neagle: Minister, since the publication of the economic renewal plan by your predecessor, I have been contacted by a number of manufacturing companies that are concerned about the level of support that they are receiving from the Welsh Government. This is not just about financial support. For example, a number of companies have complained that they no longer have access to a relationship manager, who used to act as a helpful contact point between local companies and the Welsh Government. I welcome the steps that you are already taking to adapt the economic renewal plan to ensure that is fit for purpose, but do you agree that while it is right that we support advanced manufacturing that would be driver of future growth, this should not be at the expense of manufacturing companies that are keeping people in work today?

 

Lynne Neagle: Weinidog, ers i gynllun adnewyddu’r economi gael ei gyhoeddi gan eich rhagflaenydd, cysylltwyd â mi gan nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu sy’n pryderu ynghylch lefel y cymorth a gânt gan Lywodraeth Cymru. Nid yw hwn yn ymwneud â chymorth ariannol yn unig. Er enghraifft, mae nifer o gwmnïau wedi cwyno nad oes ganddynt mwyach fynediad at reolwr perthynas, a arferai weithredu fel pwynt cyswllt defnyddiol rhwng cwmnïau lleol a Llywodraeth Cymru. Yr wyf yn croesawu’r camau yr ydych yn eu cymryd eisoes i addasu’r cynllun adnewyddu economaidd i sicrhau ei fod yn addas at y diben, ond a ydych yn cytuno, tra ei bod yn iawn ein bod yn cefnogi gweithgynhyrchu uwch, a fyddai’n gyrru twf yn y dyfodol, na ddylai hyn fod ar draul cwmnïau gweithgynhyrchu sydd yn cadw pobl mewn gwaith heddiw?

 

Edwina Hart: I concur with your comments, because I do think that we are in a different world, economically, now. We need to look at what type of support we have to give to existing companies and how we can help them in the system. Over the past few minutes, I have had a lot of requests from Members, including one from you, to ensure that my officials do help and assist individual companies in their constituencies, and while companies have been pleased to have such assistance, they would like to see a structure in place so that they know where to go. This is something that I have been discussing with Carl Sargeant, to see how we can do further work between ourselves and local government on these issues of having the economic links in, and we have had some excellent discussions, particularly with local authorities in north Wales, about streamlining all the activities involving contacts with companies by the Assembly and local authorities.

 

Edwina Hart: Cytunaf â’ch sylwadau, oherwydd rwy’n credu ein bod mewn byd gwahanol, yn economaidd, bellach. Mae angen inni edrych ar ba fath o gymorth sydd gennym i’w roi i gwmnïau sy’n bodoli eisoes a sut y gallwn eu helpu yn y system. Dros yr ychydig funudau diwethaf, yr wyf wedi cael nifer o geisiadau gan Aelodau, gan gynnwys un gennych chi, i sicrhau bod fy swyddogion yn helpu a chynorthwyo cwmnïau unigol yn eu hetholaethau, ac er bod cwmnïau wedi bod yn falch o gael cymorth o’r fath, byddent yn hoffi gweld strwythur ar waith fel eu bod yn gwybod ble i fynd. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi bod yn ei drafod â Carl Sargeant, i weld sut y gallwn wneud rhagor o waith rhwng ein hunain a llywodraeth leol ar y materion hyn o gael cysylltiadau economaidd, ac yr ydym wedi cael rhai trafodaethau rhagorol, yn enwedig gydag awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, am symleiddio’r holl weithgareddau sy’n cynnwys cysylltiadau â chwmnïau gan y Cynulliad ac awdurdodau lleol.

 

Mohammad Asghar: Minister, Torfaen has struggled seriously with enterprise births. Figures from 2009 show 33 enterprise births in Torfaen per 10,000 of the population aged 16 to 64, which is the second lowest level in Wales. How is the Welsh Government tackling this issue in Torfaen, and ensuring that the number of enterprise births gathers pace quickly?

 

Mohammad Asghar: Weinidog, mae Tor-faen wedi ymdrechu o ddifrif gyda genedigaethau menter. Mae ffigurau o 2009 yn dangos bod 33 o enedigaethau menter yn Nhor-faen fesul 10,000 o’r boblogaeth 16 i 64 oed, sef yr ail lefel isaf yng Nghymru. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r mater hwn yn Nhor-faen, a sicrhau bod nifer y genedigaethau menter yn magu traed yn gyflym?

 

Edwina Hart: It is important that we tackle the issue across Wales, not just in Torfaen, and that we look at the levers that we have to assist. I have a review of microbusinesses, I am looking at support for SMEs, and the door is wide open to changes in policy that can ensure that we achieve what we need to in terms of the growth of new firms.

 

Edwina Hart: Mae’n bwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r mater ledled Cymru, nid yn unig yn Nhor-faen, ac ein bod yn edrych ar yr ysgogiadau sydd gennym i gynorthwyo. Mae gennyf adolygiad o ficrofusnesau, yr wyf yn ystyried cymorth ar gyfer busnesau bach a chanolig, ac y mae’r drws yn agored i newidiadau mewn polisi a all sicrhau ein bod yn cyflawni’r hyn y mae angen inni ei wneud o ran twf cwmnïau newydd.

 

Jocelyn Davies: Minister, what is your view of business rate relief for those businesses that are struggling in these very difficult times?

 

Jocelyn Davies: Weinidog, beth yw eich barn am ryddhad ardrethi busnes i’r busnesau hynny sy’n brwydro i oroesi yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn?

 

Edwina Hart: I am looking at business rate relief currently and I will report back to the Chamber in due course on my deliberations.

 

Edwina Hart: Yr wyf yn edrych ar ryddhad ardrethi busnes ar hyn o bryd a byddaf yn adrodd yn ôl i’r Siambr maes o law ar fy nhrafodaethau.

 

Blaenoriaethau

 

Priorities

 

8. Darren Millar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0044(BET)

 

8. Darren Millar: Will the Minister make a statement on her priorities for the 4th Assembly Term. OAQ(4)0044(BET)

 

Edwina Hart: My priorities are set out in the programme for government.

 

Edwina Hart: Nodir fy mlaenoriaethau yn y rhaglen lywodraethu.

 

Darren Millar: Thank you very much, Minister, for that brief response. Minister, one of the immediate issues facing your department is whether the Welsh Government will offer support to a bid to the Internet Corporation for Assigned Names and Numbers to recognise a top-level domain on the internet for Wales. Your predecessor as Minister for economic development in Wales gave £20,000 of public money to one of the possible bidders, which was, in fact, a private company, to develop its business case. I think that that was a waste of public money that should not be repeated.

 

 

Darren Millar: Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am yr ateb byr hwnnw. Weinidog, un o’r materion sy’n wynebu eich adran ar unwaith yw a fyddai Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i gais i Gorfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau a Neilltuir i gydnabod parth lefel uchaf ar y rhyngrwyd ar gyfer Cymru. Rhoddodd eich rhagflaenydd fel Gweinidog dros ddatblygu economaidd yng Nghymru £20,000 o arian cyhoeddus i un o’r ymgeiswyr posibl, a oedd, mewn gwirionedd, yn gwmni preifat, i ddatblygu ei achos busnes. Credaf fod hynny yn wastraff arian cyhoeddus na ddylid ei ailadrodd.

2.45 p.m.

 

Any private company bidding in this process needs to have a robust business model in order to raise its own finance, including the application fee, which I understand is around £120,000 or $185,000. Can you assure me that the Welsh Government aims to offer endorsement only—rather than public cash—to a private company it supports in making this vital application?

 

Mae angen i unrhyw gwmni preifat sy’n bidio yn y broses hon feddu ar fodel busnes cadarn er mwyn codi ei arian ei hun, gan gynnwys y ffi gwneud cais, sydd tua £120,000 neu $185,000 yn ôl beth rwy’n ei ddeall. A allwch chi fy sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig cymeradwyaeth yn unig—yn hytrach nag arian cyhoeddus—i gwmni preifat y mae’n ei gefnogi o ran gwneud y cais allweddol hwn?

 

Edwina Hart: On the issue of public cash, I can confirm that that is not an option that I am currently considering.

 

Edwina Hart: O ran arian cyhoeddus, gallaf gadarnhau nad wyf yn ystyried yr opsiwn hwnnw ar hyn o bryd.

 

Julie James: Minister, do you agree with me that, in the current fragile economic climate and in the face of the worst financial settlement in a generation, we must prioritise our investment for jobs and growth? In the past few weeks, the Tories in the Chamber have called on us to ring-fence the health budget and to spend our £40 million extra funding on a council tax freeze, but now they are welcoming our economic stimulus package. Do you agree that it is time for them to make up their minds, stop making uncosted demands and back our plans for improving the economy in Wales?

 

Julie James: Weinidog, a ydych yn cytuno â mi bod yn rhaid i ni, yn yr hinsawdd economaidd fregus bresennol ac yn wyneb y setliad ariannol gwaethaf mewn cenhedlaeth, flaenoriaethu ein buddsoddiad ar gyfer swyddi a thwf? Yn yr wythnosau diwethaf, mae’r Torïaid yn y Siambr wedi galw arnom ni i glustnodi’r gyllideb iechyd a gwario ein £40 miliwn ychwanegol ar rewi’r dreth gyngor, ond maent yn awr yn croesawu ein pecyn ysgogi economaidd. A ydych yn cytuno ei fod yn bryd iddynt wneud eu meddyliau i fyny, rhoi’r gorau i wneud galwadau heb eu costio a chefnogi ein cynlluniau i wella’r economi yng Nghymru?

 

Edwina Hart: I would hope that everyone in the Chamber would back all plans to improve the economy.

 

Edwina Hart: Byddwn yn gobeithio y byddai pawb yn y Siambr yn cefnogi pob cynllun i wella’r economi.

 

Alun Ffred Jones: Yn wyneb y ffigurau diweithdra digalon a gyhoeddwyd, a ydych yn credu bod angen sicrhau rhaglen gyfalaf genedlaethol er mwyn codi hyder cwmnïau? Pryd fydd cynllun o’r fath yn cael ei gyhoeddi? A fyddech yn cytuno bod angen cynlluniau ar hyd a lled Cymru i ddod â budd i gwmnïau canolig eu maint?

 

Alun Ffred Jones: Bearing in mind the depressing unemployment figures that have been published, do you believe that we need a national capital programme to increase company confidence? When will such a scheme be announced? Do you agree that we need schemes across Wales to benefit medium-sized companies?

 

Edwina Hart: Yes, we have to look at Wales as a whole; that is very important. The national infrastructure plan is a matter for the Minister for Finance and we are all feeding into the discussions with her about the need for imaginative infrastructure projects that bring in good employment opportunities and facilitate further business growth.

 

Edwina Hart: Oes, mae’n rhaid i ni edrych ar Gymru yn gyfan; mae hynny’n bwysig iawn. Mater i’r Gweinidog Cyllid yw’r cynllun seilwaith cenedlaethol ac rydym i gyd yn bwydo i mewn i’r trafodaethau gyda hi am yr angen i gael prosiectau seilwaith dychmygus sy’n creu cyfleoedd da am swyddi ac sy’n hwyluso twf busnes.

 

Aled Roberts: Weinidog, o ystyried mai menter yw un o’ch blaenoriaethau, cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gennych y bore yma sy’n dweud y bydd arian Powys yn cael ei drosglwyddo i gyrff eraill. A fydd cyfundrefn o geisiadau agored ar gyfer yr arian sydd wedi’i ryddhau yn dilyn eich datganiad yr wythnos ddiwethaf?

 

Aled Roberts: Minister, bearing in mind that enterprise is one of your priorities, you issued a written statement this morning saying that Powys’s funding is to be transferred to other bodies. Will there be an open application system for the funding released following the statement that you made last week?

 

Edwina Hart: I wrote to Members last week in light of the concerns that have been expressed and I will advise Members in due course of any issues that we are taking forward in that regard.

 

Edwina Hart: Ysgrifennais at Aelodau wythnos diwethaf yn sgîl y pryderon a fynegwyd a byddaf yn rhoi gwybod i Aelodau cyn bo hir am unrhyw faterion yr ydym yn eu dwyn ymlaen yn hynny o beth.

 

Antoinette Sandbach: Minister, in light of Julie James’s comments, I am sure that we would all agree that considerable funds have been provided by the UK Government to the Welsh Government. In response to an earlier question, you mentioned your microbusiness strategy. Clearly, businesses at that micro level, which employ 10 people or fewer, need to be encouraged to grow beyond that size. When is that strategy likely to come forward and what steps are you taking to encourage that type of growth?

 

Antoinette Sandbach: Weinidog, yn sgîl sylwadau Julie James, rwy’n siŵr y byddem i gyd yn cytuno bod arian sylweddol wedi ei roi gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. Mewn ateb i gwestiwn cynharach, soniasoch am eich strategaeth microfusnes. Mae’n amlwg bod angen annog busnesau ar y lefel ficro honno, sy’n cyflogi 10 o bobl neu lai, i dyfu tu hwnt i hynny. Pryd y mae’r strategaeth honno yn debyg o ymddangos, a pha gamau ydych chi’n eu cymryd i annog y math hwnnw o dwf?

 

Edwina Hart: The chair of the microbusiness working group has indicated that it hopes to have papers with me before Christmas. I will then consider them, publish the strategy and take comments from Members. The problem is, of course, that the causes of the difficulties faced by the Welsh Government do not lie at our door; they result from the fact that we have not had a proper settlement from the UK Government in terms of our needs and requirements. I am delighted that the Minister for Finance is leading discussions on that issue.

 

Edwina Hart: Mae cadeirydd y gweithgor microfusnes wedi dweud ei fod yn gobeithio cyflwyno papurau i mi cyn y Nadolig. Yna byddaf yn eu hystyried, yn cyhoeddi’r strategaeth ac yn cymryd sylwadau gan Aelodau. Y broblem yw, wrth gwrs, nad Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am achosi’r anawsterau yr ydym yn eu wynebu; maent o ganlyniad i’r ffaith na chawsom setliad iawn gan Lywodraeth y DU o ran ein hanghenion a’n gofynion. Rwyf wrth fy modd bod y Gweinidog Cyllid yn arwain trafodaethau ar y mater hwnnw.

 

Ardaloedd Menter

 

Enterprise Zones

 

9. Keith Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu pryd y bydd y cyfnod nesaf o ardaloedd menter yn cael ei gyhoeddi. OAQ(4)0051(BET)

 

9. Keith Davies: Will the Minister outline when the next stage of the enterprise zones will be announced. OAQ(4)0051(BET)

 

Edwina Hart: As I indicated in response to an earlier question, I hope to give some indication by the end of the year about new enterprise zones.

 

Edwina Hart: Fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn cynharach, rwy’n gobeithio rhoi rhyw syniad erbyn diwedd y flwyddyn am barthau menter newydd.

 

Keith Davies: Diolch am yr ateb hwnnw. Yr wyf yn croesawu’r ardaloedd menter sydd wedi’u cyhoeddi’n barod ac yr wyf yn edrych ymlaen at weithio gyda chi a phartneriaid lleol ar y datblygiadau yn y dyfodol. Yn sir Gâr, mae gennym eisoes Theatr Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr, yn ogystal â Tinopolis, y cwmni teledu annibynnol mwyaf yng Nghymru. Weinidog, pan fyddwch yn ystyried y cyfnod nesaf, a fyddwch yn ystyried creu ardal menter diwydiannau creadigol yn sir Gâr?

 

Keith Davies: Thank you for that answer. I welcome the enterprise zones that have already been announced and I look forward to co-operating with you and local partners on future developments. In Carmarthenshire, we already have Theatr Genedlaethol Cymru, University of Wales Trinity Saint David and Coleg Sir Gâr, as well as Tinopolis, the largest independent television company in Wales. Minister, when considering the next stage, will you consider creating an enterprise zone for the creative industries in Carmarthenshire?

 

Edwina Hart: The creative industries panel has discussed its attitude towards enterprise zones, and it expressed concern about displacement within Wales. It broadly favoured a virtual approach, where the benefits of an enterprise zone around creative industries would be accessible to all. The members of the panel did not feel that the UK location-specific model was entirely appropriate for them as a sector.

 

Edwina Hart: Mae’r panel diwydiannau creadigol wedi trafod ei agwedd tuag at barthau menter, ac yr oedd yn pryderu am ddadleoli o fewn Cymru. Roedd yn ffafrio ymagwedd rithwir yn fras, lle byddai manteision parth menter o gwmpas y diwydiannau creadigol yn hygyrch i bawb. Nid oedd aelodau’r panel yn teimlo bod model penodol i leoliad y DU yn hollol addas iddynt hwy fel sector.

 

Byron Davies: I realise that you have answered quite a few questions on enterprise zones, and I realise that you cannot provide 60 enterprise zones for the 60 Members here. However, as there are only five regions, why has South Wales West been ignored? Will you commit to creating an enterprise zone in South Wales West within the calendar year to ensure that Swansea, Gower, Bridgend, Neath, Aberavon and Ogmore are not left behind by the Government?

 

Byron Davies: Rwy’n sylweddoli eich bod wedi ateb cryn dipyn o gwestiynau ar barthau menter, ac rwy’n sylweddoli na allwch chi ddarparu 60 o barthau menter i’r 60 o Aelodau yma. Fodd bynnag, gan mai dim ond pump rhanbarth sydd, pam fod Gorllewin De Cymru wedi cael ei anwybyddu? A wnewch chi ymrwymo i greu parth menter yng Ngorllewin De Cymru o fewn y flwyddyn galendr i sicrhau nad yw Abertawe, y Gwyr, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell Nedd, Aberafan ac Ogwr yn cael eu gadael ar ôl gan y Llywodraeth?

 

Edwina Hart: I note that you take your regional constituents’ interests very seriously from the nature of your question, but I will make no such promise. I will make my announcement in due course.

 

Edwina Hart: Rwy’n nodi eich bod yn cymryd buddiannau eich etholwyr rhanbarthol yn ddifrifol iawn o natur eich cwestiwn, ond ni wnaf addewid o’r fath. Byddaf yn gwneud fy nghyhoeddiad cyn bo hir.

 

Economi Canol De Cymru

 

Economy of South Wales Central

 

10. Andrew R.T. Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi Canol De Cymru. OAQ(4)0041(BET)

 

10. Andrew R.T. Davies: Will the Minister outline Welsh Government plans to develop the economy of South Wales Central. OAQ(4)0041(BET)

 

Edwina Hart: The programme for government sets out our plans for developing the economy in all parts of Wales, which includes plans for investing in infrastructure, skills, innovation and improving the business environment.

 

Edwina Hart: Mae’r rhaglen lywodraethu yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer datblygu’r economi ym mhob rhan o Gymru, sy’n cynnwys cynlluniau i fuddsoddi mewn seilwaith, sgiliau, arloesedd a gwella’r amgylchedd busnes.

 

Andrew R.T. Davies: South Wales Central is fortunate to have two enterprise zones: Cardiff and St Athan in the Vale of Glamorgan. In a written response, you have indicated that discussions are ongoing about the general policy that you will put in place to support these enterprise zones. Are you in a position today to say when those policies will be brought forward so that officials working for the department responsible for the economy can promote them? More importantly, what discussions are your officials having with local authorities in South Wales Central so that their economic advisers and economic professionals can work to promote these zones in their own areas?

 

Andrew R.T. Davies: Mae Canol De Cymru yn ffodus o gael dau barth menter: Caerdydd a Sain Tathan ym Mro Morgannwg. Mewn ateb ysgrifenedig, dywedasoch fod trafodaethau yn parhau am y polisi cyffredinol y byddwch yn ei roi ar waith i gefnogi’r parthau menter hyn. A ydych mewn sefyllfa heddiw i ddweud pryd y caiff y polisïau hynny eu cyflwyno fel y gall y swyddogion sy’n gweithio i’r adran sy’n gyfrifol am yr economi eu hyrwyddo? Yn bwysicach, pa drafodaethau y mae eich swyddogion yn eu cael gydag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru fel bod eu hymgynghorwyr economaidd a gweithwyr economaidd proffesiynol yn gallu gweithio i hyrwyddo’r parthau hyn yn eu hardaloedd eu hunain?

 

Edwina Hart: I have told officials that it is important that they take on board the views of local authorities so that we can work together. You alluded to enterprise zones in your constituency; I am particularly keen to see the excellent work that we have been undertaking with the Vale of Glamorgan Council regarding discussions on the enterprise zone in St Athan continue, as it is important that we develop those links together for employment opportunities.

 

Edwina Hart: Rwyf wedi dweud wrth swyddogion ei bod yn bwysig eu bod yn ystyried barn awdurdodau lleol fel ein bod yn gallu cydweithio. Soniasoch am barthau menter yn eich etholaeth; rwy’n arbennig o awyddus i weld y gwaith rhagorol y buom yn ei wneud gyda Chyngor Bro Morgannwg ynghylch trafodaethau ar y parth menter yn Sain Tathan yn parhau, gan ei bod yn bwysig ein bod yn datblygu’r cysylltiadau hynny gyda’n gilydd ar gyfer cyfleoedd swyddi.

 

Leanne Wood: Minister, unemployment is increasing steeply and with the cull of public sector jobs yet to have their full impact here, much worse is yet to come. A number of my Plaid Cymru colleagues have made the point that urgent measures are now needed from the Welsh Government to provide stimulus for the economy. This brings me to the question of Remploy, which has two factories in South Wales Central that employ around 150 people. Westminster wants to wash its hands of supported employment, with no consideration for the lives that will be wrecked as a result. We could avert the closure of these factories if we could devolve the budget to Wales and strengthen the business to those factories through public procurement. I have made numerous attempts to ask the Welsh Government about this proposal and I have repeatedly been given non-committal answers. Remploy could have a bright future in Wales, Minister; is the Welsh Government prepared to do anything about it?

 

Leanne Wood: Weinidog, mae diweithdra yn cynyddu’n gyflym a gyda effaith torri swyddi sector cyhoeddus eto i’w deimlo’n llawn yma, mae llawer gwaeth i ddod. Mae nifer o’m cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi gwneud y pwynt bod angen mesurau ar frys yn awr gan Blaid Cymru i ysgogi’r economi. Daw hyn â mi at gwestiwn Remploy, sydd â dwy ffatri yng Nghanol De Cymru, sy’n cyflogi tua 150 o bobl. Mae San Steffan eisiau cael gwared ar gyflogaeth dan gymorth, heb roi unrhyw ystyriaeth i’r bywydau a gaiff ei dinistrio o ganlyniad. Gallem osgoi cau’r ffatrïoedd hyn pe gallem ddatblygu’r gyllideb i Gymru a chryfhau’r busnes i’r ffatrïoedd hynny drwy gaffael cyhoeddus. Rwyf wedi ceisio gofyn i Lywodraeth Cymru sawl gwaith am y cynnig hwn ac yr wyf wedi cael atebion heb ymrwymiad dro ar ôl tro. Gallai Remploy fod â dyfodol disglair yn Nghymru, Weinidog; a ydyw Llywodraeth Cymru yn barod i wneud unrhyw beth ynghylch y peth?

 

Edwina Hart: I can assure you that I have had regular discussions with my colleague the Minister for Education and Skills who has responsibility for Remploy. We are also aware of the views of the trade union movement in this regard and we are working very hard to ensure that we get a satisfactory solution to some of the issues. However, it is important to recognise that what you say is right: we should try to ensure that people give business to these factories. I will continue my discussions with the Minister for Education and Skills and I am sure that, in due course, a statement will be made on some of these issues.

 

Edwina Hart: Gallaf eich sicrhau fy mod yn trafod yn rheolaidd â’m cyd-Aelod, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, sydd â chyfrifoldeb am Remploy. Rydym hefyd yn ymwybodol o safbwynt y mudiad undeb llafur am hyn ac yr ydym yn gweithio’n galed iawn i sicrhau ein bod yn cael ateb boddhaol i rai o’r materion hyn. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod yr hyn a ddywedwch yn gywir: dylem geisio sicrhau bod pobl yn rhoi busnes i’r ffatrïoedd hyn. Byddaf yn parhau i drafod gyda’r Gweinidog Addysg a Sgiliau ac rwy’n siŵr y bydd datganiad yn cael ei gwneud cyn bo hir ar rai o’r materion hyn.

 

Marchnata a Hyrwyddo Cymru

 

Marketing and Promoting Wales

 

11. Mohammad Asghar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau o ran marchnata a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid. OAQ(4)0049(BET)

 

11. Mohammad Asghar: Will the Minister make a statement on her priorities concerning the marketing and promotion of Wales as a tourist destination. OAQ(4)0049(BET)

 

Edwina Hart: My priority is to promote Wales as a destination with a high-quality tourism offer and, in doing so, attract more visitors to Wales and increase their spend while they are here, which is the important aspect.

 

Edwina Hart: Fy mlaenoriaeth i yw hyrwyddo Cymru fel cyrchfan o safon uchel i dwristiaid ac, wrth wneud hynny, denu mwy o ymwelwyr i Gymru a chynyddu’r arian y maent yn ei wario tra’u bod yma, sef yr hyn sy’n bwysig.

 

Mohammad Asghar: Minister, in 2009, Rhodri Morgan admitted in Washington that it is a struggle to get Americans to understand what Wales is and where Wales is. That was the alarming statement that he made at that time. The First Minister has said that a number of US contacts were made during the Ryder Cup last year in Newport. How will you look to build on those contacts to market and promote Wales to the United States as a tourist destination? Can you provide an update on what the Welsh Government and Visit Wales are doing to boost Wales’s profile in the United States of America?

 

Mohammad Asghar: Weinidog, yn 2009, cyfaddefodd Rhodri Morgan yn Washington ei bod yn anodd cael Americanwyr i ddeall beth yw Cymru a lle y mae Cymru. Dyna’r datganiad brawychus y gwnaeth ar y pryd. Dywedodd y Prif Weinidog fod nifer o gysylltiadau â’r Unol Daleithiau wedi eu gwneud yn ystod Cwpan Ryder yng Nghasnewydd y llynedd. Sut ydych chi’n bwriadu adeiladu ar y cysylltiadau hynny er mwyn marchnata a hyrwyddo Cymru i’r Unol Daleithiau fel cyrchfan i dwristiaid? A allwch chi roi’r diweddaraf ar beth y mae Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru yn eu gwneud i hybu proffil Cymru yn Unol Daleithiau America?

 

Edwina Hart: It is important that we do not just look at one country or one continent, but that we look at the world in terms of tourism opportunities. We had a very good discussion on the budget in committee today, when we looked at the role of Visit Wales and the money that is being allocated to it. I cannot comment on what was said by the former First Minister in Washington, because I was not party to it. However, I can assure you that Visit Wales is focused on getting benefits from wherever we can with regard to getting tourists into Wales. We are looking at the different marketing strategies that may be required to attract tourists to Wales. That includes looking at niche markets, which has previously been discussed in the Chamber; Darren Millar mentioned religious issues to do with faith and so on. We also have the whole heritage and culture aspect and activity holidays, which was a focus that came out in committee today. Afan Argoed is a beautiful place to visit, for example, and should we not be looking at more niche markets? That is the focus of Visit Wales.

 

Edwina Hart: Mae’n bwysig nad ydym ond yn edrych ar un wlad neu un cyfandir, ond ar y byd o ran cyfleoedd twristiaeth. Cawsom drafodaeth dda iawn ar y gyllideb yn y pwyllgor heddiw, pan edrychasom ar rôl Croeso Cymru a’r arian sy’n cael ei ddyrannu iddo. Ni allaf wneud sylw ar beth y dywedodd y cyn-Brif Weinidog yn Washington, achos nid oeddwn yno. Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau bod Croeso Cymru yn canolbwyntio ar gael manteision o le bynnag y gallwn o ran cael twristiaid i Gymru. Rydym yn edrych ar y gwahanol strategaethau marchnata y mae, o bosib, eu hangen i ddenu twristiaid i Gymru. Mae hynny’n cynnwys edrych ar farchnadoedd arbenigol, sydd wedi cael ei drafod o’r blaen yn y Siambr; soniodd Darren Millar am faterion crefyddol yn ymwneud â ffydd ac ati. Mae gennym hefyd yr agwedd treftadaeth a diwylliant a gwyliau gweithgaredd, a oedd yn ganolbwynt a ddaeth allan yn y pwyllgor heddiw. Mae Afan Argoed yn lle prydferth i ymweld ag ef, er enghraifft, ac oni ddylem ni fod yn edrych ar farchnadoedd mwy arbenigol? Dyna yw ffocws Croeso Cymru.

 

Rebecca Evans: Minister, do you agree that, at a time when tourism needs to play an increasingly important part in the economy of Wales—especially the rural economy—we should support and maximise national assets, such as the National Botanic Garden of Wales? Will the Minister join me on a visit to the garden to explore its potential further?

 

Rebecca Evans: Weinidog, ar adeg pan fo angen i dwristiaeth chwarae rhan fwyfwy pwysig yn economi Cymru—yn enwedig yr economi wledig—a ydych yn cytuno y dylech gefnogi a gwneud y mwyaf o asedau cenedlaethol fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru? A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i ymweld â’r ardd i archwilio ei photensial ymhellach?

 

Edwina Hart: Obviously, I will consider your kind invitation, and perhaps we will look for a nice time of the year to visit the National Botanic Garden of Wales. You emphasised the rural economy. I recognise that tourism is about more than the rural economy; it is also about industrial south Wales and other areas, and the need to increase tourism into those areas. I would be delighted to visit with you and acknowledge that it is important that we maximise the potential of tourism. Tourism will be here in 10, 20, 30, 40, 50 and a 100 years’ time.

 

Edwina Hart: Wrth gwrs, gwnaf ystyried eich gwahoddiad caredig, ac efallai y gwnawn edrych ar adeg braf o’r flwyddyn i ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Gwnaethoch chi bwysleisio’r economi wledig. Rwy’n cydnabod bod mwy i dwristiaeth na’r economi wledig; mae hefyd yn ymwneud â de Cymru ddiwydiannol ac ardaloedd eraill, a’r angen i gynyddu twristiaeth yn yr ardaloedd hynny. Byddwn wrth fy modd yn ymweld â chi ac rwy’n cydnabod ei bod yn bwysig ein bod yn manteisio i’r eithaf ar botensial twristiaeth. Bydd twristiaeth yma mewn 10, 20, 30, 40, 50 a 100 mlynedd.

 

Twristiaeth

 

Tourism

 

12. David Rees: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi twristiaeth yng Nghymoedd De Cymru. OAQ(4)0040(BET)

 

12. David Rees: What is the Welsh Government doing to support tourism in the South Wales Valleys. OAQ(4)0040(BET)

 

Edwina Hart: A great deal is being done in the south Wales Valleys to regenerate the former industrial landscape and communities. Tourism is high on the agenda of the multi-million pound investment programmes that have been implemented.

 

Edwina Hart: Mae cryn dipyn yn cael ei wneud yng nghymoedd de Cymru i adfywio’r tirwedd a’r cymunedau diwydiannol blaenorol. Mae twristiaeth yn uchel ar agenda’r rhaglenni buddsoddi gwerth miliynau bunnoedd sydd wedi cael eu rhoi ar waith.

 

David Rees: Thank you, Minister, for mentioning Afan Argoed as a lovely area to visit. However, as a result of an outbreak of phytophthora ramorum on Japanese larch, many trees in the Afan valley are being felled, understandably, which has left a place that was once attractive for forest walks and bike riding in a fluctuating state, while replanting takes place. What can the Government do to support those communities that have gone from being mining communities to communities that now operate on a mechanism of regeneration through tourism?

 

David Rees: Diolch yn fawr, Weinidog, am grybwyll Afan Argoed fel ardal braf i ymweld â hi. Fodd bynnag, o ganlyniad i achosion o phytophthora ramorum ar larwydd Japaneaidd, mae nifer o goed yng nghwm Afan yn cael eu torri lawr, yn ddealladwy ddigon, sydd wedi gadael lle a oedd unwaith yn ddeniadol ar gyfer mynd am dro yn y goedwig a reidio beic mewn cyflwr anwadal, tra bod ailblannu yn digwydd. Beth all y Llywodraeth ei wneud i gefnogi’r cymunedau hynny sydd wedi mynd o fod yn gymunedau glofaol i gymunedau sydd bellach yn gweithredu ar sail adfywio drwy dwristiaeth?

 

Edwina Hart: Of course, the Afan valley is located within the western Valleys regeneration area, which is investing in tourism-related projects over 2010-13. The programme continues to support projects within the Afan valley. We also have the Valleys regional park programme, which is investing £30 million in visitor-economy-related projects for the period up to 2013. This EU-funded project covers the area that was, essentially, the former south Wales coalfield. As a Government, we are putting the necessary investment in to tackle the issues that you have highlighted.

 

Edwina Hart: Wrth gwrs, mae cwm Afan wedi ei leoli yn ardal adfywio gorllewin y Cymoedd, sy’n buddsoddi mewn prosiectau yn ymwneud â thwristiaeth yn ystod 2010-13. Mae’r rhaglen yn parhau i gefnogi prosiectau yng nghwm Afan. Mae gennym hefyd raglen parc rhanbarthol y Cymoedd, sy’n buddsoddi £30 miliwn mewn prosiectau yn ymwneud ag economi ymwelwyr yn y cyfnod hyd at 2013. Mae’r prosiect hwn, a ariennir gan yr UE, yn cwmpasu yr ardal a oedd, yn ei hanfod, yn ardal lofaol de Cymru cyn hynny. Fel Llywodraeth, rydym yn gwneud y buddsoddiad y mae ei angen i fynd i’r afael â’r materion y gwnaethoch eu hamlygu.

 

Suzy Davies: Minister, I am also pleased that you mentioned the Afan valley. However, you may be unaware that the infrastructure plans for the 79 turbines planned for the valley may necessitate the rerouting of a world-class mountain bike route from that valley into another valley, and materially interfere with two others, to the extent that users have said that they may no longer choose the valley for their sport. The Afan valley has lead the way in the development of Wales as a destination country for world-class mountain biking, improving prospects for the generation of wealth and employment in an old mining community. Are you content to let a subsided foreign energy company, which creates no sustainable employment, undo 20 years of hard work by my constituents?

 

Suzy Davies: Weinidog, rwy’n falch eich bod wedi crybwyll cwm Afan. Fodd bynnag, efallai na wyddoch chi efallai y bydd cynlluniau seilwaith ar gyfer y 79 o dyrbinau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer y cwm yn golygu dargyfeirio llwybr beic mynydd o safon byd eang o’r cwm hwnnw i gwm arall, ac yn cael effaith sylweddol ar ddau arall, i’r graddau bod defnyddwyr wedi dweud na fyddant efallai yn dewis y cwm ar gyfer eu camp o hyn allan. Mae cwm Afan wedi arwain y gad o ran datblygu Cymru fel gwlad gyrchfan ar gyfer beicio mynydd o safon byd eang, gan wella cyfleoedd i gynhyrchu cyfoeth a swyddi mewn hen gymuned lofaol. A ydych yn fodlon gadael i gwmni ynni o dramor, sy’n derbyn cymhorthdal, nad yw’n creu unrhyw swyddi cynaliadwy, i ddadwneud 20 mlynedd o waith caled gan fy etholwyr?

 

Edwina Hart: I do not comment on planning issues.

 

Edwina Hart: Nid wyf yn gwneud sylwadau ar faterion cynllunio.

 

Delwedd Gogledd Cymru

 

Image of North Wales

 

13. Ann Jones: Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i wella delwedd Gogledd Cymru i ddenu buddsoddiad o Gymru a thu hwnt. OAQ(4)0054(BET)

 

13. Ann Jones: What efforts is the Welsh Government making to enhance the image of North Wales to attract investment from within and outside of Wales. OAQ(4)0054(BET)

 

Edwina Hart: We are prioritising our investments to provide the right infrastructure, skills, support and research to create a business environment that maximises opportunities for inward investors and indigenous businesses across Wales.

 

Edwina Hart: Rydym yn blaenoriaethu ein buddsoddiadau er mwyn darparu’r seilwaith, sgiliau, cymorth ac ymchwil cywir i greu amgylchedd busnes sy’n manteisio’n llawn ar gyfleoedd i fewnfuddsoddwyr a busnesau cynhenid ledled Cymru.

 

Ann Jones: Thank you for that, Minister. Tourism is integral to the economy of north Wales, as I am sure that you know. It generates about £1.8 billion each year and employs about 38,000 people across north Wales. In 2009, 99 per cent of people who visited the area suggested that they had had a very positive experience, and 93 per cent of them would come back. Do you agree that the boom of this ‘staycation’ and the fact that people are holidaying in the UK could help north-east Wales capitalise on this market to attract businesses and investment to this area?

 

Ann Jones: Diolch am hynny, Weinidog. Mae twristiaeth yn elfen allweddol i economi’r gogledd, fel y gwyddoch mae’n siŵr. Mae’n cynhyrchu tua £1.8 biliwn bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 38,000 o bobl ar draws y gogledd. Yn 2009, awgrymodd 99 y cant o bobl a ymwelodd â’r ardal eu bod wedi cael profiad cadarnhaol iawn, ac y byddai 93 y cant ohonynt yn dychwelyd. A ydych yn credu y gallai’r twf yma mewn ‘gwyliau gartref’ a’r ffaith bod pobl yn mynd ar wyliau yn y DU helpu y gogledd-ddwyrain i fanteisio ar y farchnad hon i ddenu busnesau a buddsoddiad i’r ardal hon?

 

Edwina Hart: Yes, I think that you raise an important point, Ann, about the importance of attracting tourists to that area, and it has, no doubt, been successful. Of course, north-east Wales is supported by Tourism Partnership North Wales, which receives one of the highest levels of funding support of any of the four regions. That has also assisted with this development.

 

Edwina Hart: Rwy’n meddwl eich bod yn codi pwynt pwysig, Ann, am bwysigrwydd denu twristiaid i’r ardal honno, ac nid oes amheuaeth y bu’n llwyddiannus. Wrth gwrs, caiff y gogledd-ddwyrain ei chefnogi gan Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, sy’n derbyn un o’r lefelau uchaf o gymorth ariannol o unrhyw un o’r pedwar rhanbarth. Mae hynny hefyd wedi helpu gyda’r datblygiad hwn.

 

3.00 p.m.

 

Antoinette Sandbach: I hope that you will have seen the fantastic ‘Visit Conwy’ YouTube video, which highlights the type of specialist activity holidays that you were referring to in an earlier answer. However, I am concerned that 38 per cent of people who visit Wales say that pylons detract from their visit. When responding to the National Grid consultation, will you co-ordinate with other Government departments to ensure that there is no third super-grid line across north Wales?

 

Antoinette Sandbach: Yr wyf yn gobeithio y byddwch wedi gweld y fideo YouTube ‘Croeso Conwy’ gwych, sydd yn tynnu sylw at y math o wyliau gweithgareddau arbenigol y cyfeiriasoch atynt mewn ateb yn gynharach. Fodd bynnag, yr wyf yn pryderu bod 38 y cant o bobl sydd yn ymweld â Chymru yn dweud bod peilonau wedi amharu ar eu hymweliad. Wrth ymateb i ymgynghoriad y National Grid, a wnewch chi gydlynu ag adrannau eraill y Llywodraeth i sicrhau nad oes trydedd linell grid uwch ar draws gogledd Cymru?

 

Edwina Hart: I hear the comments that you made regarding that. 

 

Edwina Hart: Yr wyf yn clywed y sylwadau a wnaethoch ynglŷn â hynny.

Hybu Mentergarwch

Promote Entrepreneurship

 

14. Alun Ffred Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hybu mentergarwch. OAQ(4)0039(BET)

14. Alun Ffred Jones: Will the Minister make a statement on the Welsh Government’s plans to promote entrepreneurship. OAQ(4)0039(BET)

 

Edwina Hart: I refer you to the answer that I gave to question 2 from Rebecca Evans.

 

Edwina Hart: Yr wyf yn eich cyfeirio at yr ateb a roddais i gwestiwn 2 gan Rebecca Evans.

 

Alun Ffred Jones: One of the projects that was meant to support entrepreneurship was the POWIS project, which has been discontinued. Could you confirm or otherwise whether the project had achieved or surpassed most of the targets set out in its bid?

 

Alun Ffred Jones: Un o’r prosiectau a oedd i fod i gefnogi entrepreneuriaeth oedd prosiect POWIS, sydd wedi’i derfynu. A allech gadarnhau neu fel arall a oedd y prosiect wedi cyflawni neu ragori ar y rhan fwyaf o’r targedau a nodir yn ei gais?

Edwina Hart: As I have already indicated in the letter that I have written to Members, I have outlined the reasons for the discontinuation of the POWIS project, and I have nothing further to add.

 

Edwina Hart: Fel yr wyf eisoes wedi nodi yn y llythyr a ysgrifennais at yr Aelodau, yr wyf wedi amlinellu’r rhesymau dros derfynu prosiect POWIS, ac nid oes gennyf ddim i’w ychwanegu.

 

Strategaeth ar gyfer Gweithgynhyrchu

Strategy for Manufacturing

 

15. Mark Isherwood: A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgynhyrchu. OAQ(4)0050(BET)

15. Mark Isherwood: Will the Minister outline the Welsh Government’s strategy for manufacturing. OAQ(4)0050(BET)

 

Edwina Hart: The strategy for each of the six original priority sectors established within my department, including advanced materials in the manufacturing sector, will be concluded in the late autumn.

 

Edwina Hart: Caiff strategaeth pob un o’r chwe sector blaenoriaeth gwreiddiol a sefydlwyd o fewn fy adran, gan gynnwys deunyddiau uwch yn y sector gweithgynhyrchu, ei chwblhau yn hwyr yn yr hydref.

 

Mark Isherwood: As we know, north-east Wales will focus on advanced manufacturing, and pivotal to that is Airbus UK, which celebrated a big event last week. With Andrew Davies, the First Minister, and the Member for Alyn and Deeside, I was fortunate to attend the opening of the north factory, at which Carwyn Jones rightly said that it was a fantastic day for Airbus UK and Wales, and at which the Prime Minister, David Cameron, rightly praised the Airbus UK workforce. Therefore, given that the Prime Minister officially opened the new north factory at Broughton, will you take action to remove the article from the Welsh Government website that says that the First Minister carried out that function? 

 

Mark Isherwood: Fel y gwyddom, bydd y gogledd-ddwyrain yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu uwch, ac mae Airbus UK, a oedd yn dathlu digwyddiad mawr yr wythnos diwethaf, yn ganolog i hynny. Gydag Andrew Davies, y Prif Weinidog, a’r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, bûm yn ddigon ffodus i fynychu agoriad ffatri’r gogledd, lle y dywedodd Carwyn Jones yn gwbl gywir ei fod yn ddiwrnod gwych i Airbus UK a Chymru, a lle y gwnaeth Prif Weinidog y DU, David Cameron, canmol, yn gwbl gywir, weithlu Airbus UK. Felly, o ystyried bod Prif Weinidog y DU wedi agor ffatri’r gogledd newydd ym Mrychdyn yn swyddogol, a fyddwch yn cymryd camau i gael gwared ar yr erthygl ar wefan Llywodraeth Cymru sy’n dweud mai Prif Weinidog Cymru a ymgymrodd y swyddogaeth honno?

 

Edwina Hart: I am glad that the Member has time to read the Welsh Assembly Government’s website with such interest. I will refer your comments to my officials.

Edwina Hart: Yr wyf yn falch bod gan yr Aelod yr amser i ddarllen gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r fath awch. Byddaf yn dwyn eich sylwadau at sylw fy swyddogion.

 

Datganiad gan y Llywydd
Statement by the Presiding Officer

 

The Presiding Officer: Before we move to the next item, I wish to announce the result of the legislative ballot held today. I am pleased to announce that Ken Skates may seek the Assembly’s agreement to introduce a Member proposed Bill on continuity from care into adult life. [Applause.]

Y Llywydd: Cyn inni symud at yr eitem nesaf, hoffwn gyhoeddi canlyniad y balot deddfwriaethol a gynhaliwyd heddiw. Yr wyf yn falch o gyhoeddi y caiff Ken Skates geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ar barhad o ofal i fywyd fel oedolyn. [Cymeradwyaeth.]

 

Dadl gan Aelod Unigol o dan Reol Sefydlog Rhif 11.21(iv)
Debate by an Individual Member under Standing Order No. 11.21(iv)

 

Cael Gwared â’r ‘Cosb Gyfreithlon’
An End to ‘Lawful Chastisement’

 

Cynnig NNDM4825 Christine Chapman, Julie Morgan, Lindsay Whittle, Kirsty Williams

 

Motion NNDM4825 Christine Chapman, Julie Morgan, Lindsay Whittle, Kirsty Williams

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

To propose that the National Assembly for Wales:

 

Yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i’r Cynulliad ei hystyried a fyddai’n cael gwared â’r gallu i ddefnyddio ‘cosb gyfreithlon’ fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o ymosod ar blentyn.

Urges the Welsh Government to bring forward legislation for consideration by the Assembly which would end the availability of the defence of ‘lawful chastisement’ for an offence of assaulting a child.

 

Julie Morgan: I move the motion in my name and the names of Christine Chapman, Lindsay Whittle and Kirsty Williams.

 

Julie Morgan: Cynigiaf y cynnig yn fy enw i ac yn enwau Christine Chapman, Lindsay Whittle a Kirsty Williams.

I am pleased to introduce the first backbench-led debate of this kind, which is sponsored by me and the Members for Cynon Valley, South Wales Central and Brecon and Radnorshire. This is a good opportunity to debate this important issue in a non-partisan way, and I am pleased that we have a free vote on it in my party.

 

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r ddadl a arweinir gan y meinciau cefn gyntaf o’r fath, a noddir gennyf fi a’r Aelodau dros Gwm Cynon, Canol De Cymru a Brycheiniog a Sir Faesyfed. Mae hwn yn gyfle da i drafod y mater pwysig hwn mewn ffordd amhleidiol, ac yr wyf yn falch bod gennym bleidlais rydd arno yn fy mhlaid.

We are debating whether the defence of reasonable punishment should be removed from the Children Act 2004. What this means to us in Wales is that if a parent is charged with an assault on his or her child, he or she will no longer be able to use that defence. This is not a new issue for the Assembly. Previous Welsh Governments have supported the removal of this defence, and I have campaigned for it for many years. The United Nations Committee on the Rights of the Child recommended in 1995, 2002 and 2008 that the UK

 

Yr ydym yn trafod a ddylai’r amddiffyniad o gosb resymol gael ei ddileu o Ddeddf Plant 2004. Yr hyn y mae yn ei olygu inni yng Nghymru yw, os cyhuddir rhiant o ymosod ar ei blentyn, ni all ef neu hi ddefnyddio yr amddiffyniad hwnnw mwyach. Nid yw hwn yn fater newydd i’r Cynulliad. Mae Llywodraethau Cymru yn y gorffennol wedi cefnogi cael gwared â’r amddiffyniad hwn, ac yr wyf wedi bod yn ymgyrchu dros hyn ers blynyddoedd lawer. Argymhellodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ym 1995, 2002 a 2008 y dylai’r DU

 

‘prohibit as a matter of priority all corporal punishment in the family, including through the repeal of all legal defences’.

wahardd fel mater o flaenoriaeth pob math o gosb gorfforol yn y teulu, gan gynnwys drwy ddiddymu pob amddiffyniad cyfreithiol.

 

In 2004, the Welsh Assembly Government agreed to put the UN Convention on the Rights of the Child at the heart of all its work for children and young people, and, in 2009, came up with a 10-point action plan called ‘Getting it Right’.

 

Yn 2004, cytunodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth graidd ei holl waith ar gyfer plant a phobl ifanc, ac, yn 2009, cynhyrchodd gynllun gweithredu 10 pwynt o’r enw ‘Gwneud Pethau’n Iawn’.

Priority 10 of the action plan was to work to make physical punishment of children and young people illegal in all situations. That is the position that the Welsh Government has taken in the past. The UNCRC has praised Wales for this, and I am proud to say that we have a history of support for the rights of children in Wales; indeed, it has characterised, and been embedded in, our work on children ever since the Assembly started.

 

Blaenoriaeth 10 y cynllun gweithredu oedd gweithio er mwyn gwneud cosb gorfforol i blant a phobl ifanc yn anghyfreithlon ym mhob sefyllfa. Dyna’r safiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gymryd yn y gorffennol. Mae’r UNCRC wedi canmol Cymru am hyn, ac yr wyf yn falch o ddweud bod gennym hanes o gefnogi hawliau plant yng Nghymru; yn wir, mae wedi bod yn nodwedd o’n gwaith ar blant ers ddechrau’r Cynulliad, ac wedi’i ymsefydlu yn y gwaith hwnnw.

 

This is the first opportunity for us to debate this issue in the fourth Assembly, and we are putting forward the case for stopping physical punishment in the home with the virtually unanimous support of all the children’s organisations that come face-to-face with children in their work. We have had particular support from the NSPCC and the Children Are Unbeatable! Alliance. We also have strong support from the children's commissioner. In a statement that I believe was sent out to all Assembly Members, Keith Towler says that

 

Dyma’r cyfle cyntaf inni gael trafod y mater hwn yn y pedwerydd Cynulliad, ac yr ydym yn cyflwyno’r achos dros atal cosb gorfforol yn y cartref gyda chefnogaeth unfrydol, bron, yr holl sefydliadau plant sy’n dod yn wyneb yn wyneb â phlant yn eu gwaith. Yr ydym wedi cael cefnogaeth yn arbennig gan yr NSPCC a Chynghrair ’Sdim Curo Plant! Mae gennym hefyd gefnogaeth gref gan y comisiynydd plant. Mewn datganiad a anfonwyd at holl Aelodau’r Cynulliad, credaf, dywed Keith Towler mai

 

‘children are the only people in the UK who can be hit without consequences. Children should be entitled to the same level of protection as adults. There’s no such thing as a safe smack…a change in legislation will help shift attitudes and behaviour related to assaulting children.’

 

plant yw’r unig bobl yn y DU y gellir eu curo heb ganlyniadau. Dylai plant gael yr hawl i’r un lefel o amddiffyniad ag oedolion. Nid oes y fath beth â smac ddiogel...bydd newid yn y ddeddfwriaeth yn helpu newid agweddau ac ymddygiad mewn perthynas ag ymosod ar blant.

 

The commissioner for human rights, Thomas Hammarberg, says that the situation

 

Mae’r comisiynydd dros hawliau dynol, Thomas Hammarberg, yn dweud bod sefyllfa lle

 

‘that children, uniquely, should have less protection under the criminal law from assault is discriminating and unimaginable, given children’s obvious special vulnerability’.

 

mae plant, yn unigryw, yn cael llai o amddiffyniad o dan y gyfraith droseddol rhag ymosodiad yn un sydd yn gwahaniaethu ac yn annirnadwy, o ystyried y ffaith bod plant, yn amlwg, yn arbennig o agored i niwed.

 

I know that it is not easy and that this is not an easy debate. Twenty-three out of the 27 EU countries have either brought in fully or are in the process of bringing in a complete ban on physical punishment in the home, but virtually all of them did not have popular support when they started the process, which is a long one. However, they did it because it was right and because, as politicians, we need to lead. Following a change of law in those countries and a public education programme, the number of parents supporting a ban has increased dramatically.

 

Gwn nad yw’n hawdd ac nad yw hon yn ddadl hawdd. Mae 23 gwlad o 27 gwlad yr UE naill ai wedi cyflwyno’n llawn neu yn y broses o gyflwyno gwaharddiad llwyr o gosb gorfforol yn y cartref, ond nid oedd gan bron pob un ohonynt gefnogaeth y boblogaeth pan wnaethant ddechrau ar y broses, sydd yn un hir. Fodd bynnag, gwnaethant hynny oherwydd ei bod yn iawn ac oherwydd, fel gwleidyddion, mae angen inni arwain y ffordd. Yn dilyn newid y gyfraith yn y gwledydd hynny a rhaglen addysg gyhoeddus, mae nifer y rhieni sy’n cefnogi gwaharddiad wedi cynyddu’n ddramatig.

 

Simon Thomas: I thank Julie Morgan for giving way. May I remind her that both of us were involved in a similar attempt to do this through the Children Act 2004 in the House of Commons? It is great that we have an opportunity to look at this in a Welsh context. Does she agree that what is really important about today’s debate is that the concerns of some parents in Wales about being criminalised for giving an occasional smack to their children can be looked at in the context of a properly brought forward piece of legislation from the Government? As backbench Members, we can make our views clear on behalf of our constituents, they can see what the Government proposes, and the process, in which people’s views can change, can be gone into.

 

Simon Thomas: Diolchaf i Julie Morgan am ildio. A gaf fi ei hatgoffa y cymerodd y ddau ohonom ran mewn ymgais debyg i wneud hyn drwy Ddeddf Plant 2004 yn Nhŷ’r Cyffredin? Mae’n wych ein bod yn cael cyfle i edrych ar hyn mewn cyd-destun Cymreig. A ydy hi’n cytuno mai’r hyn sy’n wirioneddol bwysig am y ddadl heddiw yw bod modd i ni edrych ar bryderon rhai rhieni yng Nghymru am gael eu troi’n droseddwyr am roi smac achlysurol i’w plant yng nghyd-destun darn o ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei gyflwyno’n briodol gan y Llywodraeth? Fel Aelodau’r meinciau cefn, gallwn wneud ein barn yn glir ar ran ein hetholwyr, maen nhw’n gallu gweld beth mae’r Llywodraeth yn ei gynnig, ac mae’r broses, ym mha un y gall barn pobl newid, yn rhywbeth y mae modd ei hegluro.

Julie Morgan: I thank the Member for his contribution. I remember working on this in the past and I support his remarks.

 

Julie Morgan: Diolch i’r Aelod am ei gyfraniad. Yr wyf yn cofio gweithio ar hyn yn y gorffennol ac yr wyf yn ategu ei sylwadau.

 

The main thinking behind this debate is to protect children and to give them the same protection as adults; that is our priority. The goal is not to criminalise parents; it is important that we make that point. I have campaigned for a change in the law for many years and the issue that keeps coming up is the fear that ordinary, caring parents who hit their children will be hauled into court for what they may see as a minor incident, and suffer the full force of the law.

 

Y prif syniad y tu ôl i’r ddadl hon yw diogelu plant a rhoi iddynt yr un amddiffyniad ag oedolion; dyna ein blaenoriaeth. Nid troi rhieni’n droseddwyr yw’r nod; mae’n bwysig ein bod yn gwneud y pwynt hwnnw. Yr wyf wedi ymgyrchu dros newid yn y gyfraith am lawer o flynyddoedd a’r mater sy’n codi o hyd yw’r ofn y bydd rhieni cyffredin, gofalgar sy’n curo eu plant yn cael eu llusgo i mewn i’r llys am rywbeth maen nhw’n ei ystyried fel mân ddigwyddiad, a phrofi grym y gyfraith yn llawn.

 

It is important to say, first, that prosecutions in countries where there is a prohibition on physical punishment in the home are rare, and, secondly, that it is not the intention to criminalise parents by changing the law, but to clarify, to deter, to try to raise awareness and to shift the thinking on the physical punishment of children. Laws are about more than prosecution; they can make our priorities clear, promote values that we think are important and help to bring about changes in culture. This would not criminalise parents, in the way that the laws about compulsory education do not criminalise them.

 

Mae’n bwysig dweud, yn gyntaf, fod erlyniadau mewn gwledydd lle mae cosb gorfforol yn y cartref wedi’i gwahardd yn brin, ac, yn ail, nad bwriad newid y gyfraith yw troi rhieni’n droseddwyr ond egluro, atal, ceisio codi ymwybyddiaeth a symud y meddylfryd am gosbi plant yn gorfforol. Mae cyfreithiau yn ymwneud â mwy nag erlyn; gallant wneud ein blaenoriaethau’n glir, hyrwyddo’r gwerthoedd yr ydym yn meddwl sy’n bwysig a helpu sicrhau newidiadau mewn diwylliant. Ni fyddai hyn yn troi rhieni’n droseddwyr, yn yr un modd nad yw’r deddfau ar addysg orfodol yn eu troi’n droseddwyr.

 

I have also heard people argue that this is a private issue, something that should remain within the home and that is not anybody else’s business. However, that reminds me of the arguments that we used to hear about domestic abuse. Do you remember when people used to say ‘It’s only a domestic and it isn’t our concern’? That thinking has shifted completely, and I believe that we are in that process here. With domestic abuse, most of us would accept now that such behaviour is unacceptable, no matter where it occurs or between whom.

 

Yr wyf hefyd wedi clywed pobl yn dadlau bod hyn yn fater preifat, rhywbeth a ddylai aros o fewn y cartref ac nad yw’n fusnes i neb arall. Fodd bynnag, mae hynny’n fy atgoffa o’r dadleuon a arferem eu clywed am gam-drin domestig. A ydych chi’n cofio pan oedd pobl yn arfer dweud, ‘Dim ond mater domestig ydyw ac nid yw’n mater i ni’? Mae’r meddylfryd hwnnw wedi newid yn gyfan gwbl, ac yr wyf yn credu ein bod yn y broses honno yma. Gyda cham-drin domestig, byddai’r rhan fwyaf ohonom yn derbyn yn awr bod ymddygiad o’r fath yn annerbyniol, ni waeth lle mae’n digwydd neu rhwng pwy.

 

I believe that parents will be helped by a clear statement in law that says that smacking, which is a euphemism for hitting, is not acceptable and that it is illegal. They will know where they are, and so will teachers and carers, because it is confusing for care professionals at the moment. We all know that parenting is not easy and we all need help with ways to bring up our children. The Welsh Government has done a lot on this in the past and is doing it now with positive parenting programmes. It is doing a lot of work and offering a lot of support to parents.

 

Yr wyf yn credu y bydd rhieni yn cael eu helpu gan ddatganiad clir yn y gyfraith sy’n dweud bod smacio, sef gair teg am guro, yn annerbyniol a’i fod yn anghyfreithlon. Byddant yn gwybod lle maent yn sefyll, ac felly hefyd athrawon a gofalwyr, gan ei fod yn ddryslyd i weithwyr gofal proffesiynol ar hyn o bryd. Yr ydym i gyd yn gwybod nad yw rhianta yn hawdd a bod angen cymorth gyda ffyrdd o fagu ein plant arnom ni i gyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer ar hyn yn y gorffennol ac yn ei wneud yn awr gyda rhaglenni rhianta cadarnhaol. Mae’n gwneud llawer o waith ac yn cynnig llawer o gefnogaeth i rieni.

 

It is not a change that could be brought in swiftly; we are considering a period of years during which we would work intensively with parents on promotional programmes to try to address their issues and worries. If we were able to change the law, that process should continue after the law has been changed, because we are working towards long-term change. We often talk in the Chamber about how important children are and how we want to do the best for them. Therefore, it is important that we listen to children on this issue. Research has been conducted on the matter, and the comments received included an eight-year-old girl saying, ‘It makes you feel sad’, a seven-year-old boy saying, ‘It feels like you’re going to cry because it hurts you that much’, and a six-year-old girl saying, ‘Inside, your body hurts’.

 

Nid yw’n newid y gellid ei gyflwyno yn gyflym; yr ydym yn ystyried cyfnod o flynyddoedd pan fyddem yn gweithio’n ddwys gyda rhieni ar raglenni hyrwyddo i geisio mynd i’r afael â’u problemau a phryderon. Pe baem yn gallu newid y gyfraith, dylai’r broses honno barhau ar ôl i’r gyfraith gael ei newid, oherwydd ein bod yn gweithio tuag at newid yn yr hirdymor. Yr ydym yn aml yn siarad yn y Siambr am bwysigrwydd plant a sut ydym eisiau gwneud y gorau ar eu cyfer. Felly, mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar blant ar y mater hwn. Mae ymchwil wedi cael ei gynnal ar y mater, ac ymhlith y sylwadau a dderbyniwyd yr oedd merch wyth mlwydd oed yn dweud, ‘Mae’n gwneud i chi deimlo’n drist’, bachgen saith mlwydd oed yn dweud, ‘Mae’n teimlo fel eich bod yn mynd i grio oherwydd ei fod yn brifo cymaint’, a merch chwe blwydd oed yn dweud, ‘Mae eich corff yn brifo tu fewn.’

 

In March of this year, people in Wales voted 2:1 to give us, in this Chamber, law-making powers. Those I spoke to on the doorsteps had every confidence that we would use our powers wisely for the benefit of everyone in Wales. Devolution had earned its stripes. Now, we have an opportunity to use those powers to protect the most vulnerable in Wales, and to try to change the culture. Whatever party you belong to, and whatever your beliefs, we are all in the business of politics to try to change things. I believe that we can change things. This change has happened in other countries, where there has been a change in attitude. This is something that we should do in Wales. We have been ahead of the game on this matter and we have been a shining beacon to other parts of the UK. I feel strongly that this is a great opportunity for us to put down a marker and say something about our aspirations for a culture where children are fully protected.

 

Ym mis Mawrth eleni, pleidleisiodd pobl yng Nghymru 2:1 i roi inni yn y Siambr hon bwerau deddfu. Yr oedd gan y sawl a siaradais i â hwy ar garreg y drws bob ffydd y byddem yn defnyddio ein pwerau yn ddoeth er lles pawb yng Nghymru. Yr oedd datganoli wedi ennill ei blwyf. Yn awr, mae gennym gyfle i ddefnyddio’r pwerau hynny i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac i geisio newid y diwylliant. P’un bynnag yw eich plaid, a beth bynnag yw eich credoau, yr ydym i gyd yn wleidyddion er mwyn ceisio newid pethau. Credaf y gallwn newid pethau. Mae’r newid hwn wedi digwydd mewn gwledydd eraill, lle mae newid agwedd wedi bod. Mae hyn yn rhywbeth y dylem ei wneud yng Nghymru. Yr ydym wedi bod ar flaen y gad ar y mater hwn ac yr ydym wedi bod yn esiampl ddisglair i rannau eraill o’r DU. Teimlaf yn gryf fod hyn yn gyfle gwych inni osod marc a dweud rhywbeth am ein dyheadau i gael diwylliant lle mae plant yn cael eu diogelu’n llawn.

 

The Presiding Officer: I remind Members of the rules of the debate. The movers have 15 minutes to open and close, the Minister has eight minutes to respond, and everyone else has five minutes. I have a long list of speakers; therefore, I hope that you will all stick to your five minutes.

 

Y Llywydd: Atgoffaf yr Aelodau o reolau’r ddadl. Mae gan y cynigwyr 15 munud i gychwyn a chloi, mae gan y Gweinidog wyth munud i ymateb, ac mae gan bawb arall bum munud. Mae gennyf restr hir o siaradwyr; felly, yr wyf yn gobeithio y byddwch i gyd yn cadw at eich pum munud.

 

Darren Millar: I welcome the opportunity to speak this afternoon in the first of these Member-led debates. I hope that this new system will make the Assembly’s business more open to issues of importance for Members and communities.

 

Darren Millar: Croesawaf y cyfle i siarad y prynhawn yma yn y ddadl gyntaf a gaiff ei arwain gan Aelod. Gobeithiaf y bydd y system newydd hon yn gwneud busnes y Cynulliad yn fwy agored i faterion sydd o bwys i Aelodau a chymunedau.

 

The Conservatives will have a free vote on this issue, which will come as no surprise. It will also not be a surprise that I will be opposing the motion before the Chamber this afternoon. I speak in this debate as a father of two as well as an Assembly Member. Few issues surrounding contemporary parenting are more hotly debated than smacking. My office has never been as inundated as it has been regarding this particular parenting matter. We have had scores of e-mails, calls and letters over the past few days.

 

Bydd gan y Ceidwadwyr bleidlais rydd ar y mater hwn; ni fydd hynny’n peri syndod. Yn ogystal, ni fydd yn syndod y byddaf yn gwrthwynebu’r cynnig sydd gerbron y Siambr y prynhawn yma. Yr wyf yn siarad yn y ddadl hon fel tad i ddau, yn ogystal â fel Aelod o’r Cynulliad. Prin yw’r materion sy’n ymwneud â rhianta cyfoes sydd yn cael eu trafod yn fwy brwd na smacio. Nid yw fy swyddfa erioed wedi cael ei foddi cymaint ag y mae ynghylch y mater rhianta penodol hwn. Yr ydym wedi cael llwyth o negeseuon e-bost, galwadau a llythyrau dros y dyddiau diwethaf.

 

In recent years, a method of discipline that has been used by the majority of parents across all cultures for generations has been stigmatised like no other. Understandably, it is an emotive issue, but it is important that the facts do not get lost in the heat of the debate. Children are important and precious treasure for parents. No-one wants to harm their children. I, like everyone in the Chamber this afternoon, do not condone any kind of child abuse—physical or mental. However, I firmly believe that parents should have the right to chastise their own children. A ban on smacking in Wales would criminalise tens of thousands of decent, loving parents who use physical chastisement to discipline their children. It would be nigh on impossible to enforce.

 

Yn y blynyddoedd diwethaf, dyma dull  disgyblu sydd wedi cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o rieni ar draws pob diwylliant am genedlaethau ac sydd wedi cael ei stigmateiddio yn fwy na dim byd arall. Yn ddealladwy, mae’n fater emosiynol, ond mae’n bwysig nad yw'r ffeithiau yn mynd ar goll yng ngwres y ddadl. Mae plant yn drysor pwysig a gwerthfawr i rieni. Nid oes neb eisiau niweidio eu plant. Nid wyf fi, fel pawb arall yn y Siambr y prynhawn yma, yn cydoddef unrhyw fath o gam-drin plant—yn gorfforol neu’n feddyliol. Fodd bynnag, credaf yn gryf y dylai rhieni gael yr hawl i geryddu eu plant eu hunain. Byddai gwaharddiad ar smacio yng Nghymru yn troi degau o filoedd o rieni gweddus, cariadus sy’n defnyddio cosb gorfforol i ddisgyblu eu plant yn droseddwyr. Byddai bron yn amhosibl i’w orfodi.

 

The overwhelming majority of parents know where to draw the line between physical chastisement and abuse, and we should trust that judgment. I am a firm believer that parents are best placed to care for their children, not the Government. No Government should force a parent into raising a child in a particular way. Such decisions are best left to parents. Government should interfere less in family life, not more. Wales does not need a ban on smacking to prevent child abuse; comprehensive legislation is already in place to protect children from abuse, and those who fall foul of the law should face the consequences of their actions. It is a red herring to suggest that a ban on smacking will result in a reduction in abuse cases. UNICEF has reported that the number of child deaths due to maltreatment is higher in countries that have imposed a smacking ban, such as Finland, Denmark and Sweden, than it is, for example, in the United Kingdom.

 

Mae’r mwyafrif llethol o rieni yn gwybod ble i dynnu’r llinell rhwng cosb gorfforol a cham-drin, a dylem ymddiried yn eu gallu hwy i farnu. Yr wyf yn credu’n gryf mai rhieni sydd yn y sefyllfa orau i ofalu am eu plant, nid y Llywodraeth. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth orfodi rhiant i fagu plentyn mewn ffordd arbennig. Mae’n well gadael penderfyniadau o’r fath i rieni. Dylai Llywodraeth ymyrryd yn llai mewn bywyd teuluol, nid yn fwy. Nid oes angen gwaharddiad ar smacio yng Nghymru i atal cam-drin plant; mae deddfwriaeth gynhwysfawr eisoes yn bodoli i amddiffyn plant rhag cam-drin, a dylai’r sawl sy’n torri’r gyfraith wynebu canlyniadau eu gweithredoedd. Codi sgwarnogod yw awgrymu y bydd gwaharddiad ar smacio yn arwain at ostyngiad mewn achosion o gam-drin. Mae UNICEF wedi adrodd bod y nifer o farwolaethau plant o ganlyniad i gamdriniaeth yn uwch mewn gwledydd sydd wedi gwahardd smacio, fel y Ffindir, Denmarc a Sweden, nag yw, er enghraifft, yn y Deyrnas Unedig.

 

3.15 p.m.

 

I accept that we need to promote a range of measures for parents to use when disciplining their children. The naughty step, confining a child to their room, and other measures, can be useful in disciplining a child. However, let us not forget that all those other forms of discipline, when used inappropriately, can also lead to abuse. Confining someone to their bedroom for a long time can be abuse. Physical chastisement is a tool in the box when it comes to disciplining children—it is not the only tool in the box, but it can be an extremely effective and useful way of disciplining a child and far less damaging than some of the other forms of punishment that are suggested by advocates of a ban. Smacking is the ultimate sanction and I will continue to support the ability of parents in Wales to choose it when disciplining their children in future.

 

Yr wyf yn derbyn bod angen inni hyrwyddo amrywiaeth o fesurau ar gyfer rhieni eu defnyddio pan fyddant yn disgyblu eu plant. Gall y gris drwg, cyfyngu’r plentyn i’w hystafell, a mesurau eraill, fod yn ddefnyddiol wrth ddisgyblu plant. Fodd bynnag, gadewch inni beidio ag anghofio y gall yr holl fathau eraill hynny o ddisgyblaeth, pan ddefnyddir yn amhriodol, hefyd arwain at gam-drin. Gallai gyfyngu rhywun i’w hystafell wely am amser hir fod yn cam-drin. Mae cosb gorfforol yn arf pan ddaw i ddisgyblu plant—nid yr unig arf, ond gall fod yn ffordd hynod effeithiol a defnyddiol o ddisgyblu plant a ffordd llawer llai niweidiol na rhai mathau eraill o gosbi a awgrymir gan y rhan sy’n eirioli dros waharddiad. Smacio yw’r gosb eithaf, a byddaf yn parhau i gefnogi gallu rhieni yng Nghymru i’w ddewis pan fyddant yn disgyblu eu plant yn y dyfodol.

I have heard many people say that it is illegal to hit an adult and therefore it should be illegal to hit a child. Let us be honest: children and adults are different. We would not send an adult to their room or confine them to a naughty step: we would not treat an adult in that way. Children are children, and adults are adults. That is why there is a difference in the law—I respect that difference and I believe that it is right.

 

Yr wyf wedi clywed nifer o bobl yn dweud ei fod yn anghyfreithlon i daro oedolyn ac felly dylai fod yn anghyfreithlon i daro plentyn. Gadewch inni fod yn onest: mae plant ac oedolion yn wahanol. Ni fyddem yn anfon oedolyn i’w ystafell neu eu cyfyngu i ris drwg: ni fyddem yn trin oedolyn yn y ffordd honno. Mae plant yn blant, ac mae oedolion yn oedolion. Dyna pam fod gwahaniaeth yn y gyfraith—parchaf y gwahaniaeth hwnnw, a chredaf ei bod yn iawn.

 

The first scientific review of this issue was conducted in the United States by Dr Larzelere from Oklahoma State University and Dr Brett Kuhn from the University of Nebraska. They studied different types of discipline and their findings were interesting. They found that smacking was a more effective form of discipline than 10 of the 13 other forms of discipline that they looked at. Conditional spanking was deemed to be non-abusive and they concluded that it teaches a child to co-operate with milder disciplinary tactics, thereby making spanking less necessary in the future.

 

Cynhaliwyd yr adolygiad gwyddonol cyntaf ar y mater hwn yn yr Unol Daleithiau gan Dr Larzelere o Brifysgol Talaith Oklahoma a Dr Brett Kuhn o Brifysgol Nebraska. Buont yn astudio gwahanol fathau o ddisgyblaeth ac roedd eu canfyddiadau yn ddiddorol. Canfuwyd bod smacio yn ffurf fwy effeithiol o ddisgyblaeth na 10 o’r 13 o fathau eraill o ddisgyblaeth y buont yn astudio. Barnwyd nad oedd smacio amodol yn cam-drin, a daethant i’r casgliad ei fod yn dysgu plant i gydweithredu â thactegau disgyblu mwynach, ac felly’n lleihau’r angen i’w smacio yn y dyfodol.

An Assembly Member rose

 

Aelod Cynulliad a gododd

The Presiding Officer: Sorry, Darren Millar is out of time. He has four seconds to finish.

 

Y Llywydd: Mae’n ddrwg gennyf, mae Darren Millar allan o amser. Mae ganddo bedwar eiliad i orffen.

 

Darren Millar: I want to leave Members with this thought: in New Zealand, the smacking of children was banned in 2007, and the leading family group in New Zealand, Protect Good Parents, said that the ban did nothing to stop unacceptable rates of child abuse, but penalised good parents.

 

Darren Millar: Yr wyf am adael Aelodau gyda’r syniad hwn: yn Seland Newydd, cafodd smacio plant ei wahardd yn 2007, a dywedodd y grŵp teulu blaenllaw yn Seland Newydd, Protect Good Parents, nad oedd y gwaharddiad wedi gwneud dim i atal cyfraddau annerbyniol o gam-drin plant, ond wedi cosbi rhieni da.

 

The Presiding Officer: The naughty step is sounding like a good idea this afternoon. Please stick to five minutes otherwise, if Members keep going over time, we will run out of time for other speakers.

 

Y Llywydd: Mae’r gris drwg yn swnio fel syniad da’r prynhawn yma. Cadwch at bum munud os gwelwch yn dda, fel arall, os bydd Aelodau’n parhau i fynd dros amser, byddem yn rhedeg allan o amser ar gyfer siaradwyr eraill.

 

Joyce Watson: I welcome this debate today. From the outset, I will say that I will support the motion. We heard six years ago, when the UK Government introduced a law against smacking children so hard that it leaves a mark, the same sensational nonsense that we have heard today. Good parents, we were told, will be banged up—it was said then and it is being said now. However, it did not happen. Why did it not happen? It is because the law is perfectly capable of navigating grey areas and prosecuting according to what is in the public interest. The core principle is whether we should abolish the use of parental force for the purposes of correction. I do not believe that smacking is the right way to deal with bad behaviour. It does not help to teach children the difference between right and wrong. However, removing lawful chastisement would also make it easier to protect children and harder to excuse physical abuse. When it comes to the letter of the law, surely it is best to start from the position that hitting a child is wrong and to work backwards from there, rather than saying that it is okay to hit a child this hard, but not that hard. This is not about going after parents who have given their child a tap—that has not happened in the 23 countries that have introduced similar legislation over the past few years. We should trust the police and courts to use sensible discretion. Neither would it stop parents from preventing their children from running out into the road or reaching for a hot stove—we have heard those examples given. That is a myth that opponents perpetuate. Adults will still be able to use force to hold or restrain a child in order to keep them safe, or to carry them out of the supermarket when they misbehave. The crux of the issue is that removing the ambiguity of lawful chastisement would take away any caveat for violence against children, making it easier to prosecute genuine cases of abuse. Surely, that is a sensible approach.

 

Joyce Watson: Yr wyf yn croesawu’r ddadl hon heddiw. O’r cychwyn cyntaf, dywedaf y byddaf yn cefnogi’r cynnig. Clywsom chwe blynedd yn ôl, pan gyflwynodd Llywodraeth y DU gyfraith yn erbyn smacio plant mor galed ei fod yn gadael marc, yr un nonsens syfrdanol yr ydym wedi clywed heddiw. Bydd rhieni da, dywedwyd wrthym, yn cael eu carcharu—dywedwyd hynny bryd hynny ac mae’n cael ei ddweud yn awr. Fodd bynnag, ni ddigwyddodd hynny. Pam na ddigwyddodd hynny? Oherwydd bod y gyfraith yn berffaith abl i ddelio ag ardaloedd annelwig ac erlyn yn ôl yr hyn sydd er budd y cyhoedd. Yr egwyddor graidd yw a ddylwn ddiddymu’r defnydd o rym rhieni at ddibenion cywiriad. Nid wyf yn credu mai smacio yw’r ffordd iawn i ymdrin ag ymddygiad drwg. Nid yw’n helpu i addysgu plant am y gwahaniaeth rhwng da a drwg. Fodd bynnag, byddai dileu cosb gyfreithlon hefyd yn ei gwneud yn haws i amddiffyn plant ac yn anoddach i esgusodi cam-drin corfforol. Pan ddaw at lythyren y gyfraith, onid yw’n well i ddechrau o’r sefyllfa bod bwrw plentyn yn anghywir ac i weithio yn ôl oddi yno, yn hytrach na dweud ei fod yn iawn i fwrw plentyn mor galed â hwn, ond nid mor galed â hynny? Nid yw hyn yn ymwneud â mynd ar ôl rhieni sydd wedi rhoi tap i’w plentyn—nid yw hynny wedi digwydd yn y 23 o wledydd sydd wedi cyflwyno deddfwriaeth debyg dros y blynyddoedd diwethaf. Dylem ymddiried yn yr heddlu a’r llysoedd i ddefnyddio disgresiwn synhwyrol. Ni fyddai ychwaith yn atal rhieni rhag atal eu plant rhag rhedeg i’r ffordd neu estyn am stof boeth—yr ydym wedi clywed yr enghreifftiau hynny’n cael eu crybwyll. Mae hynny’n myth y mae gwrthwynebwyr yn parhau i’w adrodd. Bydd oedolion yn dal yn gallu defnyddio grym i ddal neu rwystro plentyn er mwyn eu cadw’n ddiogel, neu i’w cario allan o’r archfarchnad os ydynt yn camymddwyn. Craidd y mater yw y byddai dileu amwysedd cosb gyfreithlon yn cymryd i ffwrdd unrhyw gafeat ar gyfer trais yn erbyn plant, gan ei wneud yn haws i erlyn achosion gwirioneddol o gam-drin. Yn sicr, dyna ymagwedd synhwyrol.

 

Lindsay Whittle: I speak as a parent who has never smacked his child. Children are like politicians, are they not? They can be frustrating, exasperating, naughty, irritable and downright rude, and it would be illegal for me to slap any politician in this Chamber across the face. However, it is not illegal for me to go home and do it to a child. We have heard from seven or eight of the major children’s charities in Wales that one child a week dies in England and Wales due to abuse. I am sorry that I do not have the figures for Wales alone. One child a week: what price child safety? Who is to say that punishment meted out by some as so-called ‘gentle smacking’ does not become progressively worse? When does the open palm become delivered with such force that it dislocates a jaw, detaches a retina or perforates an eardrum?

 

Lindsay Whittle: Siaradaf fel rhiant sydd erioed wedi smacio ei blentyn. Mae plant fel gwleidyddion, onid ydynt? Gallant fod yn rhwystredig, cythruddol, drwg, yn anynad ac yn gwbl ddigywilydd, a byddai’n anghyfreithlon i mi slapio unrhyw wleidydd yn y Siambr hon ar draws yr wyneb. Fodd bynnag, nid yw’n anghyfreithlon i mi i fynd adref a’i wneud i blentyn. Rydym wedi clywed gan saith neu wyth o’r elusennau mawr i blant yng Nghymru y bydd un plentyn yr wythnos yn marw yng Nghymru a Lloegr oherwydd cam-drin. Mae’n ddrwg gennyf nad oes gennyf y ffigurau ar gyfer Cymru yn unig. Un plentyn yr wythnos: pa bris diogelwch plentyn? Pwy sydd i ddweud na fydd y gosb a weinyddir gan rai fel yr hyn a elwir yn ‘smacio addfwyn’ yn dod yn gynyddol waeth? Pryd fydd y gledr agored yn cael ei ddefnyddio gyda’r fath rym y bydd yn tarfu gên, datgysylltu retina neu’n tyllu pilen y glust?

 

Darren Millar: Will you give way?

 

Darren Millar: A wnewch chi ildio?

Lindsay Whittle: No, because you would not. When does that open palm become a clenched fist? I believe that children deserve the same protection as adults. The United Nations Convention on the Rights of the Child is clear. I would quote article 19 and article 37, but I do not have the time. Reforms work. There are now 23 countries where corporal punishment is illegal, and there is no evidence to suggest that those countries have worse societies than Wales. Appropriate punishment of children should be more about denying treats, and more about teaching children and parents that discipline can be controlled without corporal punishment. We need to teach more about sanctions that can be applied to children without hurting them physically. We desperately need to improve parenting skills—in my opinion, that should be on the national curriculum.

 

Lindsay Whittle: Na, oherwydd ni wnaethoch chi. Pryd fydd y gledr agored yn dod yn ddwrn caed? Credaf fod plant yn haeddu’r un amddiffyniad ag oedolion. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn glir. Byddwn yn dyfynnu erthygl 19 ac erthygl 37, ond nid oes amser. Mae diwygiadau yn gweithio. Bellach, ceir 23 o wledydd lle mae cosb gorfforol yn anghyfreithlon, ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod gan y gwledydd hynny gymdeithasau gwaeth na Chymru. Dylai cosbi plant yn briodol fod yn fwy am wadu danteithion, ac yn fwy am addysgu plant a rhieni y gellir rheoli disgyblaeth heb gosb gorfforol. Mae angen inni ddysgu mwy am sancsiynau y gellir eu cymhwyso i blant heb eu brifo’n gorfforol. Mae angen dybryd arnom ni i wella sgiliau rhianta—yn fy marn i, dylai hynny fod ar y cwricwlwm cenedlaethol.

This will inevitably end up in the law courts. The law is archaic, and dates back to a time when a man could beat his wife, children and servants. Men can no longer beat their wives or servants—they can no longer beat their dogs—but they can beat their children. I do not accept the argument of older generations, and I am of those generations, that it never did them any harm. Where is the evidence to support that statement? There is a lot of anecdotal evidence that children in the past have suffered mentally as well as physically as a result of having to live with alcoholic or violent parents.

 

Bydd hyn yn anochel yn arwain at lysoedd y gyfraith. Mae’r gyfraith yn hynafol, ac yn dyddio’n ôl i gyfnod pan allai dyn curo ei wraig, ei blant a’i weision. Ni all dynion curo eu gwragedd neu’u gweision mwyach—ni allant guro eu cŵn mwyach—ond gallant guro eu plant. Nid wyf yn derbyn dadl cenedlaethau hŷn, ac yr wyf o’r cenedlaethau hynny, na achoswyd byth unrhyw niwed iddynt. Ble mae’r dystiolaeth i gefnogi’r datganiad hwnnw? Mae llawer o dystiolaeth anecdotaidd y dioddefodd plant yn y gorffennol yn feddyliol yn ogystal â chorfforol o ganlyniad i orfod byw gyda rhieni alcoholig neu dreisgar.

 

I am proud to say that I support this motion, and to demonstrate that Wales is a civilised country where the love and understanding of children is part of the very fabric of our nation. I have heard criticism of the Assembly on the radio and television today, with people asking, ‘Is that all they have to discuss—smacking children? Haven’t they got more important issues to discuss?’ I will tell you this—the life of a child is important as far as I am concerned, and that is what I am here to defend. I am a corporate parent, and I will defend the rights of children. Where Wales leads, let Britain—Scotland, England and Northern Ireland—follow. I have been in politics for 40 years, and if I do nothing else in politics but play this small part in helping to create a new law for my country and its children, I will have done my best for society.

 

Yr wyf yn falch i ddweud y cefnogaf y cynnig hwn, ac i ddangos bod Cymru yn wlad wâr lle mae cariad a dealltwriaeth plant yn rhan o ffabrig ein cenedl. Yr wyf wedi clywed beirniadaeth o’r Cynulliad ar y radio a’r teledu heddiw, gyda phobl yn gofyn, ‘A’i smacio plant yw’r unig beth sydd ganddynt i’w drafod? Onid oes ganddynt faterion mwy pwysig i’w trafod?’ Dywedaf hyn wrthych—mae bywyd plentyn yn bwysig o’m rhan i, a dyna beth yr wyf i yma i’w amddiffyn. Yr wyf yn rhiant corfforaethol, a byddaf yn amddiffyn hawliau plant. Lle mae Cymru’n arwain, gadewch i Brydain—yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon—ddilyn. Bûm mewn gwleidyddiaeth am 40 mlynedd, ac os na wnaf dim byd arall mewn gwleidyddiaeth, ond chwarae’r rhan fach hon i helpu i greu cyfraith newydd ar gyfer fy ngwlad a’i phlant, byddaf wedi gwneud fy ngorau i gymdeithas.

 

Senedd, Cymru, Wales: we have spent the last few weeks praying for a rugby team to be unbeatable. It is about time that we started to pray for our children to be unbeatable. I am proud to support this motion.

 

Senedd, Cymru: yr ydym wedi treulio’r ychydig wythnosau diwethaf yn gweddïo am dîm rygbi diguro. Mae’n hen bryd inni ddechrau gweddïo i’n plant i fod yn ddiguro. Yr wyf yn falch o gefnogi’r cynnig hwn.

Kirsty Williams: I welcome the debate that we are having this afternoon and I believe that it is useful for two reasons. First, it gives the Government and the Assembly an opportunity to explore the limitations and boundaries of the Government’s power in this particular area. Secondly, having clarified the position and the power of the Government, it gives us an opportunity to consider whether we should then ask the Government to back up its stated belief on the desirability of ending the defence of reasonable chastisement. After all, it was as early as 2004 that a sizeable majority of Assembly Members debating this very issue regretted the lack of progress that the UK Government was making in this regard, and stated clearly its desire to end this defence. We all appreciate that legislation in this area does bring some strong feelings and passionate views to the fore. For some, especially the libertarians among us, it raises complex philosophical issues.

 

Kirsty Williams: Croesawaf y ddadl yr ydym yn ei chael y prynhawn yma, a chredaf ei bod yn ddefnyddiol am ddau reswm. Yn gyntaf, mae’n rhoi cyfle i’r Llywodraeth a’r Cynulliad i edrych ar y cyfyngiadau a ffiniau pŵer y Llywodraeth yn y maes penodol hwn. Yn ail, wedi egluro’r sefyllfa a grym y Llywodraeth, mae’n rhydd inni gael cyfle i ystyried a ddylwn wedyn ofyn i’r Llywodraeth i gefnogi ei gred ei fod yn ddymunol i roi terfyn ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Wedi’r cyfan, mor gynnar â 2004, gwnaeth mwyafrif sylweddol o Aelodau’r Cynulliad a oedd yn trafod yr union fater hwn gresynu wrth y diffyg cynnydd yr oedd Llywodraeth y DU yn ei wneud yn hyn o beth, a datgan yn glir ei awydd i ddod â’r amddiffyniad hwn i ben. Yr ydym oll yn gwerthfawrogi bod deddfwriaeth yn y maes hwn yn dod â rhai teimladau cryf a barn angerddol i’r amlwg. I rai, yn enwedig y rhyddfrydolwyr yn ein plith, mae’n codi materion athronyddol cymhleth.

However, for me, the issue is rather simple. Adults in our society are protected from being hit by another adult. In 1976, this country and the law decided that it was not permissible for adults to hit one another in their home; it was not right for a man or a woman to commit an act of violence against their spouse or partner out of, I dare say, a desire to modify their behaviour or to make them just that little bit more compliant. I want nothing less for Welsh children: nothing less than equal protection under the law.

 

Fodd bynnag, i mi, mae’r mater yn eithaf syml. Mae oedolion yn ein cymdeithas yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu bwrw gan oedolyn arall. Yn 1976, penderfynodd y wlad hon a’r gyfraith nad oedd yn ganiataol i oedolion i fwrw ei gilydd yn eu cartref; nid oedd yn iawn i ddyn neu fenyw i gyflawni gweithred o drais yn erbyn eu priod neu eu partner oherwydd, meiddiaf ddweud, eu bod am addasu eu hymddygiad neu eu gwneud ychydig yn fwy ufudd. Yr wyf am weld dim llai ar gyfer plant Cymru: dim llai nag amddiffyniad cyfartal dan y gyfraith.

 

Such legislation, were it to come forward from the Government and to be supported by this Assembly, would be a natural extension to the decision, again collectively agreed by the previous Assembly, to enshrine the United Nations’ charter for children’s rights in our law. It is already there: we collectively, and, I believe, unanimously, voted for that. Such legislation would be a natural extension of the decision that has already been made. It would also provide an added impetus to change attitudes and practice, because UNICEF’s report ‘Child Disciplinary Practices at Home’ demonstrated that three out of four parents surveyed did not consider physical punishment necessary in child raising, and it also noted that law reform to prohibit all forms of physical punishment is a necessary element to drive forward attitudinal and practical change within countries. The debate today will not change the law overnight, but it does give the Government an opportunity, as Simon Thomas said, to reflect on the views of this Chamber and to come forward with legislation that addresses practically some of the concerns that have been raised today.

 

Byddai deddfwriaeth o’r fath, pe bai i ddod gerbron gan y Llywodraeth ac yn cael ei chefnogi gan y Cynulliad hwn, yn estyniad naturiol i’r penderfyniad, a gytunwyd eto ar y cyd gan y Cynulliad blaenorol, i ymgorffori siarter y Cenhedloedd Unedig am hawliau plant yn ein cyfraith. Mae yno eisoes: rydym wedi, ar y cyd ac, yn unfrydol, credaf, wedi pleidleisio dros hynny. Byddai deddfwriaeth o’r fath yn estyniad naturiol i’r penderfyniad a wnaed eisoes. Byddai hefyd yn rhoi hwb ychwanegol i newid agweddau ac arferion, oherwydd dangosodd adroddiad UNICEF ‘Child Disciplinary Practices at Home’ nad oedd dri allan o’r pedwar rhiant a holwyd yn ystyried cosbi corfforol yn angenrheidiol wrth fagu plentyn, a nododd hefyd bod diwygio’r gyfraith i wahardd pob math o gosb gorfforol yn elfen angenrheidiol i fwrw ymlaen â newid agwedd a newid ymarferol o fewn gwledydd. Ni fydd y ddadl heddiw yn newid y gyfraith dros nos, ond mae’n rhoi cyfle i’r Llywodraeth, fel y dywedodd Simon Thomas, i fyfyrio ar safbwyntiau yn y Siambr hon ac i ddod ymlaen â deddfwriaeth sy’n ymdrin yn ymarferol â rhai o’r pryderon a godwyd heddiw.

Let us be clear: for me this is not about letting children run free. It is obvious that children need discipline and boundaries, and that parents need strategies to modify children’s behaviour. However, there are more appropriate and effective methods of doing that. Many parents admit that when they smack their children it is because they are tired, frustrated, stressed and at the end of their tether. They take no pleasure in it afterwards when they reflect on what they have done. To argue that a smack, or physical chastisement of children, is done in controlled and carefully thought-through circumstances is, in the vast majority of cases, simply a myth. However, it is not a myth that what starts off as a simple smack can in some cases escalate to serious damage. As I said, for me, it is simple: I want equal protection under the law for all our citizens, including our youngest.

 

Gadewch inni fod yn glir: i mi, nid yw hwn yn ymwneud â gadael i blant i redeg yn rhydd. Mae’n amlwg bod angen ar blant ddisgyblaeth a ffiniau, a bod angen ar rieni strategaethau i addasu ymddygiad plant. Fodd bynnag, ceir dulliau mwy priodol ac effeithiol o wneud hynny. Mae nifer o rieni yn cyfaddef pan maen nhw yn smacio eu plant mae oherwydd eu bod wedi blino, yn rhwystredig, dan straen ac ar ben eu tennyn. Nid ydynt yn cael unrhyw bleser ohono wedyn pan fyddant yn adlewyrchu ar yr hyn y maent wedi ei wneud. I ddadlau bod slap, neu gosb gorfforol i blant, yn cael ei wneud mewn amgylchiadau wedi eu rheoli ac ar ôl ystyriaeth gofalus dim ond yn myth yn y mwyafrif helaeth o achosion. Fodd bynnag, nid yw’n myth bod yr hyn sy’n dechrau fel slap syml mewn rhai achosion yn gallu dwysáu i niwed difrifol. Fel y dywedais, i mi, mae’n syml: yr wyf am amddiffyniad cyfartal dan y gyfraith ar gyfer ein holl ddinasyddion, gan gynnwys ein hieuengaf.

 

Mick Antoniw: This is an important and controversial motion. It raises serious issues not only relating to the protection of children, but also in relation to the rights and responsibilities of parents. I in no way wish to speak against the spirit of the motion, but I wish to raise concerns about the motion itself and the potential difficulties that it raises that are still to be resolved. No-one should use violence against children.

Mick Antoniw: Mae hwn yn gynnig pwysig a dadleuol. Mae’n codi materion difrifol, nid yn unig yn ymwneud ag amddiffyn plant, ond hefyd mewn perthynas â hawliau a chyfrifoldebau rhieni. Nid wyf, mewn unrhyw ffordd, yn dymuno siarad yn erbyn ysbryd y cynnig, ond dymunaf godi pryderon am y cynnig ei hun a’r anawsterau posibl y mae’n codi sydd yn dal angen cael eu datrys. Ni ddylai unrhyw un ddefnyddio trais yn erbyn plant.

 

3.30 p.m.

 

Mick Antoniw: We have strict laws which prohibit this, not least the common law offence of assault and its variations. I should mention at this stage that, in my view, equal to the physical abuse of children is the psychological abuse of children.

 

Mick Antoniw: Mae gennym gyfreithiau llym sy’n gwahardd hyn, nid lleiaf y gyfraith gyffredin o ymosod a’i hamrywiaethau. Dylwn ddweud yn y fan hon fod cam-drin plant yn gorfforol, yn fy marn i, gyfystyr â cham-drin plant yn seicolegol.

 

My concern is that the motion requests the introduction of legislation with a very specific objective, namely the removal of the defence of lawful chastisement, and consequently, the criminalisation of what is currently accepted as lawful chastisement. I know that it is not the intention or the primary objective of those who have moved the motion to criminalise parents—they have made that clear—but that would be a direct consequence of the motion, whatever their intention. If such criminalisation were to take place, it is not good enough to say that that is not the main objective; it has to form part of a bigger package of positive parenting support. If you create a criminal offence, then the law must be enforced. An argument that a public interest test will mean few prosecutions is not sustainable in practice. If that is the case, why introduce it? What is the point of making something a criminal offence if, in effect, you are not going to enforce the law?

 

Fy mhryder i yw bod y cynnig yn gofyn am gyflwyno deddfwriaeth gydag amcan benodol iawn, sef dileu’r amddiffyniad cosb gyfreithlon, ac o ganlyniad, gwneud cosb gyfreithlon, fel y caiff ei derbyn ar hyn o bryd, yn drosedd. Gwn nad bwriad na phrif amcan y rheini a gynigiodd y cynnig yw gwneud rhieni yn droseddwyr—maent wedi dweud hynny’n glir—ond dyna fyddai canlyniad uniongyrchol y cynnig, beth bynnag fo’u bwriad. Os caiff ei gwneud yn drosedd, nid yw’n ddigon da dweud nad dyna oedd y prif amcan; rhaid iddo fod yn rhan o becyn cymorth rhianta cadarnhaol ehangach. Os ydych yn creu trosedd gyfreithiol, yna mae’n rhaid gorfodi’r gyfraith. Nid yw’r ddadl y bydd prawf o’r budd cyhoeddus yn arwain at lai o erlyniadau yn gynaliadwy yn ymarferol. Os dyna’r gwirionedd, pam ei gyflwyno? Pa ddiben gwneud rhywbeth yn drosedd gyfreithiol os nad ydych, i bob pwrpas, yn mynd i orfodi’r gyfraith?

 

More importantly, however, is my concern that this is not really the correct procedure for the introduction of such legislation. I am uneasy about the introduction of legislation by motion. In addition, this has not formed part of the Government’s manifesto, and the Government therefore does not have a mandate, beyond its manifesto. Of more consequence, however, is that it requires the Government to do something and it predetermines the outcome of any consultation. In effect, it means that any consultation is effectively overridden. A cross-party Members’ Bill would be the most appropriate way of achieving the legislative objectives that the movers of this motion seek, as it would provide for an open and fair consultation process that is not predetermined and which would enable the Assembly to give the proper level of consideration and scrutiny. I am convinced that smacking is wrong, but I am not yet convinced that legislation is the most effective way of dealing with this particular issue. It may be, and it may be that, in due course, I will support legislation if I was satisfied it would be effective and workable. However, because I am not satisfied as to what such legislation would entail, and what it would mean in practice, I will be abstaining on the motion.

 

Yn bwysicach na hynny, fodd bynnag, yw fy mhryder nad dyma, mewn gwirionedd, yw’r weithdrefn gywir i gyflwyno deddfwriaeth o’r fath. Rwy’n anesmwyth am gyflwyno deddfwriaeth drwy gynnig. At hynny, nid yw hwn wedi bod yn rhan o faniffesto’r Llywodraeth, felly nid oes ganddo fandad y tu hwnt i’w faniffesto. Yn fwy arwyddocaol, fodd bynnag, mae’n gofyn i’r Llywodraeth wneud rhywbeth ac y mae’n rhagdybio canlyniad unrhyw ymgynghoriad. Mae hyn yn golygu bod unrhyw ymgynghoriad yn cael ei ddiystyru, i bob pwrpas. Bil Aelodau trawsbleidiol fyddai’r modd mwyaf effeithiol o gyflawni’r amcanion deddfwriaethol y mae cynigwyr y cynnig hwn yn eu ceisio, gan y byddai’n darparu proses ymgynghori agored a theg nad yw wedi ei rhagdybio ac a fyddai’n galluogi’r Cynulliad i ystyried a chraffu yn briodol. Rwyf wedi fy argyhoeddi bod smacio yn anghywir, ond ni chefais fy argyhoeddi eto mai deddfwriaeth yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ymdrin â’r mater penodol hwn. Efallai ei fod, ac efallai y byddaf, ymhen amser, yn cefnogi deddfwriaeth pe bawn yn fodlon y byddai yn effeithiol a bod modd ei gweithredu. Fodd bynnag, gan nad wyf yn fodlon am yr hyn y byddai deddfwriaeth o’r fath yn ei olygu, a beth fyddai yn ei olygu yn ymarferol, byddaf yn ymatal ar y cynnig.

 

Mark Isherwood: In 2000, the UK Department of Health, under the then Labour Government, launched a consultation document containing measures that would eventually lead to a ban on hitting a child with an implement such as a cane or belt. However, the proposals stopped short of banning ‘mild physical rebukes’, saying that the upbringing of children will remain a private matter for parents. During the passage of the Children’s Act 2004 through the House of Lords, the clause 56 amendment, proposed by Lord Lester, was agreed by 226 to 91 on a free vote. This became section 58 of the Children’s Act 2004, limiting the use of the defence of reasonable punishment so that it could no longer be used when people are charged with offences against a child, such as causing actual bodily harm or cruelty. As Tim Loughton, a Conservative MP, said during the Commons debate,

 

Mark Isherwood: Yn 2000, lansiodd Adran Iechyd y DU, o dan y Llywodraeth Lafur ar y pryd, ddogfen ymgynghori a fyddai yn y pen draw yn arwain at wahardd bwrw plentyn gyda gwrthrych fel ffon neu wregys. Fodd bynnag, nid oedd y cynigion yn mynd mor bell â gwahardd ‘cosb gorfforol ysgafn’, gan ddweud y bydd magu plant yn parhau i fod yn fater preifat i rieni. Yn ystod pasio Deddf Plant 2004 drwy Dŷ’r Arglwyddi, cytunwyd ar welliant cymal 56, a gynigiwyd gan yr Arglwydd Lester, o 226 i 91 ar bleidlais rydd. Daeth hyn yn adran 58 Deddf Plant 2004, a oedd yn cyfyngu ar amddiffyniad cosb resymol fel na ellid ei ddefnyddio mwyach pan gaiff pobl eu cyhuddo o droseddau yn erbyn plentyn, megis achosi niwed corfforol gwirioneddol neu greulondeb. Fel y dywedodd Tim Loughton, AS Ceidwadol, yn ystod y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin,

 

‘Smacking is a last resort if a child has failed to respond to anything else, especially if the child is causing harm to siblings or putting himself or others in danger’.

 

Pan fetho popeth arall y bydd un yn troi at smacio, os yw plentyn wedi methu ag ymateb i unrhyw beth arall, yn enwedig os ydyw’r plentyn yn peri niwed i frodyr a chwiorydd neu’n rhoi ei hun neu eraill mewn perygl.

 

He quoted opinion polls, the latest of which from MORI, showed that, at that time, 85 per cent of parents said that we should allow smacking to continue. Forty per cent of people said that enforcing a ban on smacking would be a waste of police time, and only 12 per cent said that it should be illegal in all circumstances. The then UK Government consultation found that 70 per cent of the public opposed a change in the law, generating a Labour Ministerial statement that ran,

 

Dyfynnodd o bolau piniwn, ac roedd y diweddaraf ohonynt gan MORI yn dangos bod 85 y cant o rieni, ar y pryd, yn dweud y dylem ganiatáu i smacio barhau. Dywedodd 40 y cant o bobl y byddai gorfodi gwaharddiad ar smacio yn wastraff o amser yr heddlu, a dim ond 12 y cant a ddywedodd y dylai fod yn anghyfreithlon mewn unrhyw amgylchiadau. Canfu ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y pryd fod 70 y cant o’r cyhoedd yn gwrthwynebu newid yn y gyfraith, gan greu datganiad gan Weinidog Llafur a ddywedodd,

 

‘We do not believe that any further change to the law at this time would be appropriate. It would neither command widespread public support nor be capable of consistent enforcement.’

 

Nid ydym yn credu y byddai unrhyw newid pellach i’r gyfraith ar hyn o bryd yn briodol. Ni fyddai’n ennyn cefnogaeth y cyhoedd yn gyffredinol nac yn gallu ymarfer gorfodaeth gyson.

The then Labour Prime Minister said

 

Dywedodd y Prif Weinidog Llafur ar y pryd

 

‘Our position is that it is a matter of individual choice for parents and the Government believe that most parents accept and understand there is a difference between discipline and abuse.’

 

Ein safbwynt ni yw mai mater o ddewis unigol y rhieni ydyw, a chred y Llywodraeth fod y mwyafrif o rieni yn derbyn ac yn deall bod gwahaniaeth rhwng disgyblaeth a cham-drin.

The then UK Children’s Minister, Margaret Hodge said that

 

Dywedodd Margaret Hodge, Gweinidog Plant y DU ar y pryd,

 

‘the Government cannot support what amounts to an absolute ban on smacking…it is vital that we protect children from violence and abuse…Clause 56 provides additional protection for children and tightens the existing law.’

 

Ni all y Llywodraeth gefnogi’r hyn sy’n gyfystyr â gwaharddiad llwyr ar daro plant...mae’n hanfodol ein bod yn amddiffyn plant rhag trais a cham-drin...Mae cymal 56 yn darparu diogelwch ychwanegol ar gyfer plant ac yn tynhau’r gyfraith gyfredol.

She said that

 

Dywedodd

 

‘It is nonsense and wrong to suggest that clause 56 would create a new loophole, or that it would legitimise acts of harm and abuse.’

 

Mae’n nonsens ac yn anghywir i awgrymu y byddai cymal 56 yn creu bwlch newydd, neu y byddai’n cyfreithloni gweithredoedd o niwed a cham-drin.

She added that

 

Ychwanegodd

 

‘Clause 56 provides additional protection for children, but it does not criminalise parents for administering a light smack to their children.’

 

Mae cymal 56 yn darparu diogelwch ychwanegol ar gyfer plant, ond nid yw’n gwneud rhieni yn droseddwyr am roi smacen ysgafn i’w plant.

Julie Morgan: For the Member’s information, Margaret Hodge has, since that time, joined the organisation Children are Unbeatable! and feels strongly that there should be no physical punishment in the home.

 

Julie Morgan: Er gwybodaeth i’r Aelod, mae Margaret Hodge ers hynny wedi ymuno â mudiad ’Sdim Curo Plant! ac yn teimlo’n gryf na ddylai cosbi corfforol fod yn rhan o weithgareddau’r aelwyd.

 

Mark Isherwood: I will come to what Margaret Hodge has subsequently said and initiated. During the passage of the Bill, she also gave a commitment that the UK Government would review the practical consequences of section 58 and seek parents’ views on smacking two years after the legislation came into effect. That review, published in October 2007 found that

 

Mark Isherwood: Dof at beth y mae Margaret Hodge wedi ei ddweud ac wedi ei gychwyn ers hynny. Yn ystod y broses o basio’r Bil, rhoddodd ymrwymiad hefyd y byddai Llywodraeth y DU yn adolygu goblygiadau ymarferol adran 58 ac yn ceisio barn rhieni ar smacio ddwy flynedd ar ôl i’r ddeddfwriaeth ddod i rym. Canfu’r adolygiad hwnnw, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2007

 

‘Whilst many parents say they will not smack, a majority of parents say that smacking should not be banned outright.’

 

Tra bod llawer o rieni yn dweud na fyddant yn smacio, mae mwyafrif y rhieni yn dweud nad ddylai smacio gael ei wahardd yn llwyr.

The review concluded that

 

Daeth yr adolygiad i’r casgliad

 

‘It is clear that section 58 has improved legal protection for children by restricting the use of the reasonable punishment defence in court proceedings’.

 

ei bod yn amlwg bod adran 58 wedi gwella amddiffyniad cyfreithiol ar gyfer plant drwy gyfyngu ar y defnydd o’r amddiffyniad o gosbi rhesymol mewn achosion llys.

In response, the then UK Government stated that it would retain the law in its current form to prevent

 

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth y DU ar y pryd y byddai’n cadw’r gyfraith fel ag yr oedd er mwyn atal

 

‘the use of the defence of reasonable punishment in any proceedings for an offence of cruelty to a child or assault’.

 

y defnydd o’r amddiffyniad o gosbi rhesymol mewn unrhyw achos am drosedd o greulondeb i blentyn neu ymosodiad.

Christine Chapman: Will you take an intervention?

 

Christine Chapman: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

 

Mark Isherwood: I do not have time, sorry.

 

Mark Isherwood: Nid oes gennyf amser, mae’n ddrwg gennyf.

 

The Crown Prosecution Service states that

 

Dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron:

 

‘for minor assaults committed by an adult upon a child that result in injuries such as grazes, scratches, abrasions, minor bruising, swelling, superficial cuts or a black eye, the appropriate charge will normally be ABH for which the defence of “reasonable chastisement” is no longer available. However, if the injury amounts to no more than reddening of the skin, and the injury is transient and trifling…the reasonable chastisement defence remains available’.

 

Ar gyfer mân ymosodiadau a wneir gan oedolyn ar blentyn, sydd yn arwain at anafiadau fel sgathriadau, crafiadau, ysgryffiniadau, mân gleisio, chwyddo, toriadau arwynebol neu lygad ddu, y cyhuddiad priodol fel arfer fydd gwir niwed corfforol, lle nad yw’r amddiffyniad o ‘gosbi rhesymol’ bellach ar gael. Fodd bynnag, os nad yw’r anaf yn ddim mwy na gwrid ar y croen, a lle bod yr anaf yn fyrhoedlog ac yn ddibwys...bydd yr amddiffyniad o gosbi rhesymol yn parhau i fod ar gael.

 

Therefore, instead of criminalising millions of decent, loving parents who use a smack from time to time, we must recognise the clear difference between smacking and child abuse, which the vast majority of parents are well able to recognise. This debate is a distraction, when our full focus should be on the growing reports of the sexual abuse, exploitation and forced labour of children. Indeed, domestic violence statistics that I was given this week indicate that children are present during 41 per cent of domestic violence incidents. The overwhelming majority of the population say that the then Labour UK Government got it right on its legislation in this area. As one MP said, when challenged on this, that they are sometimes afraid that we are going to become a country where everything is either compulsory or forbidden.

 

Felly, yn lle gwneud miliynau o rieni da, cariadus sy’n rhoi smacen bob hyn a hyn yn droseddwyr, rhaid i ni gydnabod y gwahaniaeth clir rhwng smacio a cham-drin plant, sy’n rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o rieni yn fwy nag atebol o’i adnabod. Ymyrraeth yw’r ddadl hon, pan ddylai ein sylw llawn fod ar yr adroddiadau cynyddol o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol, eu hecsbloetio a’u gorfodi i weithio. Yn wir, dengys ystadegau trais yn y cartref a gefais yr wythnos hon fod plant yn bresennol mewn 41 y cant o ddigwyddiadau trais yn y cartref. Dywed y rhan fwyaf o’r boblogaeth fod Llywodraeth Lafur y DU ar y pryd wedi taro’r cydbwysedd cywir yn ei deddfwriaeth yn y maes hwn. Fel y dywedodd un AS, pan gawsant eu herio ar hyn, maent weithiau ofn ein bod am ddod yn wlad lle mae popeth naill ai yn orfodol neu wedi ei wahardd.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Hoffwn ddiolch i’r Llywydd am ei llwyddiant yn dod â’r drefn hon i’r Cynulliad, a diolchaf hefyd i’r Pwyllgor Busnes am ei gefnogaeth. Mae’n bwysig iawn ein bod, fel corff etholedig, yn gallu gwneud yr hyn yr ydym yn ei wneud heddiw, sef annog y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth i’w hystyried yn y Cynulliad. Dyna’r cyfan y mae’r cynnig hwn yn ei wneud. Mae llawer o’r dadleuon yr ydym wedi’u clywed yn bethau a fyddai’n cael eu galw mewn lle arall yn ddadleuon ‘Ail Ddarlleniad’ neu hyd yn oed yn areithiau pwyllgor ar Fil sydd wedi’i gyflwyno. Y cyfan yr ydym yn ei wneud yw defnyddio’n cyfle fel Aelodau i alw ar y Llywodraeth i ddatblygu deddfwriaeth, ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud hynny.

 

Lord Elis-Thomas: I thank the Presiding Officer for successfully putting this system in place in the Assembly, and I also thank the Business Committee for its support. It is very important that we, as an elected body, can do what we are doing today, namely encourage the Government to introduce legislation for consideration by the Assembly. That is all this motion does. Many of the arguments that we have heard are, I am afraid, what would be called, in another place, ‘Second Reading’ arguments or even committee stage speeches on a Bill that has been introduced. All we are doing is using our opportunity as Members to call on the Government to develop legislation, and it is important that we should do that.

 

Fel sy’n hysbys i lawer, yr wyf wedi cefnogi ymgyrch y mudiadau plant er 2000, ac wedi pleidleisio dros gynnig tebyg i hwn yn San Steffan—byddaf yn gwneud yr un peth y prynhawn yma. Yr wyf yn gwneud hyn oherwydd bod yr hyn sy’n digwydd yma heddiw yn gwbl gyson â’r modd y mae deddfwriaeth Cymru o ran trin plant yn datblygu. Y ddadl gwbl eglur a chlir i mi yw’r canlynol: nid plant yw plant, ond dinasyddion Cymru. Maent yn derbyn gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u darparu gan Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru, ac maent yn dilyn cyfundrefnau addysg sydd wedi’u gosod ar eu cyfer. Maent hefyd yn derbyn, mewn amgylchiadau teuluol anodd, gefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol. Felly, maent yn ddinasyddion llawn. Nid darpar ddinasyddion, is-ddinasyddion, na rhyw fath o ddinasyddion i’w trin yn wahanol yn foesegol ac yn gyfreithiol i ddinasyddion eraill yw plant. Yr ydym wedi gwneud darpariaeth ar eu cyfer.

 

As is well-known to many, I have been a supporter of the children’s organisations’ campaign since 2000, and I have voted in favour of a similar motion to this one at Westminster—I will do likewise this afternoon. I will do so because what is happening here today is entirely consistent with the way in which Welsh legislation is developing in terms of its treatment of children. This is the clear argument for me: children are not children, but citizens of Wales. They receive public services that have been provided by the Welsh Government and Welsh Ministers, and they go through educational systems that have been put in place for them. They also receive, in difficult family circumstances, the support of social services. Therefore, they are full citizens. Children are not citizens in the making, some sub-species of citizen, or citizens that are to be treated differently, either ethically or legally, to other citizens. We have made provision for them.

 

Darren Millar: Thank you for taking the intervention. I recognise that all children, and everybody who lives in Wales, are citizens of this country, but do you accept that the law treats children differently to adults? That is the point that I was making earlier when I referred to the fact that children are children and adults are adults.

 

Darren Millar: Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rwy’n cydnabod fod pob plentyn, a phawb sy’n byw yng Nghymru, yn ddinasyddion y wlad hon, ond a ydych yn derbyn fod y gyfraith yn trin plant yn wahanol i oedolion? Dyna oedd y pwynt yr oeddwn yn ei wneud ynghynt pan gyfeiriais at y ffaith mai plant yw plant ac oedolion yw oedolion.

 

Lord Elis-Thomas: That is why, this afternoon, I want us to begin the process of changing the Welsh law book.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Dyna pam, y prynhawn yma, yr wyf am inni ddechrau ar y broses o newid y llyfr statud Cymreig.

 

Oherwydd mae’n ymddangos i mi ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru ystyried—[Torri ar draws.]

 

Because it seems to me that it is appropriate for the Welsh Government to consider—[Interruption.]

 

I am sorry; are you seeking to intervene further?

 

Mae’n ddrwg gennyf; a ydych chi’n ceisio ymyrryd eto?

 

The Presiding Officer: Could we have some order in this debate?

 

Y Llywydd: A allwn ni gael rhywfaint o drefn yn y ddadl hon?

 

Darren Millar: Of course; thank you for allowing me to speak. I just wanted to raise the inconsistency between your supporting a motion regarding piercing for under-16s yesterday and then regarding children in a different light today.

 

Darren Millar: Wrth gwrs. Diolch am ganiatáu i mi siarad. Roeddwn eisiau sôn am yr anghysondeb rhyngoch chi yn cefnogi cynnig ynghylch tyllu i bobl o dan 16 oed ddoe ac wedyn yn ystyried plant mewn goleuni gwahanol heddiw.

 

The Presiding Officer: I am sorry, but that is not relevant.

 

Y Llywydd: Mae’n ddrwg gennyf, ond nid yw hynny’n berthnasol.

 

Lord Elis-Thomas: Thank you very much, Presiding Officer. I am enjoying having your defence in this Chamber from Mr Millar.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy’n mwynhau cael fy amddiffyn gennych yn y Siambr hon rhag Mr Millar.

 

Mae un dadl arall heddiw sydd yn gysylltiol â’r ddadl dinasyddiaeth, sef y ddadl seicolegol. Yr wyf yn ffodus o fod yn ymwneud â phrifysgol sydd wedi arloesi ym maes magwraeth a seicoleg plant. Cafodd cyfaill agos i mi ei hanrhydeddu yn ddiweddar, sef Judy Hutchings, yr athro seicoleg, sydd wedi bod yn gyfrifol am raglen y Blynyddoedd Rhyfeddol—datblygiad o raglen Webster-Stratton yn yr Unol Daleithiau a rhaglen sydd wedi ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru. A minnau wedi gweld y gwaith gofalus sydd wedi ei wneud i ofalu am ein dinasyddion ifanc, byddai’n gwbl anghyson i mi feddwl ei bod yn briodol i ni beidio ag ystyried sail cyfreithiol newydd i hawliau plant.

 

There is one further argument that is linked to the issue of citizenship, namely the psychological argument. I am very fortunate to be involved with a university that has been very innovative in the field of child psychology and upbringing. A close friend of mine was honoured recently, namely Judy Hutchings, the psychology professor, who has been responsible for the Incredible Years programme—a development of the Webster-Stratton programme in the United States and a programme that has been supported by the Welsh Government. As I have seen the careful work that has been done to care for our young citizens, it would be entirely inconsistent of me to think that it would be appropriate for us not to consider a new legal basis for the rights of children.

 

Felly, yr wyf yn apelio at y rhai ohonoch sy’n sôn am ymatal, neu’r rhai sy’n ansicr, i beidio â gwrando ar yr hyn sydd yn cael ei ddweud o’r ochr arall, a mentro i edrych ar y posibilrwydd o ddeddfu unwaith eto am gyfiawnder i holl ddinasyddion Cymru.

 

Therefore, I appeal to those of you who are talking of abstaining, or those who are still uncertain, not to listen to what has been said on the other side, and to venture to consider the possibility of legislating once again to provide justice for all the citizens of Wales.

 

Jenny Rathbone: This is an emotive subject, and something that has engaged many of our constituents, as Darren Millar has alluded to. We have to recognise that public opinion is mixed on this and that it is a hotly debated subject on both sides of the argument. There is also little consistency in the way in which people put their arguments. The evidence mentioned earlier by the Conservative Member was that seven out of 10 parents have used minor physical punishment on their children at some point, but evidence in the same study also noted that four out of 10 parents said that they thought it is never acceptable to smack a child. They have agreed with that even though they acknowledged having at some point smacked their children. I admit, on the odd occasion, to having smacked my child, but I have increasingly moved to the position that it is something that we need to outlaw, because children are not our possessions to dispose of—

 

Jenny Rathbone: Mae hwn yn bwnc emosiynol, ac yn rhywbeth sydd wedi mynd â bryd nifer o’n hetholwyr, fel y soniodd Darren Millar. Mae’n rhaid i ni gydnabod mai cymysg yw barn y cyhoedd ar hyn a bod dadl boeth ar y ddwy ochr ar y pwnc. Nid oes fawr o gysondeb ychwaith yn y modd y mae pobl yn cyflwyno eu dadleuon. Y dystiolaeth y soniwyd amdani yn gynharach gan yr Aelod Ceidwadol oedd bod saith o bob 10 rhiant wedi defnyddio mân gosb gorfforol ar eu plant ar ryw adeg, ond nododd tystiolaeth yn yr un astudiaeth fod pedwar o bob 10 rhiant yn dweud eu bod yn meddwl nad yw byth yn dderbyniol i smacio plentyn. Maent wedi cytuno â hynny er iddynt gydnabod eu bod wedi smacio eu plant ar ryw adeg. Rwy’n cyfaddef fy mod i, ambell waith, wedi smacio fy mhlentyn, ond rwyf wedi symud fwyfwy at y safbwynt ei fod yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud yn anghyfreithlon, oherwydd nid eiddo yw ein plant i’w waredu—

 

Russell George: How do you propose to outlaw this, because most cases of smacking take place in the home, with no witnesses? I am not suggesting that, because there are no witnesses, you do not legislate, but you take my point.

 

Russell George: Sut ydych chi’n cynnig gwneud hyn yn drosedd, gan fod y mwyafrif o achosion o smacio yn digwydd yn y cartref, heb unrhyw dystion? Nid wyf yn awgrymu na ddylech ddeddfu, gan nad oes tystion, ond fe welwch fy mhwynt.

 

Jenny Rathbone: Much more important than changing the law is changing the behaviour and attitudes of people towards children. One of the most depressing things is to watch the way in which adults, whose relationships break down, fight over their children as if they were their possessions, instead of being able to put their own disappointments and conflicts to one side and look rationally at the best outcomes for their children after the breakdown of their own relationship. Therefore, it is about changing the culture of our attitudes towards children. I entirely agree that a smacking ban on its own would not achieve the outcome that we desire.

 

Jenny Rathbone: Mae newid ymddygiad ac agweddau pobl at blant yn llawer pwysicach na newid y gyfraith. Un o’r pethau tristaf yw gweld sut mae oedolion, pan fo’u perthynas yn torri i lawr, yn ymladd dros eu plant fel pe baent yn eiddo iddynt, yn hytrach na gallu rhoi eu siomedigaethau a’u cynnen i’r neilltu ac edrych yn rhesymol ar y canlyniadau gorau i’w plant ar ôl i’w perthynas nhw eu hunain dorri i lawr. Felly, mae’n ymwneud â newid diwylliant ein hagweddau at blant. Rwy’n cytuno’n llwyr na fyddai gwahardd smacio ar ei ben ei hun yn cyflawni’r hyn yr ydym yn dymuno ei weld.

 

Much more important than changing the law is changing those attitudes.

 

Mae newid yr agweddau hynny yn llawer pwysicach na newid y gyfraith.

3.45 p.m.

 

Jenny Rathbone: How many times have we been out on housing estates and seen the sign ‘No Ball Games’? That is a case of adults putting up notices in the interests of adults without any concern for how children are going to be able to play freely and safely. Of course, that does not mean that children must not have respect for adults, particularly elderly adults, in the way that they play. However, I would suggest that smacking is hardly an effective way of ensuring that.

 

Jenny Rathbone: Sawl gwaith ydym ni wedi bod allan ar ystadau tai a gweld yr arwydd ‘Dim Gemau Pêl’? Mae hynny’n achos o oedolion yn gosod hysbysiadau er lles oedolion heb unrhyw bryder am sut y mae plant yn mynd i allu chwarae yn rhydd ac yn ddiogel. Wrth gwrs, nid yw hynny’n golygu na ddylai plant gael parch at oedolion, yn enwedig oedolion oedrannus, yn y ffordd y maent yn chwarae. Fodd bynnag, prin fod smacio yn ffordd effeithiol o sicrhau hynny, byddwn i’n awgrymu.

 

Being a parent does not come with instructions and in this complex, fragmented world, with the latest consumer goodies being dangled in front of everyone’s eyes and generations of families split up by long distances instead of people living around the corner, one of the most important things that we can do is promote positive parenting. It is the most important aspect of this debate. It should be noted that, when Sweden introduced its smacking ban in 1979, there was a massive public information campaign. It was the largest public information campaign ever conducted in that country, and it included information on milk cartons, in antenatal classes and in schools.

 

Nid oes cyfarwyddiadau yn dod â bod yn rhiant ac yn y byd cymhleth, rhanedig hwn, gyda’r pethau da diweddaraf i ddefnyddwyr yn cael eu siglo o flaen llygaid pawb a chenedlaethau o deuluoedd wedi’u gwahanu gan bellteroedd hir yn hytrach na phobl yn byw rownd y gornel, un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud yw hyrwyddo rhianta cadarnhaol. Honno yw’r agwedd bwysicaf ar y ddadl hon. Dylid nodi, pan gyflwynodd Sweden ei gwaharddiad ar smacio plant yn 1979, bu ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus enfawr. Honno oedd yr ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus fwyaf a gynhaliwyd erioed yn y wlad honno, ac roedd yn cynnwys gwybodaeth ar gartonau llaeth, mewn dosbarthiadau cyn-geni ac mewn ysgolion.

 

In Wales, we need to ensure that our professionals—our health visitors, midwives and teachers—are also giving the best possible parenting advice and that those messages are consistent. That will involve training, funding and guidance. We must also acknowledge the excellent work being done with the most vulnerable families and the parents who are finding it most difficult to bring up their children in difficult circumstances. For example, the NSPCC has the ‘Encouraging better behaviour’ packs, Children in Wales has ‘Help at Hand’, and Barnardo’s has ‘Getting Positive About Discipline’. Then, we have the roll-out of the Flying Start programme, of which I am a huge fan.

 

Yng Nghymru, mae angen inni sicrhau bod ein gweithwyr proffesiynol—ein hymwelwyr iechyd, bydwragedd ac athrawon—hefyd yn rhoi’r cyngor rhianta gorau posibl a bod y negeseuon hynny yn gyson. Byddai hynny’n golygu hyfforddiant, cyllido ac arweiniad. Rhaid inni hefyd gydnabod y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gyda’r teuluoedd mwyaf agored i niwed a’r rhieni sydd yn ei chael fwyaf anodd i fagu eu plant mewn amgylchiadau anodd. Er enghraifft, mae pecynnau i annog gwell ymddygiad gan yr NSPCC, mae gan Plant yng Nghymru ‘Help wrth Law’, ac mae gan Barnardo’s ‘Getting Positive About Discipline’. Yna, mae gennym gyflwyniad y rhaglen Dechrau’n Deg, yr wyf yn ffan mawr ohono.

The Presiding Officer: Order. Can you wind up, please?

 

Y Llywydd: Trefn. A allwch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?

Jenny Rathbone: Next month, I am going to visit a Families and Schools Together scheme, run by Save the Children, where pupils and families learn to collaborate by doing simple tasks together. For some families, that is rocket science. There is a great deal that we can do to ensure that we are using innovative and creative ways to help parents discipline their children without resorting to smacking.

 

Jenny Rathbone: Y mis nesaf, rwy’n mynd i ymweld â chynllun ‘Families and Schools Together’, sy’n cael ei redeg gan Achub y Plant, lle mae disgyblion a theuluoedd yn dysgu i gydweithio drwy wneud tasgau syml gyda’i gilydd. I rai teuluoedd, mae hynny’n eithriadol o anodd. Mae llawer iawn y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn defnyddio ffyrdd arloesol a chreadigol i helpu rhieni i ddisgyblu eu plant heb droi at smacio.

Byron Davies: Thank you for the opportunity to speak in this debate. I rise to oppose the motion. I am sure that the Members in whose names the motion was tabled have the best of intentions, however, it is my belief that it is misguided and that the authors are ill-informed with regard to the real responsibilities of parenthood. In particular, I refer to the emotional nonsense from Lindsay Whittle, who, in fact, needs to study basic criminal law. He will find that there is plenty to protect children in the cases of the examples he gave.

 

Byron Davies: Diolch ichi am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Codaf i wrthwynebu’r cynnig. Yr wyf yn siŵr bod gan yr Aelodau a gyflwynodd y cynnig yn eu henwau y bwriadau gorau, fodd bynnag, fy nghred i yw ei fod yn annoeth a bod yr awduron yn anwybodus o ran y cyfrifoldebau gwirioneddol o fod yn rhieni. Yn enwedig, cyfeiriaf at y nonsens emosiynol gan Lindsay Whittle, sydd, mewn gwirionedd, angen astudio cyfraith trosedd sylfaenol. Bydd yn gweld bod digon i amddiffyn plant yn yr achosion o’r enghreifftiau a roddodd.

The Presiding Officer: Order. The Member spoke from the heart, and I do not appreciate your calling it nonsense. You do not have to agree with it.

 

Y Llywydd: Trefn. Siaradodd yr Aelod o’r galon, ac nid wyf yn eich gwerthfawrogi yn ei alw yn nonsens. Nid oes rhaid ichi gytuno ag ef.

Byron Davies: Okay. To bring this back to a more practical level, many of us here are parents. Indeed, looking around the Chamber, I suspect that some may be grandparents. If successful, this motion would enter the lives and homes of law-abiding families across Wales and have an impact on the manner in which we raise our children. I must confess that, during my earlier years, I was subjected to the occasional clip behind the ear or two by my parents, and these values and boundaries have remained with me for my entire life. The fact that my father was a policeman did not leave me much room for manoeuvre, but I am proud to say that my son was brought up in a similar way, with boundaries being set by a clip around the ear. He is now a very well-rounded character, who respects authority and is making a very valuable contribution to our society.

 

Byron Davies: Iawn. I ddod â hyn yn ôl i lefel fwy ymarferol, mae nifer ohonom yma yn rhieni. Yn wir, wrth edrych o amgylch y Siambr, yr wyf yn amau y gallai rhai fod yn neiniau a theidiau. Os bydd yn llwyddiannus, byddai’r cynnig hwn yn treiddio i mewn i fywydau a chartrefi teuluoedd sy’n parchu’r gyfraith ledled Cymru ac yn cael effaith ar y modd yr ydym yn magu ein plant. Rhaid imi gyfaddef, yn ystod fy mlynyddoedd cynharach, fe ddioddefais glusten neu ddwy gan fy rhieni, ac mae’r gwerthoedd a’r ffiniau hyn wedi aros gyda mi trwy gydol fy mywyd. Nid oedd y ffaith bod fy nhad yn blismon yn gadael llawer o le i mi droi, ond yr wyf yn falch o ddweud y magwyd fy mab mewn ffordd debyg, gyda ffiniau yn cael eu gosod gan roi clusten. Erbyn hyn mae’n gymeriad cytbwys iawn, sy’n parchu awdurdod ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn i’n cymdeithas.

 

If Members will forgive me, I would like to refer to my past experience. I spent 32 years as an operational detective in some of the more deprived areas of this country, investigating crimes involving children from common assault to murder, and I cannot accept for one moment that outlawing smacking by a responsible parent would have prevented any of these dreadful offences. It is total naivety to suppose that those intent on inflicting cruelty on children would be thwarted by the removal of the right of caring and loving parents to moderately correct their children.

 

Os bydd Aelodau yn maddau imi, hoffwn gyfeirio at fy mhrofiad yn y gorffennol. Treuliais 32 mlynedd fel ditectif gweithredol mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad hon, yn ymchwilio i droseddau yn ymwneud â phlant, o ymosod cyffredin i lofruddiaeth, ac ni allaf dderbyn am eiliad y byddai gwahardd smacio gan riant cyfrifol wedi atal unrhyw un o’r troseddau erchyll hyn. Mae’n naïfrwydd llwyr i dybio y byddai’r rhai sy’n benderfynol o achosi niwed i blant yn cael eu rhwystro gan ddileu hawl rhieni cariadus i geryddu eu plant yn gymedrol.

Ann Jones: Will you take an intervention?

 

Ann Jones: A gymerwch chi ymyriad?

Byron Davies: No, I have got a lot to get through, sorry. I could never support a motion that would put parents in fear of disciplining their own children. As a nation, we suffer far too much from social interference, and we need to draw a line in the sand on this issue. Yes, we must do all we can to minimise child abuse, and we must be ready and willing as a society to step in and act when a parent or guardian goes too far, but we must not generalise. Indeed, we cannot and must not regulate parenthood.

 

Byron Davies: Na, mae gen i lawer i’w ddweud, mae’n ddrwg gennyf. Ni allaf fyth gefnogi cynnig a fyddai’n rhoi ofn ar rieni i ddisgyblu eu plant eu hunain. Fel cenedl, rydym yn dioddef gormod o lawer o ymyrraeth gymdeithasol, ac mae angen inni dynnu llinell yn y tywod ar y mater hwn. Oes, mae’n rhaid inni wneud popeth a allwn i leihau cam-drin plant, a rhaid inni fod yn barod fel cymdeithas i gamu i mewn a gweithredu pan mae rhiant neu warcheidwad yn mynd yn rhy bell, ond ni ddylem gyffredinoli. Yn wir, ni allwn ac ni ddylem reoleiddio bod yn rhiant.

 

Christine Chapman rose

 

Christine Chapman a gododd

 

Byron Davies: What concerns me about this motion is the premise that every parent is a bad parent and that we should regulate them. I believe that we should be encouraging responsible parenthood and starting from the baseline that parents across Wales are good parents. As a society, it is incumbent upon every one of us to protect our children through responsible behaviour and a watchful eye—not to create a nanny state that will not fix the problem, but will remove responsibility.

 

Byron Davies: Yr hyn sy’n fy mhoeni am y cynnig hwn yw’r dybiaeth bod pob rhiant yn rhiant gwael, ac y dylid eu rheoleiddio. Credaf y dylem fod yn annog rhianta cyfrifol a dechrau o’r llinell sylfaen bod rhieni ledled Cymru yn rhieni da. Fel cymdeithas, mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i amddiffyn ein plant drwy ymddygiad cyfrifol a chadw llygad barcud—nid i greu gwladwriaeth faldodus na fydd yn datrys y broblem ond yn dileu cyfrifoldeb.

I am sure that every Member in the Chamber has experienced the same public outcry to this nonsensical motion. My office has been inundated with e-mails, letters and phone calls from social workers, health professionals, police officers and many concerned parents and grandparents. The message is that this is not the way forward and that regular families throughout Wales do not agree. I urge the Chamber to give real thought and consideration to the consequences of this proposed legislation and think before voting from a parent’s perspective. We must never criminalise, or be seen to criminalise, the moderate correction of children by responsible parents. I cannot impress on you strongly enough the need to oppose this motion.

 

Yr wyf yn siŵr bod pob Aelod yn y Siambr wedi cael yr un profiad o glywed gwrthlefau’r cyhoedd i’r cynnig hurt hwn. Mae fy swyddfa wedi cael ei boddi gan negeseuon e-bost, llythyrau a galwadau ffôn gan weithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, swyddogion yr heddlu a nifer o rieni a neiniau a theidiau pryderus. Y neges ydyw nad dyma’r ffordd ymlaen ac nad ydyw teuluoedd cyffredin ledled Cymru yn cytuno. Anogaf y Siambr i feddwl ac ystyried o ddifrif ganlyniadau’r ddeddfwriaeth arfaethedig hon ac ystyried safbwynt y rhiant cyn pleidleisio. Ni ddylem fyth troseddoli, neu gael ein gweld yn troseddoli, rhieni sy’n ceryddu eu plant yn gymedrol. Ni allaf bwysleisio’n ddigon cryf yr angen i wrthwynebu’r cynnig hwn.

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Yr wyf yn ymateb i’r cynnig sydd gerbron ar ran Llywodraeth Cymru.

 

The Deputy Minister for Children and Social Services (Gwenda Thomas): I am responding to the motion that is before us on behalf of the Welsh Government.

I welcome this debate today, because it focuses the spotlight back on the need to protect our children from all types of harm. By this, I mean physical and emotional harm. I am sure that, in framing this debate, we are not underestimating the impact on children of emotional abuse. As a Government and, I am sure, as a National Assembly, we believe that hitting children is wrong. This is a position rooted in our beliefs about rights and respect. Increasingly, we see negative images of children and young people and comments about a lack of respect. Of course, we need children to learn and show respect. However, there is a real danger that those important messages that we want children to understand about respecting others are lost if they themselves are shown scant respect and are hit by adults.

 

Croesawaf y ddadl hon heddiw, oherwydd mae’n canolbwyntio’r sylw yn ôl ar yr angen i ddiogelu ein plant rhag pob math o niwed. Gan hyn, yr wyf yn golygu niwed corfforol ac emosiynol. Yr wyf yn siŵr, wrth lunio’r ddadl hon, nad ydym yn bychanu’r effaith ar blant o gam-drin emosiynol. Fel Llywodraeth, ac, yr wyf yn siŵr, fel Cynulliad Cenedlaethol, ein bod yn credu bod taro plant yn beth drwg. Mae hon yn sefyllfa sydd wedi’i gwreiddio yn ein credoau am hawliau a pharch. Yn gynyddol, rydym yn gweld delweddau negyddol o blant a phobl ifanc a sylwadau am ddiffyg parch. Wrth gwrs, mae angen i blant ddysgu a dangos parch. Fodd bynnag, mae perygl gwirioneddol bod y negeseuon pwysig hynny yr ydym am i blant eu deall ynglŷn â sut i barchu eraill yn cael eu colli os mai yn anaml iawn y maen nhw eu hunain yn derbyn parch ac yn cael eu taro gan oedolion.

 

As you know, treating children with respect is a feature of the Welsh Government’s seven core aims, which form the basis for our national priorities and objectives. The aims also seek that children are free from abuse and have a safe home and community that supports physical and emotional wellbeing. Across those homes and communities, we need to develop progressive and sustainable approaches to behavioural change and for everyone to understand and believe that physical punishment is unacceptable in any circumstances. That requires a cultural change, reinforcing positive attitudes. Criminalising possibly ingrained parental behaviour is one option—though not to be undertaken lightly—but we also need to think about culture. We need to understand why some parents see no alternative to hitting and ensure that we can take them with us, by showing clearly that positive parenting skills have better and longer-lived results. There is a wealth of research supporting our assumptions that hitting children reduces emotional intelligence and, in fact, has the effect of worsening—not improving—behaviour. As a Government, we are continuing to work with our partners in local government and the health and education sectors to make these step changes and promote positive approaches to parenting, to break the cycle of physical punishment for children and young people. 

 

Fel y gwyddoch, mae trin plant â pharch yn un o nodweddion saith nod craidd Llywodraeth Cymru, sy’n sail ar gyfer ein blaenoriaethau ac amcanion cenedlaethol. Mae’r nodau hefyd yn ymofyn bod plant yn rhydd o gamdriniaeth ac yn cael cartref a chymuned ddiogel sy’n cefnogi eu lles corfforol ac emosiynol. Ar draws y cartrefi a chymunedau hynny, mae angen inni ddatblygu dulliau blaengar a chynaliadwy i newid ymddygiad ac i bawb ddeall a chredu bod cosb gorfforol yn annerbyniol o dan unrhyw amgylchiadau. Mae hynny’n gofyn am newid diwylliannol, gan atgyfnerthu agweddau positif. Un opsiwn yw troseddoli ymddygiad cynhenid posibl rhieni—er nid ar chwarae bach y dylid gwneud hynny—ond mae angen inni hefyd feddwl am ddiwylliant. Mae angen inni ddeall pam nad yw rhai rhieni yn gweld dewis arall ond i daro a sicrhau y gallwn fynd â hwy gyda ni, drwy ddangos yn glir bod sgiliau rhianta cadarnhaol yn cael canlyniadau gwell sy’n parhau am gyfnod hwy. Ceir cyfoeth o ymchwil sy’n cefnogi ein rhagdybiaethau bod taro plant yn lleihau deallusrwydd emosiynol ac, yn wir, yn cael yr effaith o waethygu—nid gwella—ymddygiad. Fel Llywodraeth, rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid mewn llywodraeth leol a’r sectorau iechyd ac addysg i wneud y newidiadau sylweddol hyn ac i hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at fagu plant, i dorri’r gylchred o gosb gorfforol i blant a phobl ifanc.

 

Our manifesto, and now our programme for government, reinforced our commitment to work to make physical punishment of children and young people unacceptable through the promotion of positive alternatives. The Welsh Government will drive this commitment with vigour. Already, our Families First and Flying Start programmes, as well as our support of the Incredible Years programme, show a commitment to encouraging the right whole-family approaches and we are increasing our investment in these programmes. Similarly, we have promoted work with children and young people themselves. This aims to raise their awareness and inform their actions, both as citizens and as future parents, and to help them enjoy successful relationships within their families.

 

Roedd ein maniffesto, ac yn awr ein rhaglen lywodraethu, yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i weithio i wneud cosbi plant a phobl ifanc yn gorfforol yn annerbyniol trwy hyrwyddo dewisiadau amgen cadarnhaol. Bydd Llywodraeth Cymru yn gyrru’r ymrwymiad hwn yn egnïol. Eisoes, mae ein rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg, yn ogystal â’n cefnogaeth i’r rhaglen Blynyddoedd Rhyfeddol, yn dangos ymrwymiad i annog yr ymagweddau cydgysylltiedig iawn sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan ac yr ydym yn cynyddu ein buddsoddiad yn y rhaglenni hyn. Yn yr un modd, yr ydym wedi hyrwyddo gwaith gyda phlant a phobl ifanc eu hunain. Nod hyn yw codi eu hymwybyddiaeth a bod yn sail i’w camau gweithredu, fel dinasyddion ac fel rhieni’r dyfodol, ac i’w helpu i fwynhau cydberthnasau llwyddiannus o fewn eu teuluoedd.

 

The Families First programme is taking such a whole-family approach. We are already seeing evidence of local authorities using initial Families First funding to develop positive parenting. Essentially, we need to equip parents with the tools to deal with difficult behaviour when they are under pressure and have reached their tipping point. Much of the problem relates to parents coping with their own stress and being able to deflate a stressful environment.

 

Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn cymryd y fath ymagwedd cydgysylltiedig sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan. Yr ydym eisoes yn gweld tystiolaeth o awdurdodau lleol yn defnyddio arian cychwynnol Teuluoedd yn Gyntaf i ddatblygu rhianta cadarnhaol. Yn y bôn, mae angen inni roi’r arfau i rieni i ddelio ag ymddygiad anodd pan fyddant o dan bwysau ac wedi cyrraedd eu pwynt trobwynt. Mae llawer o’r broblem yn ymwneud â rhieni’n ymdopi â’u straen eu hunain a’u gallu i ddadchwyddo amgylchedd sy’n peri straen.

 

Our parenting programmes have been very successful and they are being rolled out across a range of our programmes. A core element of Flying Start is the provision of parenting courses. We also have a long-standing funding relationship with Incredible Years Cymru, both in relation to classroom management and positive parenting strategies. These interventions can have a significant and lasting impact on parenting.

 

Mae ein rhaglenni rhianta wedi bod yn llwyddiannus iawn ac yn cael ei gyflwyno ar draws amrywiaeth o’n rhaglenni. Elfen graidd Dechrau’n Deg yw’r ddarpariaeth o gyrsiau rhianta. Hefyd, mae gennym berthynas ariannu hirsefydlog gyda Blynyddoedd Rhyfeddol Cymru, o ran rheoli ystafell ddosbarth a strategaethau rhianta cadarnhaol. Gall yr ymyriadau hyn gael effaith sylweddol a pharhaol ar rianta.

Of course, given our track record, we have an absolute commitment to protecting children. Our preference is not to criminalise, but to promote positive attitudes and behaviour through our cultural levers. I recognise that we still have work to do to persuade those who would defend hitting children, and I believe that the policies and programmes of this Government will make a major contribution to winning hearts and minds here in Wales.

 

Wrth gwrs, o ystyried ein hanes, mae gennym ymrwymiad llwyr i amddiffyn plant. Nid troseddoli yw’n blaenoriaeth ni, ond i hybu agweddau ac ymddygiad cadarnhaol drwy ein hysgogiadau diwylliannol. Yr wyf yn cydnabod bod dal gennym waith i'w wneud i berswadio’r rhai a fyddai’n amddiffyn taro plant, a chredaf y bydd y polisïau a rhaglenni’r Llywodraeth hon yn gwneud cyfraniad mawr i ennill calonnau a meddyliau yma yng Nghymru.

In the meantime, I do not want to add to the problems of those families who do not have at their disposal the means and necessary skills to parent more positively. I would be fearful of criminalising parents, especially our most vulnerable. A great deal of preparatory work would need to be done to pave the way for legislation of this sort, and we would not be able to bring forward legislation during the term of this Assembly. However, I am committed to retaining the option of legislating at some future date, if we cannot achieve the significant change we seek through other means.      

            

Yn y cyfamser, nid wyf am ychwanegu at y problemau o ran y teuluoedd hynny nad oes ganddynt at eu defnydd y modd a sgiliau angenrheidiol er mwyn rhianta’n fwy cadarnhaol. Byddai ofn gennyf droseddoli rhieni, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed sydd gennym. Byddai angen gwneud llawer iawn o waith paratoi i baratoi’r ffordd ar gyfer deddfwriaeth o’r math hwn, ac ni fyddem yn gallu cyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor hwn y Cynulliad. Fodd bynnag, yr wyf wedi ymrwymo i gadw’r opsiwn o ddeddfu ar ryw ddyddiad yn y dyfodol, os na allwn gyflawni’r newid sylweddol a geisiwn trwy ddulliau eraill.

 

Christine Chapman: I thank all those Members who have contributed today to this very important debate. Again, I thank my colleagues, Kirsty Williams, Julie Morgan and Lindsay Whittle, for bringing this motion forward with me today.

 

Christine Chapman: Diolch i’r holl Aelodau a gyfrannodd at y ddadl bwysig iawn hon heddiw. Unwaith eto, diolchaf fy nghyd-Aelodau, Kirsty Williams, Julie Morgan a Lindsay Whittle, am gyflwyno’r cynnig hwn gyda mi heddiw.

Having been involved with the campaign to ban hitting of children as a form of punishment for many years, I am absolutely convinced that this is the right way forward. I pay particular tribute to people like Julie Morgan and Simon Thomas who have campaigned on this issue in another place. This is a long-standing campaign.

 

A minnau wedi ymwneud â’r ymgyrch i wahardd taro plant fel ffurf o gosb am flynyddoedd lawer, yr wyf yn llwyr argyhoeddedig mai dyma’r ffordd iawn ymlaen. Talaf deyrnged arbennig i bobl fel Julie Morgan a Simon Thomas sydd wedi ymgyrchu ar y mater hwn mewn lle arall. Mae hon yn ymgyrch hirsefydlog.

The law, as it stands, is not working. This is supported whole-heartedly by all the children’s organisations and all the UK’s children’s commissioners. Those people are at the sharp end and I pay tribute to all of those organisations that have been campaigning for this.

 

Fel y saif, nid yw’r gyfraith yn gweithio. Cefnogir hyn yn llwyr gan yr holl sefydliadau plant a chomisiynwyr plant y DU. Mae’r bobl hynny yn y rheng flaen ac yr wyf yn talu teyrnged i’r holl sefydliadau hynny sydd wedi bod yn ymgyrchu am hyn.

A lot has been said in this debate today and I apologise if I am not able to answer every point. Mark Isherwood and Byron Davies, I am disappointed by your response, because you have not really defined what we mean by a ‘smack’. The children’s organisations will tell you that it is very confusing at the moment. It is disingenuous for you to talk in terms of a definition, because you cannot offer a definition.

 

Dywedwyd llawer yn y ddadl hon heddiw, ac ymddiheuraf os nad wyf yn gallu ateb pob pwynt. Mark Isherwood a Byron Davies, yr wyf yn siomedig gan eich ymateb, oherwydd nid ydych yn diffinio beth a olygwn wrth ‘smacio’. Bydd sefydliadau plant yn dweud wrthych ei bod yn ddryslyd iawn ar hyn o bryd. Mae’n ffuantus ichi siarad o ran diffiniad, oherwydd ni allwch chi gynnig diffiniad.

We know that parents, when asked, will say that they have only hit their children when they are angry and frustrated or out of control; Kirsty Williams made that point. As a parent myself, I have admitted that I have been in that position, and I am thoroughly ashamed of myself now. However, I think that it is time that we discuss this. I certainly believe that there is a wind of change. Public attitudes are changing. We now find that parents are reacting to this in a different way to previous generations, so I think that the time is right.

 

Gwyddom y bydd rhieni, pan ofynnir iddynt, yn dweud eu bod wedi taro eu plant yn unig pan maent yn ddig ac yn rhwystredig neu allan o reolaeth; gwnaeth Kirsty Williams y pwynt hwnnw. Fel rhiant fy hun, yr wyf wedi cyfaddef fy mod wedi bod yn y sefyllfa honno, ac mae arnaf gywilydd bellach. Fodd bynnag, credaf ei bod yn amser inni drafod hyn. Rwy’n sicr yn credu bod newidiadau ar droed. Mae agweddau’r cyhoedd yn newid. Gwelwn yn awr bod rhieni’n ymateb i hyn mewn ffordd wahanol i genedlaethau blaenorol, felly credaf fod yr amser yn iawn.

4.00 p.m.

 

I have also spoken to many children over the years. Most children will tell you how humiliated they felt and how ineffective the physical punishment of children is. I will give you one quick example. A while ago, I was talking to a group of young people, and I asked them to put up their hands to vote on whether they agreed with smacking. All but one said that it was wrong. I spoke to the teacher afterwards, who told me that the one boy who had put his hand up to support smacking was the naughtiest boy in the class, and he was the only one who thought it was a good idea. My feeling is that he had suffered that punishment at home.

 

Yr wyf hefyd wedi siarad â llawer o blant dros y blynyddoedd. Bydd y rhan fwyaf o blant yn dweud wrthych faint yr oeddent yn teimlo wedi eu bychanu a pha mor aneffeithiol yw cosbi plant yn gorfforol. Rhoddaf un enghraifft gyflym. Amser yn ôl, bûm yn siarad â grŵp o bobl ifanc, a gofynnais iddynt godi eu dwylo i bleidleisio ynghylch p'un a oeddent yn cytuno â smacio. Dywedodd pob un ond un ei bod yn anghywir. Siaradais i'r athro wedyn, a dywedodd wrthyf mai’r bachgen a oedd wedi rhoi ei law i fyny i amddiffyn smacio oedd y bachgen mwyaf drwg yn y dosbarth, ac ef  oedd yr unig un a oedd o'r farn ei fod yn syniad da. Fy nheimlad yw ei fod wedi dioddef y gosb yn y cartref.

 

As other Members have said, we are out of step with many other countries in the world, which have already taken the step of banning the physical punishment of children or are working towards that aim. As many Members have said, it is unacceptable. We would be absolutely outraged if someone said that it was okay to hit, for example, an older person in a care home because they did not do what we wanted them to do. Therefore, why on earth are we saying the same things about children?

 

Fel y dywedodd Aelodau eraill, yr ydym yn anghyson â nifer o wledydd eraill yn y byd, sydd eisoes wedi cymryd y cam o wahardd cosbi plant yn gorfforol neu’n gweithio tuag at y nod hwnnw. Fel y dywedodd llawer o Aelodau, mae'n annerbyniol. Byddem yn gandryll pe bai rhywun yn dweud ei bod yn iawn i daro, er enghraifft, person hŷn mewn gofal cartref oherwydd ni wnaethant beth yr oeddem am iddynt ei wneud. Felly, pam ar y ddaear yr ydym yn dweud yr un pethau am blant?

I am pleased that there will be a free vote on this matter for many of us. This is not about being soft on discipline. I reassure Members of that. This is about setting boundaries for children. There are better ways of disciplining your children and bringing them up as better citizens than hitting them. Whatever messages you give to them through hitting them will be the wrong ones. Therefore, this is not about being soft on discipline. I will not have time to address all of Darren Millar’s contribution, but some of the arguments that he used have many flaws and, if I had the time to do so, I would be able to refute them. However, I will give one example based on some of the research that he discussed. Mild smacks command temporary obedience but fail to instil good behaviour in the longer term. Some parents invariably escalate from mild smacks to more abusive hitting. Therefore, once again, I ask the Members who said this to think again.

 

Yr wyf yn falch y bydd pleidlais rydd ar y mater hwn i lawer ohonom. Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn rhy ysgafn o ran   disgyblu. Rhoddaf sicrwydd i Aelodau o hynny. Mae hyn am bennu ffiniau ar gyfer plant. Mae yna ffyrdd gwell o ddisgyblu eich plant a’u magu fel dinasyddion gwell nag eu taro. Bydd pa bynnag negeseuon a roddwch iddynt drwy eu taro yn anghywir. Felly, nid yw hyn yn ymagwedd ysgafn tuag at ddisgyblu. Ni fydd gennyf amser i fynd i'r afael â holl gyfraniad Darren Millar, ond mae gan rhai o'r dadleuon a ddefnyddiodd lawer o ddiffygion, a pe bai gennyf amser i wneud hynny, buaswn yn gallu eu gwrthbrofi. Fodd bynnag, rhoddaf un enghraifft ar sail peth o’r ymchwil a drafododd. Y mae clec ysgafn yn ennyn ufudd-dod dros dro, ond yn methu â meithrin ymddygiad da yn y tymor hwy. Y mae rhai rhieni yn ddieithriad yn gwaethygu o glec ysgafn i daro mwy ymosodol. Felly, unwaith eto, gofynnaf i'r Aelodau a ddywedodd hyn i feddwl eto.

 

For all of the reasons that I have outlined, the time is now right to take a step in the right direction. Once again, I pay tribute to the Welsh Government and the work that has already been undertaken over previous years. I pay particular tribute to the Deputy Minister for Children and Social Services, Gwenda Thomas. I am disappointed that the Government is unable to take this step, but I value the work that has already been done by the Assembly and by the Government. It would be fair to say that Wales has already shone like a beacon as a result of the work that it has undertaken in promoting better and more effective methods of discipline. Good work has been done through working with parents. It is no coincidence that surveys of parents show that more parents in Wales believe that smacking is wrong than parents in other parts of the UK.

 

O achos yr holl resymau a amlinellais, y mae’r amser yn awr yn iawn i gymryd cam i'r cyfeiriad cywir. Unwaith eto, yr wyf yn talu teyrnged i Lywodraeth Cymru a’r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud dros y blynyddoedd blaenorol. Talaf deyrnged arbennig i'r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas. Yr wyf yn siomedig nad yw’r Llywodraeth yn gallu cymryd y cam hwn, ond gwerthfawrogaf y gwaith sydd wedi'i wneud eisoes gan y Cynulliad a chan y Llywodraeth. Byddai'n deg dweud bod Cymru eisoes wedi disgleirio fel esiampl o ganlyniad i'r gwaith y mae wedi'i wneud wrth hyrwyddo dulliau o ddisgyblu gwell a mwy effeithiol. Mae gwaith da wedi'i wneud drwy weithio gyda rhieni. Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod arolygon rhieni yn dangos bod mwy o rieni yng Nghymru yn credu bod taro plant yn anghywir nac y mae rhieni mewn rhannau eraill o'r DU.

 

Today’s vote is about giving equal protection to children under the law. Kirsty made that point very well, and Lindsay Whittle and Joyce Watson spoke passionately on this point, which is right and proper. This is about greater support for parents in doing what is often a challenging and difficult job. It is not about demonising parents, but supporting them.

 

Mae pleidlais heddiw am roi'r un amddiffyniad i blant o dan y gyfraith. Gwnaeth Kirsty’r pwynt yn dda iawn, a siaradodd Lindsay Whittle a Joyce Watson yn angerddol ar y pwynt hwn, sydd yn iawn ac yn briodol. Mae hyn am roi mwy o gefnogaeth i rieni wrth wneud beth sydd yn aml yn swydd anodd a heriol. Nid yw'n ymwneud â lladd ar rieni, ond eu cefnogi.

 

Some Members have asked why we should legislate and have said that a public campaign should be sufficient. Of course we need a public campaign, and this is already happening. We need to do more. I reassure Mick Antoniw on this point. We must have a public campaign, but we also need the legislation, even if this is done further down the line. I will use the example of the campaign against the use of hand-held mobile phones in cars. Not so long ago, despite the dangers of doing so, people were quite happily using their mobile phones in cars. They accepted that it was their right to do so. After legislation and public campaigns, public opinion has rapidly changed.

 

Mae rhai Aelodau wedi gofyn pam y dylem ddeddfu ac wedi dweud y dylai ymgyrch gyhoeddus fod yn ddigonol. Wrth gwrs y mae angen ymgyrch gyhoeddus, ac mae hyn eisoes yn digwydd. Mae angen inni wneud mwy. Rwy’n rhoi sicrhad i Mick Antoniw ar y pwynt hwn. Rhaid inni gael ymgyrch gyhoeddus, ond mae hefyd angen arnom y ddeddfwriaeth, hyd yn oed os gwneir hyn yn ddiweddarach. Byddaf yn defnyddio’r enghraifft o’r ymgyrch yn erbyn y defnydd o ffonau symudol mewn ceir. Yn weddol diweddar, er gwaethaf y peryglon o wneud hynny, roedd pobl yn ddigon hapus i ddefnyddio eu ffonau symudol mewn ceir. Roeddent yn derbyn mai eu hawl nhw oedd gwneud hynny. Ar ôl deddfwriaeth ac ymgyrchoedd cyhoeddus, y mae’r farn gyhoeddus wedi newid yn gyflym.

 

The Presiding Officer: Order. Will you wind up please?

 

Y Llywydd: Trefn. A wnewch chi ddirwyn i ben os gwelwch yn dda?

Christine Chapman: May I quickly finish?

 

Christine Chapman: A allaf orffen yn gyflym?

 

The Presiding Officer: Very quickly, if you would, please.

 

Y Llywydd: Yn gyflym iawn, os gwnewch chi, os gwelwch yn dda.

Jocelyn Davies rose—

 

Jocelyn Davies a gododd

The Presiding Officer: Order. Will you take an intervention?

 

Y Llywydd: Trefn. A gymerwch chi ymyriad?

Christine Chapman: Yes.

 

Christine Chapman: Gwnaf.

The Presiding Officer: You are out of time, so you are being very generous.

 

Y Llywydd: Yr ydych yn brin o amser, felly yr ydych yn hael iawn.

Jocelyn Davies: Mick Antoniw raised some pertinent points that resonate with many of us who would like to support the thrust of the motion but feel that the motion was not well drafted.

 

Jocelyn Davies: Cododd Mick Antoniw rai pwyntiau perthnasol a oedd yn canu cloch gyda llawer ohonom a fyddai'n hoffi cefnogi byrdwn y cynnig ond yn teimlo nad oedd y cynnig wedi ei ddrafftio'n dda.

Christine Chapman: Thanks for the comments.

 

Christine Chapman: Diolch am y sylwadau.

When emotions are running high, it is sometimes easy to take a disproportionate account of the loud voices that we all hear. The challenge for us as politicians is to look beyond that and listen to the quiet voices of the children who depend on us. I urge colleagues to be brave and to vote for this motion, to do the right thing for the parents, children and future generations of Wales.

 

Pan fod emosiynau’n drech na rhywun, mae'n hawdd weithiau rhoi sylw anghymesur i’r lleisiau uchel yr ydym i gyd yn eu clywed. Yr her i ni fel gwleidyddion yw edrych tu hwnt i hynny a gwrando ar leisiau tawel y plant sy'n dibynnu arnom. Yr wyf yn annog cydweithwyr i fod yn ddewr ac i bleidleisio dros y cynnig hwn, i wneud y peth iawn ar gyfer y rhieni, plant a chenedlaethau Cymru yn y dyfodol.

 

The Presiding Officer: The proposal is to agree the motion. Does any Member object? I see that there is objection. Voting on the motion will therefore be deferred until voting time.

Y Llywydd: Y cwestiwn yw a ddylid cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf bod gwrthwynebiad. Byddaf yn gohirio’r bleidleisio ar y cynnig felly tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time

 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 4.05 p.m.
The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair at 4.05 p.m.

 

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Welsh Conservatives Debate

 

Digwyddiadau Chwaraeon Mawr
Major Sporting Events

 

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendments 1 and 4 in the name of Peter Black, amendment 2 in the name of Jocelyn Davies and amendments 3 and 5 in the name of Jane Hutt. If amendment 2 is agreed, amendments 3 and 4 will be deselected. If amendment 3 is agreed, amendment 4 will be deselected.

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1 a 4 yn enw Peter Black, gwelliant 2 yn enw Jocelyn Davies a gwelliannau 3 a 5 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

 

 

Cynnig NDM4834 William Graham

 

Motion NDM4834 William Graham

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

1. Yn nodi’r manteision pellgyrhaeddol posibl i Gymru drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr;

 

1. Notes the wide-reaching benefits Wales can gain from hosting major sporting events;

 

2. Yn gresynu’n fawr nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi strategaeth ar waith i geisio codi proffil Cymru yn ystod Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; a

 

2. Deeply regrets that the Welsh Government has not put a strategy in place aimed at raising Wales’ profile during the 2012 Olympic & Paralympic Games; and

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol, rhagweithiol a thryloyw wrth geisio denu’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i Gymru.

3. Calls on the Welsh Government to be more ambitious, proactive and transparent in its approach to attracting top sporting events to Wales.

 

Mohammad Asghar: I move the motion.

 

Mohammad Asghar: Cynigiaf y cynnig.

We are happy to support amendments 1 and 4 tabled in the name of Peter Black. However, we will not support amendment 2 in the name of Jocelyn Davies, as we feel that the benefits of any Olympic strategy would far outweigh the costs. We will also not support amendments 3 and 5 in the name of Jane Hutt. We welcome the fact that training camps will be based in Wales, but amendment 3 sums up the Government’s lack of ambition in making the most of Olympic opportunities. On amendment 5, we are worried that the Government does not seem to be either ambitious or transparent, instead deleting this point to focus on the past.

 

Yr ydym yn hapus i gefnogi gwelliannau 1 a 4 a gyflwynwyd yn enw Peter Black. Fodd bynnag, ni chefnogwn welliant 2 yn enw Jocelyn Davies, oherwydd teimlwn y byddai manteision unrhyw strategaeth Olympaidd yn llawer fwy na'r costau. Ni fyddwn ychwaith yn cefnogi gwelliannau 3 a 5 yn enw Jane Hutt. Croesawn y ffaith y bydd gwersylloedd hyfforddi yn cael eu lleoli yng Nghymru, ond mae gwelliant 3 yn crynhoi diffyg uchelgais y Llywodraeth o ran gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd Olympaidd. O ran gwelliant 5, yr ydym yn poeni nad yw’r Llywodraeth yn ymddangos yn uchelgeisiol nac yn dryloyw, yn hytrach yn dileu’r pwynt hwn i ganolbwyntio ar y gorffennol.

 

Major sporting events can offer huge, wide-reaching benefits, and such events do not come any bigger than the Olympics. The Olympic Games are regarded as the world’s leading sporting competition. Next year, the Olympic and Paralympic Games take place in the United Kingdom for the first time since 1948. This has presented Wales with fantastic opportunities. The Millennium Stadium in Cardiff hosts the first event of the games, two days before the opening ceremony in London, as the Olympic football will take place here. Also, 4,700 medals will be made in Llantrisant, while some teams, including Olympians from Trinidad and Tobago and Paralympians from Australia, will have their pre-games training camps in Wales.

 

Gall digwyddiadau chwaraeon mawr gynnig manteision enfawr ac eang, ac nid oes llawer o ddigwyddiadau o'r fath sy’n fwy na’r Gemau Olympaidd. Ystyrir y Gemau Olympaidd yn gystadleuaeth chwaraeon mwyaf blaenllaw’r byd. Y flwyddyn nesaf,  bydd y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf ers 1948. Mae hyn wedi rhoi  cyfleoedd gwych i Gymru. Mae Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn cynnal digwyddiad cyntaf y gemau, deuddydd cyn y seremoni agoriadol yn Llundain, gan y bydd pêl-droed y Gemau Olympaidd yn digwydd yma. Hefyd, gwneir y 4,700 o fedalau yn Llantrisant, tra bydd gan rai timau, gan gynnwys athletwyr o Drinidad a Tobago a pharalympwyr o Awstralia, eu gwersylloedd hyfforddi cyn y gemau yng Nghymru.

 

The potential benefits for tourism, our economy and the nation’s health and wellbeing are enormous, yet the Welsh Government is being complacent on these major issues. The Welsh Government has no strategy whatsoever in place aimed at seizing the immense benefits associated with the thirty-second Olympiad. The First Minister has also admitted that he has held no meetings whatsoever during the fourth Assembly focused on how Wales can benefit from hosting the first event of the 2012 Olympics.

 

Mae manteision posibl ar gyfer twristiaeth, ein heconomi ac iechyd a lles y genedl yn aruthrol, ac eto mae Llywodraeth Cymru yn hunanfodlon o ran y materion pwysig hyn. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw strategaeth o gwbl ar waith gyda'r nod o fanteisio ar y buddion aruthrol sy'n gysylltiedig â’r 32eg Olympiad. Hefyd, mae'r Prif Weinidog wedi cyfaddef nad yw wedi cynnal unrhyw gyfarfodydd o gwbl yn ystod y Pedwerydd Cynulliad yn canolbwyntio ar sut y gall Cymru elwa o gynnal digwyddiad cyntaf y Gemau Olympaidd 2012.

 

With athletes training in Wales and historic Olympic events taking place here, there are huge opportunities to foster interest in a wide range of sports, and to encourage greater levels of participation. According to Estyn, major events create interest and demand in locally organised sport and physical activities. It also found that they raise the profile of minority sports. Given the immense public health problems that we face in Wales, this could be invaluable. Yet, it is a business-as-usual approach from this Government. The Welsh Government should be telling the world about Wales’s involvement in the Olympics, thereby seizing the chances to boost our global profile. However, we are missing a chance to enter the world’s tourism shop window.

 

Gydag athletwyr yn hyfforddi yng Nghymru a digwyddiadau Olympaidd yn digwydd yma, mae yna gyfleoedd enfawr i feithrin diddordeb mewn ystod eang o chwaraeon ac i annog lefelau uwch o gyfranogiad. Yn ôl Estyn, mae digwyddiadau mawr yn creu diddordeb a’r galw am weithgareddau corfforol a chwaraeon gael eu trefnu’n lleol. Canfu hefyd eu bod yn cynyddu proffil chwaraeon lleiafrifol. O ystyried y problemau iechyd cyhoeddus enfawr a wynebwn yng Nghymru, gallai hyn fod yn amhrisiadwy. Eto, mae gan y Llywodraeth ymagwedd ‘busnes fel arfer’. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn dweud wrth y byd am gyfranogiad Cymru yn y Gemau Olympaidd, gan gydio yn y cyfleoedd i hybu ein proffil byd-eang. Fodd bynnag, yr ydym yn colli cyfle i fynd i ffenestr siop twristiaeth y byd.

 

The Welsh Government has stressed that next year’s Visit Wales advertising campaign will not target anyone with an interest in the games—it will simply target UK residents in the ‘usual way’. What a lame lack of ambition.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio na fydd ymgyrch hysbysebu Croeso Cymru yn targedu unrhyw un sydd â diddordeb yn y gemau—bydd yn syml yn targedu trigolion y DU yn y ‘modd arferol’. Am ddiffyg uchelgais.

Big economic opportunities have been missed. Welsh companies have only secured a small number of contracts compared with other UK regions. Less than 1 per cent of the value of infrastructure contracts has been won by Welsh firms. We have secured little over £668,000 of top-tier contracts, compared with £17 million in Northern Ireland and £23.4 million in Scotland. That shows that the Welsh Government is unprofessional in its ability to tender. The Welsh Government was clearly not offering adequate support for businesses to be ambitious and to bid for those top contracts. The amount of money that they have missed out on is a scandal. We have suffered a great loss and have missed out on great opportunities.

 

Mae cyfleoedd economaidd mawr wedi’u colli. Mae cwmnïau Cymreig dim ond wedi sicrhau nifer fach o gontractau o’i gymharu â rhanbarthau eraill y DU. Mae llai nag 1 y cant o werth y contractau seilwaith wedi cael ei ennill gan gwmnïau yng Nghymru. Rydym wedi sicrhau ychydig dros £668,000 o gontractau haen uchaf, o'i gymharu â £17 miliwn yng Ngogledd Iwerddon a £23.4 miliwn yn yr Alban. Mae hynny'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn amhroffesiynol yn ei gallu i dendro. Yn amlwg, nid oedd Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth digonol i fusnesau i fod yn uchelgeisiol ac i ymgeisio am y prif gontractau hynny. Mae'r swm o arian y maent wedi’i fethu cael yn sgandal. Rydym wedi dioddef colled fawr ac wedi colli cyfleoedd gwych.

 

Wales has had successes in the past, and that is to be celebrated. The Ashes test match and the excellent Ryder Cup are just two examples. Wales has also held Millennium Magic rugby league events, the British Speedway Grand Prix and, longer ago, the Rugby World Cup, as well as many other top sporting events. However, those examples only strengthen my amazement at the opportunities that the Welsh Government has let pass-by with the Olympic Games on our doorstep. I hope that future events, such as matches in Wales during the 2013 Rugby League World Cup and the 2015 Ashes test in Cardiff, are not similarly ignored by this Government. Significant lessons need to be learned from the Welsh Government’s failure to act on the Olympics.

 

Mae Cymru wedi cael llwyddiannau yn y gorffennol, a dylid dathlu hynny. Roedd prawf cyfres y Lludw a’r Cwpan Ryder rhagorol yn ddwy enghraifft yn unig. Mae Cymru hefyd wedi cynnal digwyddiadau rygbi cynghrair Millennium Magic, Grand Prix Speedway Prydain a, bellach yn ôl, Cwpan Rygbi’r Byd, yn ogystal â llawer o ddigwyddiadau chwaraeon blaenllaw eraill. Fodd bynnag, mae’r enghreifftiau hynny dim ond yn cryfhau fy syndod at y cyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi eu hanwybyddu gyda’r Gemau Olympaidd ar garreg ein drws. Gobeithiaf na fydd digwyddiadau yn y dyfodol, megis Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd yn 2013 a phrawf cyfres y Llwch 2015 yng Nghaerdydd, hefyd yn cael eu hanwybyddu gan y Llywodraeth hon. Rhaid dysgu gwersi pwysig o fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu ar y Gemau Olympaidd.

 

We urge the Welsh Government to be more ambitious and, crucially, transparent in attracting top sporting events to Wales in future. Wales needs to build a reputation as a world-class sporting venue. The First Minister has previously said that his next sporting priority is to bring a Champions League final to Cardiff.  However, if that is true, why is there no mention of supporting a Champions League bid in the programme for government? There is not a single word. The First Minister has failed to provide updates in the Chamber. He has subsequently said that he will not provide running commentary on discussions, and answers to recent written questions suggest that he has not held meetings on the matter since a UEFA fact-finding trip in May. We need a proper update on his trips and his negotiations.

 

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol ac, yn hollbwysig, yn dryloyw wrth ddenu digwyddiadau chwaraeon i Gymru yn y dyfodol. Mae’n rhaid i Gymru adeiladu enw da fel canolfan chwaraeon o’r radd flaenaf. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud o’r blaen mai ei flaenoriaeth nesaf o ran chwaraeon yw dod â gem derfynol Cynghrair y Pencampwyr i Gaerdydd. Fodd bynnag, os yw hynny’n wir, paham nad oes unrhyw sôn am gefnogi cais Cynghrair y Pencampwyr yn y rhaglen lywodraethu? Nid oes un gair. Methodd y Prif Weinidog â chyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf yn y Siambr. Wedyn dywedodd na fydd yn rhoi sylwebaeth ar drafodaethau, ac y mae atebion i gwestiynau ysgrifenedig diweddar yn awgrymu nad yw wedi cynnal cyfarfodydd ar y mater ers taith canfod ffeithiau UEFA ym mis Mai. Mae arnom angen diweddariad priodol ar ei deithiau ac ar ei drafodaethau.

 

I welcome the fact that the draft budget notes that support will be given to Cardiff Council to explore the feasibility of bidding to host the Commonwealth Games in 2026, but I hope that more information can be provided regarding what support is to be offered so that we can ensure that we are best placed to bid to bring the Commonwealth Games to Wales.

 

Croesawaf y ffaith y bydd y gyllideb ddrafft yn nodi y rhoddir cymorth i Gyngor Caerdydd i archwilio dichonoldeb gwneud cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2026, ond gobeithiaf y gellir ddarparu mwy o wybodaeth ynghylch pa gymorth a fydd yn cael ei gynnig fel y gallwn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i wneud cais i ddod â Gemau’r Gymanwlad i Gymru.

The first modern Olympics took place in Athens in 1896. Next year, an estimated 10,500 athletes from over 200 countries are expected to compete in the UK. The whole world will be watching. In hosting the first event, Wales has a unique role to play in this magnificent event. It is deeply regrettable that the Welsh Government is letting such a fantastic opportunity pass-by. We are drastically lagging behind other UK nations in terms of top-tier contracts won. We are missing chances to promote sport and improve public health and we are failing to seize the chance to promote our nation to the world.  The Welsh Government should be ashamed of its performance on sporting events. I urge Members to support our motion.

Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd modern cyntaf yn Athen yn 1896. Y flwyddyn nesaf, amcangyfrifir y bydd disgwyl i 10,500 o athletwyr o dros 200 o wledydd gystadlu yn y DU. Bydd y byd i gyd yn gwylio. Wrth gynnal y digwyddiad cyntaf, mae gan Gymru rôl unigryw i’w chwarae yn y digwyddiad gwych hwn. Mae’n anffodus iawn bod Llywodraeth Cymru yn anwybyddu cyfle gwych o’r fath. Rydym yn llusgo’n sylweddol ar ôl gwledydd eraill y DU o ran ennill contractau o’r lefel uchaf. Rydym yn colli cyfleoedd i hyrwyddo chwaraeon ac i wella iechyd cyhoeddus ac rydym yn methu â manteisio ar y cyfle i hyrwyddo ein cenedl i’r byd. Dylai Lywodraeth Cymru gywilyddio dros ei berfformiad ar ddigwyddiadau chwaraeon. Anogaf Aelodau i gefnogi ein cynnig.

 

4.15 p.m.

 

 

Gwelliant 1 Peter Black

Amendment 1 Peter Black

 

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn:

 

Add as new point 2 and renumber accordingly:

 

Yn llongyfarch y gwaith a wnaed gan gynghorau Caerdydd a Chasnewydd wrth ddenu a chefnogi Cyfres y Lludw a Chwpan Ryder yn eu tro.

 

Congratulates the work done by Cardiff and Newport councils in attracting and supporting the Ashes and the Ryder Cup, respectively.

 

Gwelliant 4 Peter Black

Amendment 4 Peter Black

 

Ym mhwynt 2 ar ôl ‘2012’ cynnwys ‘ac i ddenu contractau ar gyfer busnesau o Gymru wrth nesáu at y Gemau;’

In point 2 after ‘during’ insert ‘, or attracting contracts for Welsh businesses in the run up to,’

 

Eluned Parrott: I move amendments 1 and 4 in the name of Peter Black.

Eluned Parrott: Cynigiaf welliannau 1 a 4 yn enw Peter Black.

 

I will begin by thanking the Conservative group for bringing this debate to the Chamber today. It is an interesting and important issue for us to discuss. I had a life before I got to the Chamber and, for the last 15 years or so, I worked on marketing Wales to the world and, specifically, on marketing events that were taking place in Wales—not only within Wales, but in the rest of the UK and further afield. Sadly, the stereotypes that persist about what Wales is like are, frankly, depressing. We feel that we have moved a little way beyond being coal miners who sing on a Sunday, but the rest of the world does not necessarily see that. It is only when we get people here to see Wales in person that we can start to break down stereotypes.

Dechreuaf drwy ddiolch i’r grŵp Ceidwadol am gyflwyno’r ddadl hon i’r Siambr heddiw. Mae’n fater diddorol a phwysig i ni ei drafod. Roedd gen i fywyd cyn i mi gyrraedd y Siambr ac, am y 15 mlynedd diwethaf, bûm yn gweithio ar farchnata Cymru i’r byd ac, yn benodol, ar ddigwyddiadau marchnata a oedd yn digwydd yng Nghymru—nid yn unig o fewn Cymru, ond yng gweddill y DU a thu hwnt. Yn anffodus, mae’r ystrydebau sy’n parhau am sut le yw Cymru gwneud i rywun ddigalonni. Rydym yn teimlo ein bod wedi symud ychydig tu hwnt i fod yn lowyr sy’n canu ar y Sul, ond nid yw gweddill y byd o reidrwydd yn gweld hynny. Dim ond drwy gael pobl yma yn bersonol i weld Cymru y gallwn ddechrau chwalu ystrydebau.

 

I was speaking yesterday to representatives of a major employer based in Cardiff. Sadly, they still encounter the view abroad that Wales is right on the edge of Europe and of the world. Using major events, and a major events strategy, are important ways of breaking those stereotypes down. We can tell people that we are not like that until we are blue in the face, but it is when we can show them in person what Wales is really like, how beautiful, creative and impressive our capital city is, and how beautiful our countryside is, that they believe us. That is why hosting major events gives us such an important opportunity in bringing people here who might not otherwise have come here. They are not just sports fans, of course, but future tourists, businesspeople and, more importantly, ambassadors. The people who come here and have a good experience will go home and tell their friends what an amazing place Wales is to live in, to work in and to visit.

Yr oeddwn yn siarad ddoe â chynrychiolwyr cyflogwr mawr yng Nghaerdydd. Yn anffodus, maent yn dal i ddod ar draws y farn dramor bod Cymru ar gyrion Ewrop a’r byd. Mae defnyddio digwyddiadau mawr a chael strategaeth digwyddiadau mawr yn ffyrdd pwysig o chwalu’r ystrydebau hynny. Gallwn ddweud wrth bobl nad dyna fel yr ydym nes dydd y farn, ond dim ond pan allwn ddangos iddynt yn bersonol sut le yw Cymru mewn gwirionedd, pa mor hardd, creadigol a thrawiadol yw ein prifddinas, a pha mor hardd yw cefn gwlad Cymru, maent yn ein credu. Dyna pam y mae cynnal digwyddiadau mawr yn rhoi cyfle mor bwysig o ran dod â phobl yma na fyddai wedi dod yma fel arall. Nid dim ond cefnogwyr chwaraeon ydynt, wrth gwrs, ond twristiaid posibl yn y dyfodol, pobl busnes ac, yn bwysicach, llysgenhadon. Bydd pobl sy’n dod yma ac yn cael profiad da yn mynd adref a dweud wrth eu ffrindiau bod Cymru yn lle rhyfeddol i fyw ynddo, i weithio ynddo ac i ymweld ag ef.

 

In amendment 1, we want to recognise the excellent work that Cardiff and Newport councils have done in promoting major events, not just in terms of the work that they did with the major events team in the Welsh Assembly Government, but in terms of the work that they did, once the events had come to Cardiff and Newport, to ensure that visitors had a good time. For example, when the Ashes were held in Cardiff, the council employed a massive network of volunteers and staff to show people around and to make them feel welcome in our capital city. That was an interesting project and one that we can learn from with regard to how we approach Olympic events in the city. Similarly, in Newport, we showed the world that not only our capital, but other cities and other places in Wales, have the capacity to deliver world-class events. That is an important message.

Yng ngwelliant 1, rydym am gydnabod y gwaith ardderchog  a wnaeth cynghorau Caerdydd a Chasnewydd wrth hyrwyddo digwyddiadau mawr, nid dim ond o ran y gwaith a wnaethant gyda thîm digwyddiadau mawr Llywodraeth Cynulliad Cymru, ond o ran y gwaith a wnaethant, unwaith y daeth digwyddiadau i Gaerdydd a Chasnewydd, er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn mwynhau eu hunain. Er enghraifft, pan gafodd cyfres y Lludw ei chynnal yng Nghaerdydd, cyflogodd y cyngor rwydwaith enfawr o wirfoddolwyr a staff i helpu pobl i ffeindio’u ffordd o gwmpas ac i roi croeso cynnes iddynt i’n prifddinas. Yr oedd hynny’n brosiect diddorol ac yn un y gallwn ddysgu ohono o ran sut i ymdrin â digwyddiadau Olympaidd yn y ddinas. Yn yr un modd, yng Nghasnewydd, bu inni ddangos i’r byd nad dim ond y brifddinas sydd yn gallu cynnal digwyddiadau o’r radd flaenaf, ond dinasoedd a mannau eraill yng Nghymru. Mae honno’n neges bwysig.

 

The Olympics offer a once-in-a-lifetime opportunity to show ourselves to visitors, but could also have been an opportunity for Welsh businesses to showcase what they have to offer. That is why we have brought forward amendment 4. I deeply regret that Welsh businesses have picked up only around £0.5 million out of the £7 billion in major contracts that were awarded for the Olympics. I deeply regret that those jobs were not created in Wales and that Welsh-based businesses cannot now use the prestige of the Olympics and of gaining those contracts to demonstrate their skills to the world. I would like that placed on record.

Mae’r Gemau Olympaidd yn cynnig cyfle unwaith-mewn-oes i ddangos ein hunain i ymwelwyr, ond byddai wedi bod yn gyfle hefyd i fusnesau Cymru ddangos beth sydd ganddynt i’w gynnig. Dyna pam yr ydym wedi cyflwyno gwelliant 4. Yr wyf yn gresynu’n fawr fod busnesau Cymru ddim ond wedi ennill tua £0.5 miliwn o’r £7 biliwn o gontractau mawr a ddyfarnwyd ar gyfer y Gemau Olympaidd. Yr wyf yn gresynu’n fawr na chafodd y swyddi hynny eu creu yng Nghymru ac na all busnesau o Gymru bellach ddefnyddio enw’r Gemau Olympaidd ac ennill y contractau hynny i ddangos eu sgiliau i’r byd. Hoffwn ddweud hynny ar goedd.

 

I cannot support amendment 2, tabled in the name of Jocelyn Davies, because I would suggest that some of the £38 million consequential that the First Minister announced last week could be used to help develop a strategy for the Olympics. I think that that is a possibility and I do not think that the opportunity has yet been lost.

Ni allaf gefnogi gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jocelyn Davies, oherwydd byddwn yn awgrymu y gallai rhywfaint o’r £38 miliwn canlyniadol a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog wythnos diwethaf gael ei ddefnyddio i helpu i ddatblygu strategaeth ar gyfer y Gemau Olympaidd. Yr wyf yn meddwl bod hynny’n bosibilrwydd ac nid wyf yn credu bod y cyfle wedi’i golli eto.

 

Jocelyn Davies: Will you take an intervention?

Jocelyn Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

 

Eluned Parrott: No, I am running a little late, sorry. I cannot support amendments 3 and 5, tabled in the name of Jane Hutt either, because, although I absolutely agree with what they add to the motion, I cannot agree with what they take away from it. In particular, I do not understand why the Government would not wish to be ambitious, proactive and transparent, because that is what Wales needs from it now.

Eluned Parrott: Na, yr wyf yn rhedeg allan o amser braidd, mae’n ddrwg gennyf. Ni allaf gefnogi gwelliannau 3 a 5, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt ychwaith, oherwydd er fy mod yn cytuno’n llwyr â’r hyn y maent yn ychwanegu at y cynnig, ni allaf gytuno â’r hyn y maent yn ei ddileu ohono. Yn benodol, nid wyf yn deall pam na fyddai’r Llywodraeth yn dymuno bod yn uchelgeisiol, rhagweithiol a thryloyw, achos dyna sydd ei angen wrtho ar Gymru yn awr.

 

Gwelliant 2 Jocelyn Davies

Amendment 2 Jocelyn Davies

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Delete point 2 and replace with:

 

Yn gresynu’n fawr bod cyflwr cyllid cyhoeddus ar hyn o bryd yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag cyllido strategaeth sydd â’r nod o godi proffil Cymru yn ystod Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012.

 

Deeply regrets that the current state of public finance hinders the Welsh Government from funding a strategy aimed at raising Wales’ profile during the 2012 Olympic and Paralympic Games.

Alun Ffred Jones: Cynigiaf welliant 2 yn enw Jocelyn Davies

 

Alun Ffred Jones: I move amendment 2 in the name of Jocelyn Davies.

 

Yr wyf yn falch o gael cyfrannu at y ddadl a chynnig y gwelliant hwn. Mae’n amlwg bod digwyddiadau mawr ym myd y campau yn gyfle i hyrwyddo enw Cymru—i godi ei phroffil a hybu ei delwedd yn rhyngwladol. Gall hefyd fod yn chwistrelliad byr dymor i’r economi o fewn ardaloedd penodedig. Yr wyf yn meddwl, ar y cyfan, fod yr uned ddigwyddiadau mawr wedi bod yn hynod o lwyddiannus wrth gydweithio â busnesau, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector—nid yn unig o ran denu digwyddiadau ond hefyd o ran datblygu rhai llai a’u rhoi ar dir mwy cadarn. Yng ngogledd Cymru, yn fy etholaeth i, mae Ras yr Wyddfa a phencampwriaeth rhedeg eithafol y Gymanwlad yn enghreifftiau llwyddiannus diweddar. Rhaid inni beidio â meddwl bod y rhain yn dod â chanlyniadau llesol anochel gyda hwy. Y ffaith amdani yw bod y rhan fwyaf o Gemau Olympaidd y degawdau diwethaf wedi creu dyledion enfawr a budd dros dro yn unig. Fel mae Gemau Olympaidd Llundain yn profi, nid oes dim gwarant eu bod yn sbarduno rhagor o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon na byw bywyd egnïol. Mae angen inni edrych yn fanwl ar y dystiolaeth, yn enwedig o ran digwyddiadau mawr fel y Gemau Olympaidd.

 

I am pleased to be able to contribute to the debate and move this amendment. It is apparent that major sporting events are an opportunity to promote Wales’s name—to raise its profile and to promote its profile internationally. It can also provide a short-term stimulus for the economy in specific areas. I think that, on the whole, the major events unit has been extremely successful in collaborating with businesses, public bodies and the third sector—not only in terms of attracting events, but in developing smaller events and placing them on a firmer footing. In north Wales, in my constituency, the Snowdon Race and the Commonwealth Mountain and Ultra Distance Championships have been recent successful examples. We should not fall into the trap of thinking that these inevitably bring benefits with them. The fact is that most Olympic Games in recent decades have resulted in huge debts and have provided only short-term benefits. As the London Olympics prove, there is no guarantee that they encourage more people to participate in sport or to take more physical exercise. We need to look closely at the evidence, particularly in terms of major events such as the Olympic Games.

Galwodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd y Cwpan Ryder yn ‘Gemau Olympaidd Cymru’. Yr wyf yn credu y dylid talu teyrnged—bu cynllunio manwl a daeth lles i golff o ran denu pobl ifanc, gwella cyfleusterau a denu chwaraewyr o dramor i’n cyrsiau golff a llwyddwyd i godi proffil Cymru’n rhyngwladol. Mae’n ddiddorol clywed y Torïaid yn sôn am godi proffil Cymru’n rhyngwladol ac yn dweud nad yw’r adnabyddiaeth o Gymru’n uchel iawn mewn gwledydd fel America. Mae rheswm syml am hynny: nid yw Cymru’n wlad annibynnol. Nid oes ganddi broffil gwleidyddol a chaiff ei hystyried fel rhan o Loegr. Wrth gwrs, y blaid sydd wedi ymladd yn galetaf i’n cadw yn y safle hwnnw yw’r blaid Dorïaidd. Wrth i’r Prif Weinidog ymateb i’r ddadl, hoffwn iddo nodi pa fudd economaidd a ddaeth o’r Cwpan Ryder o ran denu cwmnïau i Gymru, os o gwbl. Os mai ‘dim’, neu ‘fawr ddim’, yw’r ateb, nid yw hynny’n golygu bod y Cwpan Ryder wedi methu.

 

The former First Minister called the Ryder Cup ‘the Welsh Olympics’. I think that we should pay tribute here—there was some detailed planning and some benefit to the game of golf in terms of attracting young people, improving facilities and attracting golfers from abroad to our courses, and Wales’s profile was raised internationally. It is interesting to hear the Tories talking about raising Wales’s international profile and saying that Wales is not particularly well-recognised in countries such as America. There is a simple reason for that: Wales is not an independent nation. It does have a political profile and is considered to be a part of England. Of course, the party that has fought hardest to maintain that status quo is the Tory party. I would like the First Minister, in responding to the debate, to note what economic benefits, if any, resulted from the Ryder Cup in terms of attracting companies to Wales. If the answer is ‘none’ or ‘very few’, that does not mean that the Ryder Cup was a failure.

 

Nid dim ond digwyddiadau sy’n bwysig—mae llwyddiant unigolion fel Dai Greene neu’r timoedd rygbi neu bêl-droed cenedlaethol yr un mor bwysig o ran codi proffil rhyngwladol Cymru. Buaswn i’n dweud bod llwyddiant cymharol y tîm rygbi cenedlaethol yn Seland Newydd yn tystio i hynny o ran y diddordeb yng Nghymru sydd i’w weld a’r ffordd y mae’n gwella delwedd Cymru y tu allan.

 

It is not only events that are important—the success of individuals like Dai Greene or the national rugby or football teams are just as important in terms of raising Wales’s international profile. I would say that the relative success of the national rugby team in New Zealand attests to that in terms of the interest in Wales that is to be seen and the way in which it improves Wales’s image outwith the country.

O ran y Gemau Olympaidd, gemau Llundain oeddent o’r dechrau, er gwaethaf honiadau Llywodraeth Lafur y dydd. Nid wyf yn gwybod sawl gwaith yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yr wyf wedi clywed cyfiawnhad i’r Gemau Olympaidd yn cael ei roi—eu bod yn adfywio ardal Stratford yn Llundain, bod gwaith, cartrefi newydd a chyfleusterau chwaraeon yn cael eu creu a bod tirlunio yn digwydd, a bod hyn i gyd yn arwydd o adfywio rhanbarthol. Dylai Cymru fod wedi cael arian canlyniadol drwy fformiwla Barnett, ond gwrthododd Llywodraeth y dydd roi’r arian hwnnw i Gymru ac nid oes dim arwydd bod y Llywodraeth bresennol am wneud hynny chwaith. Gallaf gyfeirio hefyd at gynllun rheilffordd Crossrail sy’n rhan o’r datblygiad hwnnw a ni ddaeth swm canlyniadol Barnett i Gymru o hynny ychwaith. Mae hon yn enghraifft arall o’r hen ddywediad bod beth sy’n dda i Lundain yn dda i bawb arall, ond nid oes neb yn credu hynny heblaw am y bobl sy’n gweithio ac yn byw yn Llundain.

 

On the Olympic Games, they were London’s games from the outset, despite the claims made by the Labour Government of the day. I do not know how many times during the last year or two that I have heard the justifications for the Olympic Games—that they are regenerating Stratford in London, that jobs, new homes and sporting facilities are being created and that landscaping is taking place, and that all of that is a sign of regional regeneration. Wales should have been given a Barnett consequential from that funding, but the Government of the day refused to give that money to Wales and there is no sign that the current Government intends to do so either. I could also refer to the Crossrail scheme that is a part of that development and Wales has not received a Barnett consequential from that either. This is another example of the old saying that what is good for London is good for everybody else, but no-one believes that apart from the people who live and work in London.

Mae angen i’r Llywodraeth yng Nghymru fabwysiadu cynllun i fanteisio ar y gemau i ddenu ymwelwyr i Gymru, ond y gwir amdani yw y bydd y rhan fwyaf o ymwelwyr o dramor yn mynd i weld y gemau, a byddant yn eu gweld yn Llundain ac yn ardal Llundain. Y ffordd orau o fanteisio yn y tymor hir yw dull y mae Croeso Cymru yn hen gyfarwydd ag ef, sef dod â newyddiadurwyr ac ysgrifenwyr teithio a fydd yn dod i’r Gemau Olympaidd i Gymru a rhoi amser da iddynt. Dyna le mae ein sefydliadau diwylliannol yn gallu cyfrannu: amgueddfa San Ffagan, Canolfan y Mileniwm, Stadiwm y Mileniwm, ein cestyll a’n amgylchedd naturiol, a’n diwylliant Cymreig a Chymraeg. Rhain yw’r ‘unique selling points’ fydd yn cynnal ac yn ehangu ein proffil rhyngwladol tra byddwn yn disgwyl am Senedd lawn i’n cenedl i wneud y job.

 

The Government in Wales needs to adopt a scheme to secure benefits from the games by attracting visitors to Wales, but the reality is that most overseas visitors will go to see the games, which they will do in London and the Greater London area. The best way to benefit in the long term is by using the method that is familiar to Visit Wales—bring journalists and travel writers who will attend the Olympics to Wales and give them a good time. That is where our cultural organisations are able to contribute: St Fagans, the Wales Millennium Centre, the Millennium Stadium, our castles and natural environment, and our Welsh culture. These are the unique selling points that will maintain and expand our international profile as we wait for a full Parliament for our nation to do the job.

 

Gwelliant 3 Jane Hutt

Amendment 3 Jane Hutt

 

Dileu pwynt 2 a rhoi’r canlynol yn ei le:

 

Delete point 2 and replace with:

 

Yn nodi’r ffaith y caiff proffil Cymru dramor ei wella yn sgil profiadau cadarnhaol unigolion a thimau y gwledydd hynny sydd wedi dewis hyfforddi yng Nghymru cyn Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; ac

 

Notes the fact that Wales’ profile abroad will be improved by the positive experiences of those competing nations that have chosen Wales as their base for training in advance of both the 2012 Olympic and Paralympic Games; and

 

Gwelliant 5 Jane Hutt

Amendment 5 Jane Hutt

 

Dileu pwynt 3 a rhoi’r canlynol yn ei le:

 

Delete point 3 and replace with:

 

Yn cydnabod llwyddiant Cymru gyfan yn cynnal Cwpan Ryder 2010 a’r manteision economaidd sydd wedi dod yn ei sgil.

 

Recognises the success for Wales as a whole, in hosting the 2010 Ryder Cup and the economic benefits that have been delivered as a consequence.

 

The First Minister (Carwyn Jones): I move amendments 3 and 5 in the name of Jane Hutt.

 

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Cynigiaf welliannau 3 a 5 yn enw Jane Hutt.

Mark Isherwood: The impact of the Welsh Government’s failure to put in place a strategy to boost Wales’s profile during the 2012 Olympic and Paralympic Games should not be underestimated. As we have heard, Wales has won less than 1 per cent of Olympic construction contracts. Despite pledges that the benefits from the London 2012 Games would be reaped across the UK, Welsh firms have secured less than £600,000 of the top-level building jobs: a tiny fraction of the £12 million won by companies outside the UK, the £17 million won by Northern Ireland, and the £22 million won by Scotland so far, and dwarfed by the £5.1 billion secured by English companies.

Mark Isherwood: Ni ddylai effaith methiant Llywodraeth Cymru i roi strategaeth ar waith i roi hwb i broffil Cymru yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 gael ei ddiystyru. Felly clywsom, mae Cymru wedi ennill llai nag 1 y cant o gontractau adeiladu’r Gemau Olympaidd. Er gwaethaf addewidion y byddai’r manteision o Gemau Llundain 2012 yn amlwg ar draws y DU, mae cwmnïau o Gymru wedi ennill llai na gwerth £600,000 o swyddi adeiladu ar y lefel uchaf: canran fach iawn o’r £12 miliwn a enillwyd gan gwmnïau y tu allan i’r DU, y £17 miliwn a enillwyd gan Ogledd Iwerddon, a’r £22 miliwn a enillwyd gan yr Alban hyd yn hyn, ac yn fach iawn o’i gymharu â’r £5.1 biliwn a sicrhawyd gan gwmnïau yn Lloegr.

 

Of course, not all the news is bad. A number of Welsh companies have been successful in winning significant sub-contracts, including Vannplastic in Flintshire, which was awarded a contract worth tens of thousands of pounds to supply flooring for the Olympic stadium. Wales has also secured some training camps, such as that for China’s Olympic gold-winning weightlifting team, which has picked Bangor University for its pre-games training camp. However, as the Federation of Small Businesses in Wales said earlier this year:

Wrth gwrs, nid yw’r newyddion yn ddrwg i gyd. Mae sawl cwmni o Gymru wedi llwyddo i ennill is-gontractau sylweddol, yn cynnwys Vannplastic yn sir y Fflint, a enillodd gontract gwerth degau o filoedd o bunnoedd i gyflenwi lloriau ar gyfer y stadiwm Olympaidd. Mae Cymru hefyd wedi sicrhau rhai o’r gwersylloedd hyfforddi, fel yr un ar gyfer tîm codi pwysau Tsieina, a enillodd fedalau aur yn y Gemau Olympaidd, a ddewisodd safle Prifysgol Bangor i hyfforddi cyn y gemau. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru yn gynharach eleni:

 

‘The reality is that there hasn’t been enough promotion, and companies were not convinced to get involved in the bidding process.’

 

Y realiti yw na fu digon o hyrwyddo, ac nid oedd cwmnïau wedi’u hargyhoeddi y dylent gymryd rhan yn y broses fidio.

 

As the BBC Wales business correspondent said:

Fel y dywedodd gohebydd busnes BBC Cymru:

 

‘In reality I don’t think business leaders in Wales were expecting a direct financial bonanza from the Games and they’ve been proved right.’

Mewn gwirionedd, nid wyf yn credu fod arweinwyr busnes yng Nghymru yn disgwyl llwyddiant ariannol uniongyrchol sylweddol o’r Gemau ac maent wedi eu profi yn iawn.

 

As the London development manager at the Federation of Small Businesses said in April:

Fel y dywedodd rheolwr datblygu Llundain Ffederasiwn y Busnesau Bach ym mis Ebrill:

 

‘We know an awful lot about what has gone on but the man on the street does not. We keep being told there are 500 days to go to the Olympics, but what does that mean to businesses in Wales or Scotland?’

Gwyddom lawer iawn am yr hyn sydd wedi digwydd, ond nid yw’r dyn ar y stryd yn gwybod. Rydym yn clywed o hyd bod 500 diwrnod i fynd nes y Gemau Olympaidd, ond beth mae hynny’n ei olygu i fusnesau yng Nghymru neu’r Alban?

 

It is not as if the Labour-led Welsh Government was not warned, it is just that, typically, it failed to heed the warnings. In July 2006, I attended the Olympic roadshow visit to the then North East Wales Institute—now Glyndŵr University—in Wrexham at which the roadshow’s director of communications spoke to a business audience about the commercial opportunities that would be available in the years to come. When the London 2012 Chairman, Lord Coe, subsequently visited the Assembly to emphasise the benefits available to Wales, I was lucky to be one of the Assembly Members from across the parties invited to a working lunch with him and his team. There have been years of campaigning on how Wales is missing out on the benefits of the Olympics, despite taxpayers in Wales being hit for a chunk of the costs.

Nid yw fel pe na chafodd Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur ei rhybuddio, ond ni wrandawodd, yn nodweddiadol, ar y rhybudd. Ym mis Gorffennaf 2006, euthum i ymweliad y sioe deithiol Olympaidd ag Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru—Prifysgol Glyndŵr bellach—yn Wrecsam, lle siaradodd cyfarwyddwr cyfathrebu’r sioe deithiol â chynulleidfa fusnes am y cyfleoedd masnachol a fyddai ar gael yn y blynyddoedd i ddod. Pan, ymwelodd Cadeirydd Llundain 2012, yr Arglwydd Coe, â’r Cynulliad wedi hynny i bwysleisio’r manteision oedd ar gael i Gymru, roeddwn yn ffodus i fod ymhlith yr Aelodau Cynulliad o bob plaid a gafodd eu gwahodd i ginio gwaith gydag ef a’i dîm. Bu blynyddoedd o ymgyrchu ar sut mae Cymru’n colli allan ar fanteision y Gemau Olympaidd, er bod yn rhaid i drethdalwyr yng Nghymru gyfrannu at y costau.

 

Alun Ffred Jones: What benefits did Lord Coe outline in that lunch?

Alun Ffred Jones: Pa fanteision wnaeth yr Arglwydd Coe amlinellu yn y cinio hwnnw?

 

Mark Isherwood: He proposed the opportunities. He talked a lot about legacy, but also about the business opportunities that would be available.

 

Mark Isherwood: Cynigiodd y cyfleoedd. Bu’n siarad llawer am waddol, ond hefyd am y cyfleoedd busnes a fyddai ar gael.

The Olympics nations and regions group stated that:

Dywedodd grŵp gwledydd a rhanbarthau y Gemau Olympaidd mai:

 

‘Our vision is to maximise the economic, sporting, cultural and social benefits of the 2012 Olympic Games and Paralympic Games for Wales, in a sustainable manner.’

Ein gweledigaeth yw gwneud y gorau o fanteision economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012 i Gymru, mewn modd cynaliadwy.

 

The Welsh Government should have given Welsh businesses more confidence and support in order to raise aspirations and the number of contracts gained. The potential benefits for Wales were huge, but the Welsh Government failed to rise to the challenge and must now make every effort to maximise the potential remaining from the games, which are now just 282 days away. Despite accusations that the UK Government has deprived Wales of Olympics tourism money by allocating £3 million to Visit England, but nothing to Wales, we must welcome the Minister’s announcement in committee this morning that the UK Minister has approached her and entered into discussions that will ensure the promotion of Wales as an Olympic tourism destination within what is intended as a UK spend. If I heard the Minister correctly, and she may correct me if I am wrong, I believe that she said this morning that this will ensure best value for money for Wales.

Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi rhoi mwy o hyder a chefnogaeth i fusnesau yng Nghymru er mwyn codi dyheadau a nifer y contractau a enillwyd. Roedd y manteision posibl i Gymru yn enfawr, ond methodd Llywodraeth Cymru ag ymateb i’r her ac mae’n rhaid iddi nawr wneud pob ymdrech i wneud y mwyaf o’r potensial sy’n weddill o’r gemau, sydd ond 282 o ddiwrnodau i ffwrdd bellach. Er cyhuddiadau bod Llywodraeth y DU wedi mynd ag arian twristiaeth y Gemau Olympaidd oddi ar Cymru drwy ddyrannu £3 miliwn i Visit England, rhaid inni groesawu cyhoeddiad y Gweinidog yn y pwyllgor y bore yma fod Gweinidog y DU wedi cysylltu â hi a dechrau trafodaethau a fydd yn sicrhau bod Cymru yn cael ei hyrwyddo fel cyrchfan twristiaeth Olympaidd o fewn y gwariant ar gyfer y DU. Os clywais y Gweinidog yn gywir, a gall hi fy nghywiro os wyf yn anghywir, credaf iddi ddweud y bore yma y bydd hyn yn sicrhau gwerth gorau am arian i Gymru.

 

The Welsh Government must now develop specific policies to benefit from tourism linked to the Olympics, rather than relying on visits from people linked to the games.  

Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr ddatblygu polisïau penodol i elwa o dwristiaeth sy’n gysylltiedig â’r Gemau Olympaidd, yn hytrach na dibynnu ar ymweliadau gan bobl sy’n gysylltiedig â’r gemau.

 

4.30 p.m.

 

Mark Isherwood: It cannot rely on its one-size-fits-all answer to every devolved problem by simply blaming Westminster for its own inaction; it must start taking some responsibility for the fortunes of Wales.

 

Mark Isherwood:   Ni all ddibynnu ar ei hateb un-maint-i-bawb i bob problem ddatganoledig gan feio San Steffan, yn syml, am ei diffyg gweithredu; mae’n rhaid iddi ddechrau cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros hynt a helynt Cymru.

 

The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science has responsibility for tourism. The Minister for Housing, Regeneration and Heritage has responsibility for sports issues. The First Minister has responsibility for major events, and the Welsh Government has a major events unit. Between the three Government Ministers, greater responsibility and pro-active steps should have been taken to benefit from the 2012 Olympics. Let us hope that, in the remaining 282 days, we can at least salvage more from the opportunities that are left.

 

Mae gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth gyfrifoldeb am dwristiaeth. Mae gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth gyfrifoldeb am faterion chwaraeon. Mae gan Brif Weinidog Cymru gyfrifoldeb am ddigwyddiadau mawr, ac mae gan Lywodraeth Cymru uned ddigwyddiadau mawr. Rhwng y tri Gweinidog Llywodraeth, mi ddylai bod mwy o gyfrifoldeb a chamau rhagweithiol wedi cael eu cymryd er mwyn manteisio ar Gemau Olympaidd 2012. Gadewch inni obeithio, yn y 282 diwrnod sy’n weddill, gallwn o leiaf achub mwy o’r cyfleoedd sydd ar ôl.

 

Keith Davies: Yr wyf yn falch o gyfrannu at y ddadl, oherwydd credaf fod manteision enfawr yn bosibl i Gymru o gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr a bod yn rhan ohonynt. Byddaf yn cefnogi gwelliannau 1, 3 a 5.

 

Keith Davies: I am pleased to contribute to the debate, because I believe that there are, potentially, huge benefits to Wales of hosting and participating in major sporting events. I will be supporting amendments 1, 3 and 5.

Mae gwaith Llywodraeth Cymru a’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, i ddenu Cwpan Ryder wedi talu ar ei ganfed, â’i ddylanwad yn ymestyn i’m hetholaeth yn Llanelli, lle mae cwrs golff Machynys wedi gweld cynnydd sylweddol yn ei fusnes; yr wyf yn siŵr bod hynny’n wir am gyrsiau golff ledled Cymru. Pe baech yn dod i chwarae golff ym Machynys, byddech efallai’n aros yng Ngwesty Stradey Park, felly nid y cwmni sy’n rhedeg y cwrs golff yn unig sy’n elwa, ond pobl fusnes eraill o gwmpas Llanelli hefyd.

 

The work of the Welsh Government and the former First Minister, Rhodri Morgan, in attracting the Ryder Cup paid huge dividends, with its influence even reaching my constituency of Llanelli, where the Machynys golf course has seen a significant growth in its business; I am sure that that is true of golf courses right across Wales. If you played golf at Machynys, you might well stay at the Stradey Park Hotel, so it is not only the company running the golf course that benefits, but also other Llanelli businesspeople.

Yn ail, mae llwyddiant tîm rygbi Cymru, ar y cae ac oddi ar y cae, wedi bod yn esiampl heb ei hail i’n pobl ifanc ac i bobl ar draws y byd. Cefais fy synnu dros y penwythnos gan y gefnogaeth a gawsom gan y wasg Brydeinig. Yn wir, bu i The Sunday Times lenwi pedair tudalen yn ein canmol. Wrth gwrs, y rheswm pennaf am hynny oedd methiant tîm rygbi Lloegr, ond, chwarae teg i’r wasg Brydeinig, gwelodd fod ein tîm yn llawer gwell na’r tîm hwnnw. Edrychaf ymlaen at ein gweld yn ennill Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015, pan fydd rhai o’r gemau yn digwydd yn ein stadiwm genedlaethol.

 

Secondly, the success of the Welsh rugby team, on and off the pitch, has been an example to our young people and to people right across the world. I was surprised over the weekend at the support that we received by the British press. Indeed, The Sunday Times praise for us was four pages’ long. Of course, the main reason for that was the English team’s failure, but fair play to the British press, it recognised that our team was much better than the English team. I look forward to seeing us win the Rugby World Cup in 2015, when some matches will be held at our national stadium.

Yn olaf, derbyniaf bwynt Mark Isherwood nad yw’n rhy hwyr i elwa ar y ffaith bod y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain yn 2012, a hynny oherwydd y bydd nifer fawr o dimau yn dod i hyfforddi yng Nghymru cyn i’r Gemau gychwyn ac oherwydd y bydd 15 gêm o bêl-droed—a’r gyntaf ohonynt, fel y dywedodd Oscar—yn cael eu cynnal yn ein stadiwm genedlaethol. Wrth gwrs, yn gap ar bopeth, edrychaf ymlaen at weld Dai Green yn ennill medal aur, ac wedyn at y Prif Weinidog yn gofyn iddo ddod yma inni gael rhannu yn ei lwyddiant ac yn y ffaith mai ef, efallai, fydd yr unig un o’r Deyrnas Unedig i ennill medal aur.

 

Finally, I accept Mark Isherwood’s point that it is not too late to benefit from the fact that the Olympic Games are coming to London in 2012,  as a result of many teams coming here for their pre-games training and as a result of holding 15 football matches—including, as Oscar said, the first football match—in our national stadium. I, of course, look forward to seeing the crowning glory of Dai Green winning a gold medal, and to the First Minister inviting him here so that we can share in his success and in the fact that he could be the only UK athlete to win a gold medal.

Byron Davies: I rise to support my colleague Mohammad Asghar, whom I thank for bringing this debate to the Chamber today and for setting out the catastrophic failure of this Welsh Labour Government to support businesses across Wales to bid for contracts surrounding the Olympics, or indeed to secure further events within the overall bid. Despite the lack of drive from the Welsh Labour Government, I pay tribute to—and am positive about—the companies that have represented Wales within the projects, such as: the Royal Mint in Llantrisant, which will apparently be making 4,700 medals; the Newport-based Rowecord Engineering Ltd, which has constructed the 3,000 tonne roof of the iconic aquatics centre; Total CDM Solutions Ltd from Aberteifi, which worked with the architect for the aquatics centre; Bluebay Building Products from Cardiff, which supplied reinforced concrete; and B&W Tunnelling Ltd from Bridgend, which provided drainage and buried services for the primary foul sewer and pumping station. However, we must put these successes into context, as less than 1 per cent of the value of infrastructure contracts were won by Welsh firms.

 

Byron Davies: Yr wyf yn codi i gefnogi fy nghydweithiwr Mohammad Asghar, ac i ddiolch iddo am ddod â’r ddadl hon i’r Siambr heddiw ac am nodi methiant trychinebus Llywodraeth Lafur Cymru i gefnogi busnesau ledled Cymru i geisio am gontractau ar gyfer y Gemau Olympaidd, neu, yn wir, i sicrhau digwyddiadau pellach o fewn y cais cyffredinol. Er gwaethaf y diffyg egni gan Lywodraeth Lafur Cymru, yr wyf yn talu teyrnged i—ac yr wyf yn gadarnhaol am—y cwmnïau sydd wedi cynrychioli Cymru o fewn y prosiectau, megis: y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, a fydd yn ôl pob golwg yn gwneud 4,700 o fedalau; Rowecord Engineering Cyf o Gasnewydd, sydd wedi adeiladu to 3,000 tunnell ar gyfer y ganolfan gweithgareddau dŵr eiconig; Total CDM Solutions Cyf o Aberteifi, a oedd yn gweithio gyda’r pensaer ar gyfer y ganolfan gweithgareddau dŵr;  Bluebay Building Products o Gaerdydd, a gyflenwodd goncrit cyfnerthedig;  a B&W Tunnelling Cyf o Ben-y-bont ar Ogwr, a oedd yn darparu draeniad a gwasanaethau claddu ar gyfer y brif garthffos fudr a gorsaf pwmpio. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni roi’r llwyddiannau hyn mewn cyd-destun: mae llai nag 1 y cant o werth y contractau seilwaith wedi cael eu hennill gan gwmnïau o Gymru.

 

Real and financial contractual benefits have been few and far between off the back of the Olympics. As has been said, Wales has won some £600,000-worth of top-tier contracts, while, to repeat what Mohammad Asghar and Mark Isherwood said earlier, companies in England have won £5.5 billion-worth of contracts, companies in Scotland have won £23.4 million-worth of contracts and companies in Northern Ireland have won £17 million-worth of contracts. Aspirations should have been higher and businesses should have been given confidence and support by the Welsh Government. You have failed the people of Wales with your lack of ambition, drive and business acumen. The Federation of Small Businesses’ spokesman in Wales, Russell Lawson, has said that

 

Mae buddiannau cytundebol real ac ariannol o’r Gemau Olympaidd wedi bod yn brin iawn. Fel y dywedwyd, mae Cymru wedi ennill gwerth tua £600,000 o gontractau haen uchaf, tra, i ailadrodd yr hyn a ddywedodd Mohammad Asghar a Mark Isherwood yn gynharach, bod cwmnïau yn Lloegr wedi ennill gwerth £5.5 biliwn o gontractau, mae cwmnïau yn yr Alban wedi ennill gwerth £23.4 miliwn o gontractau ac mae cwmnïau yng Ngogledd Iwerddon wedi ennill gwerth £17 miliwn o gontractau. Dylai dyheadau wedi bod yn uwch a dylai Llywodraeth Cymru fod wedi rhoi mwy o hyder a chefnogaeth i fusnesau. Yr ydych wedi methu pobl Cymru gyda’ch diffyg uchelgais, egni a chraffter busnes. Mae llefarydd Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru, Russell Lawson, wedi dweud:

 

‘the reality is that there hasn’t been enough promotion, and companies were not convinced to get involved in the bidding process’.

 

Y gwir amdani yw na chafwyd digon o waith hyrwyddo, ac ni chafodd cwmnïau eu hargyhoeddi i gymryd rhan yn y broses gynnig.

 

What a damning indictment of your Government. Nick Servini, BBC Wales’s business correspondent, said that

 

Mae’n gyhuddiad damniol o’ch Llywodraeth. Dywedodd Nick Servini, gohebydd busnes BBC Cymru,

 

‘in reality, I don’t think that business leaders in Wales were expecting a direct financial bonanza from the games, and they’ve been proved right’.

 

Mewn gwirionedd, nid wyf yn credu yr oedd arweinwyr busnes yng Nghymru yn disgwyl ‘bonanza’ ariannol uniongyrchol oddi wrth y gemau, ac maent wedi eu profi yn iawn.

 

That is another example of where you should have been leading the charge for Wales. Before we hear the same rhetoric from the usual suspects in Government, this is not a problem of resources: you cannot blame the Westminster Government on this issue. This was your responsibility, and you failed.

 

Dyna enghraifft arall o ble y dylech fod wedi arwain y ffordd ar gyfer Cymru. Cyn inni glywed yr un rhethreg oddi wrth y bobl arferol yn y Llywodraeth, nid broblem o ran adnoddau yw hyn: ni allwch feio Llywodraeth San Steffan ar y mater hwn. Eich cyfrifoldeb chi oedd hwn, ac yr ydych wedi methu.

 

For example, in the West Midlands, an average of £55 per head was invested in economic development. That is almost half of the £107 per head that the Welsh Government has invested in economic development, yet that region secured 58 supply contracts. Indeed, the First Minister has admitted that Olympic contracts were not even discussed with the council for economic renewal—an unbelievable oversight.

 

Er enghraifft, yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, cafodd £55 y pen ar gyfartaledd ei fuddsoddi mewn datblygu economaidd. Mae hynny bron i hanner y £107 y pen y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn datblygu economaidd, ac eto mae’r rhanbarth honno wedi sicrhau 58 o gontractau cyflenwi. Yn wir, mae’r Prif Weinidog wedi cyfaddef na chafodd y contractau Olympaidd hyd yn oed eu trafod gyda’r cyngor ar gyfer adnewyddu economaidd—esgeulustod anghredadwy.

 

We are where we are, and we must now ensure that we maximise the impact of the Wales brand on the sporting events that we have secured, as well as hosting the training and preparation of teams from across the world. We must also learn from the mistakes made in participating in this global event. We believe that it is the responsibility of the Welsh Government to instil confidence in our businesses, and it has failed to do this. There are no Welsh Government strategies to capitalise on the Olympic and Paralympic Games from either a business or a tourism perspective, and this must be rectified. We also need our First Minister to lead from the front. As of last week, he has had no meetings during the fourth Assembly to discuss how Wales can benefit from hosting the opening event of the London 2012 Olympic Games. There have been no targets set for the number of tourists and attached economic benefits arising from the Olympics. We must do better. I commend this motion to the Chamber.

 

Yr ydym le’r ydym, ac mae’n rhaid inni sicrhau yn awr ein bod yn gwneud y gorau o effaith brand Cymru ar y digwyddiadau chwaraeon yr ydym wedi’u sicrhau, yn ogystal â chynnal hyfforddiant a chyfnod paratoi timau o bob rhan o’r byd. Mae’n rhaid inni hefyd ddysgu o’r camgymeriadau a wnaed wrth gymryd rhan yn y digwyddiad byd-eang hwn. Yr ydym yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw meithrin hyder yn ein busnesau, ac mae wedi methu i wneud hyn. Nid oes unrhyw strategaethau Llywodraeth Cymru i fanteisio ar y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd naill ai o safbwynt busnes neu dwristiaeth, ac mae’n rhaid cywiro hyn. Mae angen hefyd i’n Prif Weinidog arwain yn effeithiol. Hyd at wythnos diwethaf, nid oedd wedi cael unrhyw gyfarfodydd yn ystod y pedwerydd Cynulliad i drafod sut y gallai Gymru elwa o gynnal digwyddiad agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012. Ni osodwyd unrhyw dargedau ar gyfer y nifer o dwristiaid a’r manteision economaidd sydd ynghlwm yn deillio o’r Gemau Olympaidd. Mae’n rhaid inni wneud yn well. Cymeradwyaf y cynnig hwn i’r Siambr.

 

Mike Hedges: As an avid sports fan, I am pleased to take the opportunity to contribute to this debate on major sporting events in Wales. Could I perhaps put one thing right? The Olympic Games are not given to a country; they are given to a city. London won the right to host the Olympic Games, beating Paris, Madrid and the other cities that entered bids. Under the rules of the Olympics, the games are awarded to a city. The World Cup is given to a country. Also, when a city wins the Olympics, it has a duty to get as many events as it possibly can—

 

Mike Hedges: Fel cefnogwr chwaraeon brwd, yr wyf yn falch o achub  ar y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru.Could I perhaps put one thing right? A fedraf efallai gywiro un peth?The Olympic Games are not given to a country; Nid yw’r Gemau Olympaidd yn cael eu rhoi i wlad; they are given to a city. maent yn cael eu rhoi i ddinas.London won the right to host the Olympic Games, beating Paris, Madrid and the other cities that entered bids. Enillodd Llundain yr hawl i gynnal y Gemau Olympaidd, gan guro Paris, Madrid a dinasoedd eraill a geisiodd.Under the rules of the Olympics, the games are awarded to a city. O dan reolau’r Gemau Olympaidd, mae’r gemau yn cael eu dyfarnu i ddinas.The World Cup is given to a country. Cwpan y Byd sy’n cael ei roi i wlad.Also, when a city wins the Olympics, it has a duty to get as many events as it possibly can— Hefyd, pan mae dinas yn ennill y Gemau Olympaidd, mae ganddi ddyletswydd i gael cymaint o ddigwyddiadau â phosibl—

 

Russell George: Alun Pugh, the former Labour Minister, said that

 

Russell George: Dywedodd Alun Pugh, y cyn Weinidog Llafur, y bydd

 

‘playing our part in the campaign for London to host the 2012 Olympic games will have massive spin-offs in terms of tourism and economy, and health and fitness’.

 

‘chwarae ein rhan yn yr ymgyrch ar gyfer Llundain i gynnal y Gemau Olympaidd 2012 yn cael sgil-effeithiau enfawr o ran twristiaeth a’r economi, ac iechyd a ffitrwydd’.

 

It was said that Wales ‘would certainly benefit’ if London won the right to stage the games.

 

Dywedwyd bod Cymru yn sicr o fanteisio os enillodd Llundain yr hawl i gynnal y gemau.

 

Mike Hedges: If you had waited a little longer, you would have heard me say something along those lines. The games are given to a city, and under Olympic rules, most events have to be held close to the Olympic village to create the Olympic experience.

 

Mike Hedges: Pe baech wedi aros ychydig yn hirach, byddech wedi fy nghlywed yn dweud rhywbeth ar hyd y llinellau hynny. Mae’r gemau yn cael eu rhoi i ddinas, ac o dan reolau Olympaidd, mae’n rhaid cynnal y rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn agos at y pentref Olympaidd er mwyn creu’r profiad Olympaidd.

 

It is widely accepted that hosting major sporting events can bring a number of opportunities and benefits. Major sporting events have the potential to increase public participation in sport, increase tourism within the area, and boost the reputation of a host country or region. There are subsequent opportunities for inward investment, and we only need to look at the 2010 Ryder Cup as testament to that. Wales has been involved in a wide range of major sporting events in recent years—more than ever before—including the 2010 Ryder Cup and the 2009 Ashes test match. Those who have been interested in cricket for any length of time probably never expected to see an Ashes test match played in Cardiff. We also have the Wales GB Rally championship, and on top of this, Wales is due to host the 2013 Rugby League World Cup, some games in the 2015 Rugby World Cup tournament, and 11 Olympic football matches at the Millennium Stadium in 2012, including the first Olympic event. Hosting many of these world-class sporting events would not have been possible without the leadership and vision of this Labour Government, and that is something that we are proud of. Despite what the opposition may say, the Welsh Government has shown that it is determined to make the most of the opportunity presented by the 2012 Olympics. Additionally, a number of teams have selected Wales as the place to base their training camps. This will bring economic benefits to the cities and towns and areas around. I believe that the 2012 Olympics will bring—

 

Mae llawer o bobl yn derbyn bod cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn dod â nifer o gyfleoedd a manteision. Mae gan ddigwyddiadau chwaraeon mawr y potensial i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn chwaraeon, cynyddu twristiaeth o fewn yr ardal, a rhoi hwb i enw da y wlad neu’r ardal sy’n cynnal y digwyddiad. Mae cyfleoedd dilynol ar gyfer mewnfuddsoddi, ac mae dim ond angen inni edrych ar Gwpan Ryder 2010 i brofi hynny. Mae Cymru wedi ymwneud ag ystod eang o ddigwyddiadau chwaraeon mawr dros y blynyddoedd diwethaf-mwy nag erioed o’r blaengan gynnwys Cwpan Ryder 2010 a gêm brawf yng nghyfres y Lludw 2009. Ni fyddai’r rhai sydd wedi bod â diddordeb mewn criced ers peth amser byth wedi disgwyl i weld gêm brawf yng nghyfres y Lludw yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd. Mae gennym hefyd y bencampwriaeth Rali Cymru GB, ac ar ben hyn, bydd Cymru yn cynnal Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair 2013, rhai gemau yng Nghwpan y Byd Rygbi 2015, ac 11 gêm pêl-droed Olympaidd yn Stadiwm y Mileniwm yn 2012, gan gynnwys y digwyddiad Olympaidd cyntaf. Ni fyddai cynnal llawer o’r digwyddiadau chwaraeon hyn o’r safon uchaf wedi bod yn bosibl heb arweinyddiaeth a gweledigaeth y Llywodraeth Lafur hon, ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn falch ohono. Er gwaethaf yr hyn y mae’r gwrthbleidiau’n ei ddweud, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod yn benderfynol o wneud y gorau o’r cyfle a gyflwynir gan Gemau Olympaidd 2012. Yn ogystal, mae nifer o dimau wedi dewis Cymru ar gyfer eu gwersylloedd hyfforddi. Bydd hyn yn dod â manteision economaidd i’r dinasoedd a’r trefi ac ardaloedd o gwmpas. Credaf y bydd y Gemau Olympaidd 2012 yn dod â—

 

Alun Ffred Jones: Would you acknowledge that many of those events were actually attracted during the period of the last One Wales Government?

 

Alun Ffred Jones: A fyddech yn cydnabod bod llawer o’r digwyddiadau hynny wedi’u denu, mewn gwirionedd, yn ystod cyfnod y Llywodraeth ddiwethaf Cymru’n Un?

 

Mike Hedges: I certainly will. There is no argument about that. [Laughter.] Perhaps if you put the numbers together, however, you will see that it was Labour-led and Plaid-supported. Furthermore, I welcome the news that the Welsh Government is in the process of creating a strategic action plan to ensure that Wales makes the most of the opportunities before, during and after the 2012 Olympics. I was pleased to learn that there is a 10-year major events strategy. However, I think that it needs to be a longer-term strategy. For a number of major events, such as the Commonwealth Games, we get to have them in Britain every so many years—I think it is roughly every 24 years. It is important to have a strategy ready to enable us to bid for that.

 

Mike Hedges: Yn sicr, gwnaf hynny. Nid oes dadl am hynny. [Chwerthin.] Efallai, os rhowch y rhifau at ei gilydd, fodd bynnag, gwelwch yr arweiniwyd gan Lafur a’i cefnogwyd gan Blaid Cymru. Ar ben hynny, yr wyf yn croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn y broses o greu cynllun gweithredu strategol i sicrhau bod Cymru yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd cyn, yn ystod ac ar ôl Gemau Olympaidd 2012. Yr oeddwn yn falch o glywed bod yna strategaeth digwyddiadau mawr 10 mlynedd.  Fodd bynnag, credaf fod angen iddo fod yn strategaeth tymor hwy. Ar gyfer nifer o ddigwyddiadau mawr, fel Gemau’r Gymanwlad, rydym yn eu cynnal ym Mhrydain o bryd i’w gilydd—yr wyf yn meddwl mai bob 24 mlynedd ydyw. Mae’n bwysig cael strategaeth yn barod er mwyn ein galluogi i wneud cais am hynny.

 

I just want to say to whoever wants transparency in bidding for things, why do you not just say, ‘We don’t want them’ now? You cannot negotiate with UEFA over the Champions League via the Western Mail. You cannot negotiate with them in here. Once you say we want the 2018 Champions League final or the 2020 Europa Cup final in Cardiff, you might as well accept that you are not going to get it. You do not negotiate with them like that. I have confidence in the Ministers concerned, and I hope that we would be looking to get those events to come here, but please do not tell me when we are bidding for them or that we are bidding for them. Once you do that, you have given up any hope of getting them.

 

Yr wyf jest eisiau dweud wrth bwy bynnag sydd eisiau tryloywder wrth wneud cais am bethau, pam nad ydych ond yn dweud, ‘Nid ydym eu heisiau’ yn awr? Ni allwch negodi gydag UEFA dros Gynghrair y Pencampwyr drwy’r Western Mail. Ni allwch negodi â nhw yma. Unwaith y byddwch yn dweud eich bod eisiau rownd terfynol 2018 Cynghrair y Pencampwyr neu rownd derfynol y Cynghrair Europa 2020 yng Nghaerdydd, man a man ichi dderbyn nad ydych yn mynd i’w cael. Nid ydych yn negodi â nhw yn y ffordd yna. Mae gennyf hyder yn y Gweinidogion dan sylw, ac yr wyf yn gobeithio y byddem yn edrych i gael y digwyddiadau hynny i ddod yma, ond peidiwch â dweud wrthyf pryd fyddwn yn gwneud cais amdanynt, neu ein bod yn gwneud cais amdanynt. Unwaith y byddwch yn gwneud hynny, yr ydych wedi rhoi’r gorau i unrhyw obaith o’u cael.

 

People talk about being proactive and transparent. It is all about ensuring that we get these events to come to Wales. Everybody wants them to come here. It is tremendous to have major sporting events in the country. It boosts the country. Just think of the boost we all had from the relative success of the Welsh rugby team, which could have been absolute success had it not been for an unfortunate incident and three missed penalties. It is important that we try to ensure that we use sport for two benefits: one is the benefit to people’s fitness, and the second is that it makes us all feel better.

 

Mae pobl yn sôn am fod yn rhagweithiol a thryloyw. Mae’n ymwneud â sicrhau ein bod yn cael y digwyddiadau hyn i ddod i Gymru.  Mae pawb yn awyddus iddynt ddod yma. Mae’n wych i gael digwyddiadau chwaraeon mawr yn y wlad. Mae’n rhoi hwb i’r wlad.  Meddyliwch am yr hwb yr ydym i gyd wedi’i gael oherwydd llwyddiant cymharol tîm rygbi Cymru, a allai wedi bod yn llwyddiant llwyr oni bai am ddigwyddiad anffodus a cholli tair cic gosb. Mae’n bwysig ein bod yn ceisio sicrhau ein bod yn defnyddio chwaraeon am ddau fudd: un yw’r budd i ffitrwydd pobl, a’r ail yw ei fod yn gwneud inni i gyd deimlo’n well.

 

I just want to reiterate that you cannot negotiate with major sporting bodies via this Chamber or the Western Mail.

 

Yr wyf jest eisiau ailadrodd nad ydych yn gallu negodi gyda chyrff chwaraeon mawr drwy’r Siambr hon neu’r Western Mail.

 

Russell George: There is no question that hosting a major sporting or cultural event generates a wide range of direct and indirect benefits for a nation, including the generation of tourism revenue, the creation of new business opportunities, the reinforcement of high achievement in sports and arts, the strengthening of local and national pride, and the enhancement of local infrastructure and amenities. Most events, including some major ones, are organised and delivered by the private sector, without the need for Government involvement. However, in some instances, Government involvement is required to secure an event through a bidding process. At other times, it is required for the value-added element of an event to ensure a legacy for the benefit of the country. Without deliberate Government intervention, the full potential of these benefits may go unrealised. Therefore, it is clear that the Welsh Government has an important role to play in realising the tangible impacts that these sorts of events can have. That is why I am disappointed by the way the whole Olympic agenda has been handled.

 

Russell George: Nid oes amheuaeth bod cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr neu ddigwyddiad diwylliannol yn dod ag amrywiaeth eang o fanteision uniongyrchol ac anuniongyrchol i genedl, gan gynnwys cynhyrchu refeniw twristiaeth, creu cyfleoedd busnes newydd, atgyfnerthu cyflawniad uchel mewn chwaraeon a’r celfyddydau, cryfhau balchder lleol a chenedlaethol, a gwella isadeiledd a chyfleusterau lleol. Mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau, gan gynnwys rhai mawr, yn cael eu trefnu a’u darparu gan y sector preifat, heb yr angen am gyfranogiad y Llywodraeth. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae angen cyfranogiad y Llywodraeth i sicrhau digwyddiad drwy broses o lunio bid. Ar adegau eraill, mae’n ofynnol ar gyfer yr elfen gwerth ychwanegol o ddigwyddiad er mwyn sicrhau gwaddol er lles y wlad. Heb ymyrraeth fwriadol gan y Llywodraeth, efallai na fyddai’n bosibl cyflawni potensial llawn y buddion hyn. Felly, mae’n amlwg bod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i’w chwarae wrth wireddu’r effeithiau pendant y gall y mathau hyn o ddigwyddiadau eu cael. Dyna pam yr wyf yn siomedig gyda’r ffordd y mae’r holl agenda Olympaidd wedi cael ei reoli.

 

I have already read out the quotation from the former Minister, Alun Pugh. After the announcement that the bid had been successful, there were a number of international delegation visits to Wales to explore its venues and training facilities, including a senior ministerial delegation from China, which was very impressed with our facilities. They were all looking for pre-training camps for the Olympics and Paralympics. Although I welcome the success in relation to securing the training camps for the Paralympic teams from Australia, New Zealand and South Africa, with regard to the Olympics, what we have secured at this stage falls, I believe, well short of what we envisaged six years ago.

 

Rwyf eisoes wedi darllen y dyfyniad gan y cyn Weinidog, Alun Pugh. Ar ôl y cyhoeddiad bod y cais wedi bod yn llwyddiannus, cafwyd nifer o ymweliadau o wledydd tramor i Gymru i archwilio ei lleoliadau a chyfleusterau hyfforddi, gan gynnwys uwch ddirprwyaeth weinidogol o Tsieina, a oedd yn ganmoliaethus iawn o’n cyfleusterau. Maent i gyd yn chwilio am wersylloedd cyn-hyfforddi ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Er fy mod yn croesawu’r llwyddiant mewn perthynas â sicrhau gwersylloedd hyfforddi ar gyfer timau Paralympaidd o Awstralia, Seland Newydd a De Affrica, o ran y Gemau Olympaidd, mae’r hyn yr ydym wedi ei sicrhau ar hyn o bryd yn llai, yr wyf yn credu, na’r hyn yr oeddem yn ei ragweld chwe blynedd yn ôl.

 

The Welsh Government should not take all the blame for a poor games return. The previous UK Government should take a proportion of that blame. I well remember a former UK Minister for sport saying in March last year that there had been a Government failure with regard to the legacy of the games for the entire country. She said that the Government had promised a legacy and a positive change for the entire country—people are wondering what has happened to that promise.

 

Nid bai Llywodraeth Cymru yn unig yw’r lefel isel o elw o ganlyniad i’r gemau. Dylai Llywodraeth flaenorol y DU gymryd cyfran o’r bai hynny. Cofiaf yn dda cyn Weinidog y DU dros chwaraeon yn dweud ym mis Mawrth y llynedd y cafwyd methiant gan y Llywodraeth o ran gwaddol y gemau ar gyfer y wlad gyfan. Dywedodd fod y Llywodraeth wedi addo gwaddol a newid cadarnhaol ar gyfer y wlad gyfan—ac mae pobl yn gofyn beth sydd wedi digwydd i’r addewid hwnnw.

 

Briefly, I would like to touch on the Government’s major events strategy. This was first examined back in 2003.

Yn fyr, hoffwn sôn am strategaeth digwyddiadau mawr y Llywodraeth. Cafodd hwn ei archwilio am y tro cyntaf yn ôl yn 2003.

 

4.45 p.m.

 

We now have one in place, but we have lost seven valuable years in creating and implementing a co-ordinated approach to attracting major sporting and cultural events to Wales. If you look at what the Executive did in Scotland in creating EventScotland, which was also in 2003, you will see that we are really playing catch-up to an integrated policy approach that had real leadership and was properly resourced. We also need to look at best practice in other parts of the world and, in particular, what has been done in New Zealand and Australia. I believe that they have led the way on major events policy for well over a decade.

 

Bellach mae gennym un ar waith, ond yr ydym wedi colli saith mlynedd werthfawr o greu a gweithredu dull cydgysylltiedig i ddenu prif ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol i Gymru. Os ydych yn edrych ar yr hyn a wnaeth y Weithrediaeth yn yr Alban yn creu EventScotland, a oedd hefyd yn 2003, byddwch yn gweld ein bod wir yn ceisio dal i fyny i ddull polisi integredig a oedd ag arweinyddiaeth go iawn ac adnoddau digonol. Mae angen inni hefyd edrych ar arfer gorau mewn rhannau eraill o'r byd, ac, yn benodol, beth a wnaethpwyd yn Seland Newydd ac Awstralia. Credaf eu bod wedi arwain y ffordd ar bolisi digwyddiadau mawr ers ymhell dros ddegawd.

 

To conclude, this has been a good debate so far and the Government has to do more, particularly on the leadership side of events policy. I would like the Welsh Government to set out a real aspirational approach to attracting high-end international sporting and cultural events to Wales and to ensure that it is fully underpinned by a robust policy and delivery mechanism, so that all parts of Wales can benefit from hosting such events.

 

I gloi, bu hon yn ddadl dda hyd yma, ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth wneud mwy,  yn enwedig ar yr ochr arwain polisi digwyddiadau. Hoffwn i Lywodraeth Cymru nodi dull gwirioneddol uchelgeisiol i ddenu digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol rhyngwladol o safon uchel i Gymru ac i sicrhau ei fod yn cael ei lawn ategu gan bolisi cadarn a dull darparu, fel y gall pob rhan o Gymru elwa o gynnal digwyddiadau o'r fath.

Vaughan Gething: As a signed-up long-term sports fan, I welcome the opportunity to speak in this debate. I am particularly pleased to speak as I recognise not only the opportunity, but the achievements of Wales in hosting major sporting events over the last decade and more, especially since the Millennium Stadium was opened. We were fortunate that Wembley took such a long time to get its house in order and we had fantastic publicity from having a range of footballing events in the centre of our capital. I also welcome the clear leadership and direction that the Welsh Government has given on wanting to promote Wales as a sporting nation and to attract major sporting events to Wales. Following the Ryder Cup, we have looked backwards and realised how successful other sporting events can be, not only in terms of simple economic benefits, but the marketing benefits that we could receive in Wales. I was delighted, and surprised, when Cardiff got its first Ashes test match. I was even more surprised when we held out for a draw. It is important to recognise that, when you have those events, you have the eyes of the world on you, and the positive publicity that we had from the facilities and from the people can be major incentives for people to return to us. I believe that major sporting events can, and should, be seen as opportunities to widen and increase participation in sport.

 

Vaughan Gething: Fel ffan chwaraeon hirdymor ymrwymedig, croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Yr wyf yn falch iawn o siarad gan fy mod yn cydnabod nid yn unig y cyfle, ond yr hyn a gyflawnwyd yng Nghymru wrth gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr dros y degawd diwethaf a mwy, yn enwedig ers agor Stadiwm y Mileniwm. Yr oeddem yn ffodus bod Wembley wedi cymryd cyhyd i roi trefn ar ei bethau a chawsom gyhoeddusrwydd gwych o gael amrywiaeth o ddigwyddiadau pêl-droed yng nghanol ein prifddinas. Croesawaf hefyd yr arweiniad a chyfeiriad clir y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi o ran ei hawydd i hyrwyddo Cymru fel cenedl chwaraeon ac i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru. Yn dilyn Cwpan Ryder, yr ydym wedi edrych yn ôl a sylweddoli pa mor llwyddiannus y gall digwyddiadau chwaraeon eraill fod, nid yn unig o ran manteision economaidd syml, ond y manteision marchnata y gallwn eu cael yng Nghymru. Yr oeddwn wrth fy modd, ac yn synnu, pan gafodd Caerdydd ei gêm brawf gyntaf yng nghyfres y Lludw. Yr oeddwn wedi synnu hyd yn oed yn fwy pan lwyddom ni sicrhau gem gyfartal. Mae'n bwysig i gydnabod, pan rydym yn cynnal y digwyddiadau hynny, fod llygaid y byd arnom a gall y cyhoeddusrwydd cadarnhaol a gawsom gan y cyfleusterau a phobl fod yn gymhellion mawr i bobl ddychwelyd atom ni. Credaf y gall ac y dylai digwyddiadau chwaraeon mawr cael eu hystyried fel cyfleoedd i ehangu a chynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon.

 

Like many men my age, I remember the 1981 Ashes series. I remember being a child watching that event and thinking about what had happened. There are many of us who can never let that go, but the important thing is that there is a whole generation of people who fell in love with a sport because of what happened at a major event. If you are near a location and you can go to see it yourself, there is even more of an opportunity. This is anecdotal and I have not looked at wider evidence of it, but in my own constituency, people who see role models and major sporting events that touch them and involve them are much more likely to want to get involved in that sport and to take some interest in physical activity and competition. An example of trying to widen that message on participation is the 5x60 programme, which aims to increase the number of pupils who take part in physical activity. You can use major events and sporting activity at an elite level to try to encourage more people to get involved in local activity. It is also important to look at widening access to sport and sporting opportunities.

 

Fel nifer o ddynion fy oedran i, cofiaf gyfres y Lludw yn 1981. Cofiaf fod yn blentyn yn gwylio'r digwyddiad hwnnw ac yn meddwl am beth oedd wedi digwydd. Mae nifer ohonom sy'n byth yn gallu gadael hynny i fynd, ond y peth pwysig yw bod cenhedlaeth gyfan o bobl wedi syrthio mewn cariad â chwaraeon oherwydd yr hyn a ddigwyddodd mewn digwyddiad mawr. Os ydych yn agos at leoliad a gallwch fynd i’w weld eich hun, mae hyd yn oed fwy o gyfle. Mae hyn yn anecdotaidd ac nid wyf wedi edrych ar dystiolaeth ehangach ohono, ond yn fy etholaeth fy hun, mae pobl sy'n gweld modelau rôl a digwyddiadau chwaraeon mawr sy'n cyffwrdd â hwy ac yn eu cynnwys yn llawer mwy tebygol o fod eisiau cymryd rhan yn y gamp honno ac i gymryd rhywfaint o ddiddordeb mewn gweithgarwch corfforol a chystadleuaeth. Enghraifft o geisio ehangu’r neges honno ar gyfranogiad yw’r rhaglen 5x60, sy'n anelu at gynyddu’r nifer o ddisgyblion sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Gallwch ddefnyddio digwyddiadau mawr a gweithgareddau chwaraeon ar lefel elitaidd i geisio annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch lleol. Mae'n bwysig hefyd edrych ar ehangu mynediad i chwaraeon a chyfleoedd chwaraeon.

 

I am delighted to recognise and pay tribute to the achievements of a number of people in my constituency in getting involved in elite sport, as they become role models within their own communities. There are a number of young guys from Butetown and Grangetown who have been successful in getting into Cardiff City Football Club’s youth academy and they are fantastic role models for their whole community. That achievement is not only about seeing someone like Ibrahim Farah, who recently made his debut for Cardiff City against Oxford. Also, when they go back to their communities, many people take as an example the way that they have to look after themselves and the way that they are taught to value not only their physical wellbeing, but their numeracy and literacy skills and other aspects of education. It is an important thing that we should be looking to build on when we look to have major sporting events, to ensure that we use them as vehicles to promote access.

 

Yr wyf yn falch o gydnabod a thalu teyrnged i lwyddiannau nifer o bobl yn fy etholaeth yn cymryd rhan mewn chwaraeon elît, wrth iddynt ddod yn fodelau rôl o fewn eu cymunedau eu hunain. Mae nifer o fechgyn ifanc o Butetown a Grangetown wedi llwyddo i fynd i academi ieuenctid Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac maent yn fodelau rôl gwych i’w cymuned gyfan. Nid yw’r gamp hon ddim yn unig i weld rhywun fel Ibrahim Farah, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i Ddinas Caerdydd yn erbyn Rhydychen yn ddiweddar. Hefyd, pan ânt yn ôl i'w cymunedau, mae nifer o bobl yn cymryd fel enghraifft y ffordd y maent yn gorfod edrych ar ôl eu hunain a'r ffordd y maent yn cael eu haddysgu i werthfawrogi nid yn unig eu lles corfforol, ond eu rhifedd a sgiliau llythrennedd ac agweddau eraill ar addysg. Mae'n beth pwysig y dylem fod yn edrych i adeiladu arno pan edrychwn i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, er mwyn sicrhau eu bod yn eu defnyddio fel cyfryngau i hyrwyddo mynediad.

Julie Morgan: Thank you for letting me intervene. I congratulate your constituents. Will you join me in congratulating the pupils from Whitchurch High School in my constituency of Cardiff North, who have had considerable achievements? I will just mention Sam Warburton, Gareth Bale and Geraint Thomas.

 

Julie Morgan: Diolch ichi am adael imi ymyrryd. Llongyfarchaf eich etholwyr. A ymunwch â mi i longyfarch y disgyblion o Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd, sydd wedi cael llwyddiannau sylweddol? Soniaf am Sam Warburton, Gareth Bale a Geraint Thomas.

Vaughan Gething: I am delighted to do so. Geraint Thomas is a realistic medal hope at next year’s Olympics, along with one of my constituents, the St Cyres old boy, David Davies in the pool.

 

Vaughan Gething: Rwyf yn falch iawn o gael gwneud hynny. Mae Geraint Thomas yn obaith fedal realistig yng Ngemau Olympaidd y flwyddyn nesaf, ynghyd ag un o'm hetholwyr, yr hen ddisgybl St Cyres, David Davies yn y pwll.

 

I am a little disappointed to hear the constant stream of criticism from the blue benches. It is as if it is solely the Welsh Government’s fault that more Welsh companies have not secured greater contracts for the Olympics. I believe that around £38 million-worth of contracts have been won by Welsh businesses. 

 

Yr wyf ychydig yn siomedig i glywed y llif cyson o feirniadaeth o’r meinciau glas. Mae fel pe bae fod y bai i gyd ar Llywodraeth Cymru nad yw mwy o gwmnïau o Gymru wedi sicrhau mwy o gontractau ar gyfer y Gemau Olympaidd. Credaf fod tua werth £38 miliwn o gontractau wedi'u hennill gan fusnesau Cymru.

In conclusion, I welcome the clear commitment, the direction of travel and the ambition of the Government to try to attract more major sporting events to Wales. I look forward not only to a successful Olympic Games, but to successful major events in Wales in future and to celebrating Welsh success on the major sporting stage.

 

I gloi, croesawaf yr ymrwymiad clir, y cyfeiriad teithio ac uchelgais y Llywodraeth i geisio denu mwy o ddigwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru. Edrychaf ymlaen nid yn unig i Gemau Olympaidd llwyddiannus, ond digwyddiadau mawr llwyddiannus yng Nghymru yn y dyfodol a dathlu llwyddiant Cymru ar y llwyfan chwaraeon mawr.

 

The First Minister: I have listened with interest to all of the contributions that have been made by Members from around the Chamber. Some Members were perhaps more aware of events than others. I would like to deal first of all with the suggestion that there is no strategy in place to secure the legacy of the Olympics in Wales. It does exist; I have it in my hand. After the election, I asked officials to produce such a strategy. They now have it and I will ensure that it is placed in the Members’ Library so that Members can see it. Therefore, the suggestion that nothing has happened since May is plainly wrong.

 

Y Prif Weinidog: Gwrandewais gyda diddordeb ar bob un o'r cyfraniadau a wnaed gan Aelodau o gwmpas y Siambr. Roedd rhai Aelodau efallai’n fwy ymwybodol o ddigwyddiadau nag eraill. Hoffwn ymdrin yn gyntaf â’r awgrym nad oes unrhyw strategaeth ar waith i sicrhau etifeddiaeth y Gemau Olympaidd yng Nghymru. Mae'n bodoli; mae gennyf yn fy llaw. Ar ôl yr etholiad, gofynnais i swyddogion lunio strategaeth o'r fath. Y mae ganddynt yn awr, a byddaf yn sicrhau y caiff ei rhoi yn Llyfrgell yr Aelodau fel y gall Aelodau ei weld. Felly, mae’r awgrym na ddigwyddodd dim ers mis Mai yn amlwg yn anghywir.

I listened carefully to what the Member for South Wales East, Mohammad Asghar, said. You would swear that, somehow, all of the events that have come to Wales over the past 12 years have come by accident—that the Ryder Cup had nothing to do with the Welsh Government and the fact that we will be hosting the Rugby League World Cup in 2013 is nothing to do with the Welsh Government. My surprise was magnified when he said that he hoped that we would not miss out on the 2015 Ashes. The announcement that Cardiff will be an Ashes venue was made three weeks ago. I do not know where he has been since then. I can tell him now that I had discussions with the England and Wales Cricket Board and Glamorgan County Cricket Club and, following those discussions, an announcement was made about Cardiff. I am amazed that he does not know that. That announcement was made on 22 September.

 

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod ar gyfer Dwyrain De Cymru, Mohammad Asghar. Byddech yn taeru, rywsut, bod yr holl ddigwyddiadau sydd wedi dod i Gymru dros y 12 mlynedd diwethaf wedi dod drwy ddamwain—nad oedd gan y Gwpan Ryder ddim i'w wneud â Llywodraeth Cymru a'r ffaith y byddem yn cynnal Cwpan y Byd y Gynghrair Rygbi 2013 ddim i'w wneud â Llywodraeth Cymru. Cynyddodd fy syndod pan ddywedodd ei fod yn gobeithio na fyddem yn colli allan ar y Lludw yn 2015. Gwnaed y cyhoeddiad y bydd Caerdydd yn lleoliad i’r Lludw dair wythnos yn ôl. Nid wyf yn gwybod lle y bu ers hynny. Gallaf ddweud wrtho nawr y cefais drafodaethau gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr a Chlwb Criced Morgannwg ac, yn dilyn y trafodaethau hynny, gwnaed cyhoeddiad am Gaerdydd. Yr wyf yn rhyfeddu na ŵyr hynny. Gwnaed y cyhoeddiad ar 22 Medi.

It is also right to say that around 1,000 athletes, coaches and support staff will be based in Wales in the lead-up to the Olympic Games. We are still talking to a number of other Olympic and Paralympic committees as well. Did these people decide to come to Wales because they put a pin in a map or because they put a list of countries on a dart board and then threw a dart while blindfolded to see where it would land? No. These athletes are coming to Wales as a direct result of the work done by this Government and its predecessor. It is right to say, for example, that Wales was the first nation in the UK to prepare a 2012, pre-games training marketing brochure, which was sent to all Olympic and Paralympic committees around the world and which included a personal letter from the previous First Minister, Rhodri Morgan. Therefore, the suggestion that, somehow, these people have come to Wales by accident clearly is not correct. We were very proactive in terms of bringing athletes to Wales.

 

Mae hefyd yn iawn i ddweud y bydd tua 1,000 o athletwyr, hyfforddwyr a staff cymorth yng Nghymru yn cyn y Gemau Olympaidd. Yr ydym yn dal i siarad â nifer o bwyllgorau Olympaidd a Pharalympaidd eraill yn ogystal. A benderfynodd y bobl hyn ddod i Gymru oherwydd iddynt roi pin mewn map neu oherwydd iddynt roi rhestr o wledydd ar fwrdd dartiau a thaflu dart tra’n gwisgo mwgwd  i weld lle y byddai’n cwympo? Na. Mae’r athletwyr hyn yn dod i Gymru o ganlyniad uniongyrchol i'r gwaith a wnaed gan y Llywodraeth hon a'i rhagflaenydd. Mae'n iawn i ddweud, er enghraifft, mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i baratoi llyfryn marchnata hyfforddiant yn 2012 cyn y gemau, a anfonwyd at holl bwyllgorau’r gemau Olympaidd a Pharalympaidd o gwmpas y byd ac a oedd yn cynnwys llythyr personol gan y Prif Weinidog blaenorol, Rhodri Morgan. Felly, nid yw’r awgrym bod y bobl hyn, rywsut, wedi dod i Gymru ar ddamwain yn amlwg yn gywir. Yr oeddem yn rhagweithiol iawn o ran denu athletwyr i Gymru.

 

Our record is second to none. It has been suggested by the Member for Montgomeryshire that, somehow, we compare favourably with Scotland. Scotland will host the next European Ryder Cup after Wales, but I cannot think of another major sporting event that has gone to Scotland. I can think of a number that have come to Wales, and we are continuing to work to ensure that the Champions League final comes to Wales. We will build on the work that is being done and the work that will be done after the 2013 Rugby League World Cup and the 2015 Rugby World Cup as well. For a country of 3 million people, we punch way above our weight in terms of being able to attract major sporting events.

 

Mae ein record yn ddigymar. Awgrymwyd gan yr Aelod dros Sir Drefaldwyn ein bod, rywsut, yn cymharu’n ffafriol gyda'r Alban. Bydd yr Alban yn cynnal y Cwpan Ryder Ewropeaidd nesaf ar ôl Cymru, ond ni allaf feddwl am ddigwyddiad chwaraeon mawr arall sydd wedi mynd i’r Alban. Gallaf feddwl am nifer sydd wedi dod i Gymru, ac rydym yn parhau i weithio i sicrhau bod gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Gymru. Byddwn yn adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei wneud a'r gwaith a fydd yn cael ei wneud ar ôl Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 2013 a Chwpan Rygbi'r Byd 2015 yn ogystal. Fel gwlad o 3 miliwn o bobl, rydym yn ennill llawer mwy na’n cyfran deg o ran gallu denu digwyddiadau chwaraeon mawr.

 

We have moved forward with regard to a number of aspects of tourism. Visit Wales is in discussions with the Department for Culture, Media and Sport to participate in a major campaign designed to encourage UK residents to stay at home during 2012. We have also sought to ensure that Wales is represented in Visit Britain’s You’re Invited campaign, which will run in 10 key international markets, and we have been working with Visit Britain to ensure that Wales is represented in the storylines and PR for the games. Welsh Olympians will also feature in the 2012 edition of Wales View. Therefore, a number of actions have been taken forward in tourism that show that the Government has been more than proactive.

 

Yr ydym wedi symud ymlaen o ran nifer o agweddau ar dwristiaeth. Mae Croeso Cymru yn trafod gyda'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i gymryd rhan mewn ymgyrch fawr a gynlluniwyd i annog preswylwyr y DU i aros gartref yn ystod 2012. Hefyd, rydym wedi ceisio sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli yn ymgyrch You’re Invited Visit Britain, a fydd yn rhedeg mewn 10 o farchnadoedd rhyngwladol allweddol, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda Visit Britain i sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli yn y straeon a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer y gemau. Bydd Olympiaid Cymru hefyd yn ymddangos yn rhifyn 2012 o Wales View. Felly, cymerwyd nifer o gamau ymlaen mewn twristiaeth sy'n dangos bod y Llywodraeth wedi bod yn fwy na rhagweithiol.

 

It is important, of course, that we make the most of the Olympics and the fact that they are coming to London. We need to ensure that Wales is in a position to benefit from them, which is why, as I mentioned earlier, I have ensured that a strategy is in place to create a legacy for Wales following the Olympics.

 

Mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod yn gwneud y mwyaf o'r Gemau Olympaidd a'r ffaith eu bod yn dod i Lundain. Mae angen inni sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa i elwa arnynt, a dyna pam, fel y soniais yn gynharach, yr wyf wedi sicrhau bod strategaeth ar waith i greu gwaddol i Gymru yn dilyn y Gemau Olympaidd.

We have a very good record in attracting sporting events to Wales. I listened carefully to Byron Davies, who suggested that it was a catastrophic failure on the part of the Welsh Government—according to him the Ryder Cup, the Rugby League World Cup, the Ashes test and the Rugby World Cup in 2015 are all catastrophic failures. If these are failures, I would like to see what he measures success by. He also suggested that the Council for Economic Renewal had not discussed the bidding for Olympic contracts on the part of Welsh business; I can tell you that it has. I can also tell you that there was a wide-ranging discussion trying to identify some of the problems. One problem, bluntly, is a lack of confidence on the part of Welsh businesses to bid. Two speakers on the Conservative benches have already alluded to the fact that businesses have told them that, in effect, it is not worth bidding. We must deal with that. There is no question that we must deal with the issue of confidence in our businesses in Wales, to ensure that they feel confident to bid in the future for large contracts. However, to suggest that, somehow, this is entirely the fault of Government, or to suggest that some of it has not been discussed anywhere, is quite simply wrong.

 

Mae gennym record dda iawn yn denu digwyddiadau chwaraeon i Gymru. Gwrandewais yn astud ar Byron Davies, a awgrymodd ei fod yn fethiant trychinebus ar ran Llywodraeth Cymru—yn ôl ef buodd Cwpan Ryder, Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair, gêm brawf y Lludw a Chwpan Rygbi'r Byd yn 2015 yn fethiannau trychinebus oll. Os yw'r rhain yn fethiannau, hoffwn weld sut y mae yn mesur llwyddiant. Awgrymodd hefyd nad oedd Cyngor Adnewyddu'r Economi wedi trafod y cynnig am gontractau Olympaidd ar ran busnes Cymru; gallaf ddweud wrthych ei fod wedi gwneud hynny. Gallaf ddweud wrthych hefyd y bu trafodaeth eang i geisio nodi rhai o'r problemau. Yn blwmp ac yn blaen, un broblem yw’r diffyg hyder ar ran busnesau yng Nghymru i wneud cais. Mae dau siaradwr ar feinciau'r Ceidwadwyr wedi cyfeirio eisoes at y ffaith bod busnesau wedi dweud wrthynt nad yw, mewn gwirionedd, yn werth ymgeisio. Rhaid inni ddelio â hynny. Nid oes amheuaeth bod rhaid inni ddelio â’r mater o hyder yn ein busnesau yng Nghymru, i sicrhau eu bod yn teimlo'n hyderus i wneud cais ar gyfer contractau mawr yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae awgrymu, rywsut, mai’r Llywodraeth sydd yn llwyr ar fai, neu awgrymu nad yw wedi cael ei drafod yn nunlle, yn hollol anghywir.

 

We look forward to attracting more major sporting events to Wales in the future. We look forward very much to using the Olympics as a way to promote Wales. We also look forward very much to welcoming those athletes who are already coming, and even more athletes, to Wales in the future. A number of athletes, coaches and support staff are making their home in Wales in the run-up to the Olympics.

 

Rydym yn edrych ymlaen at ddenu mwy o ddigwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at ddefnyddio’r Gemau Olympaidd fel ffordd o hyrwyddo Cymru. Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu'r athletwyr hynny sydd eisoes yn dod, a hyd yn oed mwy o athletwyr, i Gymru yn y dyfodol. Mae nifer o athletwyr, hyfforddwyr a staff cymorth yn gwneud eu cartref yng Nghymru yn y cyfnod cyn y Gemau Olympaidd.

 

Byron Davies: You talk about athletes coming here, but would you agree that, on 18 January 2011, you said that you were disappointed that Wales was not playing a greater role and that Welsh businesses had not managed to sign up to things?

 

Byron Davies: Soniwch am athletwyr yn dod yma, ond a fyddech yn cytuno, ar 18 Ionawr 2011, i chi ddweud eich bod yn siomedig nad oedd Cymru yn chwarae mwy o rôl ac na lwyddodd busnesau Cymru i ymrwymo i bethau?

 

The First Minister: Yes, I did, and I think that I have just repeated that point. However, when it comes to legacy, the sporting legacy is very strong. It is quite clear that more must be done in order to raise the confidence of Welsh businesses so that they feel able to bid in the future for large contracts. We know that that much is true. I believe that this Government, and its predecessor, has a good record. 

 

Y Prif Weinidog: Do, fe wnes i, a chredaf fy mod newydd ailadrodd y pwynt hwnnw. Fodd bynnag, pan ddaw i waddol, mae’r gwaddol chwaraeon yn gryf iawn. Mae'n eithaf amlwg bod yn rhaid gwneud mwy er mwyn cynyddu hyder busnesau Cymru fel eu bod yn teimlo eu bod yn gallu gwneud cais yn y dyfodol ar gyfer contractau mawr. Gwyddom fod hynny'n wir. Credaf fod gan y Llywodraeth hon, a'i rhagflaenydd, record dda.

 

Hoffwn hefyd ddweud wrth yr Aelod dros Arfon fy mod yn cyd-fynd â’r hyn a ddywedodd ynglŷn â’r ffaith nad oes arian yn dod o ganlyniad i’r Gemau Olympaidd yn Llundain. Wrth gwrs, nid wyf yn cyd-fynd â’r ffaith nad yw’r arian hwnnw wedi dod. Nid oeddwn yn cyd-fynd â’r ffaith nad oedd yr arian wedi dod o dan y Llywodraeth Brydeinig flaenorol. Mae’r ffaith nad oes arian wedi dod i Gymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn ddadl frwd ynglŷn â’r berthynas rhyngom ni a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn rhywbeth sy’n parhau i gael ei drafod mewn cyfarfodydd.

 

I would also like to say to the Member for Arfon that I agree with what he said about the fact that we are not receiving a consequential as a result of the London Olympics. Of course, I do not agree with the fact that that funding has not been provided. I did not agree with the fact that funding was not provided by the previous British Government. The fact that no funding has been provided to Wales, Scotland or Northern Ireland continues to be a keenly debated point in our discussions on the relationship between us and the UK Government. This is still being discussed in meetings.

Much of what I have heard from the Conservative benches was empty, inaccurate and flat. I would hate to see any one of the Members opposite being put in a position of representing or promoting Wales. What kind of impression would they give? What kind of a legacy would they leave with people when they talk Wales down as they do? What kind of a legacy would they leave with people when they suggest that, somehow, we have not been able to attract major sporting events to Wales, when we know that that, in fact, is not the case? We have done exceptionally well in attracting sporting events to Wales and we are continuing to do so. While some may carp, this Government will continue to deliver.

 

Roedd llawer o'r hyn a glywais o'r meinciau Ceidwadol yn wag, anghywir a di-ddim. Byddai'n gas gennyf weld unrhyw un o'r Aelodau gyferbyn yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle maent yn cynrychioli neu hyrwyddo Cymru. Pa fath o argraff a fyddent yn ei rhoi? Pa fath o waddol a fyddent yn ei gadael gyda phobl pan maent yn siarad yn ddilornus am Gymru fel ag y maent? Pa fath o waddol fyddent yn ei gadael gyda phobl pan maent yn awgrymu, rywsut neu'i gilydd, nad ydym wedi llwyddo i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru, pan wyddom, mewn gwirionedd, nad yw hynny’n wir? Yr ydym wedi gwneud yn eithriadol o dda i ddenu digwyddiadau chwaraeon i Gymru, ac rydym yn parhau i wneud hynny. Tra bydd rhai yn cwyno’n ddi-baid, bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gyflawni.

 

Nick Ramsay: I am pleased that it was the First Minister who responded to this debate today; that was good. It certainly added to the standard of the debate that we had here, especially when he showed us his strategy. We would very much like to see that strategy, and the sooner that he puts it in the Library, the better. I am looking at a response from the Government business and industry engagement manager to a freedom of information request, which the Welsh Conservatives received on 1 September. It notes:

 

Nick Ramsay: Yr wyf yn falch mai’r Prif Weinidog a ymatebodd i'r ddadl hon heddiw; yr oedd hynny’n beth da. Yn sicr, fe wnaeth ychwanegu at y ddadl a gawsom yma, yn enwedig pan ddangosodd inni ei strategaeth. Hoffem yn fawr iawn weld y strategaeth honno, a gorau po gyntaf y gwnaiff ei roi yn y Llyfrgell. Yr wyf yn edrych ar ymateb gan  reolwr ymgysylltu diwydiant a busnes y Llywodraeth i gais rhyddid gwybodaeth, a gafodd y Ceidwadwyr Cymreig ar 1 Medi. Mae'n nodi:

‘I can confirm that there are no Welsh Government strategies in relation to Wales’ Olympic business performance or tourism benefits from the Olympics.’ 

 

Cadarnhaf nad oes strategaethau gan Lywodraeth Cymru o ran perfformiad busnesOlympaidd Cymru na manteision twristiaeth o’r Gemau Olympaidd. 

I am delighted that there is now a strategy, apparently, but perhaps you should give it to your Government so that they know what they are doing with it.

 

Yr wyf wrth fy modd bod strategaeth erbyn hyn, mae'n debyg, ond efallai y dylech ei rhoi i’ch Llywodraeth fel eu bod yn gwybod beth maent yn ei wneud â hi.

This has been a positive and timely debate. The whole point of us tabling this debate was to ensure that Wales is well and truly on the map with regard to the London Olympics.

 

Bu hon yn ddadl gadarnhaol ac amserol. Yr holl bwynt inni gyflwyno'r ddadl hon oedd sicrhau bod Cymru yn sicrhau ei lle ar y map o ran y Gemau Olympaidd yn Llundain.

5.00 p.m.

 

London’s hosting of the Olympics represents an enormous and unprecedented opportunity, not just for that city, but also for the rest of the United Kingdom. I recently had the chance, courtesy of British Waterways, to see the Olympic site, and it is impressive. They are expecting around 300,000 visitors a day, which is almost the size of a city such as Cardiff. It is great for London, but the point is that it can be great for Cardiff too. I know that a number of Members made this point in their contributions. This will require planning and a strategy—not just a piece of paper—that all parts of the Welsh Government knows about and will implement.

Mae cynnal y Gemau Olympaidd yn Llundain yn gyfle enfawr a digynsail, nid yn unig i’r ddinas honno, ond hefyd i weddill y Deyrnas Unedig. Yn ddiweddar, cefais gyfle, trwy garedigrwydd Dyfrffyrdd Prydain, i weld y safle Olympaidd, ac mae’n drawiadol. Maent yn disgwyl tua 300,000 o ymwelwyr y dydd, sydd bron yr un maint â dinas fel Caerdydd. Mae’n beth gwych i Llundain, ond y pwynt yw y gall fod yn wych i Gaerdydd hefyd. Gwn fod nifer o Aelodau wedi gwneud y pwynt hwnnw yn eu cyfraniadau. I wneud hyn, bydd angen cynllunio a strategaeth—nid dim ond darn o bapur—sy’n hysbys i bob rhan o Lywodraeth Cymru ac a fydd yn cael ei gweithredu ganddo.

 

This is where we have had concerns. Beyond the warm words that have been expressed for the Olympics by the Welsh Government, which is welcome, it is difficult to find what is going on behind the scenes to make sure that Wales’s profile is well and truly up there when the Olympics are held.

Dyma lle rydym wedi bod â phryderon.  Y tu hwnt i’r geiriau cynnes a fynegwyd o ran y Gemau Olympaidd gan Lywodraeth Cymru, sydd i’w groesawu, mae’n anodd canfod beth sy’n digwydd tu ôl i’r llenni i sicrhau bod proffil Cymru yn wirioneddol wir amlwg pan fydd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal.

 

In opening the debate, Mohammad Asghar spoke with pride about the Millennium Stadium holding the first event of the Olympics, and he said that the Welsh Government had been complacent in not making sure that more had been done. We are all proud that Cardiff will hold that event, and we want to ensure that we all benefit as much as we can. Oscar also spoke about the Welsh tourism shop window. That is why it is important that a strategy is adopted by all parts of the Welsh Government, so that tourism plays a key part.

Wrth agor y ddadl, soniodd Mohammad Asghar gyda balchder fod Stadiwm y Mileniwm yn cynnal digwyddiad cyntaf y Gemau Olympaidd, a dywedodd y bu Llywodraeth Cymru yn hunanfodlon wrth beidio â sicrhau bod mwy yn cael ei wneud. Yr ydym i gyd yn falch y bydd Caerdydd yn cynnal y digwyddiad hwnnw, ac yr ydym am sicrhau ein bod i gyd yn elwa cymaint ag y gallwn. Soniodd Oscar hefyd am ffenest siop i hybu twristiaeth yng Nghymru. Dyna pam mae’n bwysig bod strategaeth yn cael ei mabwysiadu gan bob rhan o Lywodraeth Cymru, fel bod twristiaeth yn chwarae rhan allweddol.

 

Eluned Parrott spoke in her contribution of her life before politics, using major events to break down the stereotypical and traditional view of Wales, replacing it with a real view of what we have here: a beautiful, forward-looking and ambitious country with ambitious people. As she said, not only could this be an opportunity, but it should be an opportunity—that is the key point. 

Soniodd Eluned Parrott yn ei chyfraniad am ei bywyd cyn gwleidyddiaeth, gan ddefnyddio digwyddiadau mawr i ddymchwel y farn ystrydebol a thraddodiadol am Gymru, a’i disodli gyda’r hyn sydd gennym yma go iawn: gwlad brydferth, flaengar ac uchelgeisiol gyda phobl uchelgeisiol. Fel y dywedodd, gallai hyn nid yn unig fod yn gyfle, ond dylai fod yn gyfle—dyna’r pwynt allweddol.

 

Mark Isherwood spoke about the 282 days left before the games start. Byron Davies said that, regardless of where we have been, we are where we are. It now falls to all of us to make sure that we get the most out of the opportunities that the Olympics present.

Soniodd Mark Isherwood am y 282 o ddiwrnodau sydd ar ôl nes i’r gemau ddechrau. Dywedodd Byron Davies, waeth ble rydym wedi bod, yr ydym lle yr ydym. Mae bellach yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd i sicrhau ein bod yn cael y budd mwyaf o’r cyfleoedd y mae’r Gemau Olympaidd yn eu cynnig.

 

I thought that Alun Ffred Jones made quite a depressing contribution—that is not your usual self; you were obviously feeling a little out of sorts today. You made a rather dismissive comment about people living in London being proud of their city, which I did not quite understand, but I am sure that you had your reasons for saying it. The spirit was lifted when Mark Isherwood took over to make his contribution, which altered the whole atmosphere. He said that BBC Wales had said that business neither expected nor had received a bonanza. That is the key, First Minister. Whatever your strategy may or may not say, businesses ultimately do not feel that they have gained the benefits that they thought they would.

Yr oedd cyfraniad Alun Ffred Jones yn un digalon—nid dyna sut ydych chi fel arfer; mae’n amlwg nad ydych yn eich hwyliau heddiw. Gwnaethoch sylw ddiystyriol am falchder pobl sy’n byw yn Llundain o’u dinas nad oeddwn yn ddeall yn iawn, ond mae’n siŵr fod gennych resymau dros ddweud hynny. Codwyd yr ysbryd pan gymerodd Mark Isherwood drosodd i wneud ei gyfraniad, a newidiodd yr awyrgylch yn llwyr. Dywedodd fod BBC Wales wedi dweud nad oedd busnesau wedi disgwyl nac wedi gweld cyfnod o lewyrch. Dyna’r peth allweddol, Brif Weinidog. Beth bynnag a ddywed eich strategaeth, yn y pen draw, nid yw busnesau yn teimlo eu bod wedi ennill y buddion yr oeddent wedi eu rhagweld.

 

I always appreciate Mike Hedges’s contributions. He managed to get a good old spat going between the divorcees here—Labour and Plaid Cymru. Whether the One Wales Government was Labour-lit or Plaid-pumped—I cannot remember the exact analogies—the point was missed during that spat. This is about all of us doing what we can to work together to make sure that we get the most out of the time that we have left before the Olympics.

Yr wyf bob amser yn gwerthfawrogi cyfraniadau Mike Hedges. Llwyddodd i ddechrau dadl rhwng y pâr sydd wedi ysgaru—Llafur a Phlaid Cymru. Pa un a oedd Llywodraeth Cymru’n Un wedi ei goleuo gan Lafur neu ei phwmpio gan Blaid Cymru—ni allaf gofio’r union ymadrodd—collwyd y pwynt yn ystod y ffrae. Mae hyn yn ymwneud â phob un ohonom yn gwneud ein gorau i gydweithio i sicrhau ein bod yn cael y budd mwyaf o’r amser sydd ar ôl gennym cyn y Gemau Olympaidd.

 

Keith Davies spoke of the dividend from the Ryder Cup, and I am in complete agreement with him—it is becoming a worrying trend; I will have to start looking closely at my views on things. He spoke about the Ryder Cup and said that all sporting events have a pay-off. I do not think that anyone can deny that major sporting events that come to Wales have a dividend.

Siaradodd Keith Davies am y budd o Gwpan Ryder, ac yr wyf yn cytuno’n llwyr ag ef—mae’n dod yn duedd sy’n peri pryder; bydd yn rhaid i mi ddechrau edrych yn ofalus ar fy safbwynt ar bethau. Soniodd am Gwpan Ryder a dywedodd fod budd o ganlyniad i bob digwyddiad chwaraeon. Nid wyf yn credu gall unrhyw un wadu bod budd yn dod yn sgîl digwyddiadau chwaraeon mawr sy’n dod i Gymru.

 

There was an accusation that we were being completely negative, but we were not. In his contribution, Russell George said that it was not the fault of the Welsh Government alone that we have not been making the most of the opportunities to date. In fact, I often say that you are a friendly bunch on the front bench and that we get on with you very well, by and large. I do not think that a lot of the problems are down to you; they are down to your colleagues in the previous Labour Government in Westminster—your colleagues. I do not know why you defend them to the hilt, because they have done little to defend you over the years; but that is an issue for you.

Roedd cyhuddiad ein bod yn bod yn hollol negyddol, ond nid yw hynny’n wir. Yn ei gyfraniad, dywedodd Russell George nad dim ond bai Llywodraeth Cymru ydyw na wnaethom y mwyaf o’r cyfleoedd hyd yn hyn. Yn wir, dywedaf yn aml eich bod yn griw cyfeillgar ar y fainc flaen a’n bod yn cyd-dynnu yn dda iawn, ar y cyfan. Nid wyf yn credu mai chi sy’n gyfrifol am lawer o’r problemau hyn; cyfrifoldeb eich cydweithwyr yn Llywodraeth Lafur flaenorol San Steffan ydyw—eich cydweithwyr. Nid wyf yn gwybod pam eich bod yn eu hamddiffyn i’r carn, gan mai ychydig iawn a wnaethant i’ch amddiffyn chi dros y blynyddoedd; ond mater i chi yw hynny.

 

To close, I was pleased with the tone of the debate today. I am pleased that the First Minister gave the Welsh Government’s view. We are happy to support the Liberal Democrat amendments, amendments 1 and 4. Let us all ensure that, in the short amount of time that we have left before the Olympic Games come to the UK, Wales and its businesses are best placed to get the maximum out of them.

I gloi, yr oeddwn yn falch o naws y ddadl heddiw. Rwyf yn falch fod y Prif Weinidog wedi dweud beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru. Rydym yn hapus i gefnogi gwelliannau’r Democratiaid Rhyddfrydol, gwelliannau 1 a 4. Gadewch i ni gyd sicrhau, yn yr amser prin sydd gennym cyn bod y Gemau Olympaidd yn dod i’r DU, bod Cymru a’i busnesau yn y sefyllfa orau i wneud y mwyaf ohonynt.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is that the motion be agreed without amendment. Is there any objection? I see that there is. Therefore, voting on this item will be deferred until voting time.

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei dderbyn heb ei ddiwygio. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf bod. Felly, gohiriaf bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

 

Dadl Plaid Cymru
Plaid Cymru Debate

 

Y Cyfryngau
The Media

 

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendments 1, 2, 4, 5 and 7 in the name of William Graham and amendments 3 and 6 in the name of Peter Black. If amendment 5 is agreed, amendment 6 will be deselected.

 

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1, 2, 4, 5 a 7 yn enw William Graham a gwelliannau 3 a 6 yn enw Peter Black. Os caiff gwelliant 5 ei dderbyn, bydd gwelliant 6 yn cael ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM4833 Jocelyn Davies

 

Motion NDM4833 Jocelyn Davies

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

1. Yn gresynu wrth:

 

1. Regrets:

 

a) dirywiad sydyn darpariaeth cyfryngau lleol ac effaith hynny ar yr adroddiadau ar fywyd cyhoeddus ac ar wleidyddiaeth yng Nghymru; a

 

a) the rapid decline of local media provision and its impact on the reporting of public life and politics in Wales; and

 

b) yr argyfwng cyllido yn y diwydiant darlledu.

 

b) the funding crisis within the broadcasting industry.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

2. Calls on the Welsh Government to:

 

a) chwilio am atebion i roi sylw i’r bwlch democrataidd a achosir gan hyn; a

 

a) look for solutions to address the resulting democratic deficit; and

 

b) ymdrechu’n frwd i ddylanwadu ar y Bil Cyrff Cyhoeddus fel bo dyfodol S4C yn cael ei ddiogelu.

 

b) actively seek to influence the Public Bodies Bill so that the future of S4C is safeguarded.

 

Bethan Jenkins: I move the motion.

Bethan Jenkins: Cynigiaf y cynnig.

 

The motion proposes that we look at the rapid decline of local media provision and its impact on the reporting of public life and politics, the funding crisis within broadcasting, solutions and actively seeking to influence the Public Bodies Bill so that the future of S4C is safeguarded. We will support amendments 4 and 7, tabled in the name of William Graham.

Mae’r cynnig yn cynnig ein bod yn edrych ar ddirywiad cyflym darpariaeth cyfryngau lleol ac effaith hynny o ran gohebu ar fywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth, yr argyfwng cyllido o fewn darlledu, datrysiadau a mynd ati i geisio dylanwadu ar y Bil Cyrff Cyhoeddus fel bod dyfodol S4C yn cael ei ddiogelu. Byddwn yn cefnogi gwelliannau 4 a 7, a gyflwynwyd yn enw William Graham.

 

There will not be an Assembly Member in the Siambr who is unaware of the problems that have beset the Welsh media industry in recent years. Our media now find themselves in the kill zone, caught in the crossfire from all sides by a series of significant challenges. They include public sector funding cuts, private sector greed and underinvestment, an explosion in online, digital and other media offered by technological advancements, a change in UK Government priorities, and a loss of faith and, therefore, engagement in public life in Wales and across the rest of the UK as a consequence.

Bydd pob Aelod Cynulliad yn y Siambr yn gwybod am y problemau mae’r diwydiant cyfryngau yng Nghymru wedi eu hwynebu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae ein cyfryngau yn awr yn canfod eu hunain yn y grochan o ganlyniad i gyfres o heriau sylweddol. Maent yn cynnwys toriadau i gyllid y sector cyhoeddus, trachwant y sector preifat a thanfuddsoddi, ffrwydrad mewn cyfryngau ar-lein, digidol a chyfryngau eraill a gynigir gan ddatblygiadau technolegol, newid o ran blaenoriaethau Llywodraeth y DU, a cholli ffydd ac, felly, ymgysylltu mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU o ganlyniad.

 

Why has this happened to Wales? It has never been easy to pass information around Wales, as we all know. We have some of the best views in the world, but it is difficult to get television signals over our mountains and it is costly to drive newspaper vans around them, which is why broadband provision is key in Wales. We have 5 per cent of the total UK population, but nearly a quarter of the transmitters and relays found in these islands. For as long as information has been commercialised, a dichotomy has existed at the heart of our media between those who think that, if not free, it should be not for profit, and those who treat the news as a business. Given the overhead costs caused by our topography and our sparse demographic patterns, there were never going to be many millionaires in Wales—not that that has stopped people from trying.

Pam fod hyn wedi digwydd i Gymru? Ni fu erioed yn hawdd trosglwyddo gwybodaeth o amgylch Cymru, fel y gwyddom i gyd. Mae gennym rai o’r golygfeydd gorau yn y byd, ond mae’n anodd cael signalau teledu dros ein mynyddoedd ac mae’n gostus gyrru faniau papur newydd o’u hamgylch, a dyna pam fod darpariaeth band eang yn allweddol yng Nghymru. Mae gennym 5 y cant o gyfanswm poblogaeth y DU, ond bron i chwarter y trosglwyddyddion a geir yn yr ynysoedd hyn. Ers i wybodaeth gael ei masnacheiddio, bu deuoliaeth wrth galon ein cyfryngau rhwng y rhai sy’n credu, os nad yn rhad ac am ddim, na ddylid gwneud elw ohono, a’r rhai sy’n trin y newyddion fel busnes. O ystyried y costau cyffredinol a achosir gan ein topograffi a’n patrymau demograffig tenau, nid oedd yn debygol y byddai nifer fawr o filiwnyddion yng Nghymru—nid bod hynny wedi atal pobl rhag ceisio.

 

Trinity Mirror made a name for itself by maximising the turnover that it took out of its Welsh newspapers. At one point, and not that long ago, it was making profits of 35p from every pound of turnover, a phenomenal amount, given the industry’s traditionally far lower returns. However, that business model was not sustainable. Trinity Mirror achieved it through relentless cuts, effectively taking profits from Wales, while making skilled workers here redundant time and again. That is still happening. Worse, it completely failed to plan for the online revolution. Instead of setting the agenda in Wales and elsewhere, it bought a succession of over-the-hill dogs and lost money hand over fist. To this day, it is still playing catch up.

Gwnaeth Trinity Mirror enw iddo’i hun drwy wneud y gorau o’r trosiant yr oedd yn ei gymryd allan o’i bapurau newydd Cymreig. Ar un adeg, heb fod yn bell yn ôl, yr oedd yn gwneud elw o 35c o bob punt o drosiant, swm rhyfeddol o ystyried adenillion traddodiadol llawer is y diwydiant. Fodd bynnag, nid oedd y model busnes yna yn gynaliadwy. Cyflawnwyd hyn gan Trinity Mirror drwy doriadau di-baid, gan gymryd elw o Gymru tra’n diswyddo gweithwyr medrus yma dro ar ôl tro. Mae hynny’n dal i ddigwydd. Yn waeth, methodd yn llwyr â chynllunio ar gyfer y chwyldro ar-lein. Yn hytrach na gosod yr agenda yng Nghymru ac mewn mannau eraill, prynodd gyfres o hen gŵn a cholli llwyth o arian. Hyd heddiw, mae’n dal i geisio dal i fyny.

 

That is the worst example, but let us not pretend that other newspaper groups in Wales are any different or better. The proprietors are the authors of their own downfall, unfortunately, which is why we need new ideas in this particular area of development.

Dyna’r enghraifft waethaf, ond gadewch inni beidio ag esgus bod grwpiau papurau newydd eraill yng Nghymru yn wahanol neu’n well. Y perchnogion sydd wedi sicrhau cwymp eu hunain, yn anffodus, a dyna pam y mae angen syniadau newydd yn y maes arbennig hwn o ddatblygiad.

 

Nid yw’n well ar gyfer y cyfryngau a gyllidir gan arian cyhoeddus ychwaith. Am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â Chymru, ond â’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill, mae BBC Cymru ac S4C yn wynebu dyfodol llwm ac ansicr. Dof yn ôl at S4C mewn munud. Yr wyf eisiau ystyried BBC Cymru yn gyntaf. Mae cysylltiad yma. Fel y sefydliad cyfryngol mwyaf yn y wlad hon, mae’n bosibl y bydd y toriadau sydd ar y gweill yn cyflwyno newid patrwm sylfaenol yn y ffordd y trafodir bywyd cyhoeddus yma. Yr ydym yn weddol lwcus yng Nghymru. Er bod gweddill y gorfforaeth wedi bod yn gor-symleiddio, yr ydym yn elwa o ymrwymiad parhaus i ddarlledu Reithaidd yng Nghymru, ymrwymiad dwfn i fod yn ddiduedd ac i’r ddadl gyhoeddus ymhlith staff BBC Cymru. Mae’n rhaid bod pob un ohonom wedi ystyried sut y bydd y toriadau yn effeithio ar ansawdd—toriadau nad ydynt wedi digwydd ymhlith rheolwyr BBC Cymru, neu sydd wedi bod yn rhy bitw yn fy marn i. Yr ydym yn deall bod yn rhaid i reolwyr y BBC edrych fel pe baent yn gyfforddus gyda’r toriadau, ond yr ydym i gyd yn gwybod o brofiad chwerw nad yw llai byth yn fwy. Nid yw sefydliadau sector cyhoeddus yn llaes, nid oes gormod o staff rheng flaen gan wasanaethau, ac ni allant gynnal gostyngiadau o ran staffio neu adnoddau yn hawdd—myth yw hynny, ac un Torïaidd fel arfer.

 

It is no better for the publicly funded media either. For reasons that are not connected to Wales, but to what is happening elsewhere, BBC Wales and S4C face a depressing and uncertain future. I will come back to S4C in a minute. I want to look at BBC Wales first. There is a link here. As the largest media organisation in this country, it is possible that the cuts that are in the pipeline will introduce a fundamental change to the pattern by which public life is debated in this country. We are quite lucky in Wales. Although the rest of the corporation has been oversimplifying, we continue to benefit from a commitment to Reithian broadcasting in Wales and a deep commitment to impartiality and to public debate among BBC Wales staff. Every one of us must have considered how the cuts will affect quality—cuts that have not been implemented among BBC Wales managers, or have been too small, in my opinion. We understand that BBC managers have to appear comfortable with the cuts, but we all know from bitter experience that less is never more. Public sector organisations are not affluent, services do not have too many front-line staff, and they cannot easily sustain huge reductions in staffing or resources—that is a myth usually peddled by the Tories.

Ble mae hyn yn gadael S4C? Yr wythnos diwethaf, yr oedd erthygl yn y Guardian ynghylch e-bost preifat oddi wrth Pauline Causey, golygydd rheoli y BBC yng Nghernyw, at Mark Thompson, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC. Yr oedd yn cwyno bod rhanbarthau Saesneg yn colli allan i’r cenhedloedd datganoledig yn y cylch cyfredol o doriadau. Ysgrifennodd Ms Causey bod Radio Cymru yn costio £16.1 miliwn a’i fod yn cyrraedd 146,000 o bobl, a bod gan Radio Cornwall gyllideb cyfredol o £1.6 miliwn a’i fod yn cyrraedd 142,000 o bobl. Mae’r ddadl hon yn cadarnhau ofnau gwaethaf unrhyw un sydd ag amheuon ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi rheolaeth gyllidebol dros S4C i’r BBC.

 

Where does this leave S4C? Last week, there was a report in the Guardian about a private e-mail sent by Pauline Causey, BBC Cornwall’s managing editor, to Mark Thompson, the BBC’s director general. She was complaining that the English regions were losing out to the devolved nations in the current round of cuts. She wrote that Radio Cymru costs £16.1 million and reaches 146,000 people, and that Radio Cornwall has a current budget of £1.6 million and reaches 142,000 people. This argument confirms the worst fears of anyone who has doubts about the UK Government’s plans to pass financial control over S4C to the BBC.

Mae hyn yn dangos sut mae gwahanol grwpiau o fewn y gorfforaeth eisoes yn ymladd fel cathod i gadw eu cyllidebau eu hunain. Mae uwch-reolwyr fel Ms Causey yn awr yn awgrymu sut y dylid rheoli cyllidebau eraill, gan gynnwys cyllidebau’r iaith Gymraeg. Mae’r bygythiad hwn gan rywun o fewn y BBC yn dangos eu bod yn edrych ar y ffigurau yn unig, heb ystyried pwysigrwydd diwylliannol yr iaith Gymraeg. Mae’r farn yn arwydd o’r methiant sylfaenol o fewn y BBC i ddeall anghenion y gwledydd datganoledig. Os oes hawl gan rywun o’r BBC yn Truro i wneud sylwadau am S4C, pa obaith sydd i ddyfodol y sianel?

 

What it demonstrates is how different groups within the corporation are already fighting like cats and dogs to retain their own budgets. Senior managers like Ms Causey are now suggesting how other budgets should be managed, including the budget for Welsh-language broadcasting. This threat from someone within the BBC demonstrates that they look at the figures but not at the cultural importance of the Welsh language. It is a symbol of the fundamental failure within the BBC to understand the needs of the devolved nations. If someone from the BBC in Truro has a right to comment about S4C, what hope is there for the channel’s future?

Pwy o fewn y BBC, y tu allan i Gymru, sydd yn deall pwysigrwydd S4C i Gymru ac i’r iaith Gymraeg? Faint o reolwyr, fel Ms Causey, fydd yn argymell torri cyllideb S4C pan fydd y sianel wedi cael ei throsglwyddo i’r gorfforaeth? Awgrym yn unig yw’r enghraifft hwn o gymhlethdod y materion sy’n wynebu S4C. Yr oedd cyfuno S4C gyda’r BBC yn hawdd a chyfleus i’r Ysgrifenydd Glwadol, ond ni fydd y canlyniadau yn hawdd yng Nghymru. Mae Mr Hunt wedi creu llanast.

 

Who within the BBC outwith Wales understands the importance of S4C to Wales and to the language? How many managers, such as Ms Causey, will recommend slicing S4C’s budget when the channel has been transferred to the corporation? This example only hints at the complexity of the issues facing S4C. Merging S4C with the BBC was easy and convenient for the Secretary of State, but the results will not be easy for Wales. This is a mess created by Mr Hunt.

Mae’n hynod bwysig ein bod ni yn cael addewid gan Lywodraeth Cymru y bydd yn codi ei llais o ran y Mesur Cyrff Cyhoeddus. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sefyll i fyny dros y mater hwn, gofyn i Weinidogion yn Whitehall wthio’r broses ymlaen, a gorfodi gweision sifil a’u meistri i ddeall bod hwn yn fater o wir bwysigrwydd yng Nghymru. Ni fyddwn yn sefyll yn ôl a gwylio sefydliadau fel S4C yn cael eu dinistrio yn y modd hwn.

 

It is extremely important that we secure a pledge from the Welsh Government that it will raise its voice during the debate on the Public Bodies Bill. The Welsh Government has to stand up for Wales on this issue, asking Whitehall Ministers to push this process through, forcing civil servants and their masters to understand that this is truly an important issue for Wales. We will not stand back and see institutions such as S4C being destroyed in this way.

Dadl y Torïaid yw bod angen y toriadau hyn i S4C a’r BBC, ond nid oes unrhyw synnwyr economaidd i hynny. Mae gwelliant 2 yn cyfiawnhau hynny. Y ffordd orau o ddatblygu’r economi yw drwy fuddsoddi yn ein sefydliadau cyfryngol a rhoi’r grym iddynt ddarparu gweithwyr medrus, sy’n cael eu talu’n dda, ac sy’n cyfrannu. Dewis amgen Mr Osborne yw Cymru heb S4C, heb swyddi, heb economi a heb obaith.

The Tory argument is that these cuts are needed in S4C and the BBC, but that makes no economic sense. Amendment 2 refers to that. The best way of developing the economy is by investing in our media organisations, giving them the power to provide an experienced, well-paid workforce that contributes. Mr Osborne’s alternative is a Wales without S4C, without jobs, without an economy and without hope.

 

If we are committed to making this Assembly work for the benefit of Wales, we must have more scrutiny and more attention on this Assembly. My Plaid colleague Syd Morgan calls it the ‘democratic paradox’—an Assembly with more powers but with less attention and outside scrutiny. How does it benefit the reputation of this institution if we fail to reinvigorate our media? How does it demonstrate that our processes are open and transparent if no-one knows what we are doing, apart from when we tweet, of course? Above all, how does this Assembly benefit the people of Wales if it stands apart and becomes more remote as, one by one, our media organisations close up shop and our democracy is potentially plunged into darkness? I am sure that many of you here today will give me some answers.

Os ydym wedi ymrwymo i wneud gwaith y Cynulliad hwn er lles Cymru, rhaid inni gael mwy o graffu a mwy o sylw ar y Cynulliad hwn. Mae fy nghydweithiwr o’r Blaid, Syd Morgan, yn ei alw’n ‘baradocs democrataidd’—Cynulliad gyda mwy o bwerau ond gyda llai o sylw a chraffu allanol. Sut y bydd methu ag ailfywiogi ein cyfryngau o fudd i enw da’r sefydliad hwn? Sut y mae’n dangos bod ein prosesau yn agored a thryloyw os nad oes neb yn gwybod beth ydym yn ei wneud, ar wahân i pan fyddwn yn trydar, wrth gwrs? Yn bwysicaf oll, sut y mae’r Cynulliad hwn o fudd i bobl Cymru os yw’n sefyll ar wahân ac yn pellhau wrth i’n sefydliadau cyfryngau, fesul un, gau’r drysau ac wrth i’n democratiaeth gael ei adael, o bosibl, yn y tywyllwch? Yr wyf yn siŵr y bydd llawer ohonoch yma heddiw yn rhoi ambell i ateb i mi.

 

Gwelliant 1 William Graham

Amendment 1 William Graham

 

Cynnwys is-bwynt 1b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn

 

Insert as new sub point 1b) and renumber accordingly

 

‘methiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cyfeiriad clir i annog a hyrwyddo mwy o luosogrwydd yn y cyfryngau’

 

‘the Welsh Government’s failure to provide a clear direction to encourage and promote a more pluralistic media’

 

Gwelliant 2 William Graham

Amendment 2 William Graham

 

Dileu 1b) a rhoi yn ei le:

Delete 1b) and replace with:

 

‘y rheidrwydd i dorri gwariant cyhoeddus yn y sector darlledu ar ôl i Lywodraeth flaenorol y DU gamreoli’r economi’.

‘the necessity for public spending cuts within the broadcasting sector due to the previous UK Government’s mismanagement of the economy’.

 

Gwelliant 4 William Graham

Amendment 4 William Graham

 

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 2a):

Insert at end of sub-point 2a):

 

‘drwy hyrwyddo hyfforddiant ac entrepreneuriaeth yn y diwydiannau cyfryngau Cymraeg i annog darpariaeth ehangach o raglenni sy’n adlewyrchu diddordebau lleol a gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yng Nghymru’

 

‘by promoting training and entrepreneurship in Welsh media industries to encourage wider provision of programmes reflecting local interests and public life and politics within Wales’

 

Gwelliant 5 William Graham

Amendment 5 William Graham

 

Dileu pwynt 2b) a rhoi yn ei le:

Delete point 2b) and replace with:

 

‘cydnabod y sicrwydd a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y bydd S4C yn cadw ei annibyniaeth olygyddol a gweithredol mewn unrhyw drefniadau cyllido newydd ac i weithio’n gadarnhaol gyda Llywodraeth y DU, y BBC ac S4C i sicrhau’r cyllid ar gyfer S4C y tu hwnt i 2014; a’

 

‘acknowledge assurances from the Secretary of State for Culture, Media and Sport that S4C will retain editorial and operational independence within any new funding arrangements and to work positively with the UK Government, the BBC and S4C to secure funding for S4C beyond 2014; and’

 

Gwelliant 7 William Graham

Amendment 7 William Graham

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

Add new sub-point at end of point 2:

 

‘gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y Bil Cyfathrebu arfaethedig i greu mecanwaith ar gyfer darlledwyr cyhoeddus yng Nghymru i adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol.

‘work with the UK Government on the proposed Communications Bill to create a mechanism for public broadcasters in Wales to report to the National Assembly.

 

Suzy Davies: I move amendments 1, 2, 4, 5 and 7 in the name of William Graham.

 

Suzy Davies: Cynigiaf welliannau 1, 2, 4, 5 a 7 yn enw William Graham.

Diolch i’r Blaid am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Diolch hefyd i Bethan Jenkins am gadarnhau y bydd ei phlaid yn cefnogi gwelliannau 4 a 7.

I thank Plaid Cymru for tabling this debate today. I also thank Bethan Jenkins for confirming that her party will support amendments 4 and 7.

 

The media and broadcast environment in Wales seems to be changing daily. Even though it is not devolved to this Assembly, it is right for us to be part of the discussion about the relationship between media and democratic deficit. It would be highly ironic if we were not.

 

Ymddengys bod byd y cyfryngau a darlledu yng Nghymru yn newid bob dydd. Er nad yw wedi ei ddatganoli i’r Cynulliad hwn, mae’n iawn i ni fod yn rhan o’r drafodaeth am y berthynas rhwng y cyfryngau a diffyg democrataidd. Byddai’n eironig iawn pe na bawn.

5.15 p.m.

 

Suzy Davies: While we welcome Plaid’s motion, we cannot support it unamended. The issue of democratic deficit is not solely attributable to the effects of the UK’s financial deficit. We agree that the Welsh Government can look for solutions to this complicated challenge, but wonder why Plaid continues to obsess about the Public Bodies Bill with regard to S4C. I suspect that none of us were thrilled with the initial announcement regarding S4C’s funding. However, the scale of the proposed cuts to S4C has been reduced, and both the Secretary of State and the BBC have guaranteed editorial and operational independence—both key demands. Attempts to amend the Bill have already failed. The Bill already places a duty on the Secretary of State to secure funds to cover the cost of S4C’s public service broadcasting in 2012 and subsequent years. Today, we have had the welcome announcement that the BBC is committing to funding S4C until 2017, which is another key concession.

 

Suzy Davies: Er ein bod yn croesawu cynnig y Blaid, ni allwn ei gefnogi heb ei ddiwygio.  Nid yw diffyg democrataidd i'w briodoli'n llwyr i effeithiau diffyg ariannol y DU. Yr ydym yn cytuno y gall Llywodraeth Cymru chwilio am atebion i'r her gymhleth hon, ond yn holi pam fod y Blaid yn parhau i fod ag obsesiwn am y Bil Cyrff Cyhoeddus mewn perthynas â S4C. Yr wyf yn amau nad oedd yr un ohonom wrth ein bodd gyda'r cyhoeddiad cychwynnol am ariannu S4C. Fodd bynnag, mae maint y toriadau arfaethedig i S4C wedi cael ei leihau, ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol a'r BBC wedi gwarantu annibyniaeth olygyddol a gweithredol—y ddau yn alwadau allweddol. Mae’r ymdrechion i newid y Bil wedi methu eisoes. Mae'r Bil eisoes yn rhoi dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau arian i dalu am gost darlledu gwasanaeth cyhoeddus S4C yn 2012 a'r blynyddoedd dilynol. Heddiw, yr ydym wedi cael y cyhoeddiad calonogol bod y BBC yn ymrwymo i ariannu S4C tan 2017, consesiwn allweddol arall.

 

If we are expecting both these major broadcasters to run these multi-million pound enterprises, surely we can expect them to thrash out the terms of their new partnership without asking politicians to do it for them. We believe that they can and that is why we cannot support parts ii and iii of amendment 6 in the name of Peter Black. We also cannot support part vii of that amendment, as, depending on S4C’s eventual governance structure, the possibility arises for the two bodies to be tied together in perpetuity. In the event of amendment 5’s not being agreed, we would have liked to be able to support parts vi, v, viii and possibly iv of amendment 6—part i is now redundant—but, regrettably, we cannot support the amendment in its entirety.

 

Os ydym yn disgwyl i’r ddau ddarlledwr mawr hyn redeg mentrau gwerth miliynau o bunnoedd, gallwn ddisgwyl iddynt ddod i gytundeb ar delerau eu partneriaeth newydd heb ofyn i wleidyddion wneud hynny ar eu rhan. Rydym yn credu y gallant, a dyna pam na allwn gefnogi rhannau ii a iii gwelliant 6 yn enw Peter Black. Ni allwn gefnogi rhan vii y gwelliant hwnnw chwaith, oherwydd, yn dibynnu ar strwythur llywodraethu S4C yn y pen draw, mae posibilrwydd i’r ddau gorff gael eu clymu gyda'i gilydd am byth. Petai gwelliant 5 yn cael ei gytuno, byddem wedi hoffi gallu cefnogi rhannau vi, v, viii ac o bosibl iv gwelliant 6—mae rhan i yn awr yn ddiangen—ond, yn anffodus, ni allwn gefnogi'r gwelliant yn ei gyfanrwydd.

 

As Professor Hargreaves has said, we are at a crossroads with regard to local media, but he is optimistic and so am I. Without underestimating the effect of recent BBC budget cuts, local news and current affairs programmes did not bear the brunt of those cuts, especially in Welsh-language programming. That raises the question of why S4C will be reducing its main evening coverage by two minutes, but maybe a new time and format will attract more viewers. Who knows? That is editorial independence for you.

 

Fel y dywedodd yr Athro Hargreaves, yr ydym ar groesffordd o ran cyfryngau lleol, ond mae’n optimistaidd ac yr wyf innau, hefyd. Heb danamcangyfrif effaith y toriadau diweddar ar gyllideb y BBC, ni wnaeth newyddion lleol a rhaglenni materion cyfoes ddwyn baich y toriadau hynny, yn enwedig mewn rhaglenni Cymraeg. Mae hynny'n codi'r cwestiwn ynghylch pam fydd S4C yn lleihau ei brif raglenni gyda’r nos o ddwy funud, ond efallai y bydd amser a fformat newydd yn denu mwy o wylwyr. Pwy a ŵyr?  Dyna annibyniaeth olygyddol ichi.

 

ITV has invested in the Cardiff end of operations and is showing a greater commitment to public service broadcast output. To preserve and grow that output in Wales, I can see the advantage of having a Wales-only channel 3 licence.

 

Mae ITV wedi buddsoddi yn ochr Caerdydd ei weithrediadau ac mae’n dangos mwy o ymrwymiad i allbwn darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Er mwyn cadw a thyfu’r allbwn hwnnw yng Nghymru, gwelaf y fantais o gael trwydded Cymru yn unig ar gyfer sianel 3.

 

Ofcom’s research has revealed that Welsh news and current affairs are highly valued by Welsh viewers, especially if provided from more than one source. I would like the forthcoming UK communications Bill to be framed to acknowledge devolution and to consider the different needs and priorities of Wales, including linguistic needs. That includes recognising the importance of pluralistic media in informing civil society and scrutinising the democratic process. Perhaps all parties would like to help lobby on that Bill when it finally comes forward.

 

Datgelodd ymchwil Ofcom bod newyddion a materion cyfoes Cymreig yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan wylwyr yng Nghymru, yn enwedig os cânt eu darparu o fwy nag un ffynhonnell. Hoffwn weld Bil cyfathrebu'r DU, sydd ar y gweill, yn cael ei lunio i gydnabod datganoli ac i ystyried gwahanol anghenion a blaenoriaethau Cymru, gan gynnwys anghenion ieithyddol.  Mae hynny'n cynnwys cydnabod pwysigrwydd cyfryngau amryfath o ran hysbysu cymdeithas sifil a chraffu ar y broses ddemocrataidd. Efallai y byddai pob plaid yn hoffi helpu i lobio ar y Bil hwnnw pan gaiff ei gyflwyno ymhen hir a hwyr.

 

Hyper-local digital platforms are starting to play an important role in filling the gap left by lost local newspapers. I am sorry that I do not have time to respond fully to the points that Bethan Jenkins made on newspapers. The Chancellor’s announcement of £150 million for mobile-phone coverage and £15 million for super-fast broadband, as well as the Welsh Government’s commitment to roll out broadband to all, opens up digital horizons. Whatever you think of it, some areas of Wales are now able to explore the option of local television. Members will remember my scepticism about this from our debate in June, but I hope that they will also remember that I urged the Welsh Government, existing broadcasters and unmotivated Welsh companies to develop and seize the chances that the new digital landscape has to offer. This is what I would like the Government to do to help resolve the democratic deficit: it must speed up the work of the creative industry panel and it must actively pursue the idea of public service broadcasting providers giving account of themselves and their impact on devolved areas to the Assembly. Resolving the democratic deficit does not require devolution but it should be a two-way process. The democratic deficit creates a self-resolving market opportunity. The Government’s skills and apprenticeship schemes and business support schemes should be championing small and medium-sized enterprises and social enterprises to invest in journalistic and other creative enterprises.

 

Mae llwyfannau digidol hyperleol yn dechrau chwarae rhan bwysig o ran llenwi'r bwlch a adawyd gan bapurau newydd lleol a gollwyd. Mae'n ddrwg gennyf nad oes amser gennyf i ymateb yn llawn i'r pwyntiau a wnaed gan Bethan Jenkins ar bapurau newydd. Mae cyhoeddiad y Canghellor o £150 miliwn ar gyfer derbyniad ffonau symudol a £15 miliwn ar gyfer band eang cyflym iawn, yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno band eang i bawb, yn ehangu gorwelion digidol. Beth bynnag a feddyliwch ohono, mae rhai ardaloedd yng Nghymru bellach yn gallu ymchwilio i'r opsiwn o gael teledu lleol. Bydd Aelodau'n cofio fy amheuon am hyn o’n dadl ni ym mis Mehefin, ond gobeithio y byddant hefyd yn cofio fy mod wedi annog Llywodraeth Cymru, darlledwyr presennol a chwmnïau Cymreig heb gymhelliad i ddatblygu a manteisio ar y cyfleoedd y mae'r tirlun digidol newydd yn eu cynnig. Dyma’r hyn yr hoffwn i'r Llywodraeth ei wneud i helpu i ddatrys y diffyg democrataidd: rhaid iddi gyflymu gwaith y panel diwydiant creadigol, a rhaid iddi weithio ar y syniad o ddarparwyr darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn rhoi cyfrif o’u hunain a'u heffaith ar feysydd datganoledig i'r Cynulliad. Nid oes angen datganoli i ddatrys y diffyg democrataidd, ond dylai fod yn broses ddwy-ffordd. Mae'r diffyg democrataidd yn creu cyfle am farchnad sydd â’r atebion ei hun. Dylai cynlluniau sgiliau a phrentisiaethau y Llywodraeth a chynlluniau cymorth busnes hyrwyddo mentrau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol i fuddsoddi mewn mentrau newyddiadurol a mentrau creadigol eraill.

 

Finally, I was disappointed when the Minister for business seemed unimpressed by my suggestion of creating an IT enterprise zone for South Wales West. Apart from the obvious problem of trying to manufacture software and hardware in a virtual enterprise zone, digital proliferation will dominate the media agenda in coming years. An IT and creative industries enterprise zone must be investigated again and I ask the Minister to consider South Wales West as a location for it. Of course, there will be benefits for Llanelli due to the proximity of the two places.

 

Yn olaf, yr oeddwn yn siomedig nad oedd fy awgrym o greu ardal menter TG ar gyfer Gorllewin De Cymru wedi cael argraff  ar y Gweinidog dros fusnes, fe ymddengys. Ar wahân i'r broblem amlwg o geisio cynhyrchu meddalwedd a chaledwedd mewn parth menter rhith, bydd amlhau digidol yn dominyddu agenda’r cyfryngau yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n rhaid edrych ar ardal fenter TG a diwydiannau creadigol eto, ac yr wyf yn gofyn i'r Gweinidog ystyried Gorllewin De Cymru fel lleoliad i hynny. Wrth gwrs, fe fydd yna fanteision i Lanelli oherwydd agosrwydd y ddau le.

 

Gwelliant 3 Peter Black

Amendment 3 Peter Black

 

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

 

Insert new sub-point at the end of point 1:

 

‘methiant Llywodraeth flaenorol Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i gyllido papur newydd dyddiol Cymraeg.’

‘the failure of the previous Welsh Government to meet its commitment to fund a Welsh language daily newspaper.’

 

Gwelliant 6 Peter Black

Amendment 6 Peter Black

 

Ym mhwynt 2b), ar ôl ‘ddiogelu’ cynnwys:

 

In point 2b) after ‘safeguarded’ insert:

 

‘a:

 

‘and that:

 

i) bod cyllid S4C yn cael ei neilltuo’n benodol tan 2016;

 

i) S4C funding is ring-fenced until 2016;

 

ii) nad yw cynrychiolwyr y BBC ar Awdurdod S4C hefyd yn aelodau o Ymddiriedolaeth y BBC;

 

ii) BBC representatives on the S4C Authority are not also members of the BBC Trust;

 

iii) bod bwrdd rheoli S4C yn parhau’n annibynnol o’r BBC;

 

iii) S4C’s management board remains independent of the BBC;

 

iv) dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo penodiad aelod Ymddiriedolaeth y BBC gyda chyfrifoldeb dros Gymru a chadeirydd Awdurdod S4C ar ôl iddynt gael eu penodi gan Weinidogion Llywodraeth y DU;

 

iv) the appointment of the BBC Trust member with responsibility for Wales and the chair of the S4C Authority should receive the approval of the National Assembly for Wales following their appointment by UK Government Ministers;

 

v) bod S4C yn cynnal a chadw annibyniaeth lawn yn olygyddol, yn weithredol ac o ran creu rhaglenni;

 

v) S4C maintains full editorial, programming and operational independence;

 

vi) bod rhaglenni’n dal i gael eu comisiynu gan gwmnïau annibynnol o Gymru;

 

vi) the commissioning of programmes from independent Welsh companies continues;

 

vii) bod strwythur llywodraethol newydd S4C wedi’i wreiddio yn y gyfraith ar ffurf siarter, ac y bydd y sianel yn gweithio fel partner i’r BBC ac nid fel is-gwmni iddo; a bod

 

vii) the new governance structure for S4C is enshrined in law as a charter, and the channel will work as a partner of the BBC not a subsidiary of it; and

 

viii) y Llywodraeth a’r BBC yn rhoi ymrwymiad clir i raglenni Cymraeg.

 

viii) the Government and the BBC give an unequivocal commitment to Welsh language programming.

 

Peter Black: I move amendments 3 and 6 in my name.

 

Peter Black: Cynigiaf welliannau 3 a 6 yn fy enw i.

 

I welcome this debate, because one of the problems with regard to the issues raised in this motion is that we have not had enough of a chance as an Assembly to discuss and hold to account the various media organisations that are referred to in the motion. Inevitably, this is becoming a discussion about S4C, but there are much wider issues around this, particularly with regard to the reference in the motion to

 

Croesawaf y ddadl hon, oherwydd un o'r problemau o ran y materion a godwyd yn y cynnig hwn yw na chawsom ddigon o gyfle fel Cynulliad i drafod a dal i gyfrif y gwahanol sefydliadau cyfryngol y cyfeirir atynt yn y cynnig. Yn anochel, mae hyn yn dod yn drafodaeth am S4C, ond mae materion ehangach o lawer ynglŷn â hyn, yn enwedig o ran y cyfeiriad yn y cynnig at

 

‘the rapid decline of local media provision and its impact on the reporting of public life and politics in Wales’,

 

dirywiad cyflym o ddarpariaeth cyfryngau lleol ac effaith hynny ar adrodd bywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth yng Nghymru,

 

which is a matter of concern. Of course, we also have to acknowledge that things are moving very quickly within broadcasting, the media, newspapers and a whole range of other provision, much of which was referred to by Bethan Jenkins in her opening speech. Clearly, the challenge for us is not to try to hold on to what we have, but to try to work with what is emerging to find ways to deliver that accountability and reporting of what we do as politicians within the new media. It is important that we keep that accountability, but we have to find ways to adapt to the changing situation.

 

sydd yn destun pryder. Wrth gwrs, mae’n rhaid inni hefyd gydnabod bod pethau'n symud yn gyflym iawn ym myd darlledu, y cyfryngau, papurau newydd ac amryw o ddarpariaeth arall, fel y soniodd Bethan Jenkins yn ei haraith agoriadol. Yn amlwg, nid yr her inni yw ceisio cadw gafael ar yr hyn sydd gennym, ond ceisio gweithio gyda'r hyn sy’n dod i'r amlwg er mwyn ffeindio ffyrdd o wireddu’r atebolrwydd hwnnw ac rhoi cyfrif am yr hyn a wnawn fel gwleidyddion o fewn y cyfryngau newydd.  Mae'n bwysig ein bod yn cadw’r atebolrwydd hwnnw, ond mae'n rhaid inni ffeindio ffyrdd o addasu i’r newid yn y sefyllfa.

 

Amendment 6 relates to S4C because that is the issue of the day with the Public Bodies Bill going through Parliament. There is a task and finish group of the Communities and Local Government Committee looking at the wider issues at the moment, and I expect that, as a result of the report of that group, we will have an opportunity to look in more depth at the other issues that arise. In my view, there has been a lack of accountability, and there has been little interest on the part of the Department for Culture, Media and Sport in Welsh broadcasting and in S4C in particular. With some exceptions—I think that there have been two sub-committees or committees that have looked at broadcasting in the last few years—the Welsh Government and the Assembly have largely ignored the media and how it has developed in Wales in the last 12 years. The reason for that is that it is not devolved, but it seems that, because it is not devolved, we have opted out of the debate on its future. That has been a mistake.

 

Mae gwelliant 6 yn ymwneud ag S4C oherwydd dyna fater y dydd gyda'r Bil Cyrff Cyhoeddus yn mynd drwy'r Senedd.  Mae grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol yn edrych ar y materion ehangach ar hyn o bryd, ac yr wyf yn disgwyl, o ganlyniad i adroddiad y grŵp hwnnw, y bydd gennym gyfle i edrych yn fanylach ar y materion eraill sy'n codi. Yn fy marn i, bu diffyg atebolrwydd, ac fu fawr o ddiddordeb gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn y byd darlledu yng Nghymru ac yn S4C yn arbennig. Gyda rhai eithriadau—yr wyf yn meddwl bod dau is-bwyllgor neu bwyllgor wedi edrych ar ddarlledu yn ystod y blynyddoedd diwethaf—mae Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad wedi anwybyddu'r cyfryngau i raddau helaeth, a’r modd maent wedi datblygu yng Nghymru dros y 12 mlynedd diwethaf. Y rheswm am hynny yw nad yw wedi cael ei ddatganoli, ond oherwydd nad yw wedi cael ei ddatganoli, ymddengys ein bod wedi dewis peidio â chael dadl ar ei ddyfodol. Bu hynny yn gamgymeriad.

 

In terms of S4C itself, I have no problem with the BBC funding it, providing that certain conditions are met—in particular, guarantees on funding and independence. The objective in this, as the BBC trustee for Wales says in the Western Mail this morning, is to have the best possible service for a Welsh-speaking audience. She says that S4C is not broken, and I agree with her. It is, though, in need of some tender loving care. 

 

O ran S4C ei hun, nid oes gennyf broblem gyda'r BBC yn ei ariannu, cyhyd ag y bod amodau penodol yn cael eu bodloni—yn benodol, gwarantau am ariannu ac annibyniaeth.  Yr amcan, fel y dywed ymddiriedolwr y BBC dros Gymru yn y Western Mail y bore yma, yw cael y gwasanaeth gorau posibl i gynulleidfa sy'n siarad Cymraeg.  Dywed nad yw S4C wedi torri, ac yr wyf yn cytuno â hi. Mae, fodd bynnag, angen mymryn o gariad a thynerwch.

 

What we have laid down in our amendments is what we believe should be the way forward. The first thing is certainty of funding—an issue that is referred to by the BBC trustee for Wales. I take comfort in her assurance that she proposes to set out the level of licence fee funding that could be provided to S4C until the end of the current charter. That sort of stability is much-needed by the channel, and is certainly referred to in amendment 6. Secondly, we need some independence for the channel in the way that it is managed, and that means separating the BBC representatives on the S4C Authority from the BBC Trust and keeping the management board separate from the BBC as well. We also want to improve scrutiny, both of this arrangement and of S4C, and so we believe that it is time that the Assembly had a role in the appointment of the BBC trustee for Wales and the chair of the S4C Authority. We would also like to see more scrutiny of the channel here, with routine interrogation of the annual report by committee, and more proactive involvement of Welsh Ministers in the oversight of the channel. Clearly, there also need to be guarantees as to editorial control and the commissioning of programmes from independent companies. That is why we want the new governance structure enshrined in a new charter. We believe that, with these conditions, the UK Government’s proposals can be made to work and will protect the future of S4C. I would ask you therefore to support the amendments that we have tabled.

 

Yr hyn yr ydym wedi ei amlinellu yn ein gwelliannau yw’r hyn yr ydym yn credu a ddylai fod y ffordd ymlaen. Y peth cyntaf yw sicrwydd o ariannu—mater y mae ymddiriedolwr y BBC dros Gymru yn gyfeirio ato. Cefais fy nghysuro gan ei sicrwydd ei bod yn bwriadu pennu lefel arian ffi'r drwydded y gellid ei ddarparu i S4C tan ddiwedd y siarter gyfredol. Mae'r math hwnnw o sefydlogrwydd yn fawr ei angen gan y sianel, ac yn sicr cyfeirir ato yng ngwelliant 6. Yn ail, mae angen rhywfaint o annibyniaeth i'r sianel yn y ffordd y caiff ei reoli, ac mae hynny'n golygu gwahanu cynrychiolwyr y BBC ar Awdurdod S4C oddi wrth Ymddiriedolaeth y BBC a chadw'r bwrdd rheoli ar wahân i'r BBC hefyd.  Rydym hefyd yn awyddus i wella craffu ar y trefniant hwn ac ar S4C, ac felly rydym yn credu ei bod yn bryd i’r Cynulliad gael rôl o ran penodi ymddiriedolwr dros Gymru y BBC a chadeirydd Awdurdod S4C. Byddem hefyd yn hoffi gweld mwy o graffu ar y sianel yn y fan hyn, gyda chraffu arferol ar yr adroddiad blynyddol gan bwyllgor, a rôl mwy rhagweithiol i Weinidogion Cymru o ran goruchwyliaeth o’r sianel. Yn amlwg, mae angen hefyd sicrwydd o ran rheolaeth olygyddol a chomisiynu rhaglenni gan gwmnïau annibynnol. Dyna pam yr ydym eisiau strwythur llywodraethu newydd sydd wedi'u hymgorffori mewn siarter newydd. Rydym yn credu, gyda’r amodau hyn, y gall cynigion Llywodraeth y DU gael eu gwireddu ac yn diogelu dyfodol S4C. Byddwn yn gofyn ichi, felly, i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gennym.

 

As an Assembly, we need to start engaging much more with the future of Welsh media. We need to be looking at not just the future of local newspapers, but at how the internet in particular impinges upon the Welsh media and the communications industry. We also need to start tackling the not spots around Wales and ensuring that we have the best possible access to broadband. The future of the media is in the internet and in services delivered through broadband. If we fall behind in the provision of infrastructure, then we will regret it and we will also fall behind in terms of our economic development.

 

Fel Cynulliad, mae angen inni ddechrau ymgysylltu llawer mwy gyda dyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Mae angen inni edrych nid yn unig ar ddyfodol papurau newydd lleol, ond ar sut mae'r rhyngrwyd yn arbennig yn effeithio ar gyfryngau Cymru a'r diwydiant cyfathrebu. Mae angen hefyd inni ddechrau mynd i'r afael â'r mannau gwan o amgylch Cymru a sicrhau bod gennym y mynediad gorau posibl i fand eang. Mae dyfodol y cyfryngau ar y rhyngrwyd ac yn y gwasanaethau a ddarperir drwy fand eang. Os byddwn ar ei hôl hi o ran darparu seilwaith, byddwn yn difaru a byddwn hefyd ar ei hôl hi o ran ein datblygiad economaidd.

 

Alun Ffred Jones: Yr wyf yn falch o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon ar y cyfryngau yng Nghymru. Cyflwynodd  Bethan Jenkins y sefyllfa ansicr a’r peryglon o beidio cael sector gyfryngau egnïol, annibynnol ac amrywiol yng Nghymru. Mae diffyg trafodaeth gyhoeddus ar y Cynulliad, Llywodraeth Cymru, a meysydd eraill, yn beryglus eithriadol. Rhaid cofio bod y Groegiaid wedi diffinio democratiaeth fel deialog gyhoeddus: yr oedd areithwyr yn cyflwyno safbwyntiau a dadleuon yn y gobaith y byddai’r gynulleidfa yn dod i gasgliadau gwrthrychol a phenderfyniadau synhwyrol. Fodd bynnag, yn ein cymdeithas ni, mae’n fwyfwy anodd clywed y ddeialog honno ar y cyfryngau torfol yng Nghymru. Mae’n wir dweud bod technoleg yn newid y rheolau. Diau y bydd angen ailddiffinio’r maes yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n hawdd i Peter Black ddweud bod technoleg a chyfleoedd newydd. Y ffaith amdani yw mae’n rhaid i ni ddiffinio’r cyfleoedd hynny cyn i ni chwalu’r hyn sydd gennym yn barod.

 

Alun Ffred Jones: I am pleased to have the opportunity to contribute to this debate on the media in Wales. Bethan Jenkins introduced the uncertain future and the dangers of not having an energetic, independent and varied media sector in Wales. The lack of public discussion of the Assembly, the Welsh Government and other matters is extremely dangerous. We should remember that the Greeks defined democracy as a public dialogue: speakers presented opinions and arguments in the hope that the audience would reach objective conclusions and sensible decisions. However, in our society, it is increasingly difficult to hear that dialogue in the mass media in Wales. It is true to say that technology is changing the rules. We will no doubt need to redefine the field in years to come. It is easy for Peter Black to say that there is new technology and new opportunities. The fact of the matter is that we have to define those opportunities before we dismantle what we already have.

Byddaf yn cyfeirio yn benodol at sefyllfa S4C a darlledu Cymraeg, oherwydd, beth bynnag sydd wedi digwydd, mae S4C yn parhau yn holl bwysig i’r diwylliant Cymraeg ac i Gymru yn gyffredinol. Mae’r ffordd gwbl sinigaidd y mae’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi mynd ati i danseilio’r gwasanaeth yn gwbl annerbyniol—Llywodraeth a wnaeth drin y rhan hon o’n diwylliant â dirmyg a diffyg dealltwriaeth. Beth bynnag yw’r consensws yma ar S4C a’i dyfodol, mae’n amlwg nad oes gan y Torïaid a’r Rhyddfrydwyr yng Nghymru dylanwad ar y Llywodraeth yn San Steffan, er mor bwysig yw’r mater hwn i ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg.

 

I shall refer specifically to the situation of S4C and Welsh-language broadcasting, because, whatever has happened, S4C continues to be crucial to Welsh-language culture and to Wales in general. The entirely cynical way in which the Tories and Liberal Democrats have gone about undermining the service is completely unacceptable—a Government that has treated this part of our culture with contempt and a lack of understanding. Whatever the consensus here on S4C and its future, it is clear that the Tories and the Liberals in Wales do not have any influence on the Government at Westminster, despite the importance of this matter to Wales and the Welsh language.

Er enghraifft, edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd ar 13 Medi, pan oedd y pwyllgor a oedd yn trafod Bil Cyrff Cyhoeddus yn trafod nifer o welliannau yn ymwneud ag S4C. Methiant fu tynnu S4C allan o’r Bil, ac ni wnaeth y Llywodraeth dderbyn un o’r gwelliannau gan y gwrthbleidiau. Yr oedd un o rain yn ceisio sicrwydd am ariannu S4C yn y dyfodol, fel na fyddai’n dod yn rhan o’r drafodaeth am ddyfodol Radio 5, Radio Cernyw, neu unrhyw orsaf arall yn ymerodraeth y BBC. Cafwyd addewid gan y Llywodraeth y bydd yn rhoi’r cyfrifoldeb yn y Ddeddf ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Gemau Olympaidd, Cyfryngau a Chwaraeon am sicrhau adnoddau digonol i S4C. Felly, dyna adfer y ddolen rhwng y Llywodraeth yn Llundain ac S4C. Mae hynny’n well na dim. Cyfeiriodd Suzy Davies at hyn. Fodd bynnag, yn ddiweddarach yr un diwrnod cyhoeddodd y Llywodraeth yn Llundain ei bod wedi dod i gytundeb gyda’r BBC i roi’r cyfrifoldeb i ariannu S4C i’r BBC. Ni all y ddau beth fod yn wir. Naill ai’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol neu’r BBC sy’n gyfrifol. Twyll oedd yr addewid hwnnw, mewn gwirionedd: y BBC fydd yn penderfynu ar ariannu S4C.

 

For example, look at what happened on 13 September, when the committee dealing with the Public Bodies Bill discussed a number of amendments related to S4C. The attempt to remove S4C from the Bill failed, and the Government did not accept any of the opposition parties’ amendments. One of these amendments sought certainty for the future funding of S4C, so that it would not be part of the debate on the future of Radio 5, Radio Cornwall, or any other station in the BBC’s empire. The Government gave a promise that it would give responsibility in the Act to the Secretary of State for Culture, Olympics, Media and Sport for ensuring sufficient resources for S4C. In that way, the link was restored between the Government in London and S4C. That was better than nothing. Suzy Davies referred to that. However, later that same day, the Government in London announced that it had reached an agreement with the BBC to give responsibility for funding S4C to the BBC. Both things cannot be true. Either the Secretary of State has responsibility, or the BBC does. That promise was a deceit, in truth: it is the BBC that will decide on funding for S4C.

Cyfeiriaf at y sylwadau a wnaeth ymddiriedolwr y BBC ar ran Cymru ddoe yng nghynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig a’r newyddion da am gytundeb cyllid tan 2017. Os daw hynny, bydd hynny i’w groesawu, yn amodol ar y setliad. Cyn i ni ddathlu, gadewch i ni weld lliw’r pres. Yr wyf yn derbyn nad dymuniad y BBC oedd cymryd y cyfrifoldeb i ariannu S4C; penderfyniad Mr Hunt oedd hynny.

I will refer to the remarks that the BBC trustee for Wales made yesterday at the Institute of Welsh Affairs conference and the good news about a funding agreement up to 2017. If that transpires, it is to be welcomed, depending on the settlement. Before we celebrate, let us see the colour of the money. I accept that the BBC does not wish to take over responsibility for funding S4C; that was Mr Hunt’s decision.

 

Peter Black: It would be useful if you could give us an indication of how much money you think S4C needs, as we would then have an understanding of where you are coming from in terms of this agenda on financing.

 

Peter Black: Byddai'n ddefnyddiol pe gallech roi syniad i ni o faint o arian rydych yn meddwl sydd ar S4C ei angen, fel y byddem wedyn yn deall o ble rydych yn dod o ran yr agenda hon ar ariannu.

 

Alun Ffred Jones: Nid fy musnes i yw dweud faint y dylai S4C ei gael. Fodd bynnag, yn sicr mae lefelau o dan hynny y bydd hi’n amhosibl i S4C wneud ei gwaith yn llwyddiannus. Cawn weld pan fydd y ffigurau’n cael eu cyhoeddi.

 

Alun Ffred Jones: It is not for me to say how much S4C should get. However, there are levels below which it would make it impossible for S4C to do its work successfully. We will see when the figures are announced.

Yr hyn sydd yn achosi mwy o bryder yw cyfeiriad Elan Closs Stephens at drefniadau llywodraethol i ddiogelu buddiannau’r BBC. Dyna ei geiriau hi: ‘diogelu buddiannau’r BBC.’ Mae hi’n mynd ymlaen i sôn am bartneriaeth ac yn dweud geiriau cysurlon iawn, ond mae hyn yn fy atgoffa o stori’r hugan fach goch, a’r blaidd yn gwisgo dillad yr hen wraig er mwyn cael gafael ar y ferch fach.

A greater cause for concern is Elan Closs Stephens’s reference to governance arrangements to safeguard the interests of the BBC. Those were her words: ‘to safeguard the interests of the BBC.’ She goes on to talk about partnership and says some very comforting words, but this reminds me of the story of little red riding hood, and the wolf who wore the old woman’s clothing in order to catch the little girl.

5.30 p.m.

 

 

Mae’r blaidd hefyd yn defnyddio geiriau neis cyn bwyta’r ferch. Yr wyf yn derbyn nad blaidd yw’r BBC, ond mae elfennau ynddi a fyddai’n falch iawn o weld S4C yn cael ei hysbaddu os nad ei thraflyncu. Mae’n wir dweud hefyd nad merch ddiniwed yw S4C—mae gan honno waith i adfer ei henw da. Felly, cyn y gallwn groesawi’r newyddion hyn, rhaid inni weld bod y trefniant hwn yn deg i S4C ac yn un y gall pobl Cymru ei gefnogi.

 

The wolf also uses kind words before eating the girl. I accept that the BBC is no wolf, but there are elements in it that would be pleased to see S4C neutered if not devoured. It is also true to say that S4C is not an innocent little girl—it has work to do to restore its reputation. So, before we can welcome this news, we need to see that the arrangements are fair to S4C and that the people of Wales can support them.

 

Kenneth Skates: I thank Bethan Jenkins for introducing this important debate. I appreciate that most of what is said will focus on broadcast media, given that it is the issue of the moment, but I am going to talk a little about the print media, because that is my background. I do not want to pre-empt anything that will come from the task and finish group, but it is important that we look for ideas and solutions that will help the media and, in particular, alleviate the democratic deficit that faces us.

 

Kenneth Skates: Diolch i Bethan Jenkins am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. Yr wyf yn sylweddoli y bydd y rhan fwyaf o’r hyn a ddywedir yn canolbwyntio ar y cyfryngau darlledu, gan mai dyna sydd dan sylw ar hyn o bryd, ond yr wyf yn mynd i siarad ychydig am y cyfryngau print, oherwydd dyna yw fy nghefndir. Nid wyf yn gwybod beth fydd casgliadau’r grŵp gorchwyl a gorffen, ond mae’n bwysig ein bod yn edrych am syniadau ac atebion a fydd yn helpu’r cyfryngau ac, yn arbennig, yn lliniaru’r diffyg democrataidd sy’n ein hwynebu.

 

I hope to expand on some of these ideas in the near future, but, first, there is clearly a problem with readership levels and the associated advertising revenues, which is a problem that has been in existence for many years, before the internet was created. I am afraid to say that, from my experience, newspapers have been slow to evolve in response to modern-day methods and modern-day culture. They should be looking more at the availability of their newspapers. It is no good expecting people to go into their local shops, where they still exist, to buy a local paper; they need to get into places to sell them. I often wondered with my newspaper why we did not go into the likes of Airbus or county hall, where several thousand people are employed; there is a captive marketplace there. There needs to be greater dynamism in the way that newspapers are made available. There also needs to be new exchange mechanisms, perhaps the exchange of adverts for sales, which would then boost readership figures and, consequently, potentially, advertising revenue. Also, newspapers need to stop giving away their news from free online. They need to draw a distinction between what their online presence can provide and what their print material provides. It should be quality and information in print and comment on the internet. There is no way that blogging is a substitute for quality journalism, certainly not anonymous comment on the internet. [Interruption.] I am sorry, but professional journalists are, of course, excellent at blogging.

 

Yr wyf yn gobeithio ehangu ar rai o’r syniadau hyn yn y dyfodol agos, ond, yn gyntaf, mae’n amlwg bod yna broblem gyda lefelau darllenwyr a’r refeniw hysbysebu cysylltiedig, sy’n broblem sydd wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd, cyn i’r rhyngrwyd gael ei greu. Mae ofn gennyf ddweud, ond o’m profiad i, mae papurau newydd wedi bod yn araf i esblygu mewn ymateb i ddulliau modern a diwylliant modern. Dylent fod yn edrych yn fwy ar argaeledd eu papurau newydd. Nid oes diben disgwyl i bobl fynd i mewn i’w siopau lleol, lle maent yn dal i fodoli, i brynu papur lleol; mae angen iddynt fynd i mewn i leoedd i’w gwerthu. Yn aml, nid oeddwn yn deall pam nad oedd fy mhapur newydd yn mynd i mewn i leoedd fel Airbus neu neuadd y sir, lle mae miloedd o bobl yn cael eu cyflogi; mae marchnad gaeth yno. Mae angen agwedd mwy deinamig o ran y ffordd y mae papurau newydd yn cael eu darparu. Mae hefyd angen mecanweithiau cyfnewid newydd, efallai cyfnewid hysbysebion am werthiant, a fyddai wedyn yn hybu nifer y darllenwyr ac, o ganlyniad, o bosibl, refeniw hysbysebu. Hefyd, mae angen i bapurau newydd roi’r gorau i ddarparu eu newyddion yn rhad ac am ddim ar-lein. Mae angen iddynt wahaniaethu rhwng yr hyn y gall eu presenoldeb ar-lein ei ddarparu a’r hyn a ddarperir gan eu deunydd print. Dylai fod ansawdd a gwybodaeth mewn print a sylwadau ar y rhyngrwyd. Nid yw blogio yn gallu cymryd lle newyddiaduraeth o safon, yn sicr nid sylwadau dienw ar y rhyngrwyd. [Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, ond mae newyddiadurwyr proffesiynol, wrth gwrs, yn ardderchog yn blogio.

 

We would do well to look at the Swedish assistance model for newspapers, where assistance with the cost of distributing newspapers to rural areas has been considered. I would also like to see, if possible, restrictions on local authorities from producing glossy, free newspapers that go to every household, which, in turn, circumvents the media and the process of proper scrutiny. It would be far better if councils, or any local authority or other body, want to do that, to buy an advertising feature through the local press. It might even work out cheaper, plus you will sustain the local newspaper for your area.

 

Byddai’n dda pe bawn yn edrych ar y model cymorth o Sweden ar gyfer papurau newydd, lle ystyriwyd rhoi cymorth o ran y gost o ddosbarthu papurau newydd i ardaloedd gwledig. Hoffwn weld hefyd, os ydyw’n bosibl, gyfyngiadau ar awdurdodau lleol fel nad ydynt yn cynhyrchu papurau newydd sgleiniog, rhad ac am ddim sy’n mynd i bob cartref, sydd, yn eu tro, yn osgoi’r cyfryngau a’r broses o graffu priodol. Byddai’n llawer gwell pe bai cynghorau, neu unrhyw awdurdod neu gorff lleol arall sy’n awyddus i wneud hynny, yn talu i hysbysebu drwy’r wasg leol. Gallai hyd yn oed fod yn rhatach, yn ogystal â chynnal y papur newydd lleol ar gyfer eich ardal.

 

Another thing that I noticed when I was in the newspaper business was that, with a steady loss of journalistic jobs, there became a greater reliance on press releases. We would sometimes loiter over the fax machine waiting for press releases to come in. Public relations people know that you basically put out a press release as a free advert, and therefore newspapers really need to start getting a linkage between their newsroom operations and their advertisement operations, so that they know that if a press release comes through and it is just an announcement for a company, it should not go in as a free hit on a story, because that is an advert.

 

Peth arall y sylwais arno pan oeddwn yn y busnes papur newydd oedd, gyda cholled gyson o swyddi newyddiadurol, daeth mwy o ddibyniaeth ar ddatganiadau i’r wasg. Byddem weithiau yn loetran dros y peiriant ffacs yn aros am ddatganiadau i’r wasg i ddod i mewn. Mae pobl sy’n gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus yn gwybod eich bod, yn y bôn, yn cyhoeddi datganiad i’r wasg fel hysbyseb rhad ac am ddim, ac felly mae gwir angen i bapurau newydd ddechrau cael cysylltiad rhwng gweithrediadau eu hystafelloedd newyddion a’u gweithrediadau hysbysebu, fel eu bod yn gwybod, os daw datganiad i’r wasg drwodd, a chyhoeddiad ar ran cwmni ydyw, na ddylai fynd i mewn fel stori rad ac am ddim, gan mai hysbyseb yw hynny.

 

There is also a need for realistic profits by the newspaper industry, and Bethan Jenkins has already picked up on the way that Welsh media outlets were often used as cash cows, which was certainly the case. I am concerned about the expectation of profits, which used to be something like 37 per cent for some media outlets, while Tesco posts profits of about 5.5 per cent. We must be more realistic, and we would do well to look at the example set by Tindle Newspapers Ltd in this respect.

 

Mae angen hefyd am elw realistig gan y diwydiant papurau newydd, ac y mae Bethan Jenkins eisoes wedi crybwyll bod y cyfryngau Cymreig yn aml yn cael eu defnyddio i ddarparu elw, ac yn sicr yr oedd hynny’n wir. Yr wyf yn bryderus ynghylch y disgwyliad o elw, a arferai fod yn rhywbeth fel 37 y cant ar gyfer rhai cyfryngau, tra bod Tesco yn cyhoeddi elw o ryw 5.5 y cant. Rhaid i ni fod yn fwy realistig, a byddem yn gwneud yn dda i edrych ar yr esiampl a osodwyd gan Tindle Newspapers Cyf yn hyn o beth.

 

With regard to content and the presence of the internet, newspapers have experienced a bit of a crisis of role in recent years. They no longer provide news as such. News is redundant the moment that it is broadcast or put on the web and, increasingly, there is a monster on the hill in the form of social media, such as the likes of Facebook, to undermine the local element of news. Indeed, through Facebook, you can get instant local news through gossip or other ways. The other thing that we need to do is to ensure that the printed media knows what its role is for the future. It is about the analysis, interpretation, education and promotion of the local areas they serve. As I said, I think that the internet should be used, but it should not be used to duplicate what goes into a product that must be purchased. So, value-added comment needs more good journalists and, I believe, collaboration. To expand on that, it could mean collaboration with institutions, think tanks, newspapers, and even newspapers in foreign countries—there is no reason why communities across the globe cannot mix and match in some way and exchange exclusive news deals. On collaboration with institutions, there is no reason why, for example, a local paper in Wales could not broadcast over the internet final night at the local theatre. It is about being a bit more dynamic and creative. I would like to see—

 

O ran cynnwys a phresenoldeb ar y rhyngrwyd, mae papurau newydd wedi wynebu tipyn o argyfwng o ran eu rôl yn y blynyddoedd diwethaf. Nid ydynt bellach yn darparu newyddion fel y cyfryw. Mae newyddion yn afraid o’r eiliad y mae’n cael ei ddarlledu neu ei roi ar y we ac, yn gynyddol, mae anghenfil ar y bryn ar ffurf cyfryngau cymdeithasol, megis Facebook, i danseilio elfen leol newyddion. Yn wir, drwy Facebook, gallwch gael newyddion lleol ar unwaith trwy glecs neu ffyrdd eraill. Y peth arall y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod y cyfryngau printiedig yn gwybod beth yw eu rôl ar gyfer y dyfodol. Mae’n ymwneud â dadansoddi, dehongli, addysg a hyrwyddo’r ardaloedd lleol y maent yn eu gwasanaethu. Fel y dywedais, credaf y dylai’r rhyngrwyd gael ei ddefnyddio, ond ni ddylid ei ddefnyddio i ddyblygu beth sy’n mynd i mewn i gynnyrch y mae’n rhaid ei brynu. Felly, mae angen newyddiadurwyr ychwanegol i ddarparu sylwebaeth o werth ac, yn fy marn i, cydweithredu. I ymhelaethu ar hynny, gallai olygu cydweithio â sefydliadau, melinau trafod, papurau newydd, a hyd yn oed papurau newydd mewn gwledydd tramor—nid oes rheswm pam na all cymunedau ar draws y byd gydweithredu mewn rhyw ffordd a chytuno cyfnewid y newyddion diweddaraf. Ar gydweithio â sefydliadau, nid oes unrhyw reswm pam, er enghraifft, na allai papur lleol yng Nghymru ddarlledu dros y rhyngrwyd y noson olaf yn y theatr leol. Mae’n ymwneud â bod ychydig yn fwy deinamig a chreadigol. Hoffwn weld—

 

The Deputy Presiding Officer: Can you wind up now please?

 

Y Dirprwy Lywydd: A allwch ddirwyn i ben yn awr os gwelwch yn dda?

 

Kenneth Skates: I would like to see relaxation of cross-media rules, but only to the point where newspapers could collaborate with radio stations, not where this would lead to conglomerates. I urge the Government to resist any further mergers and job cuts in the field of journalism.

 

Kenneth Skates: Hoffwn weld llacio rheolau ar draws y cyfryngau, ond dim ond at y pwynt lle y gallai papurau newydd gydweithio gyda gorsafoedd radio, nid lle byddai hyn yn arwain at gyd-dyriadau. Anogaf y Llywodraeth i wrthsefyll unrhyw uno pellach a thoriadau swyddi ym maes newyddiaduraeth.

 

The Deputy Presiding Officer: Order. You must conclude. I call Ieuan Wyn Jones.

 

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Mae’n rhaid i chi orffen eich cyfraniad. Galwaf Ieuan Wyn Jones.

 

Ieuan Wyn Jones: Mae llawer o’r drafodaeth ar y cyfryngau yng Nghymru wedi bod ar ddyfodol S4C, o ran sicrhau annibyniaeth y sianel a ffynhonnell gyllido gynaliadwy. Mae hynny’n iawn, wrth gwrs, o gofio pwysigrwydd y sianel fel cyfrwng i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Yn naturiol ddigon, mae hynny wedi cael sylw heddiw, a diolchwn i Bethan Jenkins, Alun Ffred Jones ac eraill am gadarnhau hynny. Yn naturiol, fe gefnogaf bob ymdrech i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r sianel.

 

Ieuan Wyn Jones: A great deal of the debate on the media in Wales has centred on the future of S4C, with regard to ensuring the independence of the channel and a sustainable funding source. That is quite right, of course, bearing in mind the importance of the channel as a medium to promote the Welsh language and culture. Naturally, that has been covered this afternoon, and we thank Bethan Jenkins, Alun Ffred Jones and others for confirming that. Naturally, I support all efforts to ensure a sustainable future for S4C.

 

Yr wyf am sôn heddiw am ddyfodol dwy orsaf radio genedlaethol Cymru, sef Radio Cymru a Radio Wales. Nid oes dwywaith bod arlwy ac oriau’r ddwy orsaf wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Yr wyf yn cofio cyfnod pan mai prin iawn oedd y rhaglenni Cymraeg ar radio a theledu. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae Radio Cymru a Radio Wales yn cynhyrchu rhaglenni o bob math drwy’r dydd, bob dydd. Mae arlwy amrywiol yn y ddwy iaith. Mae’n bosibl inni gymryd y pethau hyn yn ganiataol bellach.

 

However, today, I want to talk about the future of the two radio stations in Wales—Radio Cymru and Radio Wales. There is no doubt that the hours and output on the two stations have increased significantly over the past 30 years. I remember a time when the Welsh-medium programmes on radio or television were very few and far between. Now, of course, Radio Cymru and Radio Wales produce programmes of all sorts throughout the day every day. There is a very varied output in both languages. However, we can take these things for granted.

 

Mae llawer o’r ddarpariaeth hon dan fygythiad o ganlyniad i’r toriadau fydd yn effeithio ar BBC Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Bydd angen dod o hyd i arbedion o 16 y cant, sef £10.7 miliwn o’i chyllideb. Mae hyn ar ben yr arbedion effeithlonrwydd o 5 y cant bob blwyddyn sydd ar waith ers rhai blynyddoedd. Golyga hyn y bydd llai o raglenni a llai o staff erbyn 2016. Gan fod rhai sianeli a gorsafoedd, a rhai gwasanaethau, yn cael eu harbed gan y BBC, mae’r toriadau felly’n syrthio ar weddill y ddarpariaeth ar draws y gorfforaeth. Rhaid gofio bod y BBC yn ddarlledwr cenedlaethol yng Nghymru, a’r ddwy orsaf radio’n wasanaethau cenedlaethol sy’n darparu rhaglenni yn y ddwy iaith. Er bod gwasanaethau radio masnachol ar gael, Radio Cymru’n unig sy’n darparu rhaglenni yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn wir, nid oes yr un orsaf radio arall yn darparu gwasanaeth helaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r ddwy orsaf radio felly’n wasanaethau cenedlaethol sydd o werth cyhoeddus arbennig.

 

A great deal of the provision is under threat as a result of the cuts that will affect BBC Wales over the next five years. We will need to find savings of 16 per cent, which is £10.7 million of the BBC’s budget. This is on top of the efficiency savings of 5 per cent year-on-year, which are already in place and have been for some years. This will mean that there will be fewer programmes and fewer staff members by 2016. Some channels and stations and certain services are to be safeguarded by the BBC, and the cuts therefore fall on the rest of the provision across the corporation. We must bear in mind that the BBC is a national broadcaster in Wales and that these two stations are national services providing programming in both languages. Although there are commercial radio services available, only Radio Cymru provides only Welsh-medium output. Indeed, there is no other radio station providing a substantial amount of output through the medium of Welsh. The two radio stations are therefore national services of huge public value.

 

Yn y ddogfen ‘Delivering Quality First’, mae Mark Thompson yn gwneud y pwynt bod angen amddiffyn cyllidebau gwasanaeth o werth cyhoeddus arbennig, ac mae’r rhain yn cynnwys Radio 4. Dyma’r hyn y mae’r ddogfen yn ei ddweud am Radio 4:

 

In the ‘Delivering Quality First’ document, Mark Thompson makes the point that the budgets of particular public value need to be safeguarded, and these include Radio 4. This is what the document says about Radio 4:

 

‘the underlying programme budget will stay stable over the period’.

 

bydd cyllideb y rhaglen sylfaenol yn aros yn sefydlog dros y cyfnod.

 

Hynny yw, yn y cyfnod tan 2016. Mae hynny’n dangos bod y gorfforaeth yn credu bod gwerth Radio 4 uwchlaw gwerth gwasanaethau cenedlaethol Cymru. Os yw Radio 4 yn drysor cenedlaethol i’r BBC, beth yw hanes y ddwy orsaf radio yng Nghymru? Mae Radio Cymru’n wynebu toriadau difrifol i’w chyllideb ac i’w lefelau staffio.

 

That is to say in the period until 2016. That demonstrates that the corporation believes that Radio 4 is valued over and above the national services here in Wales. If Radio 4 is a national treasure for the BBC, what is the story for the two national radio stations in Wales? If we compare the situation, we see that Radio Cymru is facing significant cuts to its budget and staffing levels.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: A ydych yn cytuno bod Radio 5 Live yn llawer mwy o drysor i’r Deyrnas Unedig ac i’r gwledydd a’r rhanbarthau?

 

Lord Elis-Thomas: Do you agree that Radio 5 Live is far more of a treasure for the UK and for the nations and regions of the UK?

 

Ieuan Wyn Jones: Yr wyf yn tueddu cytuno gyda’m cyfaill yn hynny o beth, er yr wyf yn siŵr y byddai fy nghyfaill Jocelyn Davies yn anghytuno, ond dyna ni, yr ydym i gyd yn edrych ar raglennu mewn ffordd ychydig yn wahanol.

 

Ieuan Wyn Jones: Yes, I tend to agree with my colleague on that point. I am sure that my colleague Jocelyn Davies would disagree, but there we are, we all look at programming from different angles.

 

Os yw Radio Cymru’n wynebu toriadau mor sylweddol, ac os yw’n torri 20 y cant o’i staff—staff cymharol fach sydd gan Radio Cymru, wrth gwrs—bydd hynny’n ergyd ddifrifol i’r orsaf. Byddai hynny’n golygu llai o gynnwys yn y rhaglenni, llai o ddramâu a rhaglenni dogfen, ac yn y blaen. Un posibilrwydd yw cael strandiau dyddiol hwy i’r gwasanaeth, gyda llai o staff, yn gyflwynwyr, ymchwilwyr a chynhyrchwyr. Byddai rhaglenni ar Radio Cymru yn dioddef, felly.

 

If Radio Cymru is facing such significant cuts, and if it cuts 20 per cent of its staff—Radio Cymru has a relatively small staff, of course—that would be a serious blow to the station. It would mean less content in programmes, fewer dramas and documentaries and so on. One possibility is to have longer daily strands with fewer staff, researchers, presenters and producers. Radio Cymru programmes would therefore suffer.

 

The situation is the same at Radio Wales, where up to 10 jobs will be lost—about 20 per cent of its complement of staff. While parts of the programming will be retained and enhanced, such as news and current affairs, many of the other, off-peak programmes will suffer. Both national radio stations will have to keep within a much-reduced budget. The question that we must therefore ask the BBC is: if Radio 4 is a service of exceptional public value, why are the two national radio stations of Wales not treated exactly the same?

 

Mae’r sefyllfa yr un fath o ran Radio Cymru, lle bydd hyd at 10 o swyddi yn cael eu colli—tua 20 y cant o’i chyflenwad o staff. Er y bydd rhannau o’r rhaglenni yn cael eu cadw a’u gwella, fel newyddion a materion cyfoes, bydd llawer o’r rhaglenni eraill, ar adegau tawel, yn dioddef. Bydd yn rhaid i’r ddwy orsaf radio genedlaethol gadw o fewn cyllideb sydd dipyn yn llai. Y cwestiwn y mae’n rhaid inni, felly, ei ofyn i’r BBC yw: os yw Radio 4 yn wasanaeth o werth cyhoeddus eithriadol, pam nad yw dwy orsaf radio genedlaethol Cymru yn cael eu trin yn union yr un fath?

 

Jenny Rathbone: This is an interesting debate, because it is a sector of industry that is changing hugely. I used to work in the television industry thirty years ago, when every household in the UK watched the television news, either on the BBC or on ITV, because there was almost no other option. You had to watch one or the other, so there was a national discourse about what was on the television the previous day. Now that we have a hugely fragmented television and broadcasting industry, that national discourse about particular issues is much more difficult to achieve. We have to remind ourselves just how different the landscape was, even a year ago, when the BBC saw S4C bundled into its responsibility. At that point, it looked as if Rupert Murdoch was dominant, and his commercial interests were obviously driving the Tory agenda. Now, as a result of excellent investigative journalism, Rupert Murdoch has had his sails trimmed considerably and the threat to the democratic process is much less than it used to be.

 

Jenny Rathbone: Mae hon yn ddadl ddiddorol, gan ei fod yn sector o ddiwydiant sy’n newid yn aruthrol. Roeddwn i’n arfer gweithio yn y diwydiant teledu ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, pan oedd pob cartref yn y DU yn gwylio’r newyddion ar y teledu, naill ai ar y BBC neu ar ITV, gan nad oedd dewis arall ar y cyfan. Roedd yn rhaid i chi wylio un neu’r llall, felly roedd trafodaeth genedlaethol am yr hyn a oedd ar y teledu y diwrnod cynt. Nawr bod gennym ddiwydiant deledu a darlledu tameidiog iawn, mae’n llawer mwy anodd i gael y sgwrs genedlaethol am faterion penodol. Mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain pa mor wahanol oedd y tirwedd, hyd yn oed flwyddyn yn ôl, pan ddaeth S4C o dan gyfrifoldeb y BBC. Ar yr adeg honno, ymddengys mai Rupert Murdoch oedd ar y brig, ac yr oedd yn amlwg bod ei fuddiannau masnachol yn gyrru agenda’r Torïaid. Yn awr, o ganlyniad i newyddiaduraeth ymchwiliol ragorol, mae dylanwad Rupert Murdoch wedi cael ei danseilio’n sylweddol ac y mae’r bygythiad i’r broses ddemocrataidd yn llawer llai nag yr oedd.

 

However, I share the concerns of many other Members regarding the important role played by broadcasting in scrutinising the work that politicians do and ensuring that we get it right. I find it extremely worrying that so many of our BBC programmes seem to be for the axe. It may be that some of them have had their day, but unless they are being replaced by something that will cover the same agenda, there are considerable causes for concern. Just imagine: if Week In Week Out had not covered the cash for qualifications scandal at the University of Wales, would we ever have got to know about it? So, it is extremely important to remember the role of the media in uncovering things that need to be rectified.

 

Fodd bynnag, yr wyf yn rhannu pryderon llawer o Aelodau eraill ynghylch y rôl bwysig a chwaraeir gan ddarlledu wrth graffu ar y gwaith y mae gwleidyddion yn ei wneud a sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn. Rwy’n ei chael hi’n hynod o bryderus bod cymaint o’n rhaglenni BBC yn wynebu’r fwyell. Efallai bod rhai ohonynt yn llai perthnasol yn awr, ond oni bai eu bod yn cael eu disodli gan rywbeth a fydd yn cynnwys yr un agenda, mae hynny’n peri pryder mawr. Dychmygwch: pe na bai Week In, Week Out wedi trafod y sgandal o ran arian yn cael ei dalu i Brifysgol Cymru am gymwysterau, a fyddem byth wedi dod i wybod am y peth? Felly, mae’n hynod bwysig cofio rôl y cyfryngau wrth ddatgelu pethau y mae angen eu cywiro.

 

Fewer people are reading newspapers these days, partly because they are short of money, so the medium that is followed mainly by most households is either television or radio. Yes, some people tweet, but some subjects are too complicated to put in just 140 characters. Television is a medium where, if well used, you can make complex issues clear, because you have the visual as well as the oral medium to make those points. Yes, it is important that there is money involved, and investigative journalism cannot be done without the money to ensure that investigations are thorough. However, it takes passion and imagination to make reports that are interesting enough to engage people’s attention against all the other conflicting demands on their time. Twenty per cent budget cuts across broadcasting will make life very challenging, but new technology also opens up new ways of reporting.

Mae llai o bobl yn darllen papurau newydd y dyddiau hyn, yn rhannol am eu bod yn brin o arian, felly y cyfrwng sy’n cael ei ddilyn yn bennaf gan y rhan fwyaf o gartrefi yw naill ai’r teledu neu’r radio. Oes, mae rhai pobl yn trydar, ond mae rhai pynciau yn rhy gymhleth i’w trafod mewn dim ond 140 o lythrennau. Os defnyddir y teledu yn dda fel cyfrwng, gallwch wneud materion cymhleth yn glir, oherwydd bod gennych yr elfen weledol yn ogystal â’r cyfrwng llafar i wneud y pwyntiau hynny. Ydyw, mae’n bwysig bod arian yn rhan ohoni, ac nid oes modd gwneud newyddiaduraeth ymchwiliadol heb arian er mwyn sicrhau bod ymchwiliadau yn drylwyr. Fodd bynnag, mae’n cymryd angerdd a dychymyg i wneud adroddiadau sy’n ddigon diddorol i gadw sylw pobl yn erbyn yr holl ofynion eraill ar eu hamser. Bydd toriadau o 20 y cant i’r gyllideb ar draws darlledu yn gwneud bywyd yn anodd iawn, ond mae technoleg newydd hefyd yn rhoi mynediad at ffyrdd newydd o ohebu.

 

5.45 p.m.

 

The humble mobile phone, which most people have these days, offers the possibility of having a television reporter in every single village. It is all about thinking outside the box, and this is something that S4C absolutely has to do if it is going to increase the audience for its very clear niche market. Above all, it is vital that television, radio and newspapers scrutinise how our money is spent at this very difficult time and the quality of the decision making in our councils, our health service and our Government is made clear to people so that they understand the decisions that we are taking and scrutinise us to ensure that we are using our positions and responsibility wisely.

 

Mae’r ffôn symudol cyffredin, sydd gan y rhan fwyaf o bobl y dyddiau hyn, yn cynnig y posibilrwydd o gael gohebydd teledu ym mhob un pentref. Mae’n ymwneud â meddwl mewn ffordd wahanol, ac mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i S4C ei wneud os yw’n mynd i gynyddu’r gynulleidfa ar gyfer ei marchnad gyfyng. Yn anad dim, mae’n hanfodol bod y teledu, radio a phapurau newydd yn craffu ar sut y mae ein harian yn cael ei wario ar yr adeg anodd iawn hon a bod ansawdd y broses o wneud penderfyniadau yn ein cynghorau, ein gwasanaeth iechyd a’n Llywodraeth yn cael ei wneud yn glir i bobl er mwyn iddynt ddeall y penderfyniadau yr ydym yn eu cymryd a chraffu arnom i sicrhau ein bod yn defnyddio ein swyddi a’n cyfrifoldeb yn ddoeth.

 

Simon Thomas: I will just follow Jenny Rathbone by saying that, 30 years ago, I did not have a television. I was brought up without a television, so maybe I should sit down now and not play any part in this debate. However, I am now a media junkie, so I need to have my say. This might be because I was brought up without a television—who knows?

 

Simon Thomas: Dilynaf Jenny Rathbone drwy ddweud, 30 mlynedd yn ôl, nad oedd gennyf deledu. Cefais fy magu heb deledu, felly efallai y dylwn eistedd i lawr yn awr a pheidio â chwarae unrhyw ran yn y ddadl hon. Fodd bynnag, yr wyf yn awr yn ‘media junkie’, felly mae angen i mi ddweud fy nweud. Gallai hyn fod oherwydd fy mod wedi fy magu heb deledu—pwy a ŵyr?

 

It is a very timely and opportune debate and it is a great pity that we have not seen a great deal more proactive action by the Government in leading this debate in Wales. One of the clear things that has emerged over the last 18 months—as we have seen what has happened to S4C and the cuts being made to the BBC—is the lack of real debate in Wales and a lack of democratic accountability and scrutiny of what is going on. Not in an ideal world, but in a properly functioning democracy, you would expect these proposals to be put forward in a Green Paper or a White Paper in order for us to have our say. For example, the ideas that Peter Black put forward in his amendment are not to be sniffed at, although I do not think that we will be supporting the amendment. They are a stab at attempting to say what the structure should be. That should really be the basis for a properly published governance relationship set out between the BBC and S4C, so that we could look at it in the round and come to a decision on it. This is why Ian Hargreaves, who led the previous Government’s successful foray into reviewing the creative industries, said that it is time for this Government to get playing. This Government should be leading the debate on new media and the current media in Wales.

 

Mae’n ddadl amserol ac y mae’n drueni mawr nad ydym wedi gweld llawer mwy o weithredu rhagweithiol gan y Llywodraeth wrth arwain y ddadl hon yng Nghymru. Un o’r pethau clir sydd wedi dod i’r amlwg dros y 18 mis diwethaf—fel yr ydym wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd i S4C a’r toriadau sy’n cael eu gwneud i’r BBC—yw’r diffyg trafodaeth go iawn yng Nghymru a diffyg atebolrwydd democrataidd a chraffu ar yr hyn sy’n digwydd. Heb fod mewn byd delfrydol, ond mewn democratiaeth sy’n gweithio’n iawn, byddech yn disgwyl i’r cynigion hyn gael eu cyflwyno mewn Papur Gwyrdd neu Bapur Gwyn er mwyn i ni gael dweud ein dweud. Er enghraifft, ni ddylid diystyru’r syniadau a gyflwynwyd gan Peter Black yn ei welliant, er nad wyf yn credu y byddwn yn cefnogi’r gwelliant. Maent yn ymdrechu i geisio pennu strwythur. Dylai hynny, mewn gwirionedd, fod yn sail i berthynas lywodraethu sydd wedi ei gosod allan yn glir rhwng y BBC ac S4C, fel y gallem edrych arni yn ei chyfanrwydd a dod i benderfyniad arni. Dyma pam y dywedodd Ian Hargreaves, a arweiniodd ymgais lwyddiannus y Llywodraeth flaenorol i adolygu’r diwydiannau creadigol, ei fod yn bryd i’r Llywodraeth hon i weithredu. Dylai’r Llywodraeth hon fod yn arwain y ddadl ar y cyfryngau newydd a’r cyfryngau presennol yng Nghymru.

 

If I remember rightly, a debate on S4C has been tabled by the Government for 4 November, but it is the opposition parties that have tabled the debates that have led to some level of scrutiny of these proposals so far in Wales. I do not think that that is good enough. We need to see much more proactive action from the Government. Each time we hear the next step—such as S4C appointing a chief executive, who will not take up the post until next April, or new governance arrangements from the BBC, although we know that it is the UK governors who really control the money within the BBC—it raises even more questions about the long-term survival of S4C and that of the BBC as an institution. Although Murdoch has gone away, the forces that he represents are still present. I am quite happy to say, as a Welsh nationalist, that I love the BBC and I would be happy for Wales to be independent, but to keep a UK BBC. I would be very happy with that, as long as we have democratic accountability to the Assembly as the elected Chamber with regard to the BBC in Wales. That is the next realistic step that we need to see.

 

Os cofiaf yn iawn, mae dadl ar S4C wedi cael ei chyflwyno gan y Llywodraeth ar gyfer 4 Tachwedd, ond y gwrthbleidiau sydd wedi cyflwyno’r dadleuon sydd wedi arwain at ryw lefel o graffu ar y cynigion hyn hyd yma yng Nghymru. Ni chredaf fod hynny’n ddigon da. Mae angen i ni weld gweithredu llawer mwy rhagweithiol gan y Llywodraeth. Bob tro y byddwn yn clywed y cam nesaf—megis S4C yn penodi prif weithredwr, na fydd yn dechrau yn y swydd tan fis Ebrill nesaf, neu drefniadau llywodraethu newydd gan y BBC, er ein bod yn gwybod mai llywodraethwyr y DU sydd wir yn rheoli’r arian o fewn y BBC—mae’n codi hyd yn oed yn fwy o gwestiynau am oroesiad S4C yn yr hirdymor a’r BBC fel sefydliad. Er bod Murdoch wedi mynd i ffwrdd, mae’r lluoedd y mae ef yn eu cynrychioli yn dal i fod yn bresennol. Yr wyf yn eithaf hapus i ddweud, fel cenedlaetholwr Cymreig, fy mod yn caru’r BBC a byddwn yn hapus i Gymru fod yn annibynnol, ond i gadw BBC y DU. Byddwn yn fodlon iawn â hynny, cyn belled ag y byddai gennym atebolrwydd democrataidd i’r Cynulliad fel y Siambr etholedig mewn perthynas â’r BBC yng Nghymru. Dyna’r cam realistig nesaf y mae angen inni ei weld.

 

When the 20 per cent cut to the BBC was first mooted last May, the First Minister said that such a cut would be unacceptable. However, since this became reality in October, he has said virtually nothing about it and no debate or questions have been tabled on it and neither has there been a statement from the First Minister. It seems that things are just slipping out of the purview of the Government and we need to have better perception on these matters.

 

Pan grybwyllwyd y toriad o 20 y cant i’r BBC yn gyntaf fis Mai diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog y byddai toriad o’r fath yn annerbyniol. Fodd bynnag, ers i hwn ddod yn realiti ym mis Hydref, mae wedi dweud bron i ddim byd am y peth ac nid oes dadl na chwestiynau wedi cael eu cyflwyno arno ac ni chafwyd datganiad gan y Prif Weinidog. Mae’n ymddangos bod pethau yn llithro allan o olwg y Llywodraeth ac y mae angen i ni gael gwell canfyddiad o’r materion hyn.

 

I would like to emphasise two points in this debate. First, Ken Skates made a very good point about how print media got itself in its current mess. I do not share his optimism that the print media can get out of it. I think that new media is the way to go. I do not think that that is against journalism. I have noticed that I no longer buy a daily paper, but I buy more magazines, news reviews and other forms of print journalism. I value print journalism as much as I ever did—and I think that many of us do—but it is being delivered in a different way. The daily grind of daily newspapers is no longer the future. That is why the previous Government did not establish a printed version of a Welsh-language newspaper, but an online Welsh-language newspaper. It is important to bear that in mind. That is why we need broadband availability throughout Wales and a dotCymru/dotWales internet presence as a national internet presence to support the sort of journalism that could be delivered by broadband.

 

Hoffwn bwysleisio dau bwynt yn y ddadl hon. Yn gyntaf, gwnaeth Ken Skates bwynt da iawn am sut y daeth y cyfryngau print i fod yn y llanast presennol. Nid wyf yn rhannu ei optimistiaeth y gall y cyfryngau print ddod allan ohono. Credaf y dylid canolbwyntio ar y cyfryngau newydd. Nid wyf yn credu eu bod yn peri trafferth i newyddiaduraeth. Rwyf wedi sylwi nad wyf bellach yn prynu papur dyddiol, ond yr wyf yn prynu mwy o gylchgronau, adolygiadau newyddion a mathau eraill o newyddiaduraeth print. Rwy’n gwerthfawrogi newyddiaduraeth print gymaint ag y gwneuthum erioed—a chredaf fod hynny’n wir am lawer ohonom—ond mae’n cael ei gyflwyno mewn ffordd wahanol. Nid cynhyrchu papur dyddiol yw’r dyfodol mwyach. Dyna pam na wnaeth y Llywodraeth flaenorol sefydlu fersiwn printiedig o’r papur newydd Cymraeg, ond papur newydd Cymraeg ar-lein. Mae’n bwysig cofio hynny. Dyna pam y mae angen i fand eang fod ar gael ledled Cymru, yn ogystal â phresenoldeb rhyngrwyd o dotCymru/dotWales ar y rhyngrwyd cenedlaethol er mwyn cefnogi’r math o newyddiaduraeth y gellid ei ddarparu gyda band eang.

 

Secondly, Ieuan Wyn Jones raised an important point about radio. I wish to add to that by saying that we need local radio to reflect its local audiences and communities. A new bid has been submitted for Radio Ceredigion, and it is vital that Ofcom and the Government work together so that Radio Ceredigion accurately reflects the linguistic make-up of the audience that it serves, which is a 50/50 Welsh/English split.

 

Yn ail, cododd Ieuan Wyn Jones bwynt pwysig am radio. Hoffwn ychwanegu at hynny drwy ddweud bod angen i radio leol adlewyrchu ei chynulleidfaoedd a’i chymunedau lleol. Mae cais newydd wedi cael ei gyflwyno ar gyfer Radio Ceredigion, ac mae’n hanfodol bod Ofcom a’r Llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd fel bod Radio Ceredigion yn adlewyrchu’n gywir sefyllfa ieithyddol y gynulleidfa y mae’n ei gwasanaethu, sef rhaniad 50/50 Cymraeg/Saesneg.

 

These things are vital for local democracy and a thriving Welsh democracy. As Assembly Members, we often complain that no-one pays attention to what we do here unless we tweet it directly from the Chamber. That is no substitute for proper journalism and a properly regulated press and broadcast media in Wales. I hope that things will change shortly.

 

Mae’r pethau hyn yn hanfodol ar gyfer democratiaeth leol a democratiaeth Gymreig sy’n ffynnu. Fel Aelodau Cynulliad, rydym yn aml yn cwyno nad oes unrhyw un yn talu sylw i’r hyn yr ydym yn ei wneud yma oni bai ein bod yn trydar yn uniongyrchol o’r Siambr. Nid yw hynny’n cymryd lle newyddiaduraeth na rheoleiddio priodol ar gyfer newyddiaduraeth brintiedig a darlledu yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y bydd pethau’n newid yn fuan.

 

The Minister for Housing, Regeneration and Heritage (Huw Lewis): The Welsh Government welcomes this debate. As a Government, we have been anxious to stress the cross-party nature of the concerns arising from recent developments concerning the Welsh-based media industry. The damage already caused to broadcasting in English and Welsh gives rise to serious concerns about the sources of information available to the citizens of Wales about the country in which they live.

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (Huw Lewis): Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r ddadl hon. Fel Llywodraeth, yr ydym wedi bod yn awyddus i bwysleisio natur drawsbleidiol y pryderon sy’n codi o ddatblygiadau diweddar yn ymwneud â’r diwydiant cyfryngau yng Nghymru. Mae’r difrod a achoswyd yn barod i ddarlledu yn Gymraeg a Saesneg yn peri pryderon difrifol am y ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i ddinasyddion Cymru am y wlad y maent yn byw ynddi.

 

The public service broadcasters in Wales have a crucial role to play in the civic life of the country, not least in the context of a weak indigenous press. Their role has become even more important following the referendum result confirming primary legislative powers for the Assembly.

 

Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ran hanfodol i’w chwarae ym mywyd dinesig y wlad, nid lleiaf yng nghyd-destun gwasg gynhenid wan. Mae eu rôl wedi dod yn bwysicach fyth yn dilyn canlyniad y refferendwm yn cadarnhau pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad.

 

The importance of ensuring a plurality of services also applies to the newspaper industry in Wales, as has been mentioned. A vigorous press is an essential ingredient for a functioning democracy. Wales is in a particularly difficult situation, of course, because such a small percentage of the population reads newspapers that report stories about Wales.

 

Mae pwysigrwydd sicrhau lluosogrwydd o wasanaethau hefyd yn berthnasol i’r diwydiant papurau newydd yng Nghymru, fel y crybwyllwyd. Mae gwasg egnïol yn elfen hanfodol i ddemocratiaeth weithredol. Mae Cymru mewn sefyllfa arbennig o anodd, wrth gwrs, gan fod canran mor fechan o’r boblogaeth yn darllen papurau newydd sy’n cynnwys straeon am Gymru.

 

You cannot have newspapers without journalists, as Ken Skates said. It has, therefore, been extremely disappointing during the last few years to hear of job losses in several newspaper offices. A number of local titles are under threat as we debate this. Others have already merged or disappeared. Along with the loss of editorial jobs, the news of office closures is an obvious blow to those communities. It is also of concern to the Welsh Government.

 

Ni allwch gael papurau newydd heb newyddiadurwyr, fel y dywedodd Ken Skates. Felly, mae wedi bod yn hynod o siomedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf i glywed am golli swyddi mewn nifer o swyddfeydd papur newydd. Mae nifer o deitlau lleol dan fygythiad wrth i ni drafod hyn. Mae eraill eisoes wedi uno neu ddiflannu. Ynghyd â cholli swyddi golygyddol, mae’r newyddion am gau swyddfeydd yn ergyd amlwg i’r cymunedau hynny. Mae hefyd yn peri pryder i Lywodraeth Cymru.

 

Our concerns about the strength of the Welsh-based media have been at the heart of our efforts to defend Welsh broadcasting over recent months. The First Minister and I met the Chair of the BBC Trust as part of the BBC’s recent review of its services. We made it clear that the BBC’s services in Wales needed to be seen as part of its core obligation to the nation, and not to a region. We also emphasised the precarious nature of those services even before that review got under way. We now want to scrutinise carefully the impact of the ‘Delivering Quality First’ exercise on the nature and range of the BBC’s services in Wales.

 

Mae ein pryderon am gryfder y cyfryngau o Gymru wedi bod wrth wraidd ein hymdrechion i amddiffyn darlledu yng Nghymru dros y misoedd diwethaf. Cyfarfu’r Prif Weinidog a minnau â chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC fel rhan o adolygiad diweddar y BBC o’i wasanaethau. Fe’i gwnaed yn glir gennym bod angen i wasanaethau’r BBC yng Nghymru gael eu gweld fel rhan o’i rhwymedigaeth graidd i’r genedl, ac nid i ranbarth. Pwysleisiwyd hefyd gennym natur fregus y gwasanaethau hynny hyd yn oed cyn i’r adolygiad hwnnw ddechrau. Rydym bellach am graffu yn ofalus ar effaith yr ymarfer ‘Darparu Ansawdd yn Gyntaf’ ar natur ac ystod gwasanaethau y BBC yng Nghymru.

 

Clearly, the BBC cannot be exempt from the financial pressures facing all other aspects of the economy, but that does not mean that the BBC Trust should not place an appropriate emphasis on its services in Wales. It also does not mean that we will not go on fighting for those services and insisting that they are adequately resourced.

 

Wrth gwrs, ni all y BBC gael ei heithrio rhag y pwysau ariannol sy’n wynebu pob agwedd arall ar yr economi, ond nid yw hynny’n golygu na ddylai Ymddiriedolaeth y BBC roi pwyslais priodol ar ei gwasanaethau yng Nghymru. Nid yw ychwaith yn golygu na fyddwn yn ymladd dros y gwasanaethau hynny a mynnu eu bod yn cael adnoddau digonol.

 

At the moment, we are far from clear about the long-term pattern of ITV services in Wales. We believe that Wales needs a strong independent voice in broadcasting to provide a counterbalance to the provision of BBC Wales. We intend to maintain plurality in broadcasting in Wales, and we believe that ITV Wales continues to have a vital role to play.

 

Ar hyn o bryd, yr ydym ymhell o fod yn glir ynghylch y patrwm hirdymor o wasanaethau ITV yng Nghymru. Rydym yn credu bod angen i Gymru gael llais annibynnol cryf mewn darlledu i wrthbwyso â darpariaeth BBC Cymru. Rydym yn bwriadu cynnal lluosogrwydd mewn darlledu yng Nghymru, ac rydym yn credu bod ITV Wales yn parhau i fod â rôl hanfodol i’w chwarae.

 

We have also made clear our concerns about S4C. The First Minister met the Secretary of State for Culture, Media and Sport earlier in the summer. We stressed once again the concern shared by many in this Chamber that the independence of S4C must be maintained in any new settlement with the BBC. We have no real difficulty with the concept of S4C being funded from the licence fee in future. We have no real difficulty with there being an appropriate element of accountability to the BBC Trust as a result. However, any new arrangements involving the BBC should reflect the fact that S4C was established by statute to serve the people of Wales. I also think that it is reasonable for the people of Wales to expect S4C’s new relationship with the BBC to be built on the concept of editorial and creative independence.

 

Rydym hefyd wedi mynegi’n glir ein pryderon am S4C. Cyfarfu’r Prif Weinidog â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn gynharach yn yr haf. Bu inni bwysleisio unwaith eto y pryder a rennir gan lawer yn y Siambr hon fod yn rhaid i annibyniaeth S4C gael ei gynnal mewn unrhyw setliad newydd gyda’r BBC. Nid oes gennym unrhyw wir anhawster â’r cysyniad o S4C yn cael ei ariannu gan ffi’r drwydded yn y dyfodol. Nid oes gennym unrhyw anhawster go iawn gydag elfen briodol o atebolrwydd i Ymddiriedolaeth y BBC o ganlyniad. Fodd bynnag, dylai unrhyw drefniadau newydd gyda’r BBC adlewyrchu’r ffaith y cafodd S4C ei sefydlu drwy statud i wasanaethu pobl Cymru. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn rhesymol i bobl Cymru ddisgwyl perthynas newydd S4C gyda’r BBC i gael ei hadeiladu ar y syniad o annibyniaeth olygyddol a chreadigol.

 

It is encouraging that S4C has been able to confirm the appointment of Ian Jones as its new chief executive. I wish him well, although I naturally share the frustration of colleagues, both in the Chamber and at the channel, that he will not be starting in his new role until April. We will continue to press for a sustainable solution for S4C that will enable the channel to play the central role that we need it to play in support of the positions of the Welsh language and Welsh culture in all our lives. I will also press for other changes and send this message to the new chief executive of S4C in this interim period.

 

Mae’n galonogol bod S4C wedi gallu cadarnhau penodiad Ian Jones fel ei brif weithredwr newydd. Dymunaf yn dda iddo, er fy mod yn naturiol yn rhannu rhwystredigaeth cydweithwyr, yn y Siambr ac yn y sianel, na fydd yn dechrau yn ei rôl newydd tan fis Ebrill. Byddwn yn parhau i bwyso am ateb cynaliadwy i S4C a fydd yn galluogi’r sianel i chwarae’r rôl ganolog y mae angen iddi ei chwarae i gefnogi safle’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn ein bywydau ni i gyd. Byddaf hefyd yn pwyso am newidiadau eraill ac yn anfon y neges hon at brif weithredwr newydd S4C yn ystod y cyfnod interim.

 

The irony is that S4C has been one of the last Welsh institutions to get devolution. It has to be realised that the Assembly constitutes the democratic voice of the people of Wales, and not DCMS, and that relationships that might suit when financial times are good would not necessarily be sustained when difficult debates must be had. As of now, the UK Government is ultimately accountable for ensuring that Wales has a broadcasting sector that reflects the needs of its citizens. We will continue to press it on this. We will continue to stress the importance of broadcasting on television and radio in English and Welsh. I look forward to being able to work together with all the parties in this Assembly to maintain this crucial aspect of life in Wales.

 

Yr eironi yw mai S4C oedd un o’r sefydliadau Cymreig olaf i gael ei ddatganoli. Mae’n rhaid sylweddoli mai’r Cynulliad sy’n cynrychioli llais democrataidd pobl Cymru, ac nid DCMS, ac efallai ni allai perthnasau sy’n addas yn ystod cyfnod ariannol da o reidrwydd gael eu cynnal pan fod angen cynnal dadleuon anodd. O hyn ymlaen, Llywodraeth y DU sy’n atebol yn y pen draw am sicrhau bod gan Gymru sector darlledu sy’n adlewyrchu anghenion ei ddinasyddion. Byddwn yn parhau i bwyso ar hyn. Byddwn yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd darlledu ar deledu a radio yn Saesneg ac yn Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at allu cydweithio gyda’r holl bleidiau yn y Cynulliad hwn i gynnal yr agwedd hanfodol hon ar fywyd yng Nghymru.

 

I will now respond to the amendments that have been tabled. First, on amendment 1, tabled in the name of William Graham, the Welsh Government has consistently referred to the importance of plurality in public service broadcasting in Wales, and that is reflected in our programme for government. That is why we cannot as a Government support amendment 1, as it is superfluous. We naturally cannot support amendment 2, tabled in the name of William Graham. The parroting of this now-standard line from the Conservative Party is the necessary fiction that the Welsh Conservatives have peddled as cover for their ideological commitment to an attack on public spending. I would not be at all surprised to read further Conservative amendments that blame the last Labour Government for everything from the great fire of London to the black death.

 

Byddaf yn awr yn ymateb i’r gwelliannau sydd wedi’u cyflwyno. Yn gyntaf, o ran gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw William Graham, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio’n gyson at bwysigrwydd lluosogrwydd o ran darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, ac y mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn ein rhaglen lywodraethu. Dyna pam na allwn fel Llywodraeth gefnogi gwelliant 1, gan ei fod yn ddiangen. Yn naturiol, ni allwn gefnogi gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw William Graham. Mae ailadrodd y llinell hon yn ddifeddwl gan y Blaid Geidwadol yn cynrychioli’r ffuglen angenrheidiol y mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ei defnyddio er mwyn cyfiawnhau eu hymrwymiad ideolegol o ymosod ar wariant cyhoeddus. Ni fyddwn yn synnu o gwbl i ddarllen gwelliannau pellach gan y Ceidwadwyr sy’n rhoi’r bai ar y Llywodraeth Lafur ddiwethaf am bopeth, o dân mawr Llundain i’r pla du.

 

As a Government, we cannot support amendment 3, tabled in the name of Peter Black. In the last Assembly, we provided funding to the online Welsh-language daily newspaper Golwg360 for good reasons. We have committed to continue that support in tough times and this development has been a significant boost to the Welsh-language print media and has strengthened and extended the current provision. We support amendment 4, tabled in the name of William Graham, which refers to the promotion of training and entrepreneurship in the Welsh media industry. The Welsh Government provides funding to the Wales Union Learning Fund, which is a project between the unions working in the media to promote the training of freelance workers. To date, the fund has assisted 166 projects with over £13 million provided by the Welsh Government. Currently, there is a budget of £1.5 million, which is spread across 26 projects. We also support amendment 5, tabled in the name of William Graham. Our programme for government underlines our commitment as a Government to press for S4C’s new partnership with the BBC to retain editorial and operational independence for the channel, as I have mentioned.

 

Fel Llywodraeth, ni allwn gefnogi gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Peter Black. Yn y Cynulliad diwethaf, bu inni ddarparu cyllid ar gyfer papur newydd Cymraeg ddyddiol ar-lein Golwg360 am resymau da. Rydym wedi ymrwymo i barhau gyda’r gefnogaeth honno mewn cyfnod anodd ac mae’r datblygiad hwn wedi bod yn hwb sylweddol i’r cyfryngau print Cymraeg ac wedi cryfhau ac ehangu’r ddarpariaeth bresennol. Rydym yn cefnogi gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw William Graham, sy’n cyfeirio at hyrwyddo hyfforddiant a mentergarwch yn y diwydiant cyfryngau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, sef prosiect rhwng yr undebau sy’n gweithio yn y cyfryngau i hyrwyddo hyfforddiant ar gyfer gweithwyr llawrydd. Hyd yn hyn, mae’r gronfa wedi cynorthwyo 166 o brosiectau gyda mwy na £13 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae cyllideb o £1.5 miliwn, sy’n cael ei ledaenu ar draws 26 o brosiectau. Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw William Graham. Mae ein rhaglen ar gyfer llywodraethu yn tanlinellu ein hymrwymiad fel Llywodraeth i geisio sicrhau annibyniaeth olygyddol a gweithredol ar gyfer y sianel fel rhan o bartneriaeth newydd S4C gyda’r BBC, fel yr wyf wedi ei grybwyll.

 

On amendment 6, tabled in the name of Peter Black, we as a Government cannot support it in its entirety. As Members will be aware, a debate on S4C has been scheduled during Government business on 8 November when there will be an opportunity to discuss some of these issues in further detail. Although we as a Government are not responsible for funding S4C, we are fully aware of the implications of decisions taken during the last few months in relation to the channel. That includes the implications of the Public Bodies Bill for S4C. We would be concerned if any legislative changes had an impact on S4C’s future funding. We will continue to argue the principle that Welsh-language broadcasting should not be treated any less favourably than the other aspects of public service broadcasting. We will continue to emphasise that the principles upon which S4C was established, under successive Broadcasting Acts should not be abandoned—

 

O ran gwelliant 6, a gyflwynwyd yn enw Peter Black, ni allwn, fel Llywodraeth, ei gefnogi yn ei gyfanrwydd. Fel y gŵyr Aelodau, mae dadl ar S4C wedi ei threfnu yn ystod busnes y Llywodraeth ar 8 Tachwedd pan fydd cyfle i drafod rhai o’r materion hyn yn fanylach. Er nad ydym, fel Llywodraeth, yn gyfrifol am ariannu S4C, yr ydym yn gwbl ymwybodol o oblygiadau’r penderfyniadau a wnaed yn ystod y misoedd diwethaf mewn perthynas â’r sianel. Mae hynny’n cynnwys goblygiadau’r Bil Cyrff Cyhoeddus ar gyfer S4C. Byddem yn pryderu pe bai unrhyw newidiadau deddfwriaethol yn effeithio ar gyllid S4C yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i ddadlau’r egwyddor na ddylai darlledu yn yr iaith Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r agweddau eraill o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus. Byddwn yn parhau i bwysleisio na ddylwn droi eu cefnau ar yr egwyddorion a oedd yn sylfaen i S4C pan gafodd ei sefydlu, dan Ddeddfau Darlledu olynol—

 

The Deputy Presiding Officer: Order. You need to draw to a close now, Minister.

 

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Mae angen i chi ddirwyn i ben yn awr, Weinidog.

 

Huw Lewis: I will, Deputy Presiding Officer. This was a contract with the people of Wales and it should not be broken. S4C was created by statute to ensure that the organisation’s long-term stability and independence were protected from annual wrangling.

Huw Lewis: Gwnaf, Ddirprwy Lywydd. Contract gyda phobl Cymru oedd hwn ac ni ddylid ei dorri. Crëwyd S4C drwy statud i sicrhau bod sefydlogrwydd tymor hir ac annibyniaeth y sefydliad yn cael eu diogelu rhag ffraeo blynyddol.

 

6.00 p.m.

 

Its duties, responsibilities and funding arrangements were laid down in law for good reason. I regret that I seem to be running out of time, Deputy Presiding Officer.

 

Pennwyd ei ddyletswyddau, cyfrifoldebau a threfniadau ariannu yn y gyfraith am reswm da. Mae’n ymddangos fy mod yn rhedeg allan o amser, Ddirprwy Lywydd.

The Deputy Presiding Officer: You are.

 

Y Dirprwy Lywydd: Ydych.

Huw Lewis: Would you like me to—

 

Huw Lewis: A hoffech imi—

The Deputy Presiding Officer: You can say whether the Government supports the final amendment.

 

Y Dirprwy Lywydd: Gallwch ddweud a yw’r Llywodraeth yn cefnogi’r gwelliant olaf.

Huw Lewis: We support amendment 7, in the name of William Graham. We are already engaged with the UK Government to ensure that the new communications Bill meets the needs of Wales.

 

Huw Lewis: Rydym yn cefnogi gwelliant 7, yn enw William Graham. Rydym eisoes yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Bil cyfathrebu newydd yn bodloni anghenion Cymru.

Bethan Jenkins: I am pleased that so many people in the Chamber have taken an interest in this issue. It is high time that we prioritised broadcasting. As Simon Thomas said, it is unfortunate that it has taken an opposition party to push the Government to discuss this issue. I do not want to be totally unconstructive—I recognise that we are here debating it, so that is the main thing.

 

Bethan Jenkins: Yr wyf yn falch bod cynifer o bobl yn y Siambr wedi cymryd diddordeb yn y mater hwn. Mae’n hen bryd ein bod yn blaenoriaethu darlledu. Fel y dywedodd Simon Thomas, mae’n anffodus ei fod wedi cymryd gwrthblaid i wthio’r Llywodraeth i drafod y mater hwn. Nid wyf am fod yn gwbl anadeiladol—yr wyf yn cydnabod yr ydym yma yn ei drafod, felly dyna’r prif beth.

To start with what the Minister said, I recognise that he has committed to these areas. He mentioned concern a lot—he said that he was concerned about newspaper closures, S4C and the BBC. Minister, we need to know more about what you are doing after these meetings to ensure that you are working hard to stand up for Wales, as you said during the election, in relation to the media. I was not entirely convinced that you delivered on that. I was also quite confused when you said that S4C was the last institution to get devolution. We cannot blame S4C for the fact that its masters are in London—it would obviously go to discuss any financial agreements in London, so not come to speak to us as much. That is not something that we should blame S4C for—it fully understands devolution and is fully engaged with us, as Assembly Members.

 

I ddechrau gyda’r hyn a ddywedodd y Gweinidog, yr wyf yn cydnabod ei fod wedi ymrwymo i’r meysydd hyn. Soniodd sawl gwaith am bryder—dywedodd ei fod yn pryderu am gau papurau newydd, S4C a’r BBC. Weinidog, mae angen inni wybod mwy am yr hyn yr ydych yn ei wneud ar ôl y cyfarfodydd hyn er mwyn sicrhau eich bod yn gweithio’n galed i sefyll dros Gymru, fel y dywedasoch yn ystod yr etholiad, o ran y cyfryngau. Nid oeddwn yn gyfan gwbl argyhoeddedig eich bod yn darparu ar hynny. Yr oeddwn hefyd wedi drysu, braidd, pan ddywedasoch mai S4C oedd y sefydliad diwethaf i gael datganoli. Ni allwn feio S4C am y ffaith bod ei meistri yn Llundain—byddai’n amlwg yn mynd i drafod unrhyw gytundebau ariannol yn Llundain, ac nid, felly, yn dod i siarad â ni gymaint. Nid yw hynny’n rhywbeth y dylid rhoi’r bai ar S4C amdano—mae’n deall datganoli yn iawn ac yn ymgysylltu’n llawn gyda ni, fel Aelodau Cynulliad.

 

With regard to Suzy Davies’s comments, I do not think that the BBC Trust has made a formal announcement about 2017 yet. As Alun Ffred Jones said, we will reserve judgment as to what that means in practice. She mentioned an honourable financial settlement, but I want to know what ‘honourable’ means and what that will deliver for S4C in years to come. We need more than words; we need to see substance behind that. As ever, Suzy mentioned local television. I am reserving my judgment on that. A lot of money has gone from the television licence to fund local television, and it is Jeremy Hunt’s baby. We are trying to protect S4C and the BBC here, while they are trying to promote this localism concept, when our national institutions are being threatened. The Tories need to think their arguments through a bit more on local television.

 

O ran sylwadau Suzy Davies, nid wyf yn credu bod Ymddiriedolaeth y BBC wedi gwneud cyhoeddiad ffurfiol am 2017 eto. Fel y dywedodd Alun Ffred Jones, byddwn yn gohirio rhoi barn ar beth maen hynny’n ei olygu yn ymarferol. Soniodd am setliad ariannol anrhydeddus, ond hoffwn wybod beth mae ‘anrhydeddus’ yn ei olygu a beth fydd hynny’n darparu ar gyfer S4C yn y blynyddoedd i ddod. Mae arnom angen mwy na geiriau; mae angen inni weld sylwedd y tu ôl i hynny. Fel erioed, soniodd Suzy am deledu lleol. Yr wyf yn gohirio rhoi barn ar hynny. Mae llawer o arian wedi mynd o’r drwydded deledu i ariannu teledu lleol, a phrosiect Jeremy Hunt ydyw. Yr ydym yn ceisio amddiffyn S4C a’r BBC yma, tra eu bod nhw’n ceisio hyrwyddo’r cysyniad lleoliaeth hwn, pan fydd ein sefydliadau cenedlaethol yn cael eu bygwth. Mae angen i’r Torïaid feddwl ychydig yn fwy am eu dadleuon ar deledu lleol.

 

Peter Black’s contribution looked at social media; he is obviously interested in that particular agenda. Broadband provision is integral to people accessing the news in Wales. He made an important point about focusing on the future and not concentrating so much on what is now and what has been.

 

Fe wnaeth gyfraniad Peter Black edrych ar gyfryngau cymdeithasol; mae’n amlwg bod ganddo ddiddordeb yn yr agenda penodol hwnnw. Mae darpariaeth band eang yn hanfodol i bobl gael gafael ar y newyddion yng Nghymru. Gwnaeth bwynt pwysig ynghylch canolbwyntio ar y dyfodol ac nid canolbwyntio cymaint ar beth sydd yn awr, a beth a fu.

 

Yr oedd Alun Ffred Jones yn dweud ei bod yn beryglus peidio â chael trafodaeth gyhoeddus ar y mater hwn, ac yr wyf yn cytuno’n fawr ag ef. Dyna pam yr ydym ni fel plaid yn arwain ar y mater hwn ac yr oeddech chi, Alun Ffred Jones, yn arwain ar yr agenda hon yn y Llywodraeth flaenorol. Yr wyf yn cytuno nad yw’r Torïaid yn y fan hon yn cael dylanwad ar yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Nid yw’n argoeli’n dda nad oeddent yn gallu ymyrryd wrth ichi wneud eich araith ar faint o waith y maent wedi ei wneud gyda’u cyd-weithwyr yn Llundain ar y mater pwysig hwn.

 

Alun Ffred Jones said that it was dangerous not to have a public debate on this issue, and I strongly agree with him. That is why we, as a party, are leading on this issue, and you, Alun Ffred Jones, led on this agenda under the previous Government. I agree that the Tories in the Assembly are unable to influence the Department for Culture, Media and Sport. It does not bode well when they were unable to intervene on your speech to tell us how much work they have done with their colleagues in London on this important issue.

Ken Skates, I agreed with a lot of what you said, although I do not know whether I agree with you about paying for online news. The Times does it, but is that going to work? Can we not think of more innovative solutions?

 

Ken Skates, cytunais â llawer o’r hyn y dywedasoch, er ni wn i a wyf yn cytuno â chi ynglŷn â thalu am newyddion ar-lein. Mae The Times yn ei wneud, ond a yw hynny’n mynd i weithio? Onid allwn feddwl am atebion mwy arloesol?

 

Kenneth Skates: It is not that news should be paid for online, it is that newspapers should not give away their news online. Rather than giving away the stories that will be printed on the following day, they should be looking to advertise the fact that they have stories coming—possibly breaking their headlines, but not giving away the full content.

 

Kenneth Skates: Nid yr achos yw y dylid talu am newyddion ar-lein, ond ni ddylai papurau newydd roi eu newyddion ar-lein yn rhad. Yn hytrach na rhoi’r straeon y caiff eu hargraffu ar y diwrnod canlynol, dylent edrych i hysbysebu’r ffaith bod ganddynt storïau’n dod—o bosibl yn torri eu penawdau, ond nid yn rhoi’r cynnwys llawn.

Bethan Jenkins: Understood. You make a good point about bloggers, because it takes away from what journalists are doing. However, journalists are so tied up with doing the basic work that they cannot do that investigative work. There is a balance to be struck between citizen journalism and recognising that journalists want to get out, but cannot find the time to do so. I do not know what more the Government can do to stop job cuts, either. We would like to stop every job cut in the media, would we not? That is why we have to look for solutions, because we probably will see more job cuts in the newspaper industry.

 

Bethan Jenkins: Deallaf. Rydych yn gwneud pwynt da am flogwyr, oherwydd mae’n cymryd i ffwrdd o’r hyn y mae newyddiadurwyr yn ei wneud. Fodd bynnag, mae newyddiadurwyr mor brysur gyda’r gwaith sylfaenol hynny na allant wneud gwaith ymchwiliol. Mae angen canfod cydbwysedd rhwng newyddiaduraeth dinesydd a chydnabod bod newyddiadurwyr am fynd allan, ond yn methu â ffeindio’r amser i wneud hynny. Ni wn beth yn fwy y gall y Llywodraeth ei wneud i atal toriadau swyddi, ychwaith. Oni fyddem yn hoffi atal pob toriad swydd yn y cyfryngau? Dyna pam mae’n rhaid inni chwilio am atebion, oherwydd mae’n debyg y byddwn yn gweld mwy o doriadau swyddi yn y diwydiant papurau newydd.

 

Canolbwyntiodd Ieuan Wyn Jones ar Radio Cymru, gan wneud pwynt teilwng ynglŷn â Radio 4. Os yw Radio 4 mor dyngedfennol ac mor bwysig, pam nad yw Radio Cymru a’r iaith Gymraeg mor bwysig? Credaf fod hwnnw yn gwestiwn pwysig iawn i’r BBC yn y dyfodol agos.

 

Ieuan Wyn Jones concentrated on Radio Cymru, and made a worthy point about Radio 4: if Radio 4 is so crucial, why is that not the case for Radio Cymru and the Welsh language? That is a very important question for the BBC in the near future.

Jenny Rathbone mentioned Sky, but I think that we have covered the fact that Sky will still be dominant, regardless of Rupert Murdoch. Perhaps I will not comment on the cash for qualifications story, because I would have to declare an interest—my brother broke the story. Smart televisions are coming into play, so we might be able to tweet more often from other places, and send more than one tweet if we have a bigger argument to put across. You see my Twitter expertise.

 

Soniodd Jenny Rathbone am Sky, ond credaf ein bod wedi trafod y ffaith y bydd Sky yn dal i fod yn drechol, ni waeth am Rupert Murdoch. Efallai na wnaf sylw ar y stori arian parod am gymwysterau, oherwydd byddai’n rhaid imi ddatgan buddiant—dorrodd fy mrawd y stori. Mae setiau teledu smart yn cael eu cyflwyno, felly mae’n bosib y gallem drydar yn fwy aml o leoedd eraill, ac anfon mwy nag un trydar os cawn ddadl fwy i gyfleu. Gwelwch fy arbenigedd Twitter.

 

Simon Thomas is a media junkie, just like me—I think that there are a lot of us here, and there are worse things to be. He mentioned the lack of debate on this issue in Wales, and the reliance on opposition parties to bring this topic to the Assembly. He made a very valid point about the .cym domain name, which is an ongoing wrangle, and there were questions earlier to the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science on this very issue. It is something that we should really be promoting. Scotland is getting on with it; why cannot Wales?

 

Mae Simon Thomas yn jynci’r cyfryngau, fel fi—credaf fod sawl un ohonom yma, ac mae pethau gwaeth i fod. Soniodd am y diffyg dadl ar y mater hwn yng Nghymru, a’r ddibyniaeth ar yr wrthbleidiau i ddwyn y pwnc hwn i’r Cynulliad. Gwnaeth bwynt dilys iawn am yr enw parth .cym, sy’n anghydfod parhaus, ac roedd cwestiynau yn gynharach i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ar yr union fater hwn. Mae’n rhywbeth y dylem hyrwyddo o ddifrif. Mae’r Alban yn ymgymryd ag ef; pam na all Cymru?

Mae problemau ieithyddol yn Radio Ceredigion hefyd, yn amlwg. Credaf fod angen inni gael mwy o drafodaethau fel hyn. Mae rhai ohonom yn aelodau o’r grŵp gorchwyl sy’n edrych ar ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru; ni fydd hynny’n hawdd, ond mae’n rhaid inni gael rhyw fath o reolaeth yma yng Nghymru, a rhyw fath o system lle mae Aelodau Cynulliad yn gallu mynegi barn a chraffu ar y wasg heb deimlo nad dyna yw ein rôl. Os yw’n cael ei ddatganoli neu beidio, mae’n bwysig ein bod yn rhan o’r drafodaeth honno, ac mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn sylweddoli y dylai Aelodau’r Cynulliad fod yn rhan o’r drafodaeth honno. Diolch i bawb a gyfrannodd.

 

There are clearly linguistic problems in Radio Ceredigion, too. I think that we need to be having more debates of this sort. The task and finish group that some of us are members of will be looking at the future of the media in Wales. It will not be easy, but we need to have some sort of control here in Wales, and some sort of system whereby Assembly Members can express their opinion and scrutinise the media without feeling that it is not our role to do that. Whether it is devolved or not, it is important that we are part of that discussion, and that the Government should realise that Assembly Members should be part of that discussion. Thank you to everyone who contributed.

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? I see that there are objections, so I defer voting under this item until voting time, which will now follow. Under Standing Order No. 12.44, at least three Members must request that the bell be rung. Do three Members support the request? I see that they do not.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw cytuno ar y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf fod gwrthwynebiadau, felly gohiriaf y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio, a fydd yn dilyn yn awr. O dan Reol Sefydlog Rhif 12.44, mae’n rhaid i o leiaf dri Aelod ofyn am i’r gloch gael ei chanu. Oes tri Aelod yn cefnogi’r cais? Gwelaf nad oes.

 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

 

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time


Cynnig NDM4825: O blaid 24, Ymatal 13, Yn erbyn 15.
Motion NDM4825: For 24, Abstain 13, Against 15.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Chapman, Christine
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gruffydd, Llyr Huws
Hedges, Mike
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Ann
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Rathbone, Jenny
Rees, David
Skates, Kenneth
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne
Jones, Ieuan Wyn

 

Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Jones, Alun Ffred
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette

Ymataliodd yr Aelodau canlynol:
The following Members abstained:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Cuthbert, Jeff
Davies, Jocelyn
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hutt, Jane
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Thomas, Gwenda

 

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

 

 

Cynnig NDM4834: O blaid 16, Ymatal 0, Yn erbyn 36.
Motion NDM4834: For 16, Abstain 0, Against 36.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Jones, Alun Ffred
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Jones, Ieuan Wyn
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Rathbone, Jenny
Rees, David
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne


Gwrthodwyd y cynnig.
Motion not agreed.

 

 

Gwelliant 1 i NDM4834: O blaid 42, Ymatal 10, Yn erbyn 0.
Amendment 1 to NDM4834: For 42, Abstain 10, Against 0.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Byron
Davies, Keith
Davies, Paul
Davies, Suzy
Drakeford, Mark
Evans, Rebecca
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gething, Vaughan
Graham, William
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
Isherwood, Mark
James, Julie
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Millar, Darren
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Ramsay, Nick
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Watson, Joyce
Williams, Kirsty

 

 

Ymataliodd yr Aelodau canlynol:
The following Members abstained:

Davies, Jocelyn
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Jones, Alun Ffred
Gruffydd, Llyr Huws
Jenkins, Bethan
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Thomas, Simon
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

 

Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment agreed.

 

 

Gwelliant 2 i NDM4834: O blaid 10, Ymatal 0, Yn erbyn 42.
Amendment 2 to NDM4834: For 10, Abstain 0, Against 42.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Davies, Jocelyn
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Jones, Alun Ffred
Gruffydd, Llyr Huws
Jenkins, Bethan
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Thomas, Simon
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne


Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Byron
Davies, Keith
Davies, Paul
Davies, Suzy
Drakeford, Mark
Evans, Rebecca
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gething, Vaughan
Graham, William
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
Isherwood, Mark
James, Julie
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Millar, Darren
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Ramsay, Nick
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Watson, Joyce
Williams, Kirsty

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 3 i NDM4834: O blaid 36, Ymatal 0, Yn erbyn 16.
Amendment 3 to NDM4834: For 36, Abstain 0, Against 16.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Rathbone, Jenny
Rees, David
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Williams, Kirsty

Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment agreed.

 

 

Cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

Amendment 4 deselected.

 

 

Gwelliant 5 i NDM4834: O blaid 36, Ymatal 0, Yn erbyn 16.
Amendment 5 to NDM4834: For 36, Abstain 0, Against 16.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Rathbone, Jenny
Rees, David
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Williams, Kirsty

Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment agreed.

 

 

Cynnig NDM4834 fel y’i diwygiwyd:

 

Motion NDM4834 as amended:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

1. Yn nodi’r manteision pellgyrhaeddol posibl i Gymru drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr;

 

1. Notes the wide-reaching benefits Wales can gain from hosting major sporting events;

 

2. Yn llongyfarch y gwaith a wnaed gan gynghorau Caerdydd a Chasnewydd wrth ddenu a chefnogi Cyfres y Lludw a Chwpan Ryder yn eu tro.

 

2. Congratulates the work done by Cardiff and Newport councils in attracting and supporting the Ashes and the Ryder Cup, respectively.

 

3. Yn nodi’r ffaith y caiff proffil Cymru dramor ei wella yn sgil profiadau cadarnhaol unigolion a thimau y gwledydd hynny sydd wedi dewis hyfforddi yng Nghymru cyn Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; ac

 

3. Notes the fact that Wales’ profile abroad will be improved by the positive experiences of those competing nations that have chosen Wales as their base for training in advance of both the 2012 Olympic and Paralympic Games; and

 

4. Yn cydnabod llwyddiant Cymru gyfan yn cynnal Cwpan Ryder 2010 a’r manteision economaidd sydd wedi dod yn ei sgil.

 

4. Recognises the success for Wales as a whole, in hosting the 2010 Ryder Cup and the economic benefits that have been delivered as a consequence.

 

Cynnig NDM4834: O blaid 36, Ymatal 0, Yn erbyn 16.
Motion NDM4834: For 36, Abstain 0, Against 16.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Rathbone, Jenny
Rees, David
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Williams, Kirsty

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

 

 

Cynnig NDM4833: O blaid 40, Ymatal 0, Yn erbyn 12.
Motion NDM4833: For 40, Abstain 0, Against 12.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Black, Peter
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

Asghar, Mohammad
Burns, Angela
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Ramsay, Nick
Sandbach, Antoinette

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

 

 

Daeth Angela Burns i’r Gadair am 6.11 p.m.
Angela Burns took the Chair at 6.11 p.m.

 

Dadl Fer
Short Debate

 

Beth yw Dwy Awr er mwyn Dysgu Plentyn i Achub Bywyd?
Is Two Hours Too Much to Teach a Child how to Save a Life?

 

Suzy Davies: I welcome the opportunity to bring forward my first short debate, entitled, ‘Is two hours too much to teach a child how to save a life?’ One of my first actions as a Member of this Assembly was to table a statement of opinion calling for the teaching of lifesaving skills to be a compulsory part of the school curriculum. I see that as a simple contribution towards reducing the growing number of preventable deaths. I thank Members from all parties for supporting the statement and for supporting the short debate today. I am happy to give Keith Davies, Bethan Jenkins and Kirsty Williams time in this debate.

 

Suzy Davies: Croesawaf y cyfle i gyflwyno fy nadl fer gyntaf, dan y teitl ‘Beth yw dwy awr er mwyn dysgu plentyn i achub bywyd?’  Un o’m gweithredoedd cyntaf fel Aelod o’r Cynulliad hwn oedd cyflwyno datganiad barn yn galw am addysgu sgiliau achub bywyd i fod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ysgol. Yr wyf yn gweld hynny fel cyfraniad syml tuag at leihau’r nifer gynyddol o farwolaethau y gellir eu hatal. Diolchaf Aelodau o bob plaid am gefnogi’r datganiad ac am gefnogi’r ddadl fer heddiw. Yr wyf yn hapus i roi amser yn y ddadl i Keith Davies, Bethan Jenkins a Kirsty Williams.

I have already mentioned the growing number of preventable deaths. The fact is that, in each year, around 30,000 people in the UK suffer a cardiac arrest outside the hospital environment, of which fewer than 10 per cent will survive to be discharged from hospital. In Wales, around 2,000 people die each year of a heart attack and many of these deaths are preventable. Evidence shows that approximately two thirds of cardiac arrests occur in the home, and that nearly half of those that occur in public are witnessed by bystanders, including children.

 

Soniais eisoes am y nifer gynyddol o farwolaethau y gellir eu hatal. Y ffaith yw, bob blwyddyn, mae tua 30,000 o bobl yn y DU yn dioddef ataliad ar y galon y tu allan i amgylchedd yr ysbyty, bydd llai na 10 y cant o’r rheini’n goroesi i gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Yng Nghymru, mae tua 2,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o drawiad ar y galon ac mae llawer o’r marwolaethau hyn yn ataliadwy. Mae tystiolaeth yn dangos bod tua dwy ran o dair o ataliadau ar y galon yn digwydd yn y cartref, ac mae gan bron i hanner y rheini sy’n digwydd yn gyhoeddus dystion wrth law, sy’n cynnwys plant.

 

With each minute that passes in cardiac arrest before defibrillation, chances of survival are reduced by about 10 per cent, and a lack of blood circulation for a few minutes, due to cardiac arrest, can lead to irreversible brain damage. In Wales, the emergency services have an eight-minute target to arrive at a scene following a 999 call—a target that is often missed. Members may recall my concern that ambulances were not meeting targets in rural parts of my region, an issue compounded by a reduction in callouts by two co-responders. However, if cardio pulmonary resuscitation is given immediately after a cardiac arrest outside a medical setting, it buys time before using an automated external defibrillator, so can triple the chance of survival.

 

Gyda phob munud sy’n mynd heibio yn ataliad ar y galon cyn diffibrilio, mae’r posibilrwydd o oroesi yn lleihau tua 10 y cant, a gall diffyg cylchrediad gwaed am ychydig funudau, oherwydd trawiad ar y galon, arwain at niwed anwrthdroadwy i’r ymennydd. Yng Nghymru, mae gan wasanaethau brys darged o wyth munud i gyrraedd lleoliad yn dilyn galwad 999—targed a anghofir yn aml. Efallai y bydd Aelodau yn cofio fy mhryder nad oedd ambiwlansys yn cyrraedd targedau mewn rhannau gwledig o’m rhanbarth, mater a gymhlethwyd gan ostyngiad mewn galwadau allan gan ddau gyd-ymatebwr. Fodd bynnag, os rhoddir dadebru ysgyfeiniol cardio ar unwaith ar ôl ataliad ar y galon y tu allan i leoliad meddygol, mae’n prynu amser cyn defnyddio diffibriliwr allanol awtomataidd, felly y gall cynyddu’r siawns o oroesi teirgwaith.

 

The skills necessary to save a life can be taught in as little as two hours, which is why, I am asking today for emergency life support skills to be taught to every secondary school student in Wales. ELS skills are the set of actions needed to keep someone alive until professional help arrives. ELS can be performed without any special medical knowledge and includes CPR, putting an unconscious person in the recovery position, dealing with choking, serious bleeding and helping someone who may be having a heart attack. Currently in Wales, ELS is a non-mandatory component of the personal and social education part of the curriculum. Why is it not mandatory? I would like the Minister for Health and Social Services to make ELS skills training, including cardio pulmonary resuscitation, a compulsory part of the secondary school curriculum in Wales

Gellir addysgu’r sgiliau sydd eu hangen i achub bywyd mewn cyn lleied â dwy awr, a dyna pam rwy’n gofyn heddiw i sgiliau cynnal bywyd brys gael eu haddysgu i bob myfyriwr ysgol uwchradd yng Nghymru. Sgiliau CBB yw’r camau gweithredu sydd eu hangen i gadw rhywun yn fyw nes bod cymorth proffesiynol yn cyrraedd. Gall CBB gael eu cyflawni heb unrhyw wybodaeth feddygol arbennig ac mae’n cynnwys CPR, rhoi person anymwybodol yn yr ystum adfer, delio â thagu a gwaedu difrifol a helpu rhywun sydd efallai’n cael trawiad ar y galon. Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae CBB yn elfen nad yw’n orfodol o ran y cwricwlwm addysg bersonol a chymdeithasol. Pam nad yw’n  orfodol? Hoffwn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wneud hyfforddiant mewn sgiliau ELS, gan gynnwys dadebru ysgyfeiniol cardio, yn rhan orfodol o’r cwricwlwm uwchradd yng Nghymru.

 

6.15 p.m.

 

Suzy Davies:. Compulsory teaching of ELS would create a new generation of lifesavers across Wales. Children are often present at the scene of a cardiac arrest, and if we equip them with the necessary skills they can help make the difference between life and death.

 

 Suzy Davies: Byddai addysgu triniaeth cynnal bywyd brys yn creu cenhedlaeth newydd o arbedwyr bywyd ledled Cymru. Mae plant yn aml yn bresennol pan fo rhywun yn cael trawiad, ac os gallwn roi’r sgiliau angenrheidiol iddynt fe allant helpu i wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw.

 

There is no centrally collated data on how many schools teach ELS voluntarily in Wales. However, a survey carried out by the British Red Cross showed that 83 per cent of UK teachers and 98 per cent of parents supported the teaching of first aid as part of the school curriculum. When surveyed, 88 per cent of parents in Wales said that they believed that their children should be taught ELS in school. Members from all parties in this Chamber believe that teaching ELS should be a mandatory component of PSE in secondary schools. I hope that the Minister and Deputy Minister will see the benefits of such a policy.

 

Nid oes data yn cael eu casglu’n ganolog ar faint o ysgolion sy’n addysgu triniaeth cynnal bywyd brys yn wirfoddol yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd arolwg gan y Groes Goch Brydeinig yn dangos fod 83 y cant o athrawon yn y DU a 98 y cant o rieni o blaid addysgu cymorth cyntaf fel rhan o gwricwlwm yr ysgol. Pan gawsant eu harolygu, dywedodd 88 y cant o rieni eu bod o’r farn y dylai eu plant gael addysg triniaeth cynnal bywyd brys yn yr ysgol. Mae Aelodau o bob plaid yn y Siambr hon o’r farn y dylai addysgu triniaeth cynnal bywyd brys fod yn rhan orfodol o ABCh mewn ysgolion uwchradd. Gobeithio y bydd y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog yn gweld manteision polisi o’r fath.

 

We are already behind many of our European neighbours on this. France, Denmark and Norway all have lifesaving skills, such as CPR, as a mandatory part of their school curricula. They have been using strategies ranging from self-learning with DVDs and mannequins to structured teaching, all as part of the curriculum. In the United States, a recent statement on science by the American Heart Association concluded that CPR training should be a requirement before pupils are allowed to graduate from secondary school. This is not a major commitment. ELS are simple and easy to teach and learn. They can be performed without any medical knowledge, and take as little as two hours to teach—0.2 per cent of the school year. Children of 10 years and above can learn the full range of ELS, including vital CPR, and younger children are also able to learn many of the skills. Teachers in primary schools should be encouraged to teach the children many of the skills, including dialling 999 to call for help and checking for danger.

 

Rydym eisoes ar ôl llawer o’n cymdogion Ewropeaidd yn hyn o beth. Mae sgiliau cynnal bywyd, fel adfywio cardio-pwlmonaidd, yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ysgol yn Ffrainc, Denmarc a Norwy. Buont yn defnyddio strategaethau yn amrywio o hunan-addysgu gyda DVD a dynion pren i addysgu strwythuredig, i gyd fel rhan o’r cwricwlwm. Yn yr Unol Daleithiau, daeth datganiad diweddar gan yr American Heart Association i’r casgliad y dylai hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd fod yn rheidrwydd cyn y caniateir disgyblion i raddio o’r ysgol uwchradd. Nid yw hwn yn ymrwymiad mawr. Mae triniaeth cynnal bywyd brys yn syml a hawdd i’w addysgu a’i ddysgu. Gellir ei gynnal heb unrhyw wybodaeth feddygol ymlaen llaw, a chymryd cyn lleied â dwy awr i’w addysgu—0.2 y cant o’r flwyddyn ysgol. Fe all plant 10 oed a hŷn ddysgu’r amrywiaeth lawn o driniaethau cynnal bywyd brys, gan gynnwys adfywio cardio-pwlmonaidd allweddol, ac mae plant iau hefyd yn gallu dysgu llawer o’r sgiliau. Dylid annog athrawon mewn ysgolion cynradd i addysgu llawer o’r sgiliau i blant, gan gynnwys deialu 999 i alw am help neu wirio ar gyfer perygl.

  

A number of organisations already successfully provide training and support for teachers so that they can deliver ELS if they choose to. The British Heart Foundation, for example, spends about £800,000 a year in the UK on resources for teaching ELS, including mannequins, school pack contents and teacher supply cover. The British Red Cross has spent the past five years helping schools teach children how to save a life. St John Cymru Wales offers the young lifesaver scheme awards, with approximately 330 schools taking part. Some 63 schools regularly participate in the scheme, teaching these vital life-saving skills to children. Since the scheme started, more than 11,000 children have been taught vital life-saving skills, and many of them have gone on to use their skills. Some 1,252 children have been taught first aid since September 2010. The Red Cross and St John Cymru Wales provide those training materials for nothing.

 

Mae nifer o sefydliadau eisoes yn darparu hyfforddiant a chymorth i athrawon yn llwyddiannus fel eu bod yn gallu cyflwyno addysg triniaeth cynnal bywyd brys os ydynt yn dewis. Er enghraifft, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn gwario tua £800,000 y flwyddyn yn y DU ar adnoddau i addysgu triniaeth cynnal bywyd brys, gan gynnwys dynion pren, cynnwys pecynnau ysgol a darpariaeth athrawon cyflenwi. Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn helpu ysgolion addysgu plant sut i achub bywyd. Mae St John Wales Cymru yn cynnig y gwobrau cynllun achubwr bywyd ifanc, ac mae tua 330 o ysgolion yn cymryd rhan. Mae 63 o ysgolion yn cymryd rhan yn rheolaidd yn y cynllun, gan addysgu’r sgiliau achub bywyd allweddol hyn i blant. Ers dechrau’r cynllun, mae mwy na 11,000 o blant wedi dysgu sgiliau achub bywyd, ac mae llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i ddefnyddio eu sgiliau. Mae 1,252 o blant wedi cael addysg cymorth cyntaf ers mis Medi 2010. Mae’r Groes Goch a St John Cymru Wales yn darparu’r deunydd hyfforddi hynny am ddim.

  

The British Red Cross, the British Heart Foundation and St John Cymru Wales would like us as an Assembly to do more, and we need to do more. Wales is now the only devolved country in the UK that does not have some form of community resuscitation network. Community resuscitation development officers, established by the British Heart Foundation, are developing community resuscitation programmes across other regions of the UK within ambulance trusts. They deliver ELS training and support to teachers as part of the wider ambulance service response.

 

Byddai’r Groes Goch Brydeinig, Sefydliad Prydeinig y Galon a St John Cymru Wales yn hoffi i ni wneud mwy fel Cynulliad, ac mae angen i ni wneud mwy. Cymru bellach yw’r unig wlad ddatganoledig yn y DU sydd heb ryw fath o rwydwaith dadebru cymunedol. Mae swyddogion datblygu dadebru cymunedol, a sefydlwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon, yn datblygu rhaglenni dadebru cymunedol ar draws rhanbarthau eraill y DU mewn ymddiriedolaethau ambiwlans. Maent yn darparu hyfforddiant a chymorth triniaeth cynnal bywyd brys i athrawon fel rhan o ymateb ehangach y gwasanaeth ambiwlans.

 

In Wales, we are behind the curve. Not only do we not teach ELS in our schools, we routinely miss the eight-minute ambulance response target, and we are cutting back on the use of community first responders. By teaching children ELS in school, we can create a new generation of lifesavers. We can equip the next generation with the skills to prevent a growing number of deaths due to cardiac arrest.

 

Rydym ar ei hôl hi yng Nghymru. Nid ydym yn addysgu triniaeth cynnal bywyd brys yn ein hysgolion, rydym yn methu’r targed ymateb ambiwlans wyth munud yn rheolaidd, ac rydym yn torri yn ôl ar ymatebwyr cyntaf cymunedol. Drwy roi addysg triniaeth cynnal bywyd brys i blant yn yr ysgol, gallwn greu cenhedlaeth newydd o achubwyr bywyd. Gallwn roi’r sgiliau i’r genhedlaeth nesaf i atal y nifer gynyddol o farwolaethau oherwydd trawiad ar y galon.

 

If children learn and retain new skills more easily than adults and are often present at emergencies, why can they not be asked to learn these skills as they do skills in other areas? They learn how to ride a bike, how to play a musical instrument, how to speak a foreign language. Why, Minister, can we not add how to save a life to that set of skills?

Os yw plant yn dysgu a chadw sgiliau newydd yn haws nag oedolion ac yn aml yn bresennol mewn achosion brys, pam na ellir gofyn iddynt ddysgu’r sgiliau hyn fel ag y maen nhw yn dysgu sgiliau mewn meysydd eraill? Maent yn dysgu sut i reidio beic, sut i chwarae offeryn cerddorol, sut i siarad iaith dramor. Pam, Weinidog, na allwn ychwanegu sut i achub bywyd at y sgiliau hynny?

 

Keith Davies: Yr wyf yn cefnogi hyn gan fy mod yn aelod o Sefydliad Prydeinig y Galon, a Llanelli yw’r dref calon gyntaf Cymru. Y rheswm go iawn, wrth gwrs, yw fy mod wedi cael trawiad chwe blynedd yn ôl. Fel y dywedodd Suzy Davies, mae’r munudau cyntaf yn bwysig os ydych yn cael trawiad difrifol. Yr oeddwn yn lwcus: nid oedd fy nhrawiad yn un difrifol, a hefyd yr oedd nyrs yn bresennol. Yr oedd yn gofyn i mi sut yr oeddwn yn teimlo, gan fy mod wedi colli lliw. Dywedais fy mod yn teimlo fod rhywun yn rhoi gwregys o fy nghwmpas a’i dynnu’n dynn. Dywedodd y nyrs wrthyf i fynd i’r ysbyty. Dyna ddigwyddodd ac yr oeddwn yn iawn. Yr wyf wedi darllen yr holl wybodaeth wedyn a, fel y mae Suzy Davies wedi dweud, mae’r munudau cyntaf yn hollbwysig.

 

Keith Davies: I support this because I am a member of the British Heart Foundation, and Llanelli is the first heart town in Wales. The real reason is that I had a heart attack six years ago. As Suzy Davies said, the first minutes are crucial if you are having a serious heart attack. I was lucky: my heart attack was not serious, and there was a nurse present. She was asking me how I felt because I had gone pale. I said that I felt as though someone had put a belt around me and was pulling it tight. The nurse told me to go to the hospital. That is what happened and I was fine. I have read all of the information since and, as Suzy Davies has said, the first few minutes are crucial.

Bu i Suzy ddweud bod adnoddau i gael i ysgolion am ddim, sy’n helpu o ran gwerthu’r syniad i ysgolion. Maent bob amser yn edrych am adnoddau ac mae’r cwricwlwm addysg bersonol a chymdeithasol yn orfodol. Mae’n rhaid i bob ysgol uwchradd ddilyn cwrs ABCh. Nid yw’r cwricwlwm yn pennu beth sydd i fod i gael ei ddysgu heddiw ac yfory; mater i’r ysgol unigol yw hi yn y pen draw. Yr wyf am weld hwn yn cael ei ddysgu fel rhan o wersi ABCh oherwydd mae achub bywyd mewn argyfwng yn hollbwysig. Yr wyf wedi ysgrifennu i lawr y ffigurau yr Suzy Davies yn sôn amdanynt yn gynharach, ac mae 30,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru yn cael trawiad ac mae traean ohonynt yn cael trawiad mewn lle cyhoeddus. Felly, byddai pobl ar gael i helpu pe bai’r sgiliau ganddynt. Dyna pam yr wyf mor awyddus i gefnogi hwn: bydd yn arbed bywydau yn y pen draw. Yr ydym yn sôn am ddwy awr o hyfforddiant: dyna i gyd. Nid wyf yn siŵr faint o oriau sydd mewn 11 mlynedd o ysgol, ond os oes angen dwy awr o’r amser hynny i hyfforddi rhywun i achub bywydau, yr wyf yn barod iawn i’w gefnogi.

 

Suzy mentioned that resources are available for schools free of charge, which is always helpful with regard to selling the idea to schools. They are always looking for resources and the personal and social education curriculum is mandatory. Every secondary school has to follow a PSE course. The curriculum does not specify what should be taught today and tomorrow; it is a matter for schools in the end. I would like to see this being taught as part of PSE lessons because saving lives in an emergency is crucial. I wrote down the figures that Suzy Davies mentioned earlier, and 30,000 people each year in Wales suffer a heart attack and a third of them suffer a heart attack in a public place. Therefore, people would be available to help if they had the skills. That is why I am so keen to support this: it will save lives in the end. We are talking about two hours of training: that is all. I am not sure how many hours there are in 11 years of schooling, but if two hours of that time is needed to train someone to save lives, I am very happy to support it.

Bethan Jenkins: I would like to thank Suzy Davies for bringing this short debate to the Chamber, as it is important. Given that we have been contacted by a number of constituents and organisations with regard to this issue, we should take more notice of it. I was previously a lifeguard, and having those skills has helped me. I know that you have to update your skills every two years in order to continue with that work, but having those skills made me more confident, particularly if, for example, I was in a situation where someone collapsed when I was out with friends, that I could help them. I was confident in going through the process, in contrast to my friends who did not have those skills and who might therefore be more wary in such situations. Therefore, I totally support making teaching this compulsory through the education system.

 

Bethan Jenkins: Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am gyflwyno’r ddadl fer hon i’r Siambr, gan ei bod yn bwysig. O gofio bod nifer o etholwyr a sefydliadau wedi cysylltu â ni am y mater hwn, dylem gymryd mwy o sylw ohono. Roeddwn yn achubwr bywydau yn flaenorol, ac mae meddu ar y sgiliau hynny wedi fy helpu i. Rwy’n gwybod eich bod yn gorfod diweddaru eich sgiliau bob dwy flynedd er mwyn parhau gyda’r gwaith hwnnw, ond roed meddu ar y sgiliau hynny yn fy ngwneud yn fwy hyderus, yn enwedig os oeddwn i mewn sefyllfa, er enghraifft, lle’r oedd rhywun wedi syrthio pan oeddwn i allan, fel fy mod yn gallu eu helpu. Roeddwn yn hyderus yn mynd drwy’r broses, yn wahanol i fy ffrindiau nad oedd gan y sgiliau hynny ac a fyddai felly efallai yn fwy gochelgar mewn sefyllfaoedd o’r fath. Felly, rwy’n llwyr gefnogi gwneud addysgu hyn yn orfodol drwy’r system addysg.

 

That has been done for many other things, so why would this be seen as less important? Why is saving someone’s life is not seen as being an important issue in schools? I will not pre-empt the Deputy Minister’s response, but I fear that we will not receive a positive response. We have heard that certain things will be covered as part of PSE lessons, but I am wary of PSE generally, because the young people who talk to me tell me that they do not find it to be a good use of their time in some schools. PSE lessons need to be much more structured. I am currently calling for confidence and wellbeing tutorship in schools, and we are knocking on a closed door in that regard. The argument is the same as that for making ELS compulsory in schools.

 

Cafodd hyn ei wneud ar gyfer sawl peth arall, felly pam fyddai hyn yn cael ei ystyried yn llai pwysig? Pam nad yw achub bywyd rhywun yn cael ei weld yn rhywbeth pwysig mewn ysgolion? Ni cheisiaf ddyfalu beth fydd ymateb y Dirprwy Weinidog, ond ofnaf na fyddwn yn derbyn ymateb cadarnhaol. Clywsom y bydd rhai pethau yn cael eu cwmpasu fel rhan o wersi  ABCh, ond rwy’n ochelgar o ABCh yn gyffredinol, achos dywed pobl ifanc sy’n siarad â mi wrthyf nad ydynt yn meddwl ei fod yn ddefnydd da o’u hamser mewn ambell i ysgol. Mae angen i wersi ABCh fod â llawer mwy o strwythur. Rwy’n galw ar hyn o bryd am addysg hyder a lles mewn ysgolion, ond ni chawsom fawr o ymateb hyd yma. Mae’r ddadl yr un fath â’r un dros wneud addysg triniaeth cynnal bywyd brys yn orfodol mewn ysgolion.

 

I do not want to say much more, but I would like to mention the fire service and co-responder teams, which I also met recently. If they can reach incidents more quickly or at the same time as ambulances, then we need to push for that. That is something that we need to explore in the National Assembly.

 

Nid wyf am ddweud llawer mwy, ond hoffwn sôn am y gwasanaeth tân a’r timau cyd-ymatebwyr, y gwneuthum hefyd eu cyfarfod yn ddiweddar. Os gallan nhw gyrraedd digwyddiadau ynghynt neu ar yr un pryd ag ambiwlansys, yna mae’n rhaid i ni wthio i hynny ddigwydd. Dyna rywbeth mae angen i ni edrych arno yn y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Kirsty Williams: I thank Suzy Davies and commend her on her work in this area and on bringing forward a well-argued debate this afternoon. It is clear from international research that, in terms of better outcomes for people in an emergency situation, there is a critical chain that needs to be followed and the first part of that chain is the ability of a bystander to intervene successfully. We cannot expect bystanders to do that unless we give them the skills to do so. It is clear from my constituency that young people want to acquire these skills and they are keen and anxious to help. Pupils at Crickhowell High School have organised their own first aid lessons. They have raised funds to buy a defibrillator and have placed it outside the community centre in Crickhowell for use in emergency situations.

 

Kirsty Williams: Diolch i Suzy Davies ac rwy’n ei chanmol am ei gwaith yn y maes hwn ac ar gyflwyno dadl raenus y prynhawn yma. Mae’n amlwg o ymchwil ryngwladol, o ran canlyniadau gwell i bobl mewn sefyllfa frys, fod angen dilyn cadwyn dyngedfennol ac mai gallu rhywun sy’n sefyll gerllaw i ymyrryd yn llwyddiannus yw rhan gyntaf y gadwyn honno. Nid ydym yn gallu disgwyl i’r rhai sy’n sefyll gerllaw i wneud hynny oni bai ein bod yn rhoi’r sgiliau iddynt wneud hynny. Mae’n amlwg o fy etholaeth fod pobl ifanc eisiau meddu ar y sgiliau hyn ac maent yn awyddus a pharod i helpu. Mae disgyblion yn Ysgol Uwchradd Crughywel wedi trefnu eu gwersi cymorth cyntaf eu hunain. Maent wedi codi arian i brynu diffilibriwr ac maent wedi ei osod tu allan i’r ganolfan gymunedol yng Nghrughywel i’w ddefnyddio mewn sefyllfaoedd brys.

 

Just a fortnight ago, I had the pleasure of attending the presentation evening for Ystradgynlais Badgers, the largest St John’s Badgers group in Wales with 60 young people, some as young as six, who actively want to learn about what they can do to help save someone’s life, and who want to be part of their community. It is clear from speaking to my constituents that there is a real desire among young people to acquire these skills and to use them within their community. I hope that the Government will reflect seriously on the international evidence that the crucial part in saving life is that initial intervention, followed by a first responder, an ambulance crew and acute emergency attention within a hospital setting. If we are to do well by the people of Wales, we need each part of the critical chain to work, and this initiative to train young people could be an excellent way to start.  

 

Dim ond bythefnos yn ôl, cefais y pleser o fynychu noson gyflwyno i Badgers Ystradgynlais, y grŵp Badgers mwyaf yng Nghymru gyda 60 o bobl ifanc, rhai mor ifanc â chwech, sydd yn frwd eisiau dysgu beth allant ei wneud i helpu i achub bywyd rhywun, ac sydd am fod yn rhan o’u cymuned. Mae’n amlwg o siarad â’m hetholwyr fod gwir awydd ymysg pobl ifanc i gaffael y sgiliau hyn a’u defnyddio yn eu cymuned. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried o ddifri y dystiolaeth ryngwladol mai’r rhan dyngedfennol mewn achub bywyd yw’r ymyriad cychwynnol, wedyn ymatebydd cyntaf, criw ambiwlans a sylw brys aciwt mewn ysbyty. Er mwyn rhoi bob chwarae teg i bobl Cymru, mae angen i bob rhan o’r gadwyn dyngedfennol weithio, ac fe allai’r fenter hon i hyfforddi pobl ifanc fod yn ffordd ragorol i roi cychwyn arni.

The Deputy Minister for Skills (Jeff Cuthbert): I thank Suzy Davies, the AM for South West Wales, for bringing forward this debate. I welcome the opportunity to respond to the points made and to set our approach in Wales to the teaching of emergency life-saving skills.

 

Y Dirprwy Weinidog Sgiliau (Jeff Cuthbert): Diolch i Suzy Davies, yr AC dros Ddwyrain De Cymru, am gyflwyno’r ddadl hon. Rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r pwyntiau a wnaed ac i sôn am sut yr ydym yn mynd ati yng Nghymru i addysgu sgiliau achub bywyd brys.

As a Government, we are fully committed to the United Nations Convention on the Rights of the Child, and it is our aim that all children and young people should acquire essential personal and social skills. If we want young people to move with confidence from childhood through adolescence into adulthood, it is vital that they acquire the skills necessary for everyday life. We recognise the need for them to develop practical skills such as emergency life-saving skills, which are transferrable across their personal, family, community and working lives.

 

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a’n nod yw i bob plentyn a pherson ifanc gaffael sgiliau personol a chymdeithasol hanfodol. Os ydym am i bobl ifanc symud yn hyderus o blentyndod drwy laslencyndod i fyd oedolion, mae’n bwysig iawn eu bod yn caffael y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd. Rydym yn cydnabod bod angen iddynt ddatblygu sgiliau ymarferol fel sgiliau achub bywyd brys, sydd yn gallu cael eu trosglwyddo i’w bywydau personol, teuluol, cymunedol a gwaith.

Currently in Wales, young people already have a wide range of opportunities to develop life-saving skills through formal, non-formal and informal learning. Schools clearly have a central role to play in helping learners to develop the practical skills necessary for everyday life. The school curriculum for Wales provides real opportunities for schools to teach life-saving skills. For example, in physical education, young people learn how to apply and evaluate the principles and practices of rescue and resuscitation. Personal and social education is also part of the school curriculum for all pupils. The personal and social education framework for seven to 19-year-olds in Wales provides opportunities for learners to develop emergency life-saving skills, including emergency aid procedures and how to administer basic first aid.

 

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae digon o gyfle gan bobl ifanc eisoes i ddatblygu sgiliau achub bywyd drwy ddysgu ffurfiol ac anffurfiol. Mae’n amlwg bod gan ysgolion rôl bwysig i’w chwarae o ran helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd. Mae’r cwricwlwm ysgol yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd go iawn i ysgolion addysgu sgiliau achub bywyd. Er enghraifft, mewn addysg gorfforol, mae pobl ifanc yn dysgu sut i gymhwyso a gwerthuso egwyddorion ac arferion achub a dadebru. Mae addysg bersonol a chymdeithasol hefyd yn rhan o’r cwricwlwm ysgol i bob disgybl. Mae’r fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer y rhai rhwng saith ac 19 oed yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu sgiliau achub bywyd brys, gan gynnwys gweithdrefnau cymorth brys a sut i roi cymorth cyntaf  sylfaenol.

 

Life-savings skills delivered as an integral component of a well-planned PSE programme contribute positively to learners’ wellbeing, equipping them with the problem-solving skills and knowledge to make safe and responsible choices regarding their personal safety. An integrated approach to learning such skills also enables young people to recognise and understand the links and consequences between personal safety and other risky behaviours, such as the misuse of alcohol and other illegal substances. Schools should always work in partnership with specialist providers where appropriate to ensure that they deliver relevant learning experiences.

 

Mae sgiliau achub bywyd fel elfen allweddol o raglen ABCh wedi ei chynllunio’n dda yn cyfrannu’n gadarnhaol i les dysgwyr, gan roi sgiliau datrys problemau a gwybodaeth iddynt i wneud dewisiadau diogel a chyfrifol am eu diogelwch personol. Mae dull integredig at ddysgu sgiliau o’r fath hefyd yn galluogi pobl ifanc i adnabod a deall y cysylltiadau a’r canlyniadau rhwng diogelwch personol a mathau eraill o ymddygiad mentrus, fel camddefnyddio alcohol a sylweddau anghyfreithlon eraill. Dylai ysgolion weithio mewn partneriaeth gyda darparwyr arbenigol bob amser lle y bo’n briodol er mwyn sicrhau eu bod yn darparu profiadau dysgu perthnasol.

Suzy Davies: You have used the word ‘opportunities’ about four times, referring to opportunities for children and young people to avail themselves of ELS training. However, what happens to those children and young people who are not offered those opportunities? I am hoping that this debate will help to persuade you that that gap needs to be filled, and at very little, if any, cost to the Government.

 

Suzy Davies: Rydych wedi defnyddio’r gair ‘cyfleoedd’ tua phedair gwaith, gan gyfeirio at gyfleoedd i blant a phobl ifanc dderbyn hyfforddiant triniaeth cynnal bywyd brys. Fodd bynnag, beth sy’n digwydd i’r plant a’r bobl ifanc hynny nad ydynt yn cael cynnig y cyfleoedd hynny? Gobeithiaf y bydd y ddadl hon yn help i’ch perswadio bod angen llenwi’r bwlch, a hynny heb greu fawr o gost, os o gwbl, i’r Llywodraeth.

Jeff Cuthbert: I am going to refer again to opportunities, I am afraid, but I take your point. Perhaps when I complete the speech, you will have some confidence.

 

Jeff Cuthbert: Yr wyf am gyfeirio eto at gyfleoedd, mae gen i ofn, ond rwy’n derbyn eich pwynt. Efallai y bydd gennych rywfaint o hyder wedi i mi orffen fy araith.

To support teachers, we have developed a PSE guidance website that exemplifies good practice and which has links to voluntary organisations such as the British Heart Foundation, St John’s Cymru and the British Red Cross, which support schools with the teaching of first aid and emergency life-saving skills. Recently, officials from the Department for Education and Skills worked with British Heart Foundation Cymru to raise greater awareness of its emergency life-saving skills school programmes by disseminating information through networks used by the Welsh Government, such as healthy schools co-ordinators and the all-Wales local authority PSE advisory group.

 

I gefnogi athrawon, rydym wedi datblygu gwefan canllawiau ABCh sydd ag enghreifftiau o arfer da ac sydd â dolenni i fudiadau gwirfoddol fel Sefydliad Prydeinig y Galon, St John’s Cymru a’r Groes Goch Brydeinig, sy’n cynorthwyo ysgolion gydag addysgu cymorth cyntaf a sgiliau achub bywyd brys. Yn ddiweddar, bu swyddogion o’r Adran Addysg a Sgiliau yn gweithio gyda Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i godi mwy o ymwybyddiaeth o’i raglenni ysgol sgiliau achub bywyd drwy ddosbarthu gwybodaeth drwy rwydweithiau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru, fel y cydlynwyr ysgolion iach a’r grŵp ymgynghorol ABCh awdurdod lleol Cymru gyfan.

6.30 p.m.

 

Jeff Cuthbert: Officials from the curriculum division have also worked closely with the British Red Cross to develop free online resources for primary schools to help children learn how to stay safe and save lives. Equally, it is vital that we acknowledge the range of skills development, learning and training that takes place outside the formal school/college learning environment. A considerable amount of lifesaving education takes place in community-based settings, complementing the experiences young people have in formal education.

 

Mae swyddogion o’r isadran cwricwlwm hefyd wedi gweithio yn agos â’r Groes Goch Brydeinig i ddatblygu adnoddau ar-lein am ddim i ysgolion cynradd i helpu plant ddysgu sut i aros yn ddiogel ac achub bywydau. Yn yr un modd, mae’n bwysig iawn ein bod yn cydnabod yr amrywiaeth o ddatblygiad sgiliau, dysgu a hyfforddiant sy’n digwydd tu allan i’r amgylchedd dysgu ysgol/coleg ffurfiol. Mae swm sylweddol o addysg achub bywyd yn digwydd mewn lleoliadau yn y gymuned, gan gydblethu â’r profiadau mae pobl ifanc yn eu cael mewn addysg ffurfiol.

As mentioned by Suzy Davies earlier, the likes of St John Cymru Wales, the British Heart Foundation Cymru and the British Red Cross deliver lifesaving training to many youth organisations, including the Clubs for Young People Wales, enabling young people to acquire life-saving skills as part of their sports leadership awards. Similarly, many other young people complete first aid training as part of the Duke of Edinburgh award.

 

Fel y soniodd Suzy Davies gynnau, mae sefydliadau fel St John Cymru Wales, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru a’r Groes Goch Brydeinig yn darparu hyfforddiant achub bywyd i nifer o fudiadau ieuenctid, gan gynnwys Clubs for Young People Wales, gan alluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau achub bywyd fel rhan o’u gwobrau arweinyddiaeth chwaraeon. Yn yr un modd, mae nifer o bobl ifanc yn cwblhau hyfforddiant cymorth cyntaf fel rhan o’u gwobr Dug Caeredin.

 

Byron Davies: I would like to pick up on your comment on the Red Cross. Is not the best way to raise awareness to make it an unavoidable part of their learning?

 

Byron Davies: Hoffwn wneud sylw ar beth ddywedoch am y Groes Goch. Onid y ffordd orau o godi ymwybyddiaeth yw ei wneud yn rhan anorfod o’u dysgu? 

Jeff Cuthbert: I am going to refer to the curriculum at the conclusion of my speech. I would urge you to wait until that point.

 

Jeff Cuthbert: Rwyf am gyfeirio at y cwricwlwm ar ddiwedd fy araith. Byddwn yn eich annog i aros tan hynny.

Learning how to save a life, whether in school or in the community, develops important transferable skills that apply to many aspects of our daily lives, helping young people to assess risk, solve problems and apply their learning in real-life contexts. Learning such skills at an early age might inspire a young person to explore a related profession. It could be the springboard to a career pathway for those who want to work in the fitness and leisure industry as, for example, gym instructors, personal trainers or lifeguards. Similarly, such training can provide valuable work-focused experience, opening up a pathway to a career in the medical profession as a paramedic, nurse or doctor. Equally, having the knowledge of, and confidence to use, lifesaving skills, will help young people to take responsibility for the safety and wellbeing of their friends in social settings, as they move through college and university or into employment. Alternatively, volunteering, as part of the Welsh baccalaureate, to provide life-saving training to other young people might encourage individuals to become a trained first aider when they enter the workplace.

 

Mae dysgu sut i achub bywyd, yn yr ysgol neu yn y gymuned, yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig sy’n berthnasol i sawl elfen o’n bywyd bob dydd, gan helpu pobl ifanc i asesu risg, datrys problemau a defnyddio yr hyn maent wedi ei ddysgu mewn cyd-destun bywyd go iawn. Gallai dysgu sgiliau o’r fath mewn oed cynnar ysbrydoli person ifanc i ystyried proffesiwn cysylltiedig. Gallai fod yn gyfrwng i lwybr gyrfa i’r rhai sydd eisiau gweithio yn y diwydiant ffitrwydd a hamdden fel, er enghraifft, hyfforddwyr campfa, hyfforddwyr personol neu achubwyr bywydau. Yn yr un modd, gall hyfforddiant o’r fath roi profiad gwaith gwerthfawr, ac agor llwybr i yrfa yn y byd meddygol fel parafeddyg, nyrs neu feddyg. Yn yr un modd, mae gwybod am sgiliau achub bywyd a bod â hyder i’w defnyddio yn helpu pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch a lles eu ffrindiau mewn amgylchiadau cymdeithasol, wrth iddynt symud drwy goleg a phrifysgol neu i fyd gwaith. Fel arall, gall gwirfoddoli, fel rhan o fagloriaeth Cymru, i ddarparu hyfforddiant achub bywyd i bobl ifanc eraill annog unigolion i ddod yn swyddogion cymorth cyntaf pan maent yn dechrau ym myd gwaith.

 

We are committed to working with schools, local authorities and voluntary partners across Wales to deliver a curriculum that meets the needs of young people and is relevant to the twenty-first century. There is no doubt that, potentially, we will all benefit from young people acquiring and having the confidence to use life-saving skills should the need arise. At present, there are no plans to make changes to the school curriculum for Wales. However, we will consider the need to teach emergency life-saving skills on a statutory basis when we next review the curriculum.

 

Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid gwirfoddol ledled Cymru i ddarparu cwricwlwm sy’n diwallu anghenion pobl ifanc ac felly yn berthnasol i’r unfed ganrif ar hugain. Nid oes amheuaeth y gallwn i gyd, o bosibl, elwa ar bobl ifanc yn meithrin a chael yr hyder i ddefnyddio sgiliau achub bywyd pe bai’r angen yn codi. Ar hyn o bryd, nid oes bwriad i newid y cwricwlwm ysgol ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried yr angen i addysgu sgiliau achub bywyd ar sail statudol pan fyddwn yn adolygu’r cwricwlwm tro nesaf.

Angela Burns: Thank you. That brings today’s proceedings to a close.

Angela Burns: Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 6.33 p.m.
The meeting ended at 6.33 p.m.

 

Aelodau a’u Pleidiau
Members and their Parties

 

Andrews, Leighton (Llafur – Labour)
Antoniw, Mick (Llafur – Labour)
Asghar, Mohammad (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Butler, Rosemary (Llafur – Labour)
Chapman, Christine (Llafur – Labour)
Cuthbert, Jeff (Llafur – Labour)
Davies, Alun (Llafur – Labour)
Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Byron (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Jocelyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Davies, Keith (Llafur – Labour)
Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Suzy (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Drakeford, Mark (Llafur – Labour)
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Evans, Rebecca (Llafur – Labour)
Finch-Saunders, Janet (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
George, Russell (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gething, Vaughan (Llafur – Labour)
Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gregory, Janice (Llafur – Labour)
Griffiths, John (Llafur – Labour)
Griffiths, Lesley (Llafur – Labour)
Gruffydd, Llyr Huws (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Hart, Edwina (Llafur – Labour)
Hedges, Mike (Llafur – Labour)
Hutt, Jane (Llafur – Labour)
Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
James, Julie (Llafur – Labour)
Jenkins, Bethan (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ann (Llafur – Labour)
Jones, Carwyn (Llafur – Labour)
Jones, Elin (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Lewis, Huw (Llafur – Labour)
Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Mewies, Sandy (Llafur – Labour)
Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Morgan, Julie (Llafur – Labour)
Neagle, Lynne (Llafur – Labour)
Parrott, Eluned (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Powell, William (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Price, Gwyn R. (Llafur – Labour)
Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Rathbone, Jenny (Llafur – Labour)
Rees, David (Llafur – Labour)
Roberts, Aled (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Sandbach, Antoinette (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Sargeant, Carl (Llafur – Labour)
Skates, Kenneth (Llafur – Labour)
Thomas, Gwenda (Llafur – Labour)
Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Thomas, Simon (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Watson, Joyce (Llafur – Labour)
Whittle, Lindsay (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Williams, Kirsty
(Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Wood, Leanne (Plaid Cymru – The Party of Wales)